Agenda item

Rhag-graffu – Yr Aelodau i graffu ar yr adroddiad a gwneud unrhyw argymhellion cyn ei gyflwyno i'r Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol yr adroddiad i'r Aelodau sy'n amlinellu pwrpas yr adroddiad i gyflwyno copi drafft o Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2022/23 i'r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymuned yn unol â Rhan 8 Cod Ymarfer Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr fanylion yr adroddiad a oedd yn crynhoi'r asesiad o'r datblygiadau a'r heriau allweddol yn y Gwasanaethau i Blant ac Oedolion, sut mae hyn yn cysylltu â chynllun Corfforaethol y Cyngor ac yn rhoi enghreifftiau o sut mae'r maes gwasanaeth wedi gweithio i hyrwyddo a gwella lles y rheini sydd angen cymorth.

 

Tynnodd y Cyfarwyddwr sylw at yr effaith y mae pandemig Covid-19 yn parhau i'w chael ar y meysydd gwasanaeth, gan gydnabod cyfraniad staff, darparwyr wedi'u comisiynu a rhieni maeth i'r meysydd gwasanaeth o ran parhau i roi cymorth i ddefnyddwyr gwasanaeth o ystyried yr heriau sydd wedi'u hwynebu.

 

Cydnabyddodd yr Aelodau fanylion yr wybodaeth yn yr adroddiad am yr holl feysydd allweddol, gan ddiolch i'r holl staff am eu hymdrechion.

 

Cydnabyddodd un Aelod y gwelliant yn rhestr aros y Garfan Addasu ac Offer ond dywedodd hefyd fod pobl yn aros dros 12 mis am gymhorthion ac addasiadau i alluogi byw'n annibynnol a gofynnodd a oedd data ar gael i ddangos cyflawniad. Eglurodd y Cyfarwyddwr fod yr wybodaeth yma ddim wrth law ond eglurodd bod asesiadau'r Garfan Addasu ac Offer yn seiliedig ar angen a risg wedi'u hasesu, ac amlinellodd y broses sydd ar waith i gategoreiddio unigolion. Cadarnhaoedd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Dros Drohefyd fod y rhestr aros am gymhorthion ac addasiadau wedi lleihau'n sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf, ond bod y galw'n dal yn uchel. Bydd gwybodaeth ychwanegol ynghylch amseroedd aros yn cael ei darparu i'r Pwyllgor pan fydd ar gael.

 

Gofynnodd Aelod arall am y cymorth sydd ar gael i gynhalwyr ledled y fwrdeistref, gan gyfeirio at bwysau ariannol sy'n wynebu nifer yn dilyn newidiadau i daliadau lwfans gofalwyr. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod unrhyw newidiadau i lwfans gofalwyr yn ymwneud â phenderfyniadau'r Llywodraeth Ganolog nid y Gwasanaethau Cymdeithasol, ond cadarnhaodd i'r Aelodau fod amrywiaeth o wasanaethau cymorth ar gael i gynhalwyr drwy'r Gwasanaethau Cymdeithasol. Amlygodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Dros Dro y manylion yn yr adroddiad i'r Aelodau ynghylch Cynllun Cynnal y Cynhalwyr sy'n rhoi cyngor a gwybodaeth.

 

Cyfeiriodd Aelod at Strategaeth Cyfranogiad y Gwasanaethau i Blant sydd wedi'i chrybwyll yn yr adroddiad a nododd y gyfradd ymateb ar gyfer yr arolwg 'Dod yn rhan o bethau' a gofynnodd a oedd cynlluniau yn eu lle i geisio cynyddu'r gyfradd trwy ddefnyddio gwahanol ddulliau arolwg i rymuso pobl ifainc. Cydnabyddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau i Blant fod gwaith i'w wneud i sicrhau bod lleisiau pwysig pobl ifainc yn cael eu clywed ac i ddeall eu profiadau o'r gwasanaeth. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau i Blant wrth yr Aelodau fod hon yn flaenoriaeth i'r gwasanaeth ac mae gr?p llywio, dan arweiniad y Pennaeth Cyfranogiad, wedi'i sefydlu ac mae gwaith wedi'i wneud gyda phobl ifainc sydd â phrofiad o ofal i sicrhau bod amrywiaeth o ddulliau'n cael eu defnyddio i sicrhau cyfleoedd i ddweud eu dweud. Er bod hon yn flaenoriaeth i'r gwasanaeth, cafodd yr Aelodau wybod bod gwaith i'w wneud o hyd a fydd yn cymryd amser.

 

Nododd Aelod fod heriau o hyd yn wynebu pobl agored i niwed sydd angen cymorth a chyfeiriodd at rôl Aelodau etholedig wrth eirioli ar eu rhan. Cadarnhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol i'r Aelodau y dylid codi'r pryderon yma a rhoddodd sicrwydd i'r Aelodau bod cyngor a gwybodaeth ar gael gan Swyddogion pan fo angen.

 

Yn dilyn ystyriaeth gan y Pwyllgor, PENDERFYNWYD nodi Adroddiad Blynyddol drafft Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Rhondda Cynon Taf ar gyfer 2022/23.

 

 

 

Dogfennau ategol: