Agenda item

Yn unol â Rheol Gweithdrefn 10.5, mae’r Llywydd wedi rhoi caniatâd i’r Cyngor Llawn benderfynu a ddylai’r Cynnig Brys hwn fod:

 

• Cael ei drafod yn y cyfarfod; neu

• Gohirio'r Cynnig tan y cyfarfod nesaf, i'w drafod gyda mantais cymorth cyngor ysgrifenedig gan Swyddogion; neu

• Ei atgyfeirio i'r Adain Weithredol neu i Bwyllgor, i gael ei ystyried, ei drafod, a'i benderfynu.

 

Cofnodion:

Trafod Rhybudd o Gynnig sydd wedi’i gyflwyno yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol A O Rogers; D Wood, K Morgan, S Evans, D Grehan, H Gronow, P Evans ac A Ellis:

 

Er gwaethaf yr e-bost gan y Prif Weithredwr a anfonwyd at yr Aelodau am 13:26 o'r gloch ddoe, mae'r Cyngor yma'n gresynu nad oedd ganddo unrhyw wybodaeth flaenorol am gynlluniau i derfynu darpariaeth fewnol y gwasanaeth gofal yn y cartref symudol gyda'r nos . Rhoddwyd gwybod i’r holl Aelodau am y cynnig yma drwy e-bost a anfonwyd ddeuddydd yn ôl gan staff sy’n gweithio yn y gwasanaeth. Cawson nhw eu galw i gyfarfod gyda swyddogion ac undebau yr wythnos ddiwethaf i gael gwybod am y bwriad i roi’r gwasanaeth ar gontract allanol i ddarparwyr eraill yn y sector preifat/annibynnol.

 

Mae hyn yn mynd yn groes i ymrwymiad y Cyngor i warchod gwasanaethau a ddarperir yn uniongyrchol lle mae'r staff yn cael eu talu ar Delerau ac Amodau Cenedlaethol. Mae’n anfaddeuol bod newid o’r fath i wasanaeth gwerthfawr ac angenrheidiol iawn wedi cael ei ystyried gan reolwyr o dan benderfyniad dirprwyedig gweithredol nas cyhoeddwyd tan ddoe.

 

Roedd Rhaglen Waith y Cabinet hefyd wedi’i diwygio, gydag Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Strategaeth Gwasanaethau i Oedolion ddrafft, yr oedd disgwyl iddyn nhw gael eu trafod ym mis Gorffennaf, bellach wedi'u symud i fis Hydref 2023. Pe byddai'r adroddiadau yma wedi cael eu trafod ym mis Gorffennaf yn ôl y cynllun gwreiddiol, byddai o leiaf rhywfaint o wybodaeth gan yr Aelodau am y cynnig i derfynu'r gwasanaeth gyda'r nos.

 

Mae'r Penderfyniad Dirprwyedig Gweithredol sydd wrthi'n cael ei gyhoeddi yn mynd i'r afael â rhywfaint o bryderon yr Aelodau am y broses briodol. Serch hynny, nid yw'n awdurdodi penderfyniad y swyddog ym mis Mawrth i beidio â derbyn atgyfeiriadau, gan fynd ati'n fwriadol i gwtogi'r gwasanaeth a pheri i'r Prif Weithredwr ddatgan bod y "trefniant presennol ddim yn cyflwyno'r dull mwyaf effeithiol o ddarparu'r gofal a chymorth yma mwyach" yn ei e-bost.

 

O dan yr amgylchiadau yma, mae'n bwysig sicrhau dealltwriaeth o ran sut mae modd i swyddogion ddefnyddio awdurdod gweithredol i gwtogi ar wasanaeth, gyda'r nod o gael gwared arno yn y pen draw, heb yn wybod i'r Aelodau a heb eu caniatâd.

 

Mae’r Cyngor yma felly’n gofyn i’r Prif Weithredwr wneud datganiad heddiw, cyn y toriad, ynghylch:

-          Pam fod y gwasanaeth wedi'i gwtogi'n fwriadol ym mis Mawrth a pham na chyhoeddwyd hysbysiad o benderfyniad dirprwyedig yngl?n â'r newid hwnnw?

-          Sut mae modd i ddileu gwasanaeth gael ei ystyried yn benderfyniad gweithredol yn hytrach na phenderfyniad i'r Cabinet/Cyngor Llawn.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD mabwysiadu'r Rhybudd o Gynnig Brys a darparodd y Prif Weithredwr y datganiad canlynol:

 

"Bydd Aelodau'n cofio strategaeth y gyllideb a gafodd ei chymeradwyo gan y Cyngor ar 8 Mawrth 2023, pan gytunodd y Cyngor i strategaeth y gyllideb a oedd yn cau'r bwlch digynsail gwerth £38miliwn yn y gyllideb. Roedd strategaeth y gyllideb yn destun ymgynghoriad cynhwysfawr, ac roedd y Cyngor eisoes wedi dechrau ymgynghoriad mewn perthynas â sawl newid i wasanaethau allweddol a oedd yn cael effaith bellgyrhaeddol ar ein cymunedau, gan gynnwys y newidiadau hynny i wasanaethau gwastraff a phrydau yn y gymuned, a hynny cyn cyhoeddi setliad dros dro Llywodraeth Cymru.

Cafodd yr adolygiad o'r Gwasanaeth Gofal yn y Cartref symudol gyda'r nos ei ystyried yn rhan o arbedion effeithlonrwydd gwasanaethau ac arbedion ad-drefnu gwasanaethau gweithredol, fel sydd wedi'u cytuno yn rhan o strategaeth y gyllideb. Yn nghyd-destun y galw cynyddol a'r pwysau parhaus y mae'r Cyngor yn ei wynebu o ran y gyllideb, mae'r Cyngor yn adolygu'i holl wasanaethau, gan gynnwys y ddarpariaeth gofal cymdeithasol, yn unol â threfniadau cynllun ariannol tymor canolig y Cyngor a'r Fframwaith Rheoli Cyflawniad.

Er mwyn rhoi cyd-destun i Aelodau, mae gwasanaeth gofal yn y cartref ehangach y Cyngor yn darparu 17,000 awr o ofal a chymorth yn y cartref bob wythnos i 1,431 o oedolion ledled Rhondda Cynon Taf, yn rhan o'i wasanaethau mewnol a'r gwasanaethau sydd wedi'u comisiynu, a hynny er mwyn cyflawni'n dyletswyddau statudol yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Mae'r Gwasanaeth Gofal yn y Cartref symudol gyda'r nos yn wasanaeth dewisol bach sy'n cael ei ddefnyddio i leihau'r amser sy'n mynd heibio rhwng yr ymweliad olaf yn y nos a'r ymweliad cyntaf yn y bore, gyda rhai ymweliadau'n cael eu cynnal dros nos i ddarparu gofal ymatal. Mae'r gwasanaeth yn darparu 145 awr o ofal yr wythnos, gan gefnogi 46 o bobl.

Does dim gofyniad statudol i ddarparu Gwasanaeth Gofal yn y Cartref gyda'r nos, a hyd y gwyddon ni, dydy'r gwasanaeth yma ddim yn cael ei ddarparu gan unrhyw Gyngor arall yng Nghymru. Roedd y gwasanaeth dewisol yma'n destun adolygiad yn rhan o strategaeth y gyllideb a'r trefniadau parhaus ar gyfer y cynllun ariannol tymor canolig, ac yn rhan o'r adolygiad, o fis Ebrill roedd anghenion gofal a chymorth cwsmeriaid newydd yn cael eu diwallu drwy ddarpariaeth amgen, a doedd neb wedi cael wedi cael eu hychwanegu i'r gwasanaeth gofal yn y cartref gyda'r nos, a hynny er mwyn peidio â chodi disgwyliadau a sicrhau bod modd parhau gyda'r ddarpariaeth gofal oedd yn cael ei chynnig.

Cafodd yr adolygiad o'r gwasanaeth ei ddechrau o ganlyniad i gostau uchel y gwasanaeth, cyfyngiadau'r gwasanaeth o ganlyniad i faint y gwasanaeth a natur ddewisol y gwasanaeth. Doedd dim bwriad i leihau'r gwasanaeth o fis Mawrth; roedd yr aneffeithlonrwydd yma eisoes wedi cael ei nodi ar ôl edrych ar y gwasanaeth adeg cymeradwyo strategaeth y gyllideb.

Mae'r adolygiad wedi pennu y bydd anghenion gofal a chymorth yr unigolion sy'n derbyn y gwasanaeth yma'n cael eu hadolygu a'u hailasesu er mwyn gwneud trefniadau gofal a chymorth amgen a fydd yn diwallu'u hanghenion wedi'u hasesu. Mae modd darparu'r gwasanaethau yma yn rhan o wasanaethau mewnol a gwasanaethau wedi'u comisiynu. Fyddwn ni ddim yn allanoli'r gwasanaeth symudol gyda'r nos.

O ran y penderfyniad, cafodd y penderfyniad ei wneud yn rhan o weithdrefn penderfyniadau gweithredol wedi'u dirprwyo i sicrhau arbedion effeithlonrwydd ac arbedion ad-drefnu gwasanaethau gweithredol, yn rhan o strategaeth y gyllideb. Nid yw'r penderfyniad yn golygu y bydd gofyn i newid polisi neu gyfeiriad strategol y Cyngor o ran cymorth yn y cartref neu ofal cymdeithasol; mae'n ymateb i anghenion yr oedolion sy'n derbyn gofal a chymorth mewn modd gwahanol. Felly, mae penderfyniad Cyfarwyddwr Dros Dro'r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi'i wneud yn unol â chynllun dirprwyo'r Cyngor. 

Rydw i'n gwerthfawrogi bod hyn wedi peri pryder i'n staff, yr undebau llafur, ac mae Aelodau hefyd wedi bod yn pryderu am effaith y penderfyniad ar ein gweithlu gwerthfawr, ac wrth gwrs y bobl hynny sy'n derbyn y gwasanaeth yma.  Rydw i eisoes wedi mynd i'r afael â'r trefniadau i adolygu ac ailasesu anghenion yr oedolion sy'n derbyn y gwasanaethau yma, a dyma bwysleisio y bydd y Cyngor yn gweithio'n agos gyda'r undebau llafur i gefnogi'i staff drwy'r cyfnod heriol yma.  Does dim angen dileu swyddi a byddwn ni'n rheoli'r materion yma drwy broses rheoli newid y Cyngor.  Bydd gan staff gyfle i ddileu swydd yn wirfoddol/ymddeol yn gynnar o wirfodd, neu gael eu hadleoli i ran arall o'r gwasanaeth.

Rydw i'n hyderus bod penderfyniad Cyfarwyddwr Dros Dro'r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi'i wneud yn gywir, a bod angen gweithredu'r newidiadau arfaethedig. Rydw i'n derbyn y bydden ni wedi gallu gwneud yn well wrth fynd i'r afael â'r broses o ymgynghori â'r undebau llafur a sut cafodd staff wybod am y penderfyniad, ac rydw i'n ymddiheuro i'r undebau llafur a'r staff am hyn. Rydw i hefyd yn ymddiheuro am y pryder y mae hyn wedi'i achosi i Aelodau'r Cyngor. Bydda i'n sicrhau ein bod ni'n gwella mewn meysydd penodol wrth symud ymlaen."

Roedd yr Arweinydd wedi cydnabod datganiad y Prif Weithredwr. Dywedodd fod gofyn i swyddogion wneud penderfyniadau gweithredol wedi'u dirprwyo'n gyson, ond ble y bo'n addas, ac ar ôl derbyn cyngor y swyddog priodol, caiff y materion yma eu cyfeirio at yr Aelod o'r Cabinet, y Cabinet neu'r Cyngor. Nododd yr Arweinydd ei fod e'n hapus bod y Cyngor wedi gweithredu yn y ffordd gywir yn yr achos yma, sef gofyn i swyddogion ddefnyddio'r awdurdod dirprwyedig i wneud penderfyniad.

Siaradodd yr Arweinydd am y pwyntiau allweddol a gafodd eu codi gan y Prif Weithredwr, gan bwysleisio nad oes angen dileu unrhyw swyddi gan y bydd y Cyngor yn ceisio cynnig cyfleoedd i ddiswyddo'n wirfoddol, ymddeol yn gynnar o wirfodd, neu adleoli i swydd wag arall yn y gwasanaethau gofal cymdeithasol.

Daeth yr Arweinydd i ben drwy nodi bod angen dysgu gwersi o ran sut cafodd yr wybodaeth yma ei chyfathrebu â staff, roedd yr Arweinydd wedi gofyn bod Aelodau'n gweld y mater yn ei wir oleuni, mae penderfyniadau gweithredol wedi'u dirprwyo'n cael eu gwneud bob dydd, dyma'r tro cyntaf y mae'r Prif Weithredwr wedi gwneud datganiad yn dilyn pryderon gan Aelodau.

Cafodd y Cynghorydd A Rogers gyfle i gyflwyno'i sylwadau. Gofynnodd y Cynghorydd ble yng Nghyfansoddiad y Cyngor y mae modd dod o hyd i'r caniatâd sy'n cael ei roi i swyddog er mwyn cyflwyno a gweithredu newidiadau mawr i wasanaeth ym mis Mawrth, gyda'r bwriad o gau'r gwasanaeth heb angen rhoi gwybod i Aelodau am y penderfyniad.

Nododd y Cynghorydd Rogers y byddai'r penderfyniad yma wedi elwa o waith craffu gan y Pwyllgorau Craffu perthnasol. Holodd a oedd y penderfyniad wedi arwain at gynnydd yng nghost y gwasanaeth, gan ystyried nad oedd unrhyw atgyfeiriadau pellach wedi'u derbyn ers mis Mawrth, er bod costau staffio wedi parhau i fod yr un fath, a holodd beth oedd y cost unedol newydd cyn mis Mawrth?

Holodd y Cynghorydd Rogers a oedd y gyllideb wedi'i haddasu'n yn unol â'r penderfyniad a oedd wedi'i wneud cyn y flwyddyn ariannol newydd, ar 1 Ebrill 2023, gyda'r bwriad o gau'r gwasanaeth yn y pen draw. Holodd hefyd a oedd Aelodau wedi gweld unrhyw wybodaeth am y mater yma yn rhan o adroddiad i'r Cabinet neu adroddiad i'r Cyngor am y gyllideb.  Holodd y Cynghorydd Rogers a oedd unrhyw bryderon wedi'u nodi yn rhan o adroddiadau cyflawniad. Daeth y Cynghorydd â'i gyfraniad i ben drwy holi sut cafodd staff eu gwahodd i gyfarfod ar 4 Gorffennaf cyn i'r penderfyniad wedi'i ddirprwyo gael ei wneud ar 6 Gorffennaf a gofynnodd am eglurhad pellach ynghylch a oedd unrhyw ganiatâd gwleidyddol i gau'r gwasanaeth wedi'i roi ym mis Mawrth, ac os felly, gan bwy?

Roedd y Prif Weithredwr wedi ymateb i'r cwestiynau hynny oedd heb gael eu hateb yn rhan o'i ddatganiad ef:

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr wybod bod yr awdurdod i wneud penderfyniad o'r fath yn dod o dan Adran 3 o Gynllun Dirprwyo'r Cyngor, sy'n rhoi caniatâd i Swyddogion wneud penderfyniadau gweithredol wedi'u dirprwyo. Ychwanegodd fod y penderfyniad i beidio â derbyn rhagor o atgyfeiriadau i'r gwasanaeth o fis Mawrth, yn amodol ar adolygiad o'r gwasanaeth symudol gyda'r nos, wedi'i drafod yn ei ddatganiad.  Pwysleisiodd nad oedd y Cyngor yn bwriadu cau'r gwasanaeth neu gynyddu cost unedol y gwasanaeth, ond cafodd ei nodi'n effeithlonrwydd yr oedd angen ei wneud yn rhan o strategaeth y gyllideb.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr wybod bod y penderfyniad wedi cael ei wneud yn ystod y drafodaeth am Strategaeth y Gyllideb a gafodd ei thrafod yn rhan o gyfarfod y Cyngor ar 8 Mawrth 2023. Nododd nad oedd y penderfyniad yn ymwneud â chyflawniad y gwasanaeth, roedd yn ymwneud â materion effeithlonrwydd, gyda'r Cyngor yn defnyddio'i adnoddau i gynnal ei wasanaethau canolog yn y modd mwyaf effeithlon. Ychwanegodd fod staff wedi derbyn gwahoddiad i gyfarfod er mwyn cael gwybod am y newid i'w gwasanaethau, gan nodi ei fod e eisoes wedi cyfeirio at hyn yn ei ddatganiad. Roedd y Prif Weithredwr wedi ymddiheuro am y ffordd y cafodd y newid yma'i chyfathrebu gan ychwanegu bod angen dysgu gwers o'r profiad yma.

 

I gloi, o ran caniatâd gwleidyddol, rhoddodd y Prif Weithredwr wybod bod y penderfyniad yma wedi cael ei wneud yn rhan o'r effeithlonrwyddau gweithredol a gafodd eu hystyried gan y Cyngor yn rhan o'i gyfarfod ym mis Mawrth eleni.

 

Roedd y Cynghorydd W Jones wedi diolch i'r Prif Weithredwr am ei ddatganiad onest a didwyll, gan nodi ei fod e'n fodlon â'r penderfyniad cyhyd â bod swyddogion yn hyderus y bydd modd iddyn nhw gynnal y gwasanaeth a bod staff yn cael eu cefnogi.

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd S Trask bwysigrwydd blaenoriaethu defnyddwyr gwasanaeth, yn ogystal â chofio am staff y Cyngor. Roedd e'n falch o glywed nad oedd unrhyw gynlluniau ar y gweill i ddileu swyddi ac roedd e'n dymuno estyn ei ddymuniadau gorau i'r rheiny sy'n dewis ymddeol a'r rheiny sydd am gael eu hadleoli.  Roedd y Cynghorydd yn gobeithio y byddan nhw'n derbyn rôl addas ac yn parhau i weithio i'r Cyngor am flynyddoedd i ddod.

 

Roedd yr Arweinydd hefyd yn dymuno nodi'r datganiad onest a didwyll gan y Prif Weithredwr. Yn dilyn y datganiad a'r cwestiynau roedd yr Arweinydd wedi codi gyda'r swyddogion, roedd yr Arweinydd yn hyderus y dylai'r penderfyniad yma gael ei wneud yn rhan o gylch gwaith Penderfyniad Gweithredol wedi'i Ddirprwyo. Nododd yr Arweinydd fod angen i'r Cyngor sicrhau bod anghenion y cleientiaid yn cael eu diwallu yn ogystal â sicrhau bod modd blaenoriaethu cyllid mewn meysydd eraill, gan fod y gwasanaethau gofal cymdeithasol o dan bwysau ariannol mawr.

 

Daeth yr Arweinydd i ben drwy ddweud eto y bydd y Cyngor yn osgoi dileu swyddi drwy gynnig cyfleoedd i ymddeol yn gynnar o wirfodd ac adleoli i ran arall o'r gwasanaeth, a bydd hyn yn cael ei reoli yn rhan o bolisi rheoli newid y Cyngor, gan weithio'n agos â'r Undebau Llafur a staff.

 

 

 

Dogfennau ategol: