Agenda item

Cofnodion:

Cafodd y cyhoeddiadau canlynol eu gwneud:

 

Ø    Talodd y Cynghorydd R Lewis deyrnged i Richard Jones, a fu farw'n ddiweddar. Roedd Richard yn gymeriad adnabyddus yng Nghwm Cynon, yn eiriolwr angerddol dros hawliau pobl anabl ac yn gweithio i hyrwyddo hygyrchedd. Bu'n Gadeirydd Amgueddfa Cwm Cynon ac ACT (Accessible Caring Transport), yn ogystal â sefydlu'i elusen hygyrchedd ei hun. Roedd e'n Gynghorydd Cymuned ar Gyngor Cymuned Hirwaun a Phenderyn. Roedd e bob amser yn awyddus i helpu eraill ac yn adnabyddus am ei synnwyr digrifwch. Cafodd Richard ei gefnogi gan ei deulu drwy gydol ei oes, a daeth y Cynghorydd Lewis i ben drwy ddweud y bydd colled ar ôl Richard Jones.

 

Ø    Roedd y Cynghorydd K Morgan hefyd yn dymuno talu teyrnged i Richard Jones, a oedd yn hyrwyddwr llawer o achosion eraill, gyda'r rhan fwyaf o'r rheiny'n canolbwyntio ar sicrhau chwarae teg i bawb. Gweithiodd y Cynghorydd Morgan ochr yn ochr â Richard yn ei rôl gyda Cymru Hygyrch, ac yn ystod y gwaith hwn daeth yn ymwybodol o ba mor aml yr oedd Richard yn wynebu rhwystrau yn ei fywyd bob dydd. Gorffennodd y Cynghorydd Morgan drwy ddweud mai dyma yw ein hetifeddiaeth gan Richard, y cyfle i ni weld y rhwystrau mae pobl yn eu hwynebu a chael gwared arnyn nhw. Roedd y Cynghorydd Morgan yn dymuno estyn ei chydymdeimlad i deulu Richard.

 

Ø    Talodd y Cynghorydd W Hughes deyrnged i aelod hirsefydlog o'r blaid Lafur a Chyn-gynghorydd Trealaw, Bill Murphy, a fu farw ar 2 Tachwedd 2023. Roedd e'n aelod uchel ei barch o Gymuned Trealaw. Cafodd ei ethol yn Gynghorydd ar ward Trealaw ym 1983, a bu'n Aelod o'r Cyngor tan 1999. Yn ystod y cyfnod yma, roedd yn Ddirprwy Arweinydd ac Arweinydd ar y Gr?p Llafur ac ar Gyngor Bwrdeistref Cwm Rhondda. Fe hefyd oedd Arweinydd cyntaf Cyngor RhCT. Bu'n eistedd ar lawer o bwyllgorau a chyrff llywodraethu ysgolion. Roedd y Cynghorydd Hughes yn dymuno estyn ei gydymdeimlad i wraig Bill, Barbara, a'i deulu.

 

Ø    Talodd y Cynghorydd G Caple deyrnged i gyn AS y Rhondda, Allan Rogers, a fu farw ddoe yn 91 oed. Daeth yn AS y Rhondda ym 1983 a bu yn ei swydd tan 2001. Roedd ei ymrwymiad i’w gymunedau, gan gynnwys ei gefnogaeth barhaus i’r glöwyr, heb ei ail. Soniodd y Cynghorydd Caple am ei fuddugoliaethau etholiadol, gan orffen gyda pherfformiad trawiadol o'r Faner Goch. Treuliodd oes ym myd gwleidyddiaeth, yn Gynghorydd, AS ac yn aelod o Senedd Ewrop. Roedd bob amser yn annog eraill i gefnogi achos y Llywodraeth Lafur trwy wleidyddiaeth. Bu'n gweithio fel daearegwr mwyngloddio, swydd a aeth ag ef ledled y byd. Estynnodd y Cynghorydd Caple ei gydymdeimlad â theulu Allan.

 

Arweiniodd y Llywydd y Cyngor mewn munud o dawelwch er cof am

y tri phreswylydd crybwylledig a fu farw yn ddiweddar.

 

Ø   Cyhoeddodd y Cynghorydd J Brencher fod ymweliad diwylliannol wedi’i gynnal gan gr?p o ymwelwyr, gan gynnwys Brenin Buganda, yn ddiweddar. Roedd hwn yn gyfle i'r ymwelwyr ddod i’r fwrdeistref sirol a diolch i drigolion RhCT am eu gwaith o ran mynd i’r afael â thlodi a lleihau cyfraddau marwolaethau drwy PONT. Diolchodd y Cynghorydd Brencher i Faer Rhondda Cynon Taf a phawb a fu'n rhan o drefnu'r ymweliad.