Agenda item

Craffu ar drefniadau i fynd i'r afael â phwysau ym mhob rhan o'r system Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r effaith ar achosion o bobl yn osgoi mynd i'r ysbyty neu'n cael eu rhyddhau o'r ysbyty.

 

Cofnodion:

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Dros Dro i'r Aelodau ddiben yr adroddiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor Craffu am y trefniadau rhanbarthol o ran rhyddhau o'r ysbyty. Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa bod y Pwyllgor Craffu wedi cael y newyddion diweddaraf ym mis Tachwedd 2022 am y pwysau cyffredinol yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol a'r ymdrechion parhaus i annog rhyddhau cleifion yn ddiogel ac yn amserol ar gyfer preswylwyr ag anghenion cymwys yn Rhondda Cynon Taf. Bryd hynny gofynnodd yr Aelodau i adroddiad pellach gael ei baratoi yn hydref 2023 i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddatblygiadau. Cafodd yr Aelodau wybod fod rhagweld y bydd gaeaf o heriau tebyg o ran galw eleni, ac er bod rhywfaint o welliant wedi bod mewn capasiti yn ystod y flwyddyn, mae hyn yn parhau i fod yn sefyllfa fregus.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Dros Dro y manylion yn adran 5 yr adroddiad gan amlygu'r maes ffocws cynyddol ar gyfer Llywodraeth Cymru, y Bwrdd Iechyd a'r Awdurdod Lleol o ran atal yr angen i bobl fynd i'r ysbyty. Roedd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg wedi nodi'r newid mewn pwyslais o'r blaen ac wedi cytuno ar fodel o wasanaethau cymunedol integredig i'w roi ar waith. Amlinellodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Dros Dro fanylion y model i'r Aelodau.

 

Tynnodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Dros Dro sylw'r Aelodau hefyd at adran 6 yr adroddiad a'r dolenni fideo gyda manylion y llwybrau sy'n gysylltiedig â Rhyddhau i Adfer yna Asesu ('D2RA') sy'n annog rhyddhau effeithiol ac amserol o'r ysbyty ar gyfer pobl nad oes angen gwely acíwt arnyn nhw rhagor. Mae'r dull wedi'i ategu gan yr egwyddor o drin yn y 'cartref yn gyntaf' er mwyn symud asesu ar gyfer anghenion gofal, adsefydlu a chymorth parhaus.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Dros Dro at sut mae staff Gofal Cymdeithasol yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr ym maes Iechyd trwy gydol y flwyddyn i hwyluso Rhyddhau i Adfer yna Asesu a rhoddodd drosolwg o'r gwaith datblygu, gan gynnwys defnyddio byrddau gwyn electronig. Cafodd yr Aelodau wybod am ddiben y byrddau gwyn, gyda'r posibilrwydd yn y dyfodol y bydd modd i staff Rhondda Cynon Taf gael mynediad o bell at ddata'r bwrdd gwyn er mwyn olrhain manylion cleifion, gwneud cynnydd yn uniongyrchol a rhannu gwybodaeth gofal cymdeithasol yn ddi-dor gyda'r ward. Cafodd yr Aelodau wybod mai'r bwriad yw y bydd y defnydd o'r data yma'n cael effaith fawr o ran lleihau oedi yn y llwybr at ofal.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Dros Dro mai'r datblygiad nesaf mewn perthynas â rhyddhau o'r ysbyty yw cyflwyno adroddiadau ar gyflawniad o ran oedi yn y llwybr at ofal. Cafodd yr Aelodau wybod fod rhanbarth Cwm Taf Morgannwg wedi ymgysylltu â chynllun peilot Llywodraeth Cymru ac wedi bod yn cyflwyno data ers mis Tachwedd 2022, a bod proses newydd i goladu a dilysu data wedi'i datblygu. Ers mis Ebrill 2023 mae'r cynllun peilot wedi dod yn broses adrodd ffurfiol ar gyfer oedi yn y llwybr at ofal sy'n cael ei hadrodd i Lywodraeth Cymru bob mis i ddangos cyflawniad y rhanbarth. Mae gwybodaeth yn cael ei chasglu un diwrnod bob mis gan staff yr ysbyty ac mae'r Awdurdod Lleol yn dilysu hyn. Cafodd yr Aelodau drosolwg o'r data yn yr adroddiad yn ymwneud ag adroddiadau oedi yn y llwybr at ofal.

 

Gorffennodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Dros Dro gyflwyniad yr adroddiad trwy bwysleisio i'r Aelodau fod hwn yn faes sy'n peri pryder i'r adran iechyd a gofal cymdeithasol. Eglurodd ble mae ymdrechion yn cael eu gwneud yn bennaf i gydweithio a dod o hyd i atebion ar y cyd i hwyluso pethau.

 

Holodd Aelod am y broses o asesu cleifion cyn eu rhyddhau ac a yw'r cyfrifoldeb yn aros gyda'r bwrdd iechyd neu'n trosglwyddo i'r gwasanaethau cymdeithasol.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Dros Dro y broses i'r Aelodau, gan gydnabod yr heriau mae unigolion yn wynebu ar ôl profi digwyddiad sy'n newid eu bywydau ac yn arwain at gael eu derbyn i'r ysbyty, a'r effaith y mae hyn yn ei gael ar eu tai a'u bywyd beunyddiol o hynny ymlaen. Roedd hefyd yn cydnabod yr anhawster wrth asesu cleifion mewn ward ysbyty gan nodi bod adfer yn aml yn digwydd yn y cartref. Fodd bynnag, eglurodd i'r Aelodau fod yn rhaid rhoi mesurau dros dro ar waith yn aml wrth ganfod beth fydd eu hanghenion yn y tymor hir.

 

Soniodd Aelod hefyd am y pwysau ar staff Gofal yn y Cartref a gofynnodd am eglurhad o ran oriau gwaith.

 

Gwnaeth y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Dros Dro sicrhau i'r Aelodau nad yw'n arfer cyffredin i ofyn i staff weithio rhwng 10 a 12 awr gan gydnabod bod y swydd yn heriol yn gorfforol ac yn emosiynol. Amlinellodd rhai eithriadau, megis tywydd garw a phwysau eithafol, sy'n golygu bod angen i staff weithio oriau ychwanegol ond ategodd fod hwn ddim yn rhan o batrwm gwaith rheolaidd.

 

Soniodd Aelod arall am gyflwyniad y data a theimlai fod hyn yn aneglur yn yr adroddiad. Gofynnodd am ddata cymharol yn y dyfodol mewn perthynas ag Awdurdodau Lleol eraill i helpu gyda chraffu ar ddata.

 

Cydnabyddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Dros Dro y cais yma a chadarnhaodd yr Aelodau y byddai hyn yn cael ei ystyried mewn adroddiadau yn y dyfodol.

 

Cyfeiriodd Aelod at y bwrdd rhyddhau integredig a'r blaenoriaethau sydd wedi'u rhestru yn yr adroddiad a gofynnodd am ragor o wybodaeth yn ymwneud ag anghydfodau.

 

Manylodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Dros Dro i'r Aelodau nifer y meysydd ble mae modd i anghydfodau godi mewn achosion unigol. Cafodd yr Aelodau wybod fod anghydfodau ddim yn achosi llawer o achosion o oedi ond ei fod yn rhywbeth y mae modd ei symleiddio a dyna'r rheswm ei fod yn cael ei gynnwys yn flaenoriaeth.

 

Holodd yr Aelodau gwestiynau ynghylch yr elfen rhannu data mewn perthynas â defnyddio gwybodaeth bwrdd gwyn mewn ysbytai a chyda staff Rhondda Cynon Taf. Gofynnwyd am lefel y caniatâd roedd ei angen gan gleifion i rannu data.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Dros Dro i'r Aelodau fod elfen o ganiatâd ond hefyd buddiant dilys, cyn egluro mai dim ond data unigolion sydd angen gofal cymdeithasol y byddai staff Rhondda Cynon Taf yn cael gweld. Rhoddodd y Cyfarwyddwr sicrwydd i'r Aelodau bod trefniadau llywodraethu gwybodaeth llawn wedi'u cwblhau gan gydweithwyr yn yr adran Iechyd a oedd yn gofyn am ddatganiad preifatrwydd a chanllawiau clir o ran rhannu gwybodaeth. Cydnabyddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Dros Dro bryderon yr Aelodau a chadarnhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol i'r Aelodau y bydd gwybodaeth ychwanegol yn cael ei rhoi i'r Pwyllgor Craffu mewn perthynas â hyn yn dilyn trafodaethau gyda'r adran Iechyd.

 

Gofynnodd Aelod hefyd am ragor o wybodaeth ar argymhelliad terfynol dylunio a gweithredu'r llwybr at ofal brys fel y disgwylir yn yr hydref. Cydnabyddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol y cais yma a chadarnhaodd i'r Aelodau y bydd gwybodaeth yn cael ei darparu i'r Pwyllgor Craffu mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Gofynnodd Aelod am eglurhad ar yr amserlen ar gyfer gweithredu'r drefn rhannu data gyda staff Rhondda Cynon Taf sydd wedi'i chrybwyll yn yr adroddiad.


Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Dros Dro wrth yr Aelodau fod y mynediad ar fin cael ei roi ond bod problemau TG wedi achosi oedi. Cafodd yr Aelodau wybod y bydd mynediad ar gael i nifer cyfyngedig o staff Gofal Cymdeithasol sy'n ymwneud â charfanau rhyddhau o'r ysbyty ac un pwynt mynediad a'r gobaith yw y bydd hwn yn dechrau cyn mis Tachwedd.

 

Ar ôl ystyried, PENDERFYNWYD cydnabod cynnwys yr adroddiad a derbyn gwybodaeth ychwanegol i graffu arni mewn perthynas â rhannu data a chaniatâd gwybodaeth cleifion mewn ysbytai gyda staff Rhondda Cynon Taf ac argymhelliad terfynol dylunio a gweithredu'r llwybr at ofal brys.

 

 

Dogfennau ategol: