Agenda item

Derbyncynrychiolwyr o Trivallis, gan roi cyfle i’r Aelodau drafod a chael y newyddion diweddaraf am weledigaeth y mudiad, cartrefi, cymunedau a materion strategol eraill.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Llywydd gynrychiolwyr Trivallis a dywedodd wrth yr Aelodau y byddan nhw'n ymdrin ag eitemau yn ôl trefn yr agenda.

Roedd y Prif Weithredwr, Mr D Forbes, wedi cyflwyno'i hun a'i gydweithwyr, Mr N Beckett, Cadeirydd y Bwrdd, Mr K Montague, Cyfarwyddwr Gweithredol - Cymunedau, Ms L Pinney, Cyfarwyddwr Gweithredol - Cyllid ac Adnoddau, yn ogystal â chydweithwyr eraill oedd yn bresennol i ateb unrhyw gwestiynau am y rolau penodol.

 

Roedd y Prif Weithredwr wedi darparu trosolwg o'r prif feysydd i'w trafod ag Aelodau, megis heriau sy'n wynebu gwasanaethau, capasiti ar gyfer buddsoddi, a llwyddiannau. Rhoddodd wybod bod y swyddogion sy'n cyflawni rolau ar lefel Cyfarwyddwr Gweithredol yn garfan newydd sydd â dealltwriaeth glir o'u rôl a'r bwriad i feithrin perthynas dda gyda phartneriaid allanol, megis y Cyngor.

 

Gyda chymorth sleidiau PowerPoint cyflwynodd y Prif Weithredwr drosolwg o faterion allweddol o dan y penawdau canlynol:

 

Ø  Y cynnydd rydyn ni wedi'i wneud

 

Ø  Heriau - Gwaith Atgyweirio

 

Ø  Heriau - Cymdogaethau a Gwasanaethau Cymorth

 

Ø  Gwasanaeth Gwell

 

Ø  Hwyluso Twf yn RhCT

 

Ø  Cyfathrebu

 

 

Yn dilyn y cyflwyniad, roedd Arweinydd y Cyngor wedi diolch i gynrychiolwyr Trivallis am ddod i gyfarfod y Cyngor. Roedd yr Arweinydd wedi pwysleisio pa mor bwysig yw hi bod Trivallis yn meithrin perthynas dda gyda'r Aelodau Etholedig, sy'n atebol i'r trigolion ac sydd angen codi'u pryderon gyda Trivallis o bryd i'w gilydd.

 

Roedd yr Arweinydd wedi nodi bod materion sy'n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi bod yn heriol, i'r fath raddau mewn rhai ardaloedd ei fod e o'r farn bod Trivallis wedi colli rheolaeth o'i eiddo, ond mae gwaith diweddar gyda'r Heddlu, Cyngor RhCT a phartneriaid eraill er mwyn mynd i'r afael â phryderon difrifol o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi arwain at welliannau (nododd yr Arweinydd fod rhai ardaloedd yn galw am sylw pellach o hyd).

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at y pryderon canlynol; rhestr hir o waith cynnal a chadw a gwaith atgyweirio sydd angen cael ei gwblhau, amseroedd ymateb, materion ariannol a gweithredol, mesurau rheoli eiddo. Ychwanegodd hefyd ei bod hi'n hollbwysig meithrin a chynnal perthynas dda gyda'r Aelodau Etholedig wrth fynd ati i ddatrys y materion yma. Yn dilyn cyfnod hir o godi pryderon gyda Trivallis, ac yn dilyn trafodaethau rhwng y Cyngor a Llywodraeth Cymru, nododd yr Arweinydd y byddai angen i'r Cyngor holi cwestiynau sylfaenol os nad yw'r gwelliannau yn y meysydd yma'n cael eu cyflawni.  Fodd bynnag, roedd yr Arweinydd yn hyderus na fyddai hyn yn digwydd, a hynny yn sgil penodi'r Uwch Garfan Rheoli newydd a gyda'r ymrwymiad i wella dulliau cyfathrebu rhwng y ddau sefydliad.

 

Roedd y Prif Weithredwr, Mr D Forbes, wedi ymateb i gwestiynau'r Arweinydd, gan bwysleisio y bydd y berthynas gyda'r Aelodau Etholedig yn cael ei chryfhau, drwy gynnal sesiynau cerdded o d? i d? gyda Swyddogion Trivallis a'r Aelodau lleol, a hynny i wella dulliau cydweithio rhwng y ddau bartner.

 

Rhoddodd y Llywydd gyfle i Arweinwyr y Grwpiau (neu Aelodau wedi'u henwebu) i holi cwestiynau.

 

Roedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Jones wedi codi pryderon am achos penodol yn ei ward ef, dywedodd y Cyfarwyddwr Gweithredol - Cymunedau y byddai modd trafod y mater yma yn dilyn y cyfarfod.

 

Roedd Arweinydd y Gr?p Ceidwadol, Y Cynghorydd S Trask, wedi holi a fyddai modd i Swyddogion Tai Trivallis fynychu cyfarfodydd Partneriaeth ar gyfer Gweithredu Cymunedol yn ei ward e i wrando ar bryderon tenantiaid wyneb yn wyneb. Ychwanegodd yr Aelod nad yw ymholiadau yn cael eu datrys ar hyn o bryd - a bod amseroedd ymateb rhwng 2 a 3 wythnos. Ymrwymodd y Cyfarwyddwr Gweithredol - Cymunedau y byddai Rheolwr Ardal Gymdogaeth yn mynychu cyfarfodydd Partneriaeth ar gyfer Gweithredu Cymunedol yn y dyfodol, a hynny gan ei bod hi'n bwysig gwrando ar bryderon y bobl yma.

 

Ar yr adeg yma, cyhoeddodd y Llywydd y bydd cyfarfod y Cyngor oedd wedi'i drefnu am 5pm yn dechrau am 5.15pm er mwyn rhoi cyfle i bob Aelod ofyn cwestiynau i Trivallis. Roedd yr Aelodau canlynol wedi gofyn y cwestiynau isod:

 

Roedd y Cynghorydd S Rees, Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu, wedi nodi bod y pwyllgor yn wynebu heriau sylweddol o ran gwrthwynebiad y cyhoedd i nifer o'r cynigion tai sy'n cael eu cyflwyno gan Trivallis. Mae modd i'r sefyllfaoedd yma fod yn anghyfeillgar ar adegau. Yn yr achosion hynny ble mae cymunedau yn croesawu cynigion tai cymdeithasol, yn aml iawn byddan nhw'n gofyn bod y polisi gosod yn sicrhau bod tenantiaid yn 55 oed neu'n h?n. Sut mae Trivallis yn mynd ati i ymgysylltu â phobl leol i sicrhau bod lleoliadau addas a mathau o dai addas yn cael eu darparu a sut ydyn nhw'n ennill cefnogaeth ar gyfer y datblygiadau yma sy'n cael eu cynnig gan Trivallis?

 

Roedd y Cynghorydd A Rogers wedi diolch i Trivallis am gynnal achlysur yn ei ward ef ym mis Ebrill, roedden nhw wedi cynnig cyngor i drigolion lleol ar faterion sy'n ymwneud â'r argyfwng costau byw. Fodd bynnag, nododd fod yr ymatebion i bryderon y trigolion yn achosi rhwystredigaeth a holodd pa drefniadau sydd ar waith i gofnodi a dilyn cynnydd ymholiadau, a yw rhifau cyfeirnod yn cael eu defnyddio fel tystiolaeth o'r hyn sydd angen ei wneud?

 

Roedd y Cynghorydd D Owen-Jones wedi codi pryder ynghylch glendid yr ystadau yn ei ward e, gan nodi bod y Cyngor yn mynd ati i gyflawni'r dasg o symud dodrefn sydd wedi'u gadael yn y lonydd a'r meysydd parcio.  Oes modd i Trivallis fynd ati i ddatrys y broblem hirdymor yma, yn ogystal ag adfeiliad y garejys a'r prosiect ceginau/ystafelloedd ymolchi sydd heb ei gwblhau ar ôl 5 mlynedd.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Gweithredol - Cymunedau fod Trivallis yn blaenoriaethu materion amgylcheddol a thipio'n anghyfreithlon. Ychwanegodd fod Trivallis wedi sefydlu gweithgor aml-sefydliad i fynd i'r afael â'r materion yma, rheoli sbwriel a gerddi ar yr ystadau, a bod yn rhagweithiol o ran gorfodi. Nododd hefyd bod Trivallis yn y camau datblygu ar gyfer datblygiadau newydd ac mae hyn yn cynnwys lleoliad mannau storio biniau. Cadarnhaodd fod Trivallis yn derbyn dros 1,000 o gwynion sy'n ymwneud â gerddi bob blwyddyn, mae'r cwynion yma'n aml yn gysylltiedig â ffordd o fyw'r unigolyn neu drigolyn sy'n agored i niwed. Roedd y Cyfarwyddwr Gweithredol wedi argymell bod y Cynghorydd Owen-Jones yn defnyddio'r rhif ffôn ar gyfer Aelodau i sicrhau bod y lefel ymgysylltu perthnasol ar waith rhwng yr Aelod a chydlynydd yr ardal leol.

 

Roedd y Cyfarwyddwr Gweithredol - Cymunedau wedi rhoi gwybod bod Trivallis yn defnyddio system Dynamics gan gwmni Microsoft er mwyn cadw cofnod o bob ymholiad sy'n cael ei gyflwyno. Nododd hefyd bod Trivallis yn ymateb yn ysgrifenedig i bob tenant. Er mwyn gwella'r gwasanaeth, yn enwedig ar gyfer tenantiaid sy'n iau na 55 oed, mae Trivallis yn awyddus i ddatblygu ap i denantiaid. Bydd yr ap yma'n cael ei gyflwyno ym mis Medi eleni, bydd modd dilyn cynnydd yr ymholiadau sy'n cael eu nodi ar-lein gan roi cyfle i denantiaid ddilyn cynnydd gwaith atgyweirio. Fodd bynnag, mae gwaith hefyd yn cael ei gynnal i wella profiad y ganolfan alwadau ac amser ymateb o ran gohebiaeth ysgrifenedig ar gyfer yr unigolion hynny sy'n dewis i beidio â defnyddio'r ap.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gweithredol - Cymunedau wybod bod gwrthwynebiad i dai cymdeithasol, ond mae Trivallis yn dilyn yr asesiad o anghenion y farchnad sy'n cael ei ddarparu gan yr Awdurdod Lleol. Felly mae'r hyn sy'n cael ei adeiladu yn ymateb i anghenion y gymuned leol.   Ychwanegodd fod Trivallis yn ymateb i'r angen lleol a bod angen nodi tystiolaeth o hyn yn rhan o'r rhaglen o ddatblygiadau sydd wedi'u cynllunio. Nododd hefyd bod Trivallis yn cynnal cynifer o achlysuron cyn ymgysylltu ag sy'n bosibl, ond nododd hefyd bod modd gwneud rhagor o waith i helpu tenantiaid sy'n symud i eiddo newydd a'u helpu nhw i ddod yn rhan o'r gymuned drwy gynnig grwpiau cymunedol lleol gyda chymorth yr Awdurdod Lleol.

 

Roedd y Cynghorydd C Lisles wedi diolch i Trivallis am y cyflwyniad, a hefyd am eu cyhoeddiad diweddaraf a'r ffordd y maen nhw'n cyfathrebu â'r Aelodau Etholedig. Tynnodd y Cynghorydd Lisles sylw at yr ymddiheuriad gan Trivallis yn y cyhoeddiad, gan nodi ei bod hi'n gobeithio y byddai'r ymddiheuriad yma'n cael ei rannu â'i denantiaid hefyd. Roedd y Cynghorydd Lisles hefyd wedi croesawu'r ap newydd i denantiaid sydd ar y gweill.

 

Roedd y Cynghorydd A Roberts wedi gofyn pam bod gan Trivallis y gyfradd rent uchaf ar gyfer tai cymdeithasol yng Nghymru, a hynny yn un o'r ardaloedd mwyaf tlawd yng Nghymru.

 

Cododd y Cynghorydd D Williams dau bryder, roedd y cyntaf yn ymwneud â'r chwe garej a gafodd eu hadeiladu gan Trivallis 12 blynedd yn ôl, pan gafodd y ganolfan i'r gymuned ei hadeiladu, ac sydd yn wag o hyd, er i'r ganolfan ofyn i'w defnyddio nhw fel man storio. Roedd yr ail bryder yn ymwneud â'r garejys y tu cefn i'r clwb yn Nglyn-coch, sydd bellach wedi mynd yn adfail ac yn denu ymddygiad gwrthgymdeithasol yn aml. Roedd y Cynghorydd Williams wedi dweud bod cynlluniau i ddymchwel y garejys wedi'u nodi dwy flynedd yn ôl ond maen nhw yno o hyd ac yn achosi llawer o ymddygiad gwrthgymdeithasol.

 

Roedd y Cynghorydd M Webber wedi nodi ei bod hi wedi ymgysylltu'n rheolaidd â phob Cymdeithas Dai arall ar wahân i Trivallis yn ystod pandemig Covid, a hynny yn ystod cyfnod pan oedd cyfathrebu yn hanfodol.  Nododd ei bod hi wedi cysylltu â Trivallis 5 mlynedd yn ôl yngl?n â garejys mewn cyflwr gwael yn ei ward hi, dywedodd y swyddog fod Trivallis yn cynnal adolygiad o'r garejys cyn bo hir, ond maen nhw'n parhau i fod yn wag ac mewn cyflwr gwael hyd heddiw. Roedd y Cynghorydd Webber hefyd wedi codi pryderon am faterion sy'n ymwneud ag inswleiddio wal geudod gan bwysleisio pa mor bwysig yw hi bod Trivallis yn ymgysylltu ag Aelodau Etholedig.  Daeth y Cynghorydd â'i chyfraniad hi i ben drwy nodi bod angen gwneud gwaith pellach i wella dulliau cyfathrebu a gweithio mewn partneriaeth.

 

Roedd y Cyfarwyddwr Gweithredol - Cymunedau wedi ymddiheuro am y cyfathrebu gwael wrth ymateb i g?yn y Cynghorydd Webber, amlinellodd y mesurau sydd ar waith i fynd i'r afael â'r materion yma wrth symud ymlaen.  Rhoddodd wybod y bydd Trivallis yn mynd ati yn ystod y misoedd nesaf i geisio recriwtio swyddog a fydd yn gyfrifol am gydlynu gweithgareddau datblygu'r gymuned. Rhoddodd wybod hefyd y bydd Trivallis yn rhoi diweddariad am ddau fater allweddol sydd wedi cael eu codi gan Aelodau yn ystod y cyfarfod yma, sef garejys ac inswleiddio wal geudod. 

 

Roedd y Cynghorydd G Hopkins wedi holi cwestiwn am y rôl y mae Trivallis yn ei chware yn rhan o'r Gofrestr Tai Cyffredin, gofynnodd y Cynghorydd a oes modd i Trivallis gynnig sut y mae modd gwella'r gofrestr yma, ac yntau'n bartner allweddol yn rhan o'r cynllun?

 

Roedd y Cynghorydd J Barton wedi nodi na fydd yr Ap i Denantiaid yn addas ar gyfer tenantiaid h?n, holodd pa strategaethau sydd ar waith ar gyfer y tenantiaid hirdymor hynny sy'n delio â thenantiaid newydd, aflonyddgar sy'n cael effaith negyddol iawn ar eu bywydau?

 

Roedd y Cynghorydd J Smith wedi gofyn pa bolisi sydd gan Trivallis er mwyn mynd i'r afael ag achosion o dipio'n anghyfreithlon a chreu llwybrau llygod mawr mewn gerddi?

 

Roedd y Cyfarwyddwr Gweithredol - Cymunedau wedi rhoi gwybod bod gofyn i denantiaid gadw'u gerddi yn daclus yn rhan o'u cytundebau. Fodd bynnag mae hyn yn anodd i rai tenantiaid o ganlyniad i broblemau iechyd neu anableddau, er bod rhai tenantiaid yn dewis i beidio â chydymffurfio â'r cytundeb o gwbl. Nododd hefyd bod angen mabwysiadu dull mwy rhagweithiol, fel bod modd nodi problemau'n gynnar a rhoi'r cymorth sydd ei angen ar denantiaid i fynd i'r afael â'r broblem. Ychwanegodd y byddai modd dylunio rhai rhwystrau yn ystod y camau datblygu cynnar ar gyfer datblygiadau newydd.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod bod Trivallis wedi penodi dau swyddog newydd yn ddiweddar i gynorthwyo â gwaith ymateb i ymholiadau, er mwyn mynd i'r afael ag ymholiadau'n gyflym ac mewn modd effeithlon.  Wrth ymateb i'r ymholiad ynghylch y Polisi Dyraniadau, roedd y Cyfarwyddwr wedi cadarnhau bod gan Trivallis berthynas dda gyda'r Awdurdod Lleol o ran rheoli'r dyraniadau tai. O ganlyniad i faterion sy'n ymwneud ag iechyd meddwl, yr argyfwng costau byw a'r galw am lety dros dro, mae angen gweithredu dull cytbwys i sicrhau bod anghenion y tenantiaid mwyaf agored i niwed yn cael eu bodloni yn unol ag egwyddorion cymunedau cynaliadwy.  Awgrymodd y Cyfarwyddwr y bydd hyn yn cyflwyno her, ond byddai angen mabwysiadu dull ar y cyd.

 

I gloi, dymunodd y Prif Weithredwr, Mr D Forbes, ddiolch i'r Aelodau am gymryd rhan a holi cwestiynau, gan nodi y bydd rhai cwestiynau yn cael eu hateb ar ôl y cyfarfod. Nododd fod y materion sydd wedi cael eu codi'n dangos pa mor bwysig yw hi bod y Rheolwr Cymdogaethau, Cydlynwyr y Cymdogaethau a'r Aelodau Etholedig yn cyfathrebu â'i gilydd am y sgyrsiau maen nhw'n eu cael gyda'u trigolion er mwyn goresgyn y materion sy'n codi, gan gynnwys ymddygiad gwrthgymdeithasol. Ychwanegodd fod y rhan fwyaf o achosion yn galw am ddull cytbwys, er mwyn cefnogi cymdogion drwy'r broses gyfryngu. Nododd hefyd bod covid a'r argyfwng costau byw wedi cael effaith negyddol ar broblemau sydd wedi effeithio ar y gymdogaeth ers sbel, ac yn gwaethygu'r problemau yma.

 

Roedd yr Arweinydd wedi diolch i swyddogion Trivallis eto, gan nodi bod Aelodau Etholedig yn codi'r un materion tro ar ôl tro, yn ogystal â'r materion ehangach y mae angen i Trivallis eu gwella. Roedd yr Arweinydd wedi pwysleisio pa mor bwysig yw hi i wneud cynnydd yn y meysydd yma, ond nododd ni allai Trivallis ganiátau i'r materion yma fynd yn waeth eto. Mae angen mynd i'r afael a'r materion sydd wedi codi dros y 17 mlynedd diwethaf a bydd yr Awdurdod Lleol yn gweithio'n agos gyda Trivallis i wneud cynnydd ar gyfer tenantiaid Trivallis ledled y Fwrdeistref Sirol.

 

Roedd y Llywydd wedi diolch i gynrychiolwyr Trivallis am ddod i'r cyfarfod gan nodi bod modd i Aelodau gyflwyno cwestiynau pellach iddyn nhw drwy Uned Busnes y Cyngor.