Agenda item

Rhoi trosolwg i'r Cabinet o'r trefnau gweithredu ac effeithiolrwydd gweithdrefnau cwyno Gwasanaethau Cymdeithasol Statudol y Cyngor rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023.

 

Cofnodion:

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, sy'n rhoi trosolwg i'r Cabinet o drefnau gweithredu ac effeithiolrwydd gweithdrefnau cwyno Gwasanaethau Cymdeithasol Statudol y Cyngor rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023. Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth ar gefndir gweithdrefn gwynion statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol, gwybodaeth am wersi sy wedi'u dysgu o gwynion a data cyflawniad ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion ac i Blant, ynghyd â chyflawniadau ar gyfer 2022/23 a datblygiadau yn y dyfodol.

 

Eglurodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fanylion lefel uchel cwynion cam 1 a 2 i'r Aelodau fel sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad. Eglurodd i'r Aelodau, er ei bod yn broses bwysig, fod nifer y cwynion a dderbyniwyd mewn perthynas â nifer yr unigolion sy'n derbyn cymorth y gwasanaeth yn parhau i fod yn gymharol isel. Tynnodd y Cyfarwyddwr sylw'r Aelodau hefyd at y ffaith nad oedd unrhyw ymchwiliadau gan yr Ombwdsmon yn ystod y cyfnod gyda'r holl gwynion yn cael eu cau neu eu cyfeirio'n ôl at y Cyngor i'w datrys.

 

Tynnodd y Cyfarwyddwr sylw'r Aelodau at ba mor werthfawr yw'r broses gwyno o ran darparu gwybodaeth i'r meysydd gwasanaeth i lunio'r gwasanaethau rhagor a'u darparu fel y mae adran 7 yr adroddiad yn crybwyll.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr i'r Aelodau hefyd fanylion lefel uchel y ganmoliaeth a dderbyniwyd a chydnabyddodd fod y rhain yn bwysig er mwyn dangos y gwaith o ansawdd uchel a lefel y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu gan staff o fewn y Cyngor, er gwaethaf yr heriau sy'n eu wynebu. 

 

Diolchodd y Cyfarwyddwr i'r Rheolwr Adborth, Ymgysylltu a Chwynion Cwsmeriaid, a'i charfan, am gynnal gweithdrefnau cadarn a sicrhau bod llais defnyddwyr y gwasanaeth yn cael ei glywed.

 

Nododd Aelod y cynnydd yn nifer y cwynion sydd wedi dod i law am y Gwasanaethau i Blant a gofynnodd a fu cyfleoedd i ddysgu o ganlyniad i'r rhain. Nododd yr Aelod hefyd bod modd i'r ffaith bod pobl wedi'u grymuso i wneud cwyn fod yn beth cadarnhaol. Cydnabyddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau i Blant y cynnydd ond rhannodd ei fod wedi'i ragweld yn rhannol a bod y maes gwasanaeth yn mynd ati i geisio gwella'r broses gwyno. Amlinellodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau i Blant sut mae'r maes gwasanaeth yn gweithio gyda'r Rheolwr Adborth, Ymgysylltu a Chwynion Cwsmeriaid yn rhan o'u proses sicrhau ansawdd, a nododd 3 maes i'w gwella o ran cyfathrebu, gweithio gyda thadau a theuluoedd ag anghenion niwroamrywiol.

 

Gofynnodd Aelod am ragor o fanylion mewn perthynas â natur y cwynion sy'n cael eu cyflwyno'n uniongyrchol i'r Ombwdsmon i fagu dealltwriaeth ac i nodi unrhyw dueddiadau yn y data yma. Cydnabyddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol y cais ac amlinellodd sut mae rhai cwynion yn cael eu gwneud yn uniongyrchol i'r Ombwdsmon ac yn cael eu ôl-gyfeirio i weithdrefn yr Awdurdod Lleol ac felly'n cael eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

Yn dilyn ystyriaeth gan y Pwyllgor, PENDERFYNWYD nodi'r gwaith a gafodd ei wneud gan Garfan Cwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol, sydd wedi'i gynnwys yn yr adroddiad blynyddol, a gofyn am adroddiad ychwanegol yn rhoi gwybodaeth am y broses gwyno a'r broses o ddatrys cwynion sy'n cael eu cyflwyno i'r Ombwdsmon a sut mae'r rhain yn cyd-fynd â'r broses gwyno ehangach yn Rhondda Cynon Taf.

 

 

Dogfennau ategol: