Ystyried y Rhybuddion o Gynnig sydd wedi'u cyflwyno yn unol â Rheol Gweithdrefn y Cyngor 10.1 yn y cyfansoddiad.
Cofnodion:
Trafod Rhybudd o Gynnig sydd wedi’i gyflwyno yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol: S. Emanuel, R. Williams, L. Addiscott, M. D. Ashford, J. Barton, D. R. Bevan, J. Bonetto, S. Bradwick, J. Brencher, G. Caple, J. Cook, A. Crimmings, S. J. Davies, R. Davis, A. J. Dennis, V. Dunn, E. L. Dunning, J. Edwards, J. A. Elliott, L. Ellis, R. Evans, A. S. Fox, B. Harris, S. Hickman, G. Holmes, G. Hopkins, W. Hughes, G. Jones, G. O. Jones, R. R. Lewis, W. Lewis, C. Leyshon, M. Maohoub, C. Middle, A. Morgan, N. H. Morgan, S. Morgans, M. A. Norris, D. Owen-Jones, D. Parkin, S. Powderhill, C. Preedy, S. Rees, A. Roberts, J. Smith, G. Stacey, L. A. Tomkinson, W. Treeby, J. Turner, G. L. Warren, K. Webb, M. Webber, D. Williams, G. E. Williams, T. Williams, R. Yeo.
Ar 24 Chwefror 2022, lansiodd lluoedd Rwsia, a oedd wedi ymgynnull ar hyd y ffin â Wcráin, ymosodiad ar raddfa lawn, sef yr ymosodiad mwyaf ar wlad Ewropeaidd ers yr Ail Ryfel Byd.
Mae'r ymosodiad, a gyfiawnhawyd gan Vladimir Putin ar y sail ei fod yn ymgais i "waredu Natsïaeth" o Wcráin, wedi achosi i filiynau o bobl orfod symud o'u cartrefi ac i gannoedd o filoedd gael eu hanafu neu eu lladd – naill ai wrth ymladd neu trwy'r ymosodiadau dinistriol o'r awyr ar ardaloedd sifil.
Wrth i bobl ddiniwed Wcráin gael eu gorfodi i ffoi o'u cartrefi, croesawodd Cymru a RhCT (ynghyd â llawer o wledydd eraill) y rhai oedd yn ceisio lloches â breichiau agored a'u cefnogi wrth iddynt geisio addasu i'w bywydau newydd.
Nawr, gyda'r Rhyfel yn Wcráin yn nodi ei ail ben-blwydd a’r gwrthdaro yn parhau wrth i Wcráin frwydro i gadw ei sofraniaeth, felly mae'r Cyngor yma'n:
• Condemnio ymddygiad ymosodol parhaus y goresgynwyr Rwsiaidd.
• Ailddatgan ei gefnogaeth ddiysgog i Wcráin a'i phobl.
• Canmol ymdrechion y trigolion hynny yn RhCT a groesawodd y rhai a oedd yn ffoi o'r gwrthdaro i'w cartrefi, a hefyd y rhai a roddodd gymorth i eraill sydd wedi ceisio noddfa.
Yn unol â Rheol Gweithdrefn 12.7 y Cyngor, cyflwynodd y cynigydd newid i'r Cynnig, i gynnwys testun ychwanegol sydd wedi'i nodi isod:
cynnwys y geiriau, "ar gynsail ffug" a nodi gwall teipograffyddol yn y Saesneg.
Dyma fyddai'r Cynnig diwygiedig yn dweud:
Ar 24 Chwefror 2022, lansiodd lluoedd Rwsia, a oedd wedi ymgynnull ar hyd y ffin â Wcráin, ymosodiad ar raddfa lawn, sef yr ymosodiad mwyaf ar wlad Ewropeaidd ers yr Ail Ryfel Byd.
Mae'r ymosodiad, a gyfiawnhawyd gan Vladimir Putin ar gynsail ffug, sef ymgais i "waredu Natsïaeth" o Wcráin, wedi achosi i filiynau o bobl orfod symud o'u cartrefi ac i gannoedd o filoedd gael eu hanafu neu eu lladd - naill ai wrth ymladd neu trwy'r ymosodiadau dinistriol o'r awyr ar ardaloedd sifil.
Wrth i bobl ddiniwed Wcráin gael eu gorfodi i ffoi o'u cartrefi, croesawodd Cymru a RhCT (ynghyd â llawer o wledydd eraill) y rhai oedd yn ceisio lloches â breichiau agored a'u cefnogi wrth iddynt geisio addasu i'w bywydau newydd.
Nawr, gyda'r Rhyfel yn Wcráin yn nodi ei ail ben-blwydd a’r gwrthdaro yn parhau wrth i Wcráin frwydro i gadw ei sofraniaeth, felly mae'r Cyngor yma'n:
·Condemnio ymddygiad ymosodol parhaus y goresgynwyr Rwsiaidd.
·Ailddatgan ei gefnogaeth ddiysgog i Wcráin a'i phobl.
·Canmol ymdrechion y trigolion hynny yn RhCT a groesawodd y rhai a oedd yn ffoi o'r gwrthdaro i'w cartrefi, a hefyd y rhai a roddodd gymorth i eraill sydd wedi ceisio noddfa.
PENDERFYNODD y Cyngor dderbyn y newid a gynigiwyd gan y Cynigydd. Daeth hwn yn brif gynnig fel y nodir uchod.
Yn y cyfarfod, cyhoeddodd y Cadeirydd, yn unol â Rheol Gweithdrefn y Cyngor 10.4.1, fod gwelliant i'r Rhybudd o Gynnig wedi dod i law oddi wrth y Cynghorwyr A O Rogers, A Ellis, K Morgan, Sera Evans, D Grehan, D Wood, H Gronow, P Evans, a dynnwyd yn ôl wedyn gan yr Aelodau yn y cyfarfod yn dilyn newid i'r cynnig gwreiddiol gan y cynigydd.
Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD mabwysiadu'r Rhybudd o Gynnig.
Dogfennau ategol: