Agenda item

Trefniadau cyn y cam craffu Polisi ar gyfer Rheoleiddio Tai Amlfeddiannaeth (HMOs) yn Rhondda Cynon Taf yn y Dyfodol.

 

Cofnodion:

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu bwrpas yr adroddiad er mwyn i Aelodau rag-graffu ar y manylion yn yr adroddiad a rhoi sylwadau i'r Cabinet cyn iddo ei drafod. Cyflwynodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd a Safonau Tai fanylion yr adroddiad er mwyn rhoi cyfle i Aelodau graffu ar effeithiolrwydd Cynllun Trwyddedu Ychwanegol (ALS) 2019 ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth (HMOs) a'r cynnig i ddatgan Cynllun Trwyddedu Ychwanegol newydd ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth o fis Ebrill 2024, yn unol â darpariaethau Deddf Tai 2004.

 

Amlinellodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd a Safonau Tai ddiffiniad Tai Amlfeddiannaeth a chefndir yr adroddiad. Cafodd Aelodau wybod bod gan dai amlfeddiannaeth risg uwch o ran tân, a bod angen rhagofalon tân ychwanegol o ganlyniad i hyn. Hefyd, gall nifer uwch o dai amlfeddiannaeth sy'n cael eu rheoli mewn ffordd wael ychwanegu pwysau at gymunedau lleol. Rhoddwyd gwybodaeth i Aelodau o ran nifer y tai amlfeddiannaeth yn Rhondda Cynon Taf ar hyn o bryd ac mae nifer uchel o'r rhain yn ward Trefforest lle mae nifer uchel o fyfyrwyr.

 

O ran deddfwriaeth, nodwyd yn yr adroddiad y daeth Deddf Tai 2004 (‘y Ddeddf’) i rym yng Nghymru ym mis Mehefin 2006 a chyflwynodd bwerau i Awdurdodau Lleol reoleiddio safonau yn y sector rhentu preifat, gan gynnwys y gofyniad i Awdurdodau Lleol drwyddedu mathau penodol o dai amlfeddiannaeth, sef Trwyddedu Mandadol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth. Rhoddodd y Ddeddf hawl i Awdurdodau Lleol gyflwyno mathau eraill o gynllun trwyddedu ar gyfer mathau gwahanol o dai amfeddiannaeth (Trwyddedu Ychwanegol) a thrwyddedu'r sector rhentu meddiannaeth unigol (Trwyddedu Dethol). Cafodd Aelodau wybod bod y ddau gynllun yn ddewisol.

 

Cafodd Aelodau wybodaeth bellach o'r adroddiad mewn perthynas â'r Cynllun Trwyddedu Ychwanegol, a nododd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd a Safonau Tai fod y Cyngor wedi gweithredu Cynlluniau Trwyddedu Ychwanegol olynol ers 2006. Cafodd Cynllun Trwyddedu Ychwanegol 2014 ei adolygu yn 2018 lle penderfynwyd rhoi Cynllun Trwyddedu Ychwanegol pellach ar waith o 1 Ebrill 2019. Cafodd Aelodau wybod bod y Cynllun Trwyddedu Ychwanegol presennol yn dod i ben ar 31 Mawrth 2024.

 

Nododd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd a Safonau Tai fod proses cyflwyno cais ar-lein, a gafodd ei chyflwyno yn 2019, wedi arwain at amser prosesu gwell ar gyfer trwyddedau. Hefyd, newidiwyd y ffordd y cafodd ffïoedd eu prosesu a chafodd taliad dwy ran ei gyflwyno i dalu am gostau rhoi'r Cynllun Trwyddedu Ychwanegol ar waith.

 

Cafodd Aelodau eu hatgoffa bod rhaid i'r penderfyniad i adnewyddu Cynllun Trwyddedu Ychwanegol fod yn seiliedig ar dystiolaeth o'r angen am gynllun o'r fath a thynnwyd eu sylw at yr adran berthnasol yn yr adroddiad ac Atodiad 1 sy'n cynnwys manylion y gwerthusiad llawn o'r Cynlluniau Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth (Ychwanegol a Mandadol) ers 2019, a gafodd ei gynnal gan y Garfan Strategaeth Dai. Cafodd y canfyddiadau allweddol, fel sydd wedi'u hamlinellu yn adran 4 o Atodiad A, eu cyflwyno i Aelodau.

 

Tynnwyd sylw Aelodau at Atodiad 3 sy'n cynnwys canlyniadau llawn yr ymgynghoriad cyhoeddus a gafodd ei gynnal rhwng 5 Medi 2023 a 17 Hydref 2023, sef cyfnod o 6 wythnos. Cafodd Aelodau ganfyddiadau allweddol yr ymgynghoriad yma fel sydd wedi'u hamlinellu yn adran 5 o Atodiad A.

 

Mewn perthynas â'r cynnig o argymhellion ar gyfer cynllun 2024, cafodd Aelodau wybod bod adolygiad o'r amodau wedi darganfod eu bod nhw'n addas i'r diben yn bennaf, er y tynnodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd a Safonau Tai sylw Aelodau at amod diogelwch tân ychwanegol wedi'i argymell fel sydd i'w weld yn adran 5.6 o Atodiad 2.

 

Cyfeiriodd Aelod at faint a lleoliad ystafelloedd mewn Tai Amlfeddiannaeth, gan rannu profiad preswylydd sy'n byw mewn ystafell atig, a hynny'n groes i reoliadau tân. Gofynnodd yr Aelod gwestiwn am ymweliadau archwilio tai amfeddiannaeth a chynnwys tenantiaid yn yr archwiliadau yma. Ymatebodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd a Safonau Tai drwy nodi bod safonau o ran lle yn berthnasol i Dai Amlfeddiannaeth a bod y Cyngor yn gorfodi'r rhain yn rhan o'r archwiliadau. Ychwanegodd fod modd trafod unrhyw bryderon penodol o ran amgylchiadau unigol yn uniongyrchol gyda'r garfan Safonau Tai. Dywedodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd a Safonau Tai fod Swyddogion yn ceisio siarad â thenantiaid yn rhan o'r archwiliad a bod rhaid iddyn nhw weld pob ystafell felly dylai tenantiaid wybod pryd mae archwiliad yn cael ei gynnal.

 

Nododd Aelod lefel yr ymatebwyr i'r ymgynghoriad cyhoeddus a rhoddodd ganmoliaeth i'r garfan am y nifer dda o ymatebwyr ac am y sylwadau dilys a gafodd eu gwneud. Nododd yr Aelod y byddai dadansoddiad pellach o'r ymatebion yn ôl pob gr?p ymatebwyr yn helpu Aelodau ymhellach i graffu ar y canlyniadau. Amlinellodd yr Aelod bryder o ran yr adborth cyfyngedig mewn perthynas â'r gr?p tenantiaid, gan nodi bod gan y gr?p yma lais pwysig. Gofynnodd beth arall y mae modd ei wneud i ymgysylltu â thenantiaid. Aeth Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd a Safonau Tai ati i gydnabod nad yw lefelau ymatebwyr yn y gr?p tenantiaid mor uchel â'r gobaith, a dywedodd y cafodd ymweliadau stepen drws eu cynnal yn ystod yr ymgynghoriad a chafodd sesiynau eu trefnu gydag undeb y myfyrwyr.  Yn y dyfodol, cydnabyddir y byddai modd ymgysylltu'n fwy ag undeb y myfyrwyr gan fod nifer o denantiaid yn fyfyrwyr.  Cydnabyddir y bydd rhagor o adborth gan denantiaid yn werthfawr yn y dyfodol.

 

Gofynnodd Aelod arall am yr elfen diogelwch mewn Tai Amlfeddiannaeth a'r gallu i sicrhau bod gan unigolion gloeon ar ystafelloedd i greu mannau diogel. Aeth Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd a Safonau Tai ati i gydnabod pwysigrwydd hyn a rhoddodd sicrwydd i Aelodau y byddai hyn yn cael ei gynnwys yn yr amodau trwyddedu ac y bydd yn sicrhau bod hyn yn cael ei gynnwys pan fydd amodau ar gyfer 2024 yn cael eu hadolygu. 

 

Nododd Aelod y problemau penodol sy'n effeithio ar ardal Pontypridd / Trefforest o ganlyniad i nifer uchel o dai amfeddiannaeth, gan gyfeirio at ymddygiad gwrthgymdeithasol yn benodol.

Ymatebodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd a Safonau Tai drwy nodi bod trefn archwilio trwyddedu tai amlfeddiannaeth yn ceisio mynd i'r afael â phroblemau parhaus a chyfeiriodd at sut mae pryderon o ran cynllunio wedi cael sylw trwy Ganllawiau Cynllunio Atodol mewn perthynas â nifer y Tai Amfeddiannaeth. Ychwanegodd fod y maes gwasanaeth yn gweithio gyda charfanau ymddygiad gwrthgymdeithasol a gofal y strydoedd, gyda nifer o weithwyr yn mynd i'r ardal i geisio mynd i'r afael â phroblemau. Tynnodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd a Safonau Tai sylw at y ffaith bod y problemau a godwyd yn dangos yr angen am y cynllun yn y dyfodol gan ei fod yn ceisio sicrhau gwelliannau bob tro ac yn ymdrin â'r amodau eto i fynd i'r afael â'r problemau. Ychwanegodd Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned fod gan Drefforest farchnad dai unigryw ac aeth ati i gydnabod bod y problemau'n hirsefydlog ond pwysleisiodd y pwynt a gafodd ei wneud am yr angen am drwyddedu parhaus a gwella elfennau o'r cynllun allai barhau i fynd i'r afael â phroblemau.  Nododd y Cyfarwyddwr fod y cynllun yn ymdrin â diogelwch a lles tenantiaid a bod gan RCT y cynllun trwyddedu mwyaf cynhwysfawr yng Nghymru ar hyn o bryd, a hynny er mwyn cydnabod bod pwysau unigryw yn y farchnad dai.

 

Gofynnodd Aelod beth y mae modd ei wneud i fynd i'r afael â Thai Amlfeddiannaeth nad ydyn nhw'n cydymffurfio a landlordiaid absennol, gan nodi bod problemau'n codi yn y math yma o eiddo'n fwy aml. Dywedodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd a Safonau Tai fod gwiriadau rheolaidd yn cael eu cynnal mewn perthynas â ward Trefforest, yn ogystal ag archwiliadau blynyddol i ddod o hyd i achosion o beidio â chydymffurfio, a bod camau gorfodi yn cael eu cymryd lle bo angen. Nododd y Rheolwr hefyd yr angen am waith cynnal a chadw a rheoleiddio parhaus, gan gadw gweithwyr yn yr ardal pan fydd y cynllun ar waith fel dyletswydd i barhau â gwaith monitro parhaus a chymryd camau priodol.

 

Ychwanegodd Aelod arall at y pryderon o ran landlordiaid nad ydyn nhw'n cydymffurfio, gan nodi'r ffigurau uchel sydd wedi'u hamlinellu yn yr adroddiad, a gofynnodd beth sy'n digwydd ar ôl dod o hyd i achosion o beidio â chydymffurfio ac a ydy archwiliadau blynyddol yn ddigon i ddod o hyd i bob problem. Amlinellodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd a Safonau Tai y broses cyflwyno cais, gan roi gwybod i Aelodau fod angen i landlordiaid fodloni'r safonau cyn i drwydded gael ei rhoi. Mae archwiliad bob 3 blynedd ar ôl hynny er mwyn sicrhau bod landlordiaid yn cydymffurfio ag amodau'r drwydded a safonau tai cyffredinol. Cafodd Aelodau wybod bod camau gweithredu yn cael eu cymryd os oes unrhyw broblemau a nodir yn ystod yr archwiliadau yma, a hynny o dan hysbysiadau peidio â chydymffurfio ag amodau neu hysbysiadau gwella all arwain at gamau erlyn. Dywedodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd a Safonau Tai fod cydymffurfiaeth yn dda yn gyffredinol ar ôl dod o hyd i broblemau a'u codi nhw gyda landlordiaid.

 

Nododd Aelod fod y rhan fwyaf o ddata yn berthnasol i ward Trefforest a gofynnodd a oes cynnydd yn nifer y Tai Amfeddiannaeth mewn ardaloedd eraill ledled y fwrdeistref a ddylai gael sylw. Ymatebodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd a Safonau Tai drwy nodi mai Trefforest yw'r prif leoliad ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth o ganlyniad i leoliad y brifysgol a nad oes gwybodaeth i awgrymu cynnydd mewn ardaloedd eraill ar hyn o bryd.

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNODD Aelodau:

 

Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu i roi sylwadau'r Pwyllgor i'r Cabinet yn dilyn rhag-graffu ar yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: