Agenda item

Ystyried y Rhybuddion o Gynnig sydd wedi'u cyflwyno yn unol â Rheol Gweithdrefn y Cyngor 10.1 yn y cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Trafod Rhybudd o Gynnig sydd wedi’i gyflwyno yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol A. J. Dennis, C. Preedy, L. Addiscott, M. D. Ashford, J. Barton, D. R. Bevan, J. Bonetto, S. Bradwick, J. Brencher, G. Caple, J. Cook, A. Crimmings, S. J. Davies, R. Davis, V. Dunn, E. L. Dunning, J. Edwards, J. A. Elliott, L. Ellis, S. Emanuel, R. Evans, A. S. Fox, B. Harris, S. Hickman, G. Holmes, G. Hopkins, W. Hughes, G. Jones, G. O. Jones, R. R. Lewis, W. Lewis, C. Leyshon, M. Maohoub, C. Middle, A. Morgan, N. H. Morgan, S. Morgans, M. A. Norris, D. Owen-Jones, D. Parkin, S. Powderhill, S. Rees, A. Roberts, J. Smith, G. Stacey, L. A. Tomkinson, W. Treeby, J. Turner, G. L. Warren, K. Webb, M. Webber, D. Williams, G. E. Williams, R. Williams, T. Williams, R. Yeo.

 

Ychydig fisoedd yn ôl, cyhoeddwyd bod TATA Steel – un o gyflogwyr mawr De Cymru (yn benodol), a Llywodraeth San Steffan y DU wedi cytuno ar becyn cymorth i “sicrhau dyfodol dur yng Nghymru.”

 

Er bod y wasg wedi nodi mai cyfanswm gwerth y pecyn cyffredinol yn £1.25 biliwn, y gwir amdani yw bod y pecyn a’r uchelgeisiau o ran pontio yn annigonol, ac ni fydd y cyhoeddiad hwn yn ddigon i ddiogelu parhad y diwydiant dur yng Nghymru.

 

Mae'r buddsoddiad ond yncefnogi’r newid o ffwrneisi chwyth i Ffwrneisi Arc Trydan. Mae hyn yn golygu na fydd y safle ym Mhort Talbot bellach yn gallu cyflawni'r cam cyntaf o ran cynhyrchu dur, gan na fydd ansawdd y broses gynhyrchu'n bodloni'r safon angenrheidiol. Mae hyn oherwydd bod Ffwrneisi Arc Trydan yn ailgylchu dur sgrap.

 

Yn lle hynny, dylai'r cynllun buddsoddi byr ei olwg yma ganolbwyntio ar symud tuag at ddull cynhyrchu Haearn Gostyngol Uniongyrchol (DRI) a pharatoi ar ei gyfer.  Mae modd cefnogi proses DRI trwy ddefnyddio Nwy Naturiol, cyn ystyried sut i gynhyrchu dur mewn modd sydd wedi'i bweru gan hydrogen. Mae hwn yn ddull mwy cynaliadwy o gynhyrchu dur ac yn llawer mwy uchelgeisiol o ran datgarboneiddio.

 

Yn ogystal â hynny, ac yn bwysicaf oll, amcangyfrifir y bydd y pecyn buddsoddi hefyd yn arwain at golli 3,000 o swyddi, gyda’r mwyafrif o’r rheini yn ffatri Port Talbot. Mae trigolion Rhondda Cynon Taf yn gweithio yn y gwaith dur ym Mhort Talbot ac mae'n debygol y bydd hyn yn effeithio ar gyfran sylweddol o'r nifer hwnnw - naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol.

 

Ers y cyhoeddiad, mae wedi dod i’r amlwg nad oedd yr Undebau Llafur na Llywodraeth Cymru yn rhan o’r trafodaethau hyn, ac eto dyma’r union sefydliadau a fydd yn gorfod camu i'r bwlch a darparu cymorth i’r rhai sydd wedi'u heffeithio pan fydd y swyddi yma'n cael eu colli.

 

      Felly mae'r Cyngor yma'n nodi:

 

·Bod y “pecyn buddsoddi” ar gyfer TATA Steel yn annigonol iawn, ac yn gwneud fawr ddim i ddiogelu dyfodol y diwydiant yng Nghymru.

 

·Nad yw trafodion dwyochrog Llywodraeth y DU â TATA yn ystyried yr effaith sylweddol ar y gweithwyr y mae disgwyl iddyn nhw golli ei swyddi.

 

·Y bydd y newid i brosesau cynhyrchu gan ddefnyddio Ffwrneisi Arc Trydan yn unig yn gam gwag o ran capasiti cynhyrchu dur ym Mhrydain, a bod cyfle sylweddol yn cael ei golli o ran datgarboneiddio rhan hanfodol o economi Prydain (a Chymru).

 

      Mae'r Cyngor yma'n penderfynu:

 

·Gofyn i Arweinydd y Cyngor ysgrifennu at yr Aelodau Seneddol ac Aelodau’r Senedd sy’n cynrychioli’r cymunedau yn Rhondda Cynon Taf a gofyn iddyn nhw gefnogi ar y cyd y sylwadau a wnaed gan y Cyngor yma i’r Gweinidog(ion) perthnasol yn Llywodraeth y DU. Mae hyn er mwyn ategu barn y Cyngor yma bod y pecyn buddsoddi a gyhoeddwyd yn druenus o annigonol.

 

·Nodi canfyddiadau’r ddogfen “Wrong Deal for Steel” ac yn cefnogi’r camau a amlinellir gan y Gynghrair Cymunedau Diwydiannol.

 

Yn y cyfarfod cyhoeddodd y Cadeirydd, yn unol â Rheol Gweithdrefn 10.4.1 y Cyngor, fod y diwygiad canlynol i'r Rhybudd o Gynnig wedi'i dderbyn oddi wrth Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol K Morgan, A O Rogers, S Evans, D Grehan, D Wood, H Gronow, P Evans, A Ellis

 

Roedd y Cynnig Diwygiedig yn nodi:

Ychydig fisoedd yn ôl, cyhoeddwyd bod TATA Steel – un o gyflogwyr mawr De Cymru (yn benodol), a Llywodraeth San Steffan y DU wedi cytuno ar becyn cymorth i “sicrhau dyfodol dur yng Nghymru.”

Er bod y wasg wedi nodi mai cyfanswm gwerth y pecyn cyffredinol yn £1.25 biliwn, y gwir amdani yw bod y pecyn a’r uchelgeisiau o ran pontio yn annigonol, ac ni fydd y cyhoeddiad hwn yn ddigon i ddiogelu parhad y diwydiant dur yng Nghymru.

Mae'r buddsoddiad ond yncefnogi’r newid o ffwrneisi chwyth i Ffwrneisi Arc Trydan. Mae hyn yn golygu na fydd y safle ym Mhort Talbot bellach yn gallu cyflawni'r cam cyntaf o ran cynhyrchu dur, gan na fydd ansawdd y broses gynhyrchu'n bodloni'r safon angenrheidiol. Mae hyn oherwydd bod Ffwrneisi Arc Trydan yn ailgylchu dur sgrap.

Yn lle hynny, dylai'r cynllun buddsoddi byr ei olwg yma ganolbwyntio ar symud tuag at ddull cynhyrchu Haearn Gostyngol Uniongyrchol (DRI) a pharatoi ar ei gyfer.  Mae modd cefnogi proses DRI trwy ddefnyddio Nwy Naturiol, cyn ystyried sut i gynhyrchu dur mewn modd sydd wedi'i bweru gan hydrogen. Mae hwn yn ddull mwy cynaliadwy o gynhyrchu dur ac yn llawer mwy uchelgeisiol o ran datgarboneiddio.

Yn ogystal â hynny, ac yn bwysicaf oll, amcangyfrifir y bydd y pecyn buddsoddi hefyd yn arwain at golli 3,000 o swyddi, gyda’r mwyafrif o’r rheini yn ffatri Port Talbot.  Mae trigolion Rhondda Cynon Taf yn gweithio yn y gwaith dur ym Mhort Talbot ac mae'n debygol y bydd hyn yn effeithio ar gyfran sylweddol o'r nifer hwnnw - naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol.

Ers y cyhoeddiad, mae wedi dod i’r amlwg nad oedd yr Undebau Llafur na Llywodraeth Cymru yn rhan o’r trafodaethau hyn, ac eto dyma’r union sefydliadau a fydd yn gorfod camu i'r bwlch a darparu cymorth i’r rhai sydd wedi'u heffeithio pan fydd y swyddi yma'n cael eu colli.

      Felly mae'r Cyngor yma'n nodi:

·Bod y “pecyn buddsoddi” ar gyfer TATA Steel yn annigonol iawn, ac yn gwneud fawr ddim i ddiogelu dyfodol y diwydiant yng Nghymru.

 

·Nad yw trafodion dwyochrog Llywodraeth y DU â TATA yn ystyried yr effaith sylweddol ar y gweithwyr y mae disgwyl iddyn nhw golli ei swydd.

 

·Y bydd y newid i brosesau cynhyrchu gan ddefnyddio Ffwrneisi Arc Trydan yn unig yn gam gwag o ran capasiti cynhyrchu dur ym Mhrydain, a bod cyfle sylweddol yn cael ei golli o ran datgarboneiddio rhan hanfodol o economi Prydain (a Chymru).

 

      Mae'r Cyngor yma'n penderfynu:

· Gofyn i Arweinydd y Cyngor ysgrifennu at yr Aelodau Seneddol ac Aelodau’r Senedd sy’n cynrychioli’r cymunedau yn Rhondda Cynon Taf a gofyn iddyn nhw gefnogi ar y cyd y sylwadau a wnaed gan y Cyngor yma i’r Gweinidog(ion) perthnasol yn Llywodraeth y DU. Mae hyn er mwyn ategu barn y Cyngor yma bod y pecyn buddsoddi a gyhoeddwyd yn druenus o annigonol.

 

· Nodi canfyddiadau’r ddogfen “Wrong Deal for Steel” ac yn cefnogi’r camau a amlinellir gan y Gynghrair Cymunedau Diwydiannol.

 

·Gofyn i Arweinydd y Cyngor ysgrifennu at Arweinwyr y 9 Cyngor arall yn y Gynghrair (Y Gynghrair Cymunedau Diwydiannol) a gofyn iddyn nhw gytuno i gydweithio i gysylltu ymhellach â Llywodraeth y DU i wella ei fuddsoddiad yn y Diwydiant dur fel bod unrhyw golledion swyddi eu lleihau ledled Cymru, a bod modd eu rheoli'n effeithiol ar sail wirfoddol mewn cytundeb â TATA a'r Undebau Llafur perthnasol.

 

Yn unol â Rheolau Gweithdrefn 12.7 y Cyngor, cynhaliwyd pleidlais mewn perthynas â'r diwygiad i'r Rhybudd o Gynnig a PHENDERFYNWYD mabwysiadu'r diwygiad. Mae'r uchod felly'n disodli'r Rhybudd o Gynnig gwreiddiol.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r Rhybudd o Gynnig.

 

 

 

***************************************************************************************

 

 

Trafod Rhybudd o Gynnig sydd wedi’i gyflwyno yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol S. Emanuel, S. Rees, L. Addiscott, M. D. Ashford, J. Barton, D. R. Bevan, J. Bonetto, S. Bradwick, J. Brencher, G. Caple, J. Cook, A. Crimmings, R. Davis, S. J. Davies, A. J. Dennis, V. Dunn, E. L. Dunning, J. Edwards, J. A. Elliott, L. Ellis, R. Evans, A. S. Fox, B. Harris, S. Hickman, G. Holmes, G. Hopkins, W. Hughes, G. Jones, G. O. Jones, R. R. Lewis, W. Lewis, C. Leyshon, M. Maohoub, C. Middle, A. Morgan, N. H. Morgan, S. Morgans, M. A. Norris, D. Owen-Jones, D. Parkin, S. Powderhill, C. Preedy, A. Roberts, J. Smith, G. Stacey, L. A. Tomkinson, W. Treeby, J. Turner, G. L. Warren, K. Webb, M. Webber, D. Williams, G. E. Williams, R. Williams, T. Williams, R. Yeo.

 

Mae’r Cyngor hwn yn anghytuno â’r setliad cwbl annigonol i Gymru a gyhoeddwyd gan lywodraeth Dorïaidd y DU yn Natganiad yr Hydref.

 

Mae'r setliad hwn ond yn darparu £305 miliwn yn ychwanegol i Lywodraeth Cymru dros gyfnod o ddwy flynedd – ac mae hyn yn golygu bod gan Lywodraeth Cymru tua £160 miliwn y flwyddyn nesaf i fynd i’r afael â’r holl bwysau yn y GIG, llywodraeth leol a’r holl wasanaethau eraill y mae’n eu darparu ar gyfer pobl Cymru.

 

I roi hyn mewn persbectif, mae Cyngor RhCT yn gwario mwy na £258 miliwn ar addysg yn unig. Amcangyfrifir y bydd pwysau o £35 miliwn yn y Cyngor hwn yn unig, ac mae disgwyl mai'r ffigur ar gyfer llywodraeth leol ledled Cymru fydd £432 miliwn, hyd yn oed ar ôl codi treth y Cyngor.

Fydd y setliad yma ddim yn mynd yn agos at leddfu'r pwysau a wynebir gan wasanaethau yng Nghymru o ran chwyddiant. Mae'n gwneud cam â phobl Cymru ac mae’n dangos cyn lleied y mae Llywodraeth Dorïaidd y DU yn poeni am bobl Cymru.

 

Mae’r Cyngor hwn felly’n galw ar Lywodraeth Dorïaidd y DU i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus – gan gynnwys iechyd, addysg, a gwasanaethau llywodraeth leol, ac i roi setliad teg i Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod gwasanaethau yng Nghymru yn gallu cael eu hariannu’n briodol.

 

I'r perwyl hwn, mae'r Cyngor yma'n penderfynu gofyn i Arweinydd y Cyngor ysgrifennu i alw ar Weinidogion y Llywodraeth Dorïaidd i gyhoeddi buddsoddiad ychwanegol yn y Gyllideb ym mis Mawrth.

 

Yn y cyfarfod cyhoeddodd y Cadeirydd, yn unol â Rheol Gweithdrefn 10.4.1 y Cyngor, fod y diwygiad canlynol i'r Rhybudd o Gynnig wedi'i dderbyn oddi wrth Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol D Grehan, K Morgan, A O Rogers, S Evans, D Wood, H Gronow, P Evans, A Ellis

 

Roedd y Cynnig Diwygiedig yn nodi:

Mae’r Cyngor hwn yn anghytuno â’r setliad cwbl annigonol i Gymru a gyhoeddwyd gan lywodraeth Dorïaidd y DU yn Natganiad yr Hydref.

Mae'r setliad hwn ond yn darparu £305 miliwn yn ychwanegol i Lywodraeth Cymru dros gyfnod o ddwy flynedd – ac mae hyn yn golygu bod gan Lywodraeth Cymru tua £160 miliwn y flwyddyn nesaf i fynd i’r afael â’r holl bwysau yn y GIG, llywodraeth leol a’r holl wasanaethau eraill y mae’n eu darparu ar gyfer pobl Cymru.

I roi hyn mewn persbectif, mae Cyngor RhCT yn gwario mwy na £258 miliwn ar addysg yn unig. Amcangyfrifir y bydd pwysau o £35 miliwn yn y Cyngor hwn yn unig, ac mae disgwyl mai'r ffigur ar gyfer llywodraeth leol ledled Cymru fydd £432 miliwn, hyd yn oed ar ôl codi treth y Cyngor.

Fydd y setliad yma ddim yn mynd yn agos at leddfu'r pwysau a wynebir gan wasanaethau yng Nghymru o ran chwyddiant. Mae'n gwneud cam â phobl Cymru ac mae’n dangos cyn lleied y mae Llywodraeth Dorïaidd y DU yn poeni am bobl Cymru.

Mae’r Cyngor hwn felly’n galw ar Lywodraeth Dorïaidd y DU i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus – gan gynnwys iechyd, addysg, a gwasanaethau llywodraeth leol, ac i roi setliad teg i Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod gwasanaethau yng Nghymru yn gallu cael eu hariannu’n briodol.

Mae’r Cyngor yma'n penderfynu bod Arweinydd y Cyngor yn ysgrifennu at Brif Weinidog y DU a Changhellor y Trysorlys ac yn galw arno i adfer y cyllid sy’n ddyledus i Gymru er mwyn dychwelyd i’r drefn cyllid teg i Gymru fel yr amlygwyd gan Brif Weinidog Cymru ac Arweinydd Plaid Cymru yn y Senedd yn dilyn cyhoeddiad Datganiad yr Hydref. 

 

Mae’r Cyngor yn penderfynu ymhellach y bydd Arweinydd y Cyngor yn ysgrifennu at yr holl Arweinwyr Gwleidyddol yn San Steffan yn gofyn iddyn nhw addo, os ydyn nhw'n rhan o Lywodraeth y DU yn dilyn yr Etholiad Cyffredinol y mae’r Prif Weinidog wedi cyhoeddi y bydd yn cael ei gynnal yn ail hanner 2024, y byddan nhw'n ymrwymo i bontio'r bwlch yn y Setliad i Gymru 2024/25 a adawyd gan Lywodraeth Dorïaidd y DU.

Yn unol â Rheolau Gweithdrefn 12.7 y Cyngor, cynhaliwyd pleidlais mewn perthynas â'r diwygiad i'r Rhybudd o Gynnig a PHENDERFYNWYD peidio â mabwysiadu'r diwygiad.

 

Yn dilyn trafodaeth mewn perthynas â'r cynnig gwreiddiol ac yn unol â Rheolau Gweithdrefn 12.7 y Cyngor, PENDERFYNWYD mabwysiadu'r cynnig gwreiddiol.

 

Dogfennau ategol: