1. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol D. Wood i
Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan
OBE:
“Cysylltodd aelod o’r gwasanaethau brys â mi
yn ddiweddar sy’n hynod bryderus am y problemau traffig
a’r oedi i Bontypridd o gyfeiriad Cwm Rhondda bob bore. Mae
hyn wedi golygu ei bod hi'n cymryd rhwng 90 munud neu hyd yn oed 2
awr iddo gyrraedd y gwaith am 8am, pan fydd wedyn yn cael trafferth
dod o hyd i le parcio, sydd wedi golygu ei fod yn hwyr i'r gwaith.
Hoffai wybod a oes cynllun gyda Chyngor RhCT i liniaru’r
problemau traffig parhaus os gwelwch yn dda?”
Ymateb gan y Cynghorydd A Morgan OBE:
Ymatebodd yr Arweinydd drwy ddweud bod Adran Briffyrdd y
Cyngor yn parhau i fuddsoddi mewn cynlluniau trafnidiaeth strategol
integredig trosfwaol, gyda'r bwriad o wella'r rhwydwaith ledled
Rhondda Cynon Taf. Mae hyn yn cynnwys mynd i'r afael â'r
problemau traffig a'r oedi i gyfeiriad Pontypridd o Gwm
Rhondda.
Ychwanegodd y Cynghorydd Morgan y byddai gweithio ochr yn ochr
â Metro De Cymru yn rhoi hwb i ddarpariaethau trafnidiaeth
cynaliadwy er mwyn lleihau traffig ar y ffyrdd trwy ddarparu
opsiynau amgen rheolaidd a dibynadwy. Bydd y Metro yn arwain at 24
trên yr awr yn teithio drwy Bontypridd, a fydd yn golygu bod
modd teithio'n gyflymach ar y trên, gan arwain at lai o
dagfeydd ym Mhontypridd ac yn enwedig ar yr A470. Mae cryn dipyn o
waith adeiladu, peirianneg ac isadeiledd i’w wneud i
uwchraddio’r rhwydwaith rheilffyrdd, ac mae'n anochel bod hyn
wedi cael effaith ar amseroedd teithio, a fydd yn cael eu cwtogi ar
ôl cwblhau'r gwaith.
Dywedodd y Cynghorydd Morgan fod y Cyngor yn gweithio gyda
Trafnidiaeth Cymru ar ddatblygu Cyfnewidfa’r Porth er mwyn
gwella bysiau a threnau.Bydd yr
Hwb Trafnidiaethyn darparu dewis amgen deniadol i'r rheiny sydd fel
arfer yn defnyddio cerbydau preifat. Cyfeiriodd yr Arweinydd at y
tocynnau sy'n gweithio ar bob dull teithio, sy'n rhywbeth y mae'r
Cyngor yn awyddus i'w gyflawni. Yn ogystal â'r cyfleusterau
Parcio a Theithio yn Abercynon a'r Porth, soniodd yr Arweinydd y
byddai cyhoeddiad yn cael ei wneud yn fuan ynghylch prosiect Parcio
a Theithio ar gyfer Treorci, a fyddai'n helpu gyda thagfeydd
traffig.
Eglurodd yr Arweinydd fod y Cyngor yn ystyried nifer o
opsiynau i leddfu'r tagfeydd ar y ffyrdd, a bod modd i ddatrysiadau
syml fel synwyryddion ar Groesfannau Pâl wneud
gwahaniaeth.
Cwestiwn
Ategol gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol D
Wood:
“Gyda’r Eisteddfod yn dod i Bontypridd y flwyddyn
nesaf a’r angen i annog pobl ledled Rhondda Cynon Taf a thu
hwnt i deithio i'r achlysur, sut ydych chi’n defnyddio
Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd, sy’n cael ei thrafod yn y
cyfarfod heddiw, i sicrhau bod trigolion yn cael dweud eu dweud o
ran unrhyw fesurau lliniaru traffig a gwaith isadeiledd ym
Mhontypridd?”
Ymateb gan y Cynghorydd A. Morgan OBE:
Dywedodd
yr Arweinydd na fydd unrhyw reswm i yrru i Bontypridd i fynychu'r
Eisteddfod gan y bydd cyfleusterau Parcio a Theithio da, gyda
bysiau gwennol rheolaidd i Barc Ynysangharad. Ychwanegodd y byddai
24 o drenau'n rhedeg trwy Bontypridd bob awr, a gyda chysylltiadau
da i reilffyrdd y Rhondda, Aberdâr a Merthyr, bydd hyn yn
lleddfu'r angen i yrru i'r achlysur. Dywedodd yr Arweinydd fod y
Cyngor hefyd wrthi'n dod o hyd i leoliad ar gyfer y maes carafanau
ar gyfer yr achlysur.
Aeth yr
Arweinydd ati i gydnabod bod traffig lleol ym Mhontypridd dan
bwysau ar hyn o bryd oherwydd cau’r Bont Wen, sy'n arwain at
dagfeydd ar hyd Heol Berw. Ychwanegodd nad yw’r synwyryddion
yn gallu nodi’r traffig ychwanegol yn ystod y cyfnod pan fydd
y ciwiau statig ger y goleuadau traffig. Sicrhaodd yr Aelod lleol y
byddai’n fwy na pharod i ymgysylltu â thrigolion a
busnesau lleol i sicrhau bod yr Eisteddfod yn achlysur
llwyddiannus.
2.
Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol T Williams i
Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan
OBE:
“A oes modd i’r Arweinydd roi’r wybodaeth
ddiweddaraf i Gynghorwyr am Gronfa Gymunedol y Gronfa Ffyniant
Gyffredin a grantiau Trydydd Sector eraill?”
Ymateb gan y Cynghorydd A. Morgan OBE:
Darparodd yr Arweinydd y wybodaeth ganlynol mewn perthynas
â’r Gronfa Ffyniant Gyffredin – Grantiau
Cymunedol CBSRhCT (o Ebrill 2022 i Fedi 2023). Nododd fod 121
o sefydliadau wedi derbyn grantiau gwerth cyfalaf o
£183,262 a gwerth refeniw o £1,746,651. Ychwanegodd fod
dyraniad pellach wedi'i wneud ar gyfer 2024-25, a bod 31 o
sefydliadau yn cael budd o grantiau gwerth cyfalaf o £45,500
a gwerth refeniw o £814,831.
Ychwanegodd yr Arweinydd y byddai
rhagor o fanylion am y trefniadau grant terfynol ar gyfer 2024-25
yn cael eu cyhoeddi ym mis Ionawr 2024. Mewn perthynas
â’r Gronfa Ffyniant Gyffredin - Grantiau Micro
Cymunedol Cyngor Rhondda Cynon Taf, dywedodd yr Arweinydd fod
grantiau o hyd at £1,000 ar gael i’r rhai sy’n
darparu gweithgareddau cymunedol/cymorth bwyd i breswylwyr ac mae
92 o sefydliadau wedi cael grantiau gwerth
£85,714.
O ran y Grant Rhwydwaith Cymdogaeth, mae dyfarniad o
hyd at £1,000 ar gael ar gyfer gweithgareddau cymunedol a hyd yma, mae 69 osefydliadau wedi
derbyn cyfanswm gwerth £49,046. Does dim modd cyflwyno rhagor o geisiadau ar hyn o
bryd. Ychwanegodd yr Arweinydd fod dyfarniadau o hyd at £1000
ar gael ar gyfer cymorth uniongyrchol o ran bwyd i
drigolion.
Cadarnhaodd yr Arweinydd fod tri sefydliad ar ddeg
wedi derbyn cyfanswm gwerth o £12,534 mewn perthynas
â'r Grant Cymorth Bwyd, sydd ar hyn o bryd yn derbyn
ceisiadau gan Grwpiau Cymuned sy'n darparu bwyd i'w cymunedau.
Parhaodd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y Grant Urddas Mislif yn
y Gymuned lle dyfarnwyd cynhyrchion gwerth £30,065 i 31 o
sefydliadau cymunedol. Dywedodd yr Arweinydd fod nifer cyfyngedig o
fwndeli cynnyrch yn dal i fod ar gael tan fis Mawrth
2024.
Eglurodd yr Arweinydd fod hyd at £2,000 ar gael ar gyfer
y Canolfannau Croeso yn ystod y Gaeaf/Cronfa Caledi'r Gaeaf, ond
bod y cyfnod ymgeisio yn cau ddydd Gwener 10 Tachwedd 2023.
Cysylltwyd â'r rhai a ymunodd â'r cynllun y llynedd
drwy'r Rhwydwaith Cymdogaeth.
I gloi, dywedodd yr Arweinydd y bydd cynigion uniongyrchol o
£540.00 yn mynd i 238 o sefydliadau cymuned sy'n darparu o
leiaf un gweithgaredd cymunedol, megis boreau coffi, Banciau Bwyd,
Bingo ac eraill sy'n hysbys i'r Rhwydweithiau
Cymdogaeth.
Nid oedd unrhyw gwestiwn ategol.
3. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Bonetto i
Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan
OBE:
“A oes modd i'r Arweinydd wneud datganiad ar y
Strategaeth a Chynllun Gweithredu Lleol ar gyfer Rheoli Perygl
Llifogydd?”
Ymateb gan y Cynghorydd A. Morgan
OBE:
Dywedodd
yr Arweinydd fod y Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl
Llifogydd a'r Cynllun Gweithredu wedi'u trafod gan y Cabinet yn
ddiweddar, nododd fod polisi allweddol i ategu ein buddsoddiad mawr
yn y maes yma. Mae’r Strategaeth yn ymdrin â’r
perygl llifogydd posibl o ffynonellau lleol, sy’n cynnwys
cyrsiau d?r cyffredin, d?r ffo wyneb a d?r daear. Yn rhinwedd ei
swydd yn Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, mae’n ofynnol
i’r Cyngor fonitro a diwygio’r Strategaeth i sicrhau ei
bod yn cyd-fynd ag unrhyw bolisi cenedlaethol neu newidiadau i'r
polisi cenedlaethol.
Ychwanegodd yr Arweinydd fod y Cabinet wedi trafod fersiwn
ddrafft o’r Strategaeth ar 17 Gorffennaf, ac wedi cytuno i'r
swyddogion gynnal ymgynghoriad statudol 6 wythnos rhwng 21 Awst
– 2 Hydref 2023. Esboniodd fod y Swyddogion wrthi'n
adolygu’r ymatebion a’r meysydd lle gellid
gwella’r strategaeth, ochr yn ochr â llunio adroddiad
i’w gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu ar faterion yr
Hinsawdd, Gwasanaethau Rheng Flaen a Ffyniant ar 22 Tachwedd 2023.
Yn dilyn adolygiad o adborth y Pwyllgor Craffu, bydd Swyddogion yn
cwblhau'r strategaeth ac yn ei chyflwyno i'r Cabinet ym mis Ionawr
2024 i'w chymeradwyo.
Cwestiwn Ategol gan y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol J
Bonetto:
“Fel y gwyddoch, cafodd fy ward ei tharo gan lifogydd
afonydd, a yw’r Cyngor yn ymgysylltu â Cyfoeth Naturiol
Cymru ynghylch llifogydd afonydd?”
Ymateb gan y Cynghorydd A. Morgan OBE:
Dywedodd yr Arweinydd fod RhCT wedi dioddef llifogydd afonydd
sylweddol ym mhob rhan o'r fwrdeistref sirol yn ystod Storm Dennis
ac yn dilyn hynny mae afonydd Rhondda, Cynon a Thaf wedi bod yn
destun astudiaethau dalgylch a ddatblygwyd gan Cyfoeth Naturiol
Cymru. Yn dilyn digwyddiadau Storm Dennis sefydlwyd Bwrdd Llifogydd
sy’n parhau i gyfarfod bob 6 wythnos, ac sy’n cynnwys
cynrychiolwyr o Cyfoeth Naturiol Cymru, D?r Cymru, Llywodraeth
Cymru ac uwch swyddogion y Cyngor.
Dywedodd yr Arweinydd fod astudiaethau pen desg a gwaith
modelu wedi’u cynnal gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ac er bod
hon yn broses hir, bu cyfres o drafodaethau a chyfarfodydd hefyd
gyda Gweinidogion o Lywodraeth Cymru megis Julie James AS. Roedd yr
Arweinydd yn rhagweld y bydd gwelliannau sylweddol erbyn yr haf ond
i’r rhai mewn ardaloedd na ellir eu diogelu, bydd yn bwysig
gweithio’n agos gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a thrigolion
lleol i’w helpu i ddiogelu eu heiddo gyda drysau llifogydd,
llifddorau, gorchuddion awyrell frics ac opsiynau eraill nes bod
Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cwblhau'r astudiaethau.
4. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol C Middle
i Arweinydd y Cyngor - Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan
OBE:
“Pa gynnydd y mae’r Cyngor yn ei wneud o
ran cyflawni ei ymrwymiad i fod yn garbon niwtral erbyn
2030?”
Ymateb gan y Cynghorydd A. Morgan OBE:
Ymatebodd yr Arweinydd drwy nodi bod y Cyngor yn gwneud
cynnydd da er ei fod yn heriol oherwydd y costau sy'n gysylltiedig
â datgarboneiddio ond mae'r Cyngor yn arbed mwy na 6,000 tCO2
drwy fuddsoddi bron i £13 miliwn ers i'r rhaglen ddechrau
(2010).
Dywedodd
fod nifer o strategaethau, cynlluniau gweithredu a phrosiectau ar
waith i helpu i ysgogi'r camau gweithredu ac i gyflawni
uchelgeisiau'r Cyngor i fod yn garbon niwtral erbyn
2030.
Mae
mentrau'n cynnwys gosod paneli Solar, goleuadau LED, Uwchraddio
Boeleri a Mesurau Rheoli Gwresogi ac mae'r Cyngor hefyd wedi gwneud
arbedion ariannol sylweddol yn ystod y cyfnod yma.
Dywedodd
yr Arweinydd fod gan y Cyngor bellach dros 120 o systemau PV wedi'u
gosod ar ei adeiladau, sydd gyda'i gilydd yn cynhyrchu dros 1.4 MWh
o drydan adnewyddadwy bob blwyddyn. Mae'r Cyngor hefyd yn elwa o
dros £1 miliwn mewn taliadau Tariff Cyflenwi Trydan a
dderbyniwyd hyd yma.
Dywedwyd wrth yr Aelodau bod y Cyngor yn symud ymlaen gyda
dyluniad prosiect cynhyrchu ynni, gan gynnwys fferm solar ar y tir,
ac ychwanegodd fod adroddiad cynnydd i'w gyflwyno i'r Cabinet yn
fuan. Soniodd yr Arweinydd hefyd am brosiectau hydro ar safleoedd
hyfyw ar draws y fwrdeistref sirol. Cyfeiriodd yr Arweinydd at
gyflwyno bron i 100 o gilfachau gwefru cerbydau trydan
gweithredolledled
RhCT, yn ogystal â chyflwyno 25 o geir Batri Trydan a
Cherbydau Nwyddau Ysgafn i fflyd y Cyngor. Mae prosiectau eraill yn
cynnwys prosiect Ffynnon Dwym Ffynnon Taf, a aeth yn fyw y llynedd,
lle mae'r ysgol a'r pafiliwn cyfagos yn elwa ar lai o allyriadau
carbon i wresogi'r adeiladau.
I
gloi dywedodd yr Arweinydd fod y Cyngor wrthi'n cyfrifo cost y
camau gweithredu sydd wedi'u cynnwys yn y Strategaeth
Datgarboneiddio a llawer o waith arall sy'n digwydd yn y
cefndir.
Cwestiwn Ategol gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol C
Middle:
“Sut mae modd i'r Cynghorwyr gael yr wybodaeth
ddiweddaraf am y prosiectau hyn?”
Ymateb gan y Cynghorydd A. Morgan OBE:
Dywedodd yr Arweinydd fod y Cyngor wedi lansio diweddariadau
drwy ei ddangosfwrdd Ôl Troed Carbon sy'n galluogi'r Aelodau
i olrhain y cynnydd. Ailadroddodd yr Arweinydd yr heriau sydd i
ddod i’r Cyngor o ran bwrw’i dargedau a’i
ymrwymiadau erbyn 2030, a’r angen i wneud arbedion mwy a
gweithio’n gyflymach ond cynigiodd fod adroddiad yn cael ei
gyflwyno i gyfarfod o’r Cyngor Llawn yn y dyfodol a fydd yn
nodi’r llwybrau yn y blynyddoedd i ddod, y cynlluniau y
gellir eu cyflawni o fewn yr amserlenni a'r costau
cysylltiedig.
5.Cwestiwn
gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. Emanuel i Arweinydd y Cyngor,
Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan OBE:
"Pa gymorth sydd ar gael i’r cannoedd o
weithwyr a gollodd eu swyddi yn ddiweddar yn dilyn cau UK Windows
and Doors?"
Ymateb gan y Cynghorydd A. Morgan OBE:
Canmolodd yr Arweinydd staff y Cyngor sy’n
gweithio’n agos gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau a LlC,
a chyfeiriodd at yr achlysur a gynhaliwyd mewn partneriaeth
â'r Adran Gwaith a Phensiynau ar 18 Hydref yng Nghanolfan
Chwaraeon Ystrad, gyda 304 o weithwyr Windows and Doors UK yn
bresennol. Cynigiodd y gellid cynnal achlysur tebyg cyn y Nadolig i
ystyried unrhyw fylchau sydd angen eu llenwi.
Cafodd yr
achlysur ei hyrwyddo'n dda, ac roedd modd i'r rheiny a oedd yn
bresennol gael cymorth gyda'u CV a'i drosglwyddo i gyflogwyr a oedd
yn bresennol. Mae nifer o gwmnïau wedi cysylltu'n rhagweithiol
â'r Cyngor i gynnig swyddi i ddarpar ymgeiswyr. Roedd yr
Arweinydd o'r farn y dylai gwaith dilynol wedi'i dargedu ymhellach
gael ei wneud i sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael heb
gyflogaeth.
Daeth yr amser a neilltuwyd i ben felly nid oedd
cwestiwn ategol.
|