Agenda item

Derbyn cwestiynau'r Aelodau yn unol â Rheol 9.2 o Weithdrefn y Cyngor.

 

(Nodwch: Caniateir hyd at 20 munud ar gyfer cwestiynau.)

 

Cofnodion:

 

1.     Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol Sheryl Evans i Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan OBE:

 

"A wnaiff yr Aelod o'r Cabinet ddatganiad am y cyllid a gafodd ei roi'n ddiweddar gan Lywodraeth Cymru o dan y Gronfa Ffyrdd Cydnerth a'r Gronfa Trafnidiaeth Leol?"

 

Ymateb y Cynghorydd A Morgan OBE:

 

Soniodd yr Arweinydd am lwyddiant y Cyngor i gaffael symiau sylweddol o arian dros y blynyddoedd diwethaf, gyda bron i £10 miliwn wedi'i sicrhau drwy'r Grant Ffyrdd Cydnerth yn unig dros y pedair blynedd diwethaf. Dywedwyd bod cyllid o'r fath wedi galluogi nifer o gynlluniau ffyrdd atal llifogydd wedi'u targedu i gael eu cyflawni i unioni rhai o'r problemau draenio sy'n effeithio ar rannau o rwydwaith y priffyrdd ar hyd prif heolydd y Sir.

 

Darparwyd manylion y cyllid a ddaeth i law a soniwyd wrth yr Aelodau bod £1 miliwn wedi'i dderbyn o'r Gronfa Ffyrdd Cydnerth ar gyfer 2023/24 er mwyn cefnogi datblygu 13 o brosiectau i liniaru effeithiau llifogydd a newid yn yr hinsawdd ar y rhwydwaith trafnidiaeth.  Yn ogystal, sicrhaodd y Cyngor £400,000 o Gronfa Trafnidiaeth Leol Llywodraeth Cymru.  Dyrannwyd £200,000 o'r cyllid yma ar gyfer gwelliannau i flaenoriaethu bysiau, gan gynnwys gwaith gwella safleoedd bysiau, arosfannau bysiau a chyrbiau uwch ar lwybrau lleol Aberdâr a Phontypridd.  Gorffennodd yr Arweinydd drwy roi gwybod am y cyllid o £200,000 a ddyrannwyd i'w ddefnyddio ar gyfer gwaith dichonoldeb pellach ar gyfer cynlluniau Porth Gogledd Cwm Cynon a Ffordd Gyswllt Llantrisant o ganlyniad i adroddiad Adolygiad Ffyrdd Llywodraeth Cymru yn 2023.

 

 

Cwestiwn atodol gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol Sheryl Evans:

 

"Oes modd i chi gadarnhau'r cynlluniau sydd wedi’u cyflawni yn ward Aberaman (Gogledd a De)."

 

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan OBE:

 

Enwodd yr Arweinydd y prosiectau a gyflawnwyd yn Ward Aberaman (gan gynnwys ffiniau hanesyddol) dros y 4 blynedd diwethaf, sef cyfanswm o 6 chynllun unigol (dyma restr):

 

· Stryd Lewis – Cam Dylunio – Uwchraddio draenio'r briffordd

 

· Stryd Jones – Cam Adeiladu – Uwchraddio draenio'r briffordd

 

· Cam 3 Teras Bronallt  Cam Adeiladu – Uwchraddio cwlfer ar y briffordd

 

· Glenbói – Cam Adeiladu – Gwaith uwchraddio draenio'r briffordd

 

· Maes y Ffynnon/Heol Caerdydd – Uwchraddio cwlfer ar y briffordd

 

· A4059 – Aberdâr – Asda R/A – Cam Adeiladu – Uwchraddio draenio'r briffordd a mesurau llif dros dir.

 

2.      Dywedodd y Llywydd fod yr ail gwestiwn a restrwyd wedi'i ollwng oherwydd y cafwyd ymddiheuriad gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Edwards.

 

 

3.     Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Rees i Arweinydd y Cyngor – Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan OBE:

 

"Oes modd i'r Arweinydd roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd ar gyflawni ymrwymiadau maniffesto'r Gr?p Llafur?"

 

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan OBE:

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at 20 ymrwymiad craidd y Gr?p Llafur i drigolion RhCT cyn yr etholiadau lleol yn 2022 a gwnaeth sylwadau ar y cynnydd a wnaed hyd yn hyn, gyda nifer o'r ymrwymiadau yma eisoes wedi'u cyflawni, a'r rhai nas cyflawnwyd yn parhau i fod ar y gweill.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau, mewn perthynas â'r ymrwymiad i ariannu 10 Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu a 10 Warden Cymunedol, fod yr addewid yma wedi'i gwblhau gyda 14 Warden a 10 Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu wedi'u cyflogi. Aeth yr Arweinydd ymlaen i ddweud bod y 2 garfan yn cydweithio'n dda i wella diogelwch y cyhoedd mewn meysydd allweddol ledled cymunedau.

 

Amlygwyd bod y Cyngor yn parhau i ddarparu mwy o ysgolion Cymraeg a Saesneg newydd ledled y Fwrdeistref Sirol, gyda 3 phrosiect wedi'u cwblhau yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf a 7 arall yn mynd rhagddynt eleni.

 

O ran cynlluniau seilwaith trafnidiaeth, rhoddodd yr Arweinydd wybod am y buddsoddiad parhaus yn y gwaith o ddeuoli'r A4119, gyda chynnydd da yn parhau.  Amlygodd yr Arweinydd drafodaethau parhaus gyda Llywodraeth Cymru ynghylch cynlluniau eraill yn dilyn yr Adolygiad Ffyrdd.

 

Mewn perthynas â chanol trefi, soniwyd wrth y Cyngor am y Buddsoddiad i adfywio canol trefi a chefnogi busnesau, gydag ystod barhaus o fesurau cymorth megis y Grant Cynnal a Chadw. Amlygodd yr Arweinydd nifer o gynlluniau adfywio sydd ar waith yng nghanol trefi.

 

Darparwyd manylion am sut yr oedd y Cyngor yn gweithio tuag at ddod yn Gyngor Sero Net, trwy wella ailgylchu a datblygu ffermydd solar.  Ychwanegodd yr Arweinydd fod cynnydd da yn parhau i gael ei wneud o ran lleihau ôl troed carbon y Cyngor gyda gostyngiad pellach mewn allyriadau CO2 yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Cafwyd caniatâd cynllunio yn ddiweddar ar gyfer Fferm Solar Coed-elái. Bydd contractwyr yn dechrau ar y gwaith yn nes ymlaen eleni.

 

 

Aeth yr Arweinydd ymlaen i wneud sylwadau ar lwyddiant y cynllun Graddedigion a Phrentisiaid gyda dros 150 o gyfleoedd i Raddedigion a Phrentisiaethau dros y tymor 5 mlynedd.

 

Darparwyd manylion pellach mewn perthynas â'r ymrwymiadau i gynnal a gwella'r garfan Gorfodi i gymryd camau yn erbyn baw c?n/tipio anghyfreithlon, yn ogystal ag adeiladu rhagor o gyfleusterau gofal ychwanegol a datblygu rhaglenni adnewyddu ar gyfer cartrefi preswyl presennol.

 

Gorffennodd yr Arweinydd ei ymateb drwy restru'r gwaith cadarnhaol a wnaed gyda chyfraddau teithio llesol, cyfamod y lluoedd arfog a buddsoddiad mewn chwarae, gan ddod i’r casgliad y byddai'r holl ymrwymiadau'n cael eu cyflawni erbyn diwedd y tymor 5 mlynedd.

 

O ganlyniad i anawsterau technegol, ni holwyd unrhyw gwestiwn atodol.

 

4.     Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol D Owen Jones i Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan OBE:

 

"Oes modd i'r Arweinydd roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd gwaith deuoli'r A4119"

 

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan OBE:

 

Soniodd yr Arweinydd am gynnydd da'r cynllun ac ei fod yn croesawu ei fod bron wedi'i gwblhau.  Dywedodd fod y cynllun bellach dros 70% wedi'i gwblhau a'i fod ar hyn o bryd yn wythnos 78 o gyfanswm o 106 wythnos.

 

O ran y cynnydd, dywedwyd wrth yr Aelodau bod gwaith draenio wedi'i wneud ar y ffordd gerbydau tua'r de, gan gynnwys ffensys a gwaith atal cerbydau. Roedd traffig bellach yn teithio ar y rhan newydd o'r ffordd i bwynt ychydig i'r de o safle gwaith d?r Cymru.

 

Yn ogystal â hyn, dywedwyd fod y gwaith rheoli traffig ym mhen deheuol y gwaith ffordd wedi dod i ben yn ystod mis Rhagfyr a bod mynediad i Common Sidings (iard sborion) wedi'i adeiladu.

 

O ran gogledd y Ffordd Gerbydau, roedd traffig bellach yn teithio i'r gogledd ar ran newydd o'r ffordd gyda gwaith draenio yn mynd rhagddo ger y wal gynnal gerrig bresennol. Dywedodd yr Arweinydd hefyd fod y llwybr teithio llesol wedi'i osod hyd at gylchfan yr orsaf dân.

 

I gloi ei ymateb, rhoddodd yr Arweinydd fanylion y gwaith presennol ar y safle a oedd yn cynnwys manylion ynghylch draenio, ceuffosydd, gwaith pontydd a thirlunio.

 

 

Cwestiwn ategol gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol D Owen-Jones:

"Gan fod cwestiwn ynghylch mynediad ac allanfa ar gyfer Teithio Llesol ar y bont gyhoeddus wedi'i ateb y prynhawn yma, rhaid i mi longyfarch y gwaith da ar gwblhau ac agor pont droed Tyn-y-Bryn gerllaw. Pryd fydd y contractwyr yn gadael y lleoliad yma?"

 

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan OBE:

 

Dywedodd yr Arweinydd fod angen iddo wirio'r mater yma gan fod disgwyl i'r bont droed gael ei chwblhau ddydd Gwener, 26 Ionawr. Dywedodd ei fod yn effro i fân broblemau a gwaith tirlunio yr oedd angen mynd i'r afael â nhw ac awgrymodd y bydd y contractwyr ar y safle am ychydig wythnosau eto, o bosibl, i wneud y gwaith tirlunio ymylol. Bydd yn canfod yr union ddyddiad y bydd y contractwyr yn gadael y safle'n gyfan gwbl.

 

 5.     Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Rogers i'r Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Crimmings:

"Oes modd i'r Aelod perthnasol o'r Cabinet rannu sut mae'r Cyngor yma wedi buddsoddi mewn gweithgareddau hamdden i drigolion ifainc yn ward Hirwaun, Penderyn a Rhigos os gwelwch yn dda?"

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Crimmings:

Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden i'r Aelod am y cwestiwn ac ychwanegodd fod gwella a buddsoddi mewn cyfleusterau cymunedol i hyrwyddo ac annog gweithgareddau hamdden i bobl ifainc y Fwrdeistref Sirol yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i'r Cyngor.

Aeth yr Aelod ymlaen i ddweud, gan gyfeirio’n benodol at Hirwaun, Penderyn, a'r Rhigos, fod gweithgareddau hamdden a ddarparwyd gan y Carfanau Datblygu Chwaraeon yn cynnwys sesiynau blasu 'Dodgeball', Pecyn Adnoddau Chwaraeon Cymru, sesiynau "hwyl yn yr awyr agored" a fynychwyd gan dros 200 o bobl, a chynnal cynadleddau Llysgenhadon Ifainc. Dywedwyd wrth yr aelodau hefyd fod disgyblion wedi mynychu dosbarthiadau gweithgaredd rhithwir y Timau Chwaraeon, rhaglen feicio cydbwysedd 8 wythnos o hyd a gafodd ei ddarparu mewn ysgolion. Yn ogystal, roedd y garfan hefyd wedi rhoi cymorth ar geisiadau grant i Glwb Pêl-droed Hirwaun a Chlwb Rygbi Hirwaun.

O ran buddsoddiad, dywedodd yr Aelod o'r Cabinet fod y Garfan Parciau wedi buddsoddi mewn nifer fawr o gyfleusterau hamdden dros y blynyddoedd diwethaf:

roedd Hirwaun wedi derbyn cyfanswm o £152,109 o fuddsoddiad, a oedd yn cynnwys buddsoddiad mewn mannau ymochel ('dugouts') newydd, to newydd ar yr ystafelloedd newid, gwaith draenio, dymchwel stand gwylwyr a gosod wyneb newydd ar y cyrtiau tennis.

Mewn perthynas â Rhigos roedd cyfanswm o £86,169 wedi'i fuddsoddi a oedd yn cynnwys buddsoddi mewn draenio bandiau tywod ac adnewyddu ystafelloedd newid.

 

Aeth yr Aelod o'r Cabinet ymlaen drwy roi gwybod am y cymorth ariannol a gweithredol ychwanegol a ddarparwyd gan y Cyngor i Bentref Chwaraeon y Rhigos.

I gloi'r ymateb, amlygodd yr Aelod o'r Cabinet y buddsoddiad a'r gwaith cynnal a chadw mewn mannau chwarae i blant gyda dyraniadau cyllid pellach i ddod yn y flwyddyn nesaf.

Cwestiwn atodol gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Rogers:

"Rydyn ni'n gwybod bod trigolion yn gwerthfawrogi'r buddsoddiad, ond un pryder yw na all trigolion wneud defnydd llawn o'r buddsoddiad a fyddai o fudd i'w hiechyd a'u lles heb oleuadau mewn rhai o'r lleoliadau, gan gynnwys y cae pêl-droed. Ar ba gam o'r broses yr ymgynghorwyd ag Aelodau lleol ar fuddsoddiad arfaethedig yn eu wardiau i sicrhau bod buddion y buddsoddiad arfaethedig yn cael eu manteisio arnynt i'r eithaf?

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Crimmings:

Cyfeiriodd yr Aelod o'r Cabinet at yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gydag Aelodau lleol mewn perthynas â'r cwrt tennis, Ardal Gemau Aml-ddefnydd a Pharc Lles Hirwaun. Ychwanegodd yr Aelod o'r Cabinet, yn rhan o'r broses y dylid ymgynghori ag aelodau lleol ac ymddiheurodd os nad oedd hyn wedi digwydd. Gofynnodd i'r Aelod roi gwybod iddi lle nad oedd ymgynghoriad o'r fath wedi digwydd.

 

6.     Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Ellis i'r Aelod o'r Cabinet ar faterion Datblygu a Ffyniant, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol, M Norris:

 

"Oes modd i'r Aelod o'r Cabinet gadarnhau a yw safle Lady Windsor yn Ynys-y-bwl wedi'i nodi ar gyfer datblygiad o fewn y Cynllun Datblygu Lleol drafft?”.

 

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol Norris:

 

Gwnaeth yr Aelod o'r Cabinet sylw ar gyfarfod y Cyngor ym mis Ionawr, lle penderfynwyd cymeradwyo Strategaeth a Ffefrir y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig ar gyfer ymgynghoriad statudol â'r cyhoedd a rhanddeiliaid.

 

Ar lefel strategol, dywedwyd y byddai Strategaeth a Ffefrir Ddiwygiedig y Cynllun Datblygu Lleol yn ceisio mynd i'r afael ag anghenion RhCT trwy gynnig lefelau o dwf yn y gwaith datblygu a phennu ble y dylid ei ddosbarthu yn y Fwrdeistref Sirol. Dywedwyd bod yr ymgynghoriad yma i fod i gychwyn yn fuan.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet nad oedd yn gallu gwneud sylw ar hyn o bryd ar statws arfaethedig hen safle Lady Windsor, nac yn wir unrhyw safleoedd penodol.  Ychwanegwyd fodd bynnag, y byddai unrhyw safleoedd a oedd wedi'u cyflwyno i'w hystyried ymhellach yng nghamau nesaf proses y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig, yn cael eu cynnwys yn yr hyn a elwir yn Gofrestr o Safleoedd Posibl.

 

Erbyn yr ymgynghoriad, dywedwyd y byddai'r gofrestr yn nodi canlyniad yr asesiadau cychwynnol ar y safleoedd o ran eu gallu lefel uchel i ddarparu ar gyfer datblygiad a pheidio â nodi na dyrannu safleoedd i'w datblygu yn benodol ar hyn o bryd.

 

Nid oedd unrhyw gwestiwn atodol oherwydd bod yr amser a neilltuwyd wedi dod i ben (sicrhaodd y Llywydd i'r Aelodau fod y cloc wedi'i stopio yn ystod cyfnodau o anawsterau technegol).

 

Dogfennau ategol: