Agenda item

Derbyn cwestiynau'r Aelodau yn unol â Rheol 9.2 o Weithdrefn y Cyngor.

 

(Nodwch: Caniateir hyd at 20 munud ar gyfer cwestiynau.)

 

Cofnodion:

Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol N. H. Morgan i Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

“A oes modd i'r Arweinydd roi’r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae’r Cyngor yn bwrw ymlaen â’i waith i uwchraddio a gwella draeniad ar ei rwydwaith priffyrdd?”

Ymateb y Cynghorydd A Morgan OBE:

Dywedodd yr Arweinydd fod y Cyngor wedi caffael gwasanaeth glanhau foltiau arbenigol 5 mlynedd a chontract teledu cylch cyfyng gyda darparwr allanol sydd ar hyn o bryd yn ei drydedd flwyddyn. Mae nifer o asedau carthffosydd d?r wyneb wedi’u glanhau a’u harolygu hyd yma, gyda 15km wedi’i drin hyd yma eleni.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd fod gan y Cyngor hefyd ei bedwar gwacwr cwteri a lorïau jetio ei hun sy'n gweithio bob dydd i lanhau miloedd o gylïau bob mis, yn ogystal â nodi diffygion sydd wedyn yn cael eu hatgyweirio i helpu i ddiogelu'r rhwydwaith.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod y Cabinet wedi cytuno'n ddiweddar ar fuddsoddiad o £200,000 ar gyfer gwaith lliniaru llifogydd parhaus. Mae hyn yn rhan o'r buddsoddiad untro ehangach o £7.73 miliwn ar gyfer meysydd blaenoriaeth y Cyngor, a gytunwyd gan y Cabinet yn gynharach eleni. Cyfeiriodd yr Arweinydd hefyd at y buddsoddiad o £1 miliwn y mae'r Cyngor wedi'i dderbyn gan Gronfa Ffyrdd Cydnerth Llywodraeth Cymru gyfer 2023/24. Dros y tair blynedd diwethaf, mae'r Cyngor wedi sicrhau dros £10 miliwn gan y Gronfa Ffyrdd Cydnerth ers Storm Dennis, a hynny er mwyn edrych ar y priffyrdd hynny sy'n dueddol o fod yn destun llifogydd.

 

I gloi, dywedodd yr Arweinydd fod llawer o waith eisoes yn mynd rhagddo, ond mae modd gwneud rhagor, a diolchodd i'r Aelodau Etholedig sy'n parhau i dynnu sylw at broblemau yn eu wardiau nhw.

 

Nid oedd unrhyw gwestiwn ategol.

 

 

2. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol G. O. Jones i Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan OBE:

“Rydyn ni wedi clywed yn ystod y misoedd diwethaf bod effeithiau cyfunol Brexit a’r rhyfel yn Wcráin yn cael effaith sylweddol ar ein diwydiant adeiladu.  Beth mae hyn yn ei olygu i’r Cyngor a sut allwn ni liniaru’r effeithiau yma?”

Ymateb y Cynghorydd A Morgan OBE:

Dywedodd y Cynghorydd A Morgan y bu cynnydd mewn costau adeiladu sy'n ymwneud â chyflenwad deunyddiau. Mae hyn yn rhannol yn ymwneud â Brexit, y rhyfel yn Wcráin a chyfradd chwyddiant uchel yn y DU, sydd i gyd yn effeithio ar gostau adeiladu. 

Eglurodd yr Arweinydd, o ran Rhaglen Gyfalaf y Cyngor, fod gan y Cyngor brofiad o gynllunio a chyflawni prosiectau sy'n bodloni amodau llym o ran ansawdd a phris. Ychwanegodd fod prisiau'n cael eu cytuno ymlaen llaw ar gyfer prosiectau adeiladu fel Ysgolion neu gyfleusterau Gofal Ychwanegol, a bod dim modd newid y pris yma unwaith i'r contract gael ei ddyfarnu.

Cyfeiriodd yr Arweinydd at anawsterau o fewn y farchnad lafur, ac effaith Brexit, sy'n effeithio ar faterion recriwtio, yn enwedig mewn meysydd fel lletygarwch a ffermio, lle mae ffermwyr yn cael trafferth recriwtio gweithwyr i gasglu cnydau. Soniodd yr Arweinydd am yr anhawster o ran recriwtio'n lleol, gan ddweud bod rhaid hysbysebu swyddi sawl gwaith weithiau.

I gloi, dywedodd yr Arweinydd fod y Cyngor yn gweithio'n dda o ran contractau ond y bydd yn parhau i fonitro'r farchnad a phennu cyllidebau adeiladu realistig yn y dyfodol, gan fanteisio ar wybodaeth am y farchnad ar y pryd.

Nid oedd unrhyw gwestiwn ategol.

 

 

3.Cyhoeddodd y Llywydd fodymddiheuriad am absenoldeb wedi'i gyflwyno gan y Cynghorydd S Powderhill, a chadarnhaodd na fyddai cwestiwn 3 yn cael ei ofyn i'r Aelod o'r Cabinet.

 

 

4. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol W. Lewis i Arweinydd y Cyngor – Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan OBE:

“A wnaiff yr Aelod o'r Cabinet ddatganiad am gyflwyno terfynau cyflymder 20mya diofyn Llywodraeth Cymru ledled Cymru a Rhondda Cynon Taf?”

Ymateb y Cynghorydd A Morgan OBE:

Darparodd yr Arweinydd yr wybodaeth ganlynol mewn perthynas â chyflwyno terfynau cyflymder 20mya diofyn Llywodraeth Cymru yn Rhondda Cynon Taf. Mae'r Cyngor wedi cael gwared ar tua 3,140 o arwyddion ac wedi codi 1,710 o arwyddion newydd ar y rhwydwaith priffyrdd i baratoi ar gyfer cyflwyno'r terfyn 20mya diofyn. Yn ogystal, roedd cyfle i dynnu 1,974 o arwyddion wedi'u goleuo i lawr, a gosod fersiynau heb olau yn eu lle, gan arbed costau ynni a chynnal a chadw.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd fod wyth deg pedwar o eithriadau terfyn cyflymder 30mya yn RhCT ar hyn o bryd, gyda 18 wedi'u lleoli yng Nghwm Rhondda, 16 yng Nghwm Cynon a 50 ar draws ardal Taf-elái. Ychwanegodd fod y contractwr allanol i fod i gwblhau'r gwaith erbyn 24 Tachwedd ond mae'r contractwr wedi gofyn am estyniad i gwblhau elfennau o'r wyneb coch a'r arwyddion 'eilaidd' - Mae swyddogion yn adolygu'r cais yma ar hyn o bryd ac yn obeithiol y bydd yr amser hwn yn cael ei gwtogi yn sgil trafodaethau pellach.

 

Dywedodd yr Arweinydd, tra bod Swyddogion yn ymateb i unrhyw wallau clir ac amlwg ar yr arwyddion cyn gynted â phosibl, mae unrhyw geisiadau i adolygu terfynau cyflymder yn cael eu cofnodi, a byddan nhw'n destun adolygiad posibl yn y dyfodol. Ychwanegodd y dylai'r Cyngor fod mewn sefyllfa i gadarnhau bod yr holl arwyddion wedi'u diweddaru erbyn cyfnod y Nadolig.

I gloi, dywedodd yr Arweinydd fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyhoeddi canllawiau diwygiedig mewn perthynas â phennu terfynau cyflymder lleol yng Nghymru yn hydref 2024. Bydd hyn yn darparu'r fframwaith ar gyfer unrhyw adolygiad o derfynau cyflymder yn RhCT.

Nid oedd unrhyw gwestiwn ategol.

5. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. Bradwick i Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan OBE:

“A oes modd i'r Arweinydd wneud datganiad ar wasanaethau bws yn Rhondda Cynon Taf ac amlinellu’r sefyllfa ddiweddaraf o ran rhoi cymorth i ddarparwyr?”

Ymateb y Cynghorydd A Morgan OBE:

Dywedodd yr Arweinydd fod Covid-19 wedi effeithio ar hyfywedd masnachol gwasanaethau bysiau, a heb ymyrraeth Llywodraeth Cymru drwy’r Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau a’r Gronfa Bontio ar gyfer Bysiau, byddai’r rhan fwyaf o wasanaethau wedi dod i ben dros y 3 blynedd diwethaf. Ychwanegodd, er bod y diwydiant wedi dangos rhywfaint o adferiad o effaith y pandemig, ei fod wedi wynebu heriau ychwanegol oherwydd bod mwy o drigolion yn gweithio gartref, neu'n siopa bwyd ar-lein.

Dywedodd yr Arweinydd, o ran y Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau, a oedd ar waith am dair blynedd, fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda Chynghorau o ran y cyllid (gyda deg cyngor ar yr un ôl troed â’r Cyd-bwyllgorau Corfforaethol, a chyda RhCT yn rhan o ôl troed y De-ddwyrain ar gyfer y deg awdurdod lleol sydd i gyd yn cydweithio â’r diwydiant bysiau) i symud tuag at fecanwaith ariannu mwy cynaliadwy a fydd yn gwneud y defnydd gorau o’r cyllid sydd ar gael ac yn lleihau dyblygu gwasanaethau o ddechrau blwyddyn ariannol 2024/25. Cadarnhaodd yr Arweinydd yr amcangyfrifir y bydd cyfran yr arian ychwanegol sydd ar gael i gefnogi'r diwydiant bysiau gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf tua £46 miliwn.

 

Fel gyda phob Cyngor yng Nghymru, wrth baratoi ar gyfer y mecanwaith ariannu newydd, mae swyddogion o Uned Trafnidiaeth Integredig y Cyngor wedi bod yn llunio dogfennau tendro sy'n ceisio cynnal cymaint o'r gwasanaethau bws presennol â phosibl o fewn y cyllid sydd ar gael. Bydd canlyniad yr ymarfer tendro yn cael ei gyhoeddi yn y flwyddyn newydd, a bryd hynny, bydd angen gwneud ceisiadau i arweinwyr rhanbarthol i sicrhau'r cyllid sydd ei angen.

 

Cwestiwn ategol gan y Cynghorydd S Bradwick

 

“O ran y cynllun Tocyn Bws £1, a allwch chi roi gwybodaeth ynghylch cyflwyno’r cynllun?”

 

Ymateb y Cynghorydd A Morgan OBE:

Roedd yr Arweinydd yn falch o gyhoeddi bod y Cyngor ar fin cyflwyno cynllun bws am bris gostyngol pellach ar gyfer mis Rhagfyr. Bydd modd cael tocyn am £1 am bob taith o fewn y Fwrdeistref Sirol. Ychwanegodd mai hwn fydd y trydydd cynllun o’i fath mae'r Cyngor wedi’i gyflwyno yn RhCT yn ystod y flwyddyn galendr hon, a hynny drwy benderfyniadau’r Cabinet. Yn gyntaf, cafwyd cynllun teithio am ddim ym mis Mawrth, ac wedyn y cynllun tocyn bws am £1 am 6 wythnos yn ystod gwyliau'r haf. Bu cynnydd sylweddol yn nifer y defnyddwyr a theithiau ar fysiau yn ystod y cyfnodau yma.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod y cynllun wedi'i gefnogi gan gyllid a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru ac y bydd o gymorth mawr i drigolion gyda’r argyfwng costau byw, ac yn cefnogi’r ôl troed carbon. Bydd hefyd yn lleddfu rhywfaint o’r traffig ar y ffyrdd ym mis Rhagfyr yn ystod prysurdeb y Nadolig.

 

I gloi, dywedodd yr Arweinydd ei fod yn gobeithio y bydd y Cyngor yn gallu parhau â'r cynllun yn y dyfodol ac y bydd y cynllun yn cael ei werthuso ar ôl y Nadolig.

 

6. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. Barton i Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

“Yng ngoleuni’r argyfwng Costau Byw parhaus, pa gymorth sydd ar gael i drigolion RhCT wrth i ni agosáu at fisoedd y gaeaf gyda’r tywydd yn troi’n llawer oerach dros y dyddiau diwethaf?”

Ymateb y Cynghorydd A Morgan OBE:

Dywedodd yr Arweinydd, yn ogystal â'r cynllun Tocyn Bws am £1, a fydd yn sicr yn cefnogi llawer o deuluoedd a'r economi leol, ym mis Medi, cytunodd Cabinet y Cyngor ar Gynllun Cymorth Costau Byw newydd ar gyfer 2023. Mae hwn werth £4.292 miliwn, sy'n uwch nag unrhyw gynllun gan Awdurdod Lleol arall yng Nghymru. Mae'r pecyn yn cynnwys taliad untro o £125 i bob cartref yn RhCT sydd â phlentyn/plant o oedran ysgol gorfodol (fesul teulu, nid fesul plentyn). Ychwanegodd fod 18,819 o'r 20,235 o aelwydydd sy'n gymwys ar gyfer y taliad wedi'u talu hyd yma, sy'n cyfateb i 93%. Anogodd y teuluoedd hynny sydd ddim wedi gwneud hynny eisoes i wneud cais am y cynllun, sy'n parhau ar agor tan 31Rhagfyr 2023. Bydd swyddogion yn anfon llythyrau dilynol i unrhyw deuluoedd sydd ddim wedi gwneud cais eto yn y cyfamser.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod y Cabinet hefyd wedi cymeradwyo £245,000 i'w ddyfarnu i sefydliadau cymunedol lleol ei ddefnyddio i ddarparu cefnogaeth sylweddol i drigolion RhCT. Mae hyn yn cynnwys y Grant Cyfleusterau Cymunedol (£135,000) sy'n cefnogi grwpiau trydydd sector i gynnal hybiau cymunedol. Ar gyfer y Canolfannau Croeso yn y Gaeaf, mae grantiau o £110,000 o gyllid y Cyngor ei hun wedi'u darparu, gyda 86 o Ganolfannau Croeso yn y Gaeaf wedi cofrestru ar gyfer y cymorth yma. Atgoffodd yr Arweinydd yr Aelodau bod holl Lyfrgelloedd y Cyngor yn cael eu hystyried yn Ganolfannau Croeso yn y Gaeaf.

Dywedodd yr Arweinydd, o ran cefnogaeth uniongyrchol i drigolion sy’n wynebu caledi ariannol yn ystod misoedd y Gaeaf, bod tri gwasanaeth cefnogi trigolion o fewn y Cyngor wedi cael mynediad at dalebau Archfarchnad a Thanwydd y gellir eu rhoi i’r rhai sydd â’r angen mwyaf, a hynny am gyfanswm o £100,000. Mae £100,000 ychwanegol wedi'i ddyrannu ar gyfer dyfarniadau tai dewisol i gefnogi trigolion i gynnal eu tenantiaeth a'u hatal rhag wynebu cael eu troi allan a chaledi. Dywedodd yr Arweinydd y bydd y Gaeaf yn adeg heriol i lawer o deuluoedd.

Cwestiwn Ategol gan y Cynghorydd J Barton:

 

“A yw’r Arweinydd mor ddig a thrist â minnau ein bod ni fel un o wledydd cyfoethocaf y Byd yn gorfod helpu’r rhai mwyaf bregus mewn cymdeithas, tra’n wynebu toriadau ein hunain ar yr un pryd?”

 

Ymateb y Cynghorydd A Morgan OBE:

Cytunodd yr Arweinydd â theimladau'r Cynghorydd Barton a mynegodd ei siom o orfod darparu cymorth ariannol i'r Banciau Bwyd lleol er mwyn gallu cyflawni gwaith pwysig iawn, y mae mawr ei angen, ar gyfer cymunedau RhCT. Roedd yr Arweinydd yn gobeithio y byddai'n gweld diwedd ar Fanciau Bwyd yn RhCT yn y dyfodol ond byddai'n eu cefnogi'n llwyr tra bod eu hangen nhw.

Nid oedd unrhyw gwestiynau pellach oherwydd bod yr amser a neilltuwyd wedi dod i ben.

 

Dogfennau ategol: