Agenda item

Yn unol â Rheol 2 o Weithdrefn Llywodraethu Agored Cyfarfodydd y Cyngor, derbyn datganiadau gan Arweinydd y Cyngor a/neu Gynghorwyr sy'n Aelodau Portffolio o'r Cabinet:

 

 

 

Cofnodion:

GwnaethArweinydd y Cyngor, y Cynghorydd A Morgan OBE, ddatganiad mewn perthynas â chyllideb y Cyngor a chanlyniad siomedig Datganiad yr Hydref. Bydd Llywodraeth Cymru yn cael £305m yn ychwanegol ondhyd yn oed gyda'r cyllid ychwanegol, mae cynghorau yn wynebu blwyddyn anodd iawn i ddod. Mewn termau real, mae hyn yn debygol o fod yn £41m yn unig, sy'n briodoli i newidiadau o ran Ardrethi Busnes a gyhoeddodd y Canghellor yn flaenorol, a thua £4 miliwn wedi'i neilltuo i fynd i'r afael â thyllau yn y ffordd. Mynegodd yr Arweinydd ei siom enbyd yn y canlyniad, er gwaethaf pryderon a gafodd eu dwyn i sylw Llywodraeth San Steffan ynghylch y pwysau ar Ysgolion, Gofal Cymdeithasol a'r GIG.

 

Dywedodd yr Arweinydd bydd y cyllid refeniw craidd ar gyfer llywodraeth leol yn 2024-25 yn cynyddu o 3.1% ond fod y Cyngor yn debygol o weld cynnydd llai na 3% oherwydd poblogaeth y fwrdeistref sirol a newidiadau yn y fformiwla, a fydd yn rhagolwg anodd iawn. Ychwanegodd fod Swyddogion yn gweithio'n galed yn y cefndir i nodi lle mae modd gwneud arbedion.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod chwech ar hugain o awdurdodau lleol yn Lloegr yn wynebu hysbysiad 114 yn ystod y 12 mis nesaf, sy'n golygu y byddan nhw'n cael eu gorfodi i ddatgan methdaliad ariannol heb unrhyw arian wrth gefn/arbedion, a fyddai'n golygu bod dim modd iddyn nhw ddarparu gwasanaethau statudol. Dywedodd yr Arweinydd y byddai darparu cyllideb gytbwys ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn dasg hynod heriol ac ategodd ei siom gyda chanlyniad datganiad yr Hydref.

 

********************************************************************************************

 

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd M Webber, ei bod hi wedi cyfarfod â Citizens Cymru/Wales a Citizens UK yn Eglwys y Santes Catrin, Pontypridd, ar 10 Tachwedd i ddathlu achrediad y Cyngor yn gyflogwr Cyflog Byw Gwirioneddol. Roedd hi wedi gwneud hyn ar ran yr Arweinydd. Cafodd tlws ei gyflwyno i'r Cyngor i ddathlu'r gamp. Roedd y Dirprwy Arweinydd yn dymuno diolch i Citizens Cymru UK am y gydnabyddiaeth honno.

 

Pwysleisiodd y Dirprwy Arweinydd bod y Cyngor yn dal ati i gydnabod mai'r staff yw ei ased gorau, ac roedd hi'n falch o'r cyfle i gwrdd â'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn gynharach yn y flwyddyn, gyda'r Arweinydd, i dderbyn achrediad fel cyflogwr Cyflog Byw. I gloi, dywedodd y Dirprwy Arweinydd fod Cyngor RhCT yn gosod esiampl dda i awdurdodau lleol yng Nghymru, yn rhinwedd ei rôl yn ail awdurdod lleol mwyaf Cymru.

 

***********************************************************************************************

 

Gwnaeth yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol B Harris, ddatganiad mewn perthynas â'r ffaith bod y Cyngor wedi derbyn gwobr fawreddog Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Cenedlaethol (gwobr Efydd SPF) ar ran Partneriaeth Bwyd RhCT. Mae'n cydnabod gwaith rhagorol Partneriaeth Bwyd RhCT wrth hyrwyddo arferion bwyd cynaliadwy o fewn y cymunedau. Mae Carfan Datblygu Cymuned y Cyngor, y Cydlynydd Bwyd Cynaliadwy a'i bartneriaid wedi ymrwymo i hyrwyddo bwydydd cynaliadwy ac iach, ac mae eu gwaith wedi cyfrannu'n helaeth at ymrwymiad y Cyngor i fynd i'r afael â heriau cymdeithasol sylweddol megis tlodi bwyd, salwch sy'n gysylltiedig â diet a cholli busnesau bwyd annibynnol.

 

Roedd y Cynghorydd B Harris am estyn ei longyfarchiadau i’r garfan a’r bartneriaeth am gael ei gydnabod gan y wobr fawreddog yma, ac roedd hefyd yn dymuno diolch iddyn nhw am wneud RhCT yn un o ddim ond tair ardal awdurdod lleol yng Nghymru i dderbyn y wobr hon ers ei sefydlu yn 2015.