Agenda item

Craffu ar y cynnydd sydd wedi'i wneud mewn perthynas â Strategaeth 2019 a thrafod y diwygiadau arfaethedig i'r Strategaeth.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau Cymuned Bennaeth y Celfyddydau, Llyfrgelloedd a Diwylliant, a roddodd wybod i'r Aelodau mai bwriad yr adroddiad yw rhoi'r diweddaraf i'r Pwyllgor Craffu – Gwasanaethau Cymuned am yr adolygiad o Strategaeth Toiledau Lleol Cyngor Rhondda Cynon Taf rhwng 2019-2023 a 2023-2028. Hefyd, caiff Aelodau gyfle i graffu ar y strategaeth a chyflwyno unrhyw sylwadau neu argymhellion mewn perthynas â'r cynigion yma.

 

Amlinellodd Pennaeth y Celfyddydau, Llyfrgelloedd a Diwylliant y cefndir, gan nodi cyfrifoldeb yr Awdurdod Lleol a manylion y strategaeth gychwynnol a gafodd ei chyhoeddi yn 2019. Cafodd Aelodau eu hatgoffa o nod y strategaeth, sef adolygu ansawdd a nifer y toiledau lleol ledled y fwrdeistref sirol. Ar ben hynny, mae'n bwriadu darparu neu hwyluso toiledau glân, diogel, hygyrch a chynaliadwy ar gyfer trigolion ac ymwelwyr mewn lleoliadau lle mae'r angen am gyfleusterau o'r fath wedi'i nodi.

 

Cafodd Aelodau wybod am y cynnydd hyd yn hyn a rhoddwyd manylion am ddau amcan sydd wedi'u datblygu gyda chamau gweithredu ategol.

 

Gofynnodd Aelod a fyddai modd i drigolion ddefnyddio ap i ddod o hyd i'r toiledau cyhoeddus agosaf, gan nodi bod hyn yn broblem i drigolion sy'n teithio ledled y fwrdeistref ac sy ddim yn gwybod lleoliad y toiledau agosaf. Aeth Pennaeth y Celfyddydau, Llyfrgelloedd a Diwylliant ati i gydnabod y bydd mapio darpariaeth toiledau ledled y Fwrdeistref Sirol yn allweddol o ran diweddaru'r wybodaeth a sicrhau ei bod ar gael ar wefan y Cyngor. Cafodd Aelodau wybod y bydd arwyddion toiledau cyhoeddus yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru a chanllawiau cenedlaethol er mwyn sicrhau bod toiledau hygyrch i'w gweld ledled y fwrdeistref. Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu'r Gymuned yr wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am y broses fapio, gan nodi bod gwaith yn mynd rhagddo gyda Swyddogion adran Eiddo'r Cyngor, gan gynnwys manylion Mannau Newid i Oedolion a thoiledau hygyrch. Cafodd Aelodau wybod mai'r uchelgais hirdymor yw cynnwys yr wybodaeth mewn ap. Serch hynny, yn y tymor byr, bydd yr wybodaeth yn cael ei rhoi ar wefan y Cyngor.

 

Gofynnodd Aelod am fanylion yn yr adroddiad mewn perthynas â'r cyfleusterau sydd ar gael mewn busnesau preifat ledled y fwrdeistref. Hefyd gofynnodd pa gymhellion fyddai ar gael i'r busnesau yma am adael i'r cyhoedd ddefnyddio eu cyfleusterau, gan nodi y bydd hyn yn rhwystr mawr os nad oes unrhyw gymhellion ar gael. Rhoddodd Pennaeth y Celfyddydau, Llyfrgelloedd a Diwylliant wybod i Aelodau y gofynnwyd i fusnesau preifat ganiatáu i'r cyhoedd ddefnyddio eu cyfleusterau, a hynny yn rhan o'r strategaeth gychwynnol, ond roedd y sector preifat yn anfodlon. Nododd y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu'r Gymuned y bydd y sgwrs yma'n cael ei chynnal eto a thrafododd y Grantiau Cymunedol sydd ar gael i sefydliadau nad ydyn nhw'n gwneud elw.

 

Nododd Aelod y posibilrwydd o siarad ag adran Canol Trefi y Cyngor am ffyrdd o annog busnesau i ganiatáu i'r cyhoedd ddefnyddio eu cyfleusterau fel ffordd o sicrhau bod Canol Trefi yn fannau croesawgar sy'n annog trigolion i ymweld â nhw. Nododd ei bod yn bwysig bod cyfleusterau ar gael i helpu canol trefi i ffynnu. Cadarnhaodd Pennaeth y Celfyddydau, Llyfrgelloedd a Diwylliant y byddan nhw'n cynnwys y garfan Canol Trefi yn y drafodaeth am ymgysylltu â busnesau preifat.

 

Tynnodd Aelod arall sylw at fanylion yn yr adroddiad o ran darpariaeth toiledau gyda'r nos a gofynnodd a oes cynlluniau i ddarparu'r cyfleusterau yma yng nghanol trefi. Cadarnhaodd Pennaeth y Celfyddydau, Llyfrgelloedd a Diwylliant y byddai darpariaeth ac oriau agor toiledau cyhoeddus yn cael eu cynnwys yn rhan o'r drafodaeth gyda'r garfan Canol Trefi.

 

Gofynnodd yr Aelodau am ddiogelwch a gwaith monitro'r toiledau cyhoeddus er mwyn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan dynnu sylw at y problemau sydd wedi dod i'r amlwg ledled y Fwrdeistref Sirol hyd yn hyn. Cadarnhaodd Pennaeth y Celfyddydau, Llyfrgelloedd a Diwylliant y bydd y pryderon yma'n cael eu hystyried a'u trafod gyda'r adrannau perthnasol wrth siarad am ddarpariaeth gyda'r nos. Pwysleisiodd Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau Cymuned bwysigrwydd rhoi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol er mwyn sicrhau bod modd gweld unrhyw batrymau a deall y problemau'n well.

 

Gofynnodd Aelod am yr adnoddau sydd ar gael ac a ydyn nhw'n ddigonol i ddiwallu'r angen ledled y Fwrdeistref Sirol. Rhoddodd Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau Cymuned wybod i Aelodau am yr ymgynghoriad blaenorol a gafodd ei gynnal gydag ystod eang o grwpiau cymunedol er mwyn deall yr angen a'r anawsterau o ran diwallu anghenion grwpiau penodol. Tynnwyd sylw at yr amcanion mewn perthynas â mannau newid a thoiledau hygyrch. Cafodd Aelodau eu hatgoffa bod y Cyngor wedi cynnal a chadw'r rhan fwyaf o doiledau cyhoeddus, a hynny wrth i awdurdodau cyfagos eraill benderfynu cau nifer o gyfleusterau. Nododd Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau Cymuned mai'r bwriad yw gweithio i sicrhau bod pobl yn effro i leoliadau toiledau cyhoeddus a'u horiau agor ledled y fwrdeistref, wrth weithio gyda grwpiau cymunedol a sefydliadau eraill i nodi unrhyw ffyrdd o wella hyn.

 

Gofynnodd Aelod arall a oedd yr effeithiau ar gostau i'r Cyngor o adrannau eraill, megis cynnydd yng ngwaith glanhau amgylcheddol, wedi cael eu hystyried, a hynny mewn perthynas â chyfleusterau sydd wedi cau neu sydd ag oriau agor cyfyngedig. Amlinellodd y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu'r Gymuned sut mae Swyddogion yn gweithio gydag adran Eiddo'r Cyngor a Materion Cynnal a Chadw sy'n cadarnhau ein bod ni wedi cyrraedd ein capasiti ariannol o ran gallu i lanhau a'r amserlen gwaith cynnal a chadw. Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu'r Gymuned nad oes cynlluniau yn y strategaeth i agor cyfleusterau newydd, oni bai bod modd sicrhau grantiau allanol i dalu am gyfleusterau o'r fath mewn lleoliadau yn y gymuned.

 

Nododd Aelod y sefyllfa ddelfrydol o ddarparu cyfleusterau ychwanegol ac ehangu'r oriau agor ond tynnodd sylw at anawsterau gwneud hynny o ystyried y pwysau cyllidebol. Cadarnhaodd Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau Cymuned gytundeb y Cyngor i gynnal a chadw toiledau cyhoeddus yn ôl y lefel bresennol ond aeth ati i gydnabod y penderfyniadau ariannol anodd y mae angen eu hystyried. Pwysleisiodd Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau Cymuned fod y strategaeth yn nodi'r hyn y credir y dylai'r polisi ymwneud ag ef o ran darpariaeth a darpariaeth hygyrch, a hynny wrth fod yn gymesur o fewn cyfyngiadau.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl am yr wybodaeth sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad, roedd Aelodau o blaid gwella'r ddarpariaeth ond hynny heb effaith ariannol ychwanegol ar y Cyngor. Trafododd Aelodau bwysigrwydd ystyried opsiynau ariannu allanol a chynnwys y cyfle i weithio gyda sefydliadau'r sector preifat er mwyn darparu cyfleusterau ychwanegol.

 

Yn dilyn trafodaeth hir gan y Pwyllgor, PENDERFYNWYD cydnabod yr wybodaeth sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad a rhannu'r sylwadau gyda'r Cabinet.

 

 

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: