Agenda item

Derbyn cwestiynau'r Aelodau yn unol â Rheol 9.2 o Weithdrefn y Cyngor.

 

Cofnodion:

1.   Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Stacey i Arweinydd y Cyngor - Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan OBE:

 

"A wnaiff yr Arweinydd rannu'r newyddion diweddaraf â'r Aelodau am y gwaith paratoi sy'n cael ei wneud i groesawu'r Eisteddfod Genedlaethol i Rondda Cynon Taf yn 2024?"

 

Ymateb y Cynghorydd A Morgan OBE:

 

Ymatebodd yr Arweinydd drwy esbonio bod strategaeth Ysgolion wedi'i chreu a'i rhannu â phob ysgol, ac mae carfan yr Eisteddfod wedi cyfrannu at y strategaeth hon. Mae gwybodaeth gyffredinol am yr Eisteddfod yn cael ei hanfon at rieni/gwarcheidwaid o hyd a hynny er mwyn sicrhau bod modd i bob plentyn a pherson ifanc a'u teuluoedd gymryd rhan yn yr Eisteddfod a deall beth yw'r Eisteddfod. Ychwanegodd fod Swyddogion yn parhau i gefnogi'r pwyllgorau apêl lleol ym mhob cwm i godi arian tuag at y targed o £400,000. Cadarnhaodd ei bod hi'n debygol bod y cyfanswm presennol wedi mynd tu hwnt i £100,000 ac mae rhagor o achlysuron codi arian ar y gweill.

Rhoddodd yr Arweinydd wybod bod adborth 'Dewch i Siarad am Eisteddfod 2024' wedi bod yn hollbwysig o ran ymgysylltu â busnesau lleol a'r cyfarfod a gynhaliwyd yn ddiweddar rhwng Swyddogion y Cyngor a masnachwyr lleol, Prif Weithredwr y Cyngor a'r Eisteddfod. Yn ystod y cyfarfod, mynegodd y masnachwyr ddiddordeb mewn cael stondin yn yr achlysur yn ogystal ag addurno'u busnesau cyn yr Eisteddfod. Mae gwaith wedi'i wneud gyda Chyngor Tref Pontypridd, yn ogystal ag AGB Pontypridd, Aberdâr a Threorci er mwyn casglu adborth am y cymorth yr hoffai busnesau lleol ei gael yn y cyfnod cyn yr Eisteddfod.

 

Nododd yr Arweinydd y bydd y manteision sy'n gysylltiedig â dod â'r Eisteddfod i Bontypridd yn ymestyn y tu hwnt i'r dref i ardaloedd eraill yn y rhanbarth a Chymru gyfan, gan greu gwaddol parhaus. Nododd fod y strategaeth parcio ceir yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Bydd yn annog ymwelwyr i ddefnyddio cyfleusterau Parcio a Theithio a thrafnidiaeth gyhoeddus, gyda mwy o drenau yn cyrraedd y dref, ac yn annog pobl i beidio â defnyddio ceir yn y dref. Cyfeiriodd at nifer o feysydd carafanau/gwersylla sydd wedi'u nodi ac a fydd yn cael eu datblygu dros y misoedd nesaf.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod gwaith yn cael ei wneud y tu ôl i'r llenni sy'n cael ei arwain gan Fwrdd yr Eisteddfod gyda mewnbwn lleol gan y Cyngor. Mae'r dull o weithio fel tîm gyda busnesau, sefydliadau lleol eraill, a'r Cyngor, wedi bod yn gadarnhaol a bydd hyn yn parhau. Nododd yr Arweinydd fod yr Eisteddfod yn achlysur y mae modd i bawb ei fynychu a'i fwynhau ac yn gyfle i'r Gymraeg, diwylliant Cymreig a thref Pontypridd ddisgleirio.

 

 

2.   Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol M.D. Ashford i'r Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R. Lewis:

 

"A wnaiff yr Aelod o'r Cabinet rannu'r newyddion diweddaraf am y cynnydd sydd wedi'i wneud ar yr ysgol newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Pont-y-clun?"

 

Ymateb y Cynghorydd R Lewis:

 

Rhoddodd y Cynghorydd Lewis wybod bod gwaith yn mynd rhagddo'n dda ar y safle i ailddatblygu Ysgol Gynradd Pont-y-clun a darparu adeilad ysgol newydd a chyfleusterau allanol ar gyfer y gymuned. Ychwanegodd fod cwmni Morgan Sindall Construction wedi cynghori y dylai'r ysgol Carbon Sero-Net newydd gael ei chwblhau erbyn y dyddiad agor sydd wedi'i bennu, sef yn gynnar yn 2025. Bydd adeiladau'r ysgol bresennol yn cael eu dymchwel ar ôl agor yr adeilad newydd, a hynny er mwyn adeiladu'r Ardal Gemau Aml-ddefnydd.

 

Nododd y Cynghorydd Lewis fod y gwaith o osod y ffrâm ddur wedi dechrau, er gwaethaf y tywydd gwael yn ddiweddar, a bydd y cam yma'n cael ei gwblhau dros yr wythnosau nesaf cyn symud ymlaen at osod y to newydd. Yn ystod tymor y Gwanwyn bydd gan staff a dysgwyr gyfle i fynychu seremoni 'llofnodi'r dur'.

 

Yn rhan o'r ymdrechion i gydnabod hanes yr ysgol, mae'r contractwr adeiladu wedi ymrwymo i gadw ac adleoli'r garreg wreiddiol sy'n nodi dyddiad agor adeilad gwreiddiol yr ysgol, a gafodd ei dymchwel yn 2023, a'i gosod mewn man amlwg ger y brif fynedfa newydd i'r ysgol.

 

I gloi, cadarnhaodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg fod trigolion lleol yn derbyn cylchlythyrau rheolaidd sy'n cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am yr ysgol newydd. Yn y cyfamser mae swyddogion y Cyngor yn parhau i weithio'n agos gyda'r contractwr adeiladu i sicrhau cynnydd y gwaith ar y safle.

 

Nid oedd unrhyw gwestiwn ategol.

Rhoddodd y Llywydd wybod ei fod wedi derbyn ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd D Williams felly fyddai cwestiwn 3 ddim yn cael ei ofyn i'r Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol C Leyshon.

 

 

4.     Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Brencher i'r Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Crimmings:

 

"A oes modd i'r Aelod o'r Cabinet wneud datganiad ar y buddsoddiad sylweddol i Barc Coffa Ynysangharad?"

 

Ymateb y Cynghorydd A Crimmings:

 

Rhoddodd y Cynghorydd A Crimmings wybod bod y cam diweddaraf o welliannau sylweddol i Barc Coffa Ynysangharad yn canolbwyntio ar yr hen gwrs golff byr. Mae'r gwaith yma wedi'i gwblhau gyda chymorth Grant Y Pethau Pwysig Croeso Cymru a'r Cyngor.

Amlinellodd y Cynghorydd Crimmings y prosiect, sy'n cynnwys gwneud llwyfandir uchaf yr hen gwrs golff yn wastad drwy fabwysiadu dull tirlunio meddal i'w wneud yn fan gwyrdd sy'n haws ei ddefnyddio.  Mae'r gwaith trawsnewid yma'n darparu ardal fwy ymarferol ac yn creu lleoliad amlbwrpas y mae modd ei ddefnyddio ar gyfer achlysuron a gweithgareddau tebyg, gyda llwybr troed newydd sydd hefyd wedi'i gyflwyno i wella hygyrchedd ac amwynder cyffredinol y parc.

Er mwyn sicrhau sefydlogrwydd hirdymor y tir yn dilyn y gwelliannau yma, esboniodd y Cynghorydd Crimmings fod rhwystr wedi'i osod i helpu'r tir. Bydd hyn yn arwain at ddeilliant cadarnhaol sy'n golygu y bydd modd i'r cyhoedd fwynhau'r ardal yn ystod misoedd yr haf. O ran buddsoddiad Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, nododd fod y prosiect wedi derbyn cymorth sylweddol gwerth £1.9miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cynllun Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a'r Cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Crimmings fod gwaith adeiladu Canolfan Calon Taf bellach wedi'i gwblhau a dim ond mân waith sy'n weddill. Mae'r ganolfan yn gwbl weithredol erbyn hyn. Mae gan y ganolfan ystafell ddosbarth bwrpasol, gardd awyr agored sy'n cynnwys gwelyau blodau uchel a th? gwydr. Mae'r ganolfan fywiog yma'n ganolbwynt cymunedol a fydd yn annog trigolion i ddysgu ac ymgysylltu gyda'i gilydd. Mae Cydlynydd y Prosiect, sydd wedi’i leoli yng Nghalon Taf, yn parhau i hwyluso’r gwaith o ddarparu cyrsiau a gweithgareddau yn y parc, gan sicrhau bod y ganolfan yn chwarae rôl barhaus fel man cymunedol, bywiog a deniadol.

Cadarnhaodd y Cynghorydd Crimmings fod gwaith adfer a thrawsnewid y bloc toiledau gwag yn gyfleuster lles ar gyfer staff y Parc wedi'i gwblhau, ac mae hyn wedi arwain at symud staff i'r cyfleuster yma. Yn ogystal, mae'r Safle Seindorf a'r ardal gyfagos wedi'u hadfer yn llwyr. Mae gwaith plannu wedi dod i ben, ac mae disgwyl i waith dylunio llawr 'llinell amser' y Safle Seindorf gychwyn yn fuan.

I gloi, dywedodd y Cynghorydd Crimmings fod y gwaith o adfer ardal yr Ardd Isel yn mynd rhagddo a bod y gwaith ar y wal sy'n mynd ar hyd terfyn y parc a'r llwybrau troed bron wedi'i gwblhau. Mae disgwyl i waith plannu ddechrau yn y Gwanwyn.

Nid oedd unrhyw gwestiwn ategol.

 

5.   Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol C Middle i'r Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Crimmings:

 

"A wnaiff yr Aelod o'r Cabinet ddatganiad ar gynllun uchelgeisiol y weinyddiaeth hon i ddarparu 10 Ardal Gemau Aml-ddefnydd newydd ledled RhCT?"

 

Ymateb y Cynghorydd A Crimmings:

 

“Mae gwella cyfleusterau yn y gymuned i'n pobl ifainc yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i'r Cyngor, a hynny er mwyn hyrwyddo cadw'n heini yn yr awyr agored, yn ogystal â'r buddion lles a ddaw yn sgil hynny. Gan ystyried yr uchod, mae'r Cyngor yn bwriadu darparu dwy Ardal Gemau Aml-ddefnydd bob blwyddyn, lle nodir angen, sef cyfanswm o ddeg Ardal Gemau Aml-ddefnydd dros gyfnod o 5 mlynedd.

 

Esboniodd y Cynghorydd Crimmings fod y Cyngor eisoes wedi darparu'r ddwy Ardal Gemau Aml-ddefnydd a nodwyd ar gyfer 22/23, gan fanteisio ar gyllid gwerth £200,000. Mae'r rhain wedi'u lleoli ym Mharc Pen-y-graig a man chwarae Heol Albert, Graig. Ychwanegodd fod plant a phobl ifainc yr ardal wedi croesawu'r ddwy ardal gemau a bod yr ysgol gynradd leol wedi bod yn defnyddio'r cyfleuster yn Heol Albert ar gyfer sesiwn gemau.

 

Cafodd yr Aelodau wybod bod y ddau gynllun sydd wedi derbyn cyllid yn ystod y flwyddyn ariannol hon bellach wedi dechrau, a chafodd y gwaith gosod ym Mharc Ynyscynon, Llwynypia, ei gwblhau cyn y Nadolig. Bydd y gwaith paentio llinellau yn cael ei gynnal yn y gwanwyn pan fydd y tymheredd yn codi. Rhoddodd y Cynghorydd Crimmings ddiweddariad hefyd ar yr ail safle sydd wedi'i ddewis eleni, sef y tir cyferbyn â pharc sglefrio Aberdâr ger canolfan hamdden Sobell. Yn ogystal ag ymateb i'r angen sydd wedi'i nodi yn yr ardal yma, mae'r Cyngor yn gobeithio y bydd gosod yr Ardal Gemau Aml-ddefnydd yn y lleoliad yma'n helpu i atal plant a phobl ifainc rhag mynd i mewn i'r cae 3G ar ôl iddo gael ei gloi.

 

I gloi, dywedodd y Cynghorydd Crimmings nad yw'r gwaith wedi'i ddechrau hyd yma o ganlyniad i'r tywydd gwael yn ystod y mis diwethaf, ond mae'r contractwyr yn gobeithio cwblhau'r gwaith cyn diwedd y flwyddyn ariannol os yw'r amodau'n caniatáu hynny. Mae swyddogion yn asesu'r lleoliadau ar gyfer y gwaith yn 2024-25 o hyd, a bydd manylion y rhain yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir.

 

Nid oedd unrhyw gwestiwn ategol.

 

6.   Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A J Dennis i'r Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Crimmings:

 

"A oes modd i'r Aelod o'r Cabinet amlinellu pa fuddsoddiad sydd wedi'i ddyrannu i fannau chwarae i blant ledled y Fwrdeistref?"

 

Ymateb y Cynghorydd A Crimmings:

 

Ymatebodd y Cynghorydd Crimmings trwy ddweud bod y mannau chwarae a chyfleusterau awyr agored yn annog iechyd a lles, ac yn gweithredu fel adnodd hanfodol yn ein cymunedau y mae modd i blant, ffrindiau a theuluoedd ei fwynhau. Ychwanegodd fod y Cyngor yn falch o berchen a chynnal 217 o fannau chwarae ledled y Fwrdeistref Sirol. Yn ystod 2023, cafodd £250,000 pellach ei ddyrannu er mwyn gwella ac adnewyddu mannau chwarae.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Crimmings ddiweddariad ar y gwaith adnewyddu diweddaraf, sy'n cynnwys Parc Nant Celyn yn Llanilltud Faerdref a Sgubor Goch yn Llanhari. Ychwanegodd ei bod hi'n si?r y byddai'r Aelod Lleol yn falch o'r cynllun a gwblhawyd yn Nheras Martins yn ward Abercynon yn ddiweddar. Mae hyn yn dod â chyfanswm y buddsoddiad ers 2015 i £6miliwn.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Crimmings fod hyn yn golygu bod 76% o'r 217 o gyfleusterau bellach wedi derbyn buddsoddiad wedi'i dargedu gan y Cyngor. Mae'r buddsoddiad yma wedi arwain at adnewyddiad rhannol neu adnewyddiad llawn.  I gloi, nododd y Cynghorydd fod gan y weinyddiaeth hon ymrwymiad i drigolion RhCT i barhau i fuddsoddi yn y maes yma, gyda 75 o gyfleusterau pellach i'w gwella.

 

Nid oedd unrhyw gwestiwn ategol.

 

7.   Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. Emanuel i Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan OBE:

 

"Yn dilyn y cyhoeddiad am y gwaith hanfodol a fydd yn cael ei gynnal ar Ffordd Mynydd y Rhigos, all yr Aelod o'r Cabinet amlinellu beth sydd wedi'i gynnwys yn rhan o'r cynllun yma a beth y mae modd i drigolion ei ddisgwyl o ran tarfu ar deithio?"

 

Ymateb y Cynghorydd A Morgan OBE:

 

Dywedodd yr Arweinydd fod tân gwyllt sylweddol ar Ffordd Mynydd y Rhigos yn 2022 wedi achosi difrod difrifol i ran fawr o ochr y bryn, gyda difrod helaeth i'r rhwydi creigiau a gafodd eu gosod i liniaru'r risg o greigiau a cherrig yn cwympo o wyneb y dywodfaen, a cherrig rhydd yn cwympo o ochr y bryn, i Ffordd Mynydd y Rhigos. Mae llawer o waith dros dro a gwaith ymchwilio wedi'i wneud hyd yn hyn gan ddefnyddio mesurau rheoli traffig, sydd wedi bod yn rhwystredig.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod cam nesaf y gwaith atgyweirio wedi'i drefnu ar gyfer haf 2024, mae elfennau o'r gwaith yn gymhleth iawn a bydd yn rhaid cau'r ffordd dros dro o ganlyniad i'r risg i ddefnyddwyr y ffordd wrth gyflawni'r gwaith. Yn rhan o'r gwaith yma, mae angen gosod rhwydi a bolltau newydd, angorau a cheblau, yn ogystal â gosod rhwystr parhaol i ddiogelu defnyddwyr y ffordd rhag creigiau sy'n cwympo ac er mwyn cael gwared ar y goleuadau traffig.

 

Rhoddodd yr Arweinydd wybod y bydd y gwaith yn cychwyn eleni gyda phroses dendro a bydd raid ystyried y cyllid sy'n cael ei roi i'r cynllun. Ychwanegodd fod yr oedi hyd yma wedi ei achosi gan yr arolygon angenrheidiol a helaeth sydd wedi'u cynnal ynghyd â'r gwaith sydd wedi'i gynnal i ddeall y posibilrwydd o greigiau'n cwympo a'r gwaith dylunio.  I gloi, dywedodd y bydd cyhoeddiadau pellach yn cael eu gwneud maes o law.

 

 

8.     Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol L A Tomkinson i'r Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol B Harris:

 

"A wnaiff yr Aelod o'r Cabinet ddatganiad am gynllun ailddatblygu Canolfan Gelf y Miwni?"

 

Ymateb y Cynghorydd B Harris:

 

Nododd y Cynghorydd Harris y bydd y gwaith ailddatblygu'n trwsio a diogelu'r adeilad o'r 1890au, ac mae'r prosiect wedi'i ddylunio i ddathlu'r bensaernïaeth  gothig. Ychwanegodd fod y gwaith yn cynnwys adnewyddu'r awditoriwm; ailfodelu'r cyntedd, bar a'r mesanîn; a gosod nodweddion newydd megis lifftiau ac ystafelloedd gwisgo; yn ogystal â gwelliannau i'r ardaloedd cefn t?.

Cafodd yr Aelodau wybod bod y gwaith mewnol, gan gynnwys gwaith dymchwel, yn mynd rhagddo'n dda. Mae sgaffaldiau hefyd wedi'u gosod yn ddiweddar ym mhrif ardal yr awditoriwm i gael mynediad i'r nenfwd ac mae cynnydd pwysig wedi'i wneud o ran yr elfennau y tu allan i'r adeilad. Darparodd y Cynghorydd Harris rai enghreifftiau; mae gwaith gosod fframiau ar gyfer y paneli solar ffotofoltaig integredig newydd ar gefn y to a gwaith atgyweirio cerrig ar d?r yr adeilad wedi dechrau ac mae gwaith glanhau cerrig allanol yr adeilad wrthi'n mynd rhagddo.

Esboniodd y Cynghorydd Harris fod y Cyngor yn parhau i weithio gydag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, a fydd yn gyfrifol am weithredu'r lleoliad unwaith y bydd y gwaith ailddatblygu wedi'i gwblhau. I gloi, dywedodd fod y prosiect yn cael ei gyflawni gan ddefnyddio cyllid Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, a hynny ar ôl i'r Cyngor sicrhau cyllid gwerth £5.3miliwn ar ddiwedd 2021. Mae disgwyl i'r prosiect ddod i ben yn yr Haf, yn barod ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol.

Nid oedd unrhyw gwestiwn ategol.

 

9.     Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol T Williams i Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan OBE:

 

"A wnaiff yr Arweinydd roi diweddariad ar Gynllun Cymorth Costau Byw y Cyngor gwerth bron i £4.3miliwn?"

 

Ymateb y Cynghorydd A Morgan OBE:

 

O ran y Cynllun Cymorth i Deuluoedd (£125): Roedd dros 20,000 o aelwydydd wedi'u nodi fel aelwydydd sy'n gymwys i gael taliad yn rhan o'r cynllun yma ac mae'r Cyngor wedi talu bron i £2.5miliwn i 19,500 o deuluoedd hyd yma. Ychwanegodd fod 17 Tocyn Tanwydd i Drigolion wedi cael eu rhoi i drigolion sy'n cael trafferth gyda chostau tanwydd, mae 240 o docynnau ar gyfer offer trydanol bach a'r archfarchnad wedi cael eu rhoi i drigolion. Mae pedwar Banc Bwyd RhCT wedi derbyn £10,000 yr un ac mae 153 o grantiau Cymorth Ynni wedi'u rhoi i Gyfleusterau yn y Gymuned er mwyn cefnogi lleoliadau i dalu'u biliau ynni fel bod modd iddyn nhw barhau i fod ar agor. Yn ogystal â hyn, mae'r 58 Canolfan Croeso yn y Gaeaf wedi derbyn rhan o'r cyllid sydd ar gael, yn ogystal â llyfrgelloedd y Cyngor. Bydd adroddiadau monitro y mae angen eu cyflwyno ar ddiwedd y flwyddyn ariannol yn cael eu cyflwyno erbyn canol mis Ebrill.

 

Siaradodd yr Arweinydd am astudiaeth achos:

 

Roedd trigolyn wedi cysylltu â'r Arweinydd ar 2 Ionawr yn sgil y caledi roedden nhw'n ei wynebu. Roedden nhw'n cael trafferth i dalu am gostau tanwydd, bwyd a chynnal cyflogaeth. Yn dilyn y sgwrs, roedd Swyddogion wedi ymateb drwy gysylltu â'r unigolyn, cynnal sgwrs 'Beth sy'n bwysig' gyda nhw a chafodd y trigolyn docyn tanwydd a bwyd o fewn 24 awr. Mae modd defnyddio'r tocyn yma ar unwaith er mwyn talu am filiau cyfleustodau a bwyd mewn archfarchnad o'u dewis.

Esboniodd yr Arweinydd mai un achos yn unig yw hwn a bod llawer o achosion tebyg yn derbyn cymorth gan Swyddogion y Cyngor sy'n mynd ati i esbonio pa grantiau a chymorth sydd ar gael iddyn nhw. Soniodd hefyd am y gwaith da sy'n cael ei wneud gan y Ganolfan Cyngor ar Bopeth sydd wedi agor adeilad newydd ym Mhontypridd ac sy'n gweithio'n agos gyda'r Cyngor.

Nid oedd unrhyw gwestiwn ategol gan fod yr amser a neilltuwyd ar gyfer cwestiynau wedi dod i ben (pwysleisiodd y Llywydd fod y cloc wedi'i stopio yn ystod cyfnodau o broblemau technegol).

 

 

Dogfennau ategol: