Agenda item

Craffu ar Strategaeth y Gwasanaethau i Blant.

 

Cofnodion:

Amlinellodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau i Blant ddiben yr adroddiad i roi'r  wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor Craffu a dangos cynnydd cyfredol o ran Strategaeth Gwasanaethau i Blant Rhondda Cynon Taf.

 

Eglurodd a phwysleisiodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau i Blant fod cefndir Strategaeth Gwasanaethau i Blant Rhondda Cynon Taf wedi'i gwreiddio yng ngwerthoedd, pwrpas a gweledigaeth y gwasanaeth a chyfeiriodd at y ffeithlun sydd ynghlwm wrth yr adroddiad (Atodiad 1) sy'n dangos y gwerthoedd yma. Cafodd yr Aelodau eu cyfeirio at adran 4 yr adroddiad sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar bob un o 5 maes trawsnewid y strategaeth.

 

Cyfeiriodd Aelod at y data yn adrannau 4.3 a 4.8 yr adroddiad a dywedodd fod modd i'r ffordd maen nhw wedi'u cyflwyno fod yn gymharol ddryslyd o ystyried bod y ddogfen hefyd ar gael i aelodau'r cyhoedd. Croesawodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau i Blant yr adborth. Cadarnhaodd fod y data yn dangos bod nifer y Plant sy'n Derbyn Gofal yn lleihau. Cydnabyddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau i Blant y bydd hyn yn cael ei ystyried ar gyfer adroddiadau yn y dyfodol wrth gyflwyno data i sicrhau hygyrchedd ac eglurdeb i bawb.

 

Holodd Aelod arall am sylwadau a gafodd eu gwneud yn ystod y cyflwyniad yn ymwneud â lefel isel profiad staff a gofynnodd i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau i Blant a yw'r gwasanaeth wedi'i staffio'n llawn neu'n gweithio dan bwysau gyda niferoedd annigonol o staff, gan nodi bod diogelu yn bryder yn y maes yma.

 

Cadarnhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau i Blant fod cyfradd swyddi gwag o 21% yn y gwasanaeth yn gyfan gwbl, er i hyn fod yn uwch mewn rhai carfanau unigol. Eglurodd fod prinder cenedlaethol o weithwyr cymdeithasol profiadol ond pwysleisiodd i'r Aelodau fod y Gwasanaeth, yn rhan o strategaeth y gweithlu, wedi nodi nifer o feysydd gwaith i'w hystyried o ran recriwtio a chadw. Cyfeiriodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau i Blant at wersi sydd wedi'u dysgu o flwyddyn gyntaf strategaeth y gweithlu a oedd wedi achosi iddyn nhw ganolbwyntio llawer ar y meysydd yma yn ogystal ag edrych ar ehangu capasiti i sicrhau bod gweithwyr cymdeithasol yn cael cymorth da. Soniodd am les staff a phwysigrwydd yr arolygon sy'n cael eu cynnal i sicrhau bod ymarferwyr yn cael digoon o gyfleoedd i ddweud eu dweud. Rhannodd gyda'r Aelodau fanylion y mannau myfyrio, sydd wedi'u sefydlu ar sail ymchwil seicolegol, sydd wedi cael adborth hynod gadarnhaol ac a fydd yn cael eu hamlygu'n rheswm unigryw i weithio i'r Gwasanaeth mewn ymgyrchoedd i ddenu staff sydd ar y gweill. Cydnabyddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau i Blant y bydd y broses yn un tymor canolig, ond fod y cynllun i ddatblygu ein staff ein hunain yn arbennig o bwysig. Manylodd fod 11 o weithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso wedi'u penodi eleni. Rhoddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau i Blant sicrwydd i'r Aelodau nad oes unrhyw achosion amddiffyn plant neu achosion plant sy'n derbyn gofal heb eu dyrannu hyd yn hyn a thynnodd sylw at sut mae rheolwyr yn gwneud gwaith gwych yn cefnogi'r gweithlu.

 

Yn dilyn hyn, cyfeiriodd Aelod at y manylion yn yr adroddiad yn ymwneud ag ehangu nifer staff y Gwasanaethau i Blant sydd â'r modd i gael eu noddi ar gyfer mynediad i raglen Gradd Gwaith Cymdeithasol y Brifysgol Agored gyda gwarant swydd Gwaith Cymdeithasol ar ôl cwblhau'r broses gofrestru. Gofynnodd pa gymorth sydd ar gael i sicrhau cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus tra'n gwneud swyddi heriol. Cadarnhaodd y Rheolwr Newid Sefydliadol a Thrawsnewidfod staff ddim yn gweithio'n llawn amser tra ar leoliad a'u bod nhw'n cael cymaint o gymorth â phosibl o ran gofynion heriol y cwrs a'r hyfforddiant. Mae rheolwyr carfan yn gyfrifol am reoli a hwyluso hyn. Roedd y Rheolwr Newid Sefydliadol a Thrawsnewid yn cydnabod bod y gwaith yn feichus ond yn cydnabod bod hyn yn bwysig er mwyn paratoi staff ar gyfer y swydd.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNODD Aelodau nodi cynnwys yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: