Derbyn cwestiynau'r Aelodau yn unol â Rheol 9.2 o Weithdrefn y Cyngor.
(Nodwch: Caniateir hyd at 20 munud ar gyfer cwestiynau.)
Cofnodion:
|
1) Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Brencher i Arweinydd y Cyngor - Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan OBE:
"A wnaiff yr Arweinydd roi diweddariad ar yr ymrwymiad i gyllido 10 Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu a darparu trosolwg o sut mae'r gwasanaeth Wardeiniaid Cymunedol yn cael effaith gadarnhaol ar ein cymunedau?" Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan OBE:
Rhoddodd yr Arweinydd wybod bod 10 Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu bellach yn gweithio'n dda gyda'r 14 Warden Cymunedol i gefnogi Heddlu De Cymru. Ychwanegodd na fyddan nhw'n cymryd lle'r Heddlu, gan eu bod nhw'n darparu presenoldeb gweladwy sy'n tawelu meddwl ein trigolion mewn ardaloedd allweddol yn ein cymunedau, megis canol trefi a pharciau. Mae adborth y cyhoedd wedi bod yn gadarnhaol iawn hyd yn hyn ac mae busnesau a thrigolion lleol wedi nodi bod eu presenoldeb nhw yn cael effaith gadarnhaol ar ganfyddiadau o ddiogelwch y gymuned.
Nododd yr Arweinydd eu bod nhw'n helpu i sicrhau cydymffurfiaeth â Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus y Cyngor, o ran cadw c?n oddi ar gaeau chwaraeon a'r Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus sy'n gysylltiedig ag alcohol yng nghanol trefi Pontypridd ac Aberdâr. Ar hyn o bryd mae 14 Warden yn rhan o'r garfan, gan gynnwys 2 Uwch Warden, maen nhw'n gweithio hyd at 7 diwrnod yr wythnos yn rhan o batrwm sifftiau. Mae'r gwasanaeth yn gweithredu 14/15 awr y dydd.
Roedd yr Arweinydd wedi annog Aelodau i roi gwybod am unrhyw achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol gan ddefnyddio'r dulliau arferol, sef mewnflwch y Gwasanaethau i Aelodau, Diogelwch y Cyhoedd neu'r Heddlu. I gloi, roedd yr Arweinydd wedi nodi bod y gwasanaeth yma'n un o'r ymrwymiadau craidd oedd wedi'u nodi yn rhan o faniffesto Gr?p Llafur RhCT, ac sydd bellach wedi cael ei weithredu.
Nid oedd unrhyw gwestiwn ategol.
2. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol D Parkin i'r Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Crimmings:
"A wnaiff yr Aelod o'r Cabinet roi diweddariad ar welliannau i'r mannau chwarae ledled y Fwrdeistref Sirol?" Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Crimmings: Roedd y Cynghorydd Crimmings yn falch o gadarnhau bod rhaglen adnewyddu a gwella mannau chwarae'r Cyngor wedi parhau yn ystod y cyfnod ers dechrau tymor newydd y Cyngor. Esboniodd fod y Cyngor wedi cyflawni rhaglenni buddsoddi sylweddol yn y maes yma bob blwyddyn ers 2015 - a hynny er mwyn cydnabod sut y mae pobl ifainc yn cael budd o chwarae yn yr awyr agored, gan annog eu datblygiad a'u dychymyg.
Roedd y Cynghorydd Crimmings wedi rhoi gwybod bod 166 o'r 217 o fannau chwarae wedi derbyn buddsoddiad yn ystod y cyfnod yma, sef 76.5% o'r holl fannau chwarae. Mae dros 3/4 o'r cyfleusterau chwarae wedi derbyn gwelliannau'n rhan o raglen fuddsoddi gwerth £6miliwn. Mae rhai o'r cyfleusterau yma wedi gweld gwaith "cam 2" o ganlyniad i fuddsoddiadau rhannol neu'r angen i adnewyddu offer, felly mae cyfanswm o 186 o brosiectau wedi'u cyflawni.
I gloi, rhoddodd y Cynghorydd Crimmings wybod bod 10 prosiect wedi cael eu nodi ar gyfer gwaith gwella yn ystod blwyddyn ariannol 2023/24, gan gynnwys man chwarae Tyn-y-Bryn yn ward y Cynghorydd Parkin. Mae hyn yn cynnwys buddsoddiad gwerth £341,000.
Nid oedd unrhyw gwestiwn ategol.
3) Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. Emanuel i Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan OBE:
“A oes modd i'r Arweinydd rannu'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sydd wedi'i wneud mewn perthynas â Metro De Cymru?” Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan OBE:
Rhoddodd yr Arweinydd wybod bod Trafnidiaeth Cymru wedi gwneud cynnydd sylweddol dros y pedwar mis diwethaf. Mae'r Ganolfan Reoli yn Ffynnon Taf bellach wedi agor a chafodd cerbyd newydd y Metro ei gyflwyno ar y rheilffordd. Rhoddodd yr Arweinydd wybod bod gwaith profi'r tram-drenau trydan/batri, a fydd yn gweithredu ar linellau Treherbert ac Aberdâr, bellach wedi cychwyn. Mae'r gwaith profi yma'n cael ei gynnal cyn dechrau'r broses o hyfforddi gweithredwyr y trenau, a byddan nhw'n gweithredu o ddepo Ffynnon Taf, gwerth £100miliwn.
Esboniodd yr Arweinydd fod y rhan gyntaf o'r rheilffordd, rhwng Caerdydd a Phontypridd, wedi cael ei thrydaneiddio ar ddiwedd mis Mai, mae gwaith gwella'r traciau wedi cael ei gynnal mewn lleoliadau ledled Llinell Graidd y Cymoedd er mwyn paratoi ar gyfer y tram-drenau newydd. Roedd y rhaglen drawsnewid ar gyfer llinell Treherbert wedi dechrau ar ddiwedd Ebrill 2023, gan osod ffensys palisâd ac adeiladu mannau croesi o dan y trac ar hyd y llwybr yma. Mae platfform newydd yn cael ei adeiladu yng ngorsaf Dinas, Cwm Rhondda, gan y bydd y rheilffordd yn cael ei dyblu yn yr orsaf yma. Bydd pont Mynediad i Bawb newydd, sy'n cynnwys lifft a grisiau i'r ddau blatfform, hefyd yn cael ei gosod.
Nododd yr Arweinydd fod Trafnidiaeth Cymru wedi rhannu negeseuon diogelwch mewn perthynas â thrydaneiddio'r llinell ar Facebook, a hynny i gadw cymunedau’n ddiogel. Nid oedd unrhyw gwestiwn ategol.
4) Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A J Dennis i Arweinydd y Cyngor - Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan OBE:
"Pa gefnogaeth a gwasanaethau cyfeirio sydd ar gael i drigolion o ran yr argyfwng costau byw"
Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan OBE:
Rhoddodd yr Arweinydd wybod y bydd pecynnau cymorth pellach yn cael eu cyhoeddi yn yr Hydref, ond hyd yn hyn, mae modd i grwpiau cymunedol geisio cyllid yn rhan o'r cynllun micrograntiau ac mae'r Cyngor eisoes wedi derbyn nifer fawr o geisiadau. Ychwanegodd fod effaith cyni parhaus a'r argyfwng costau byw yn golygu bod banciau bwyd yn hanfodol er mwyn cefnogi trigolion, mae gwaith sylweddol yn cael ei gynnal yn y Pantrïoedd Bwyd, Clybiau Bwyd a Hwyl, a thrwy swmp brynu bwydydd yn rhan o wasanaethau caffael y Cyngor.
Siaradodd yr Arweinydd am lwyddiant Canolfannau'r Gaeaf y llynedd a'r cymorth a gafodd ei ddarparu gan y llyfrgelloedd a chanolfannau cymuned y Cyngor i'r trigolion hynny oedd yn cael eu heffeithio gan yr argyfwng costau byw. Ychwanegodd fod helpu trigolion i gymdeithasu a chynnig man diogel a chynnes i gwrdd yn hanfodol, yn enwedig gan ystyried costau ynni a thanwydd uwch. Pwysleisiodd yr Arweinydd y byddai angen i'r Cyngor barhau i ddarparu cymorth yn ôl yr angen, yn enwedig i'r 3ydd sector.
Nid oedd unrhyw gwestiwn ategol. 5) Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Morgans i'r Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R. Lewis:
"Yn dilyn sicrhau caniatâd cynllunio, a wnaiff yr Aelod o'r Cabinet amlinellu'r camau nesaf ar gyfer datblygu ysgol newydd sbon ar gyfer Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn yng Nglynrhedynog?"
Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol R. Lewis:
Rhoddodd y Cynghorydd Lewis wybod bod gwaith eisoes wedi dechrau ar y safle i greu Ysgol Gynradd Gymraeg newydd sbon ar gyfer Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn. Hyd yn hyn, mae gwaith adfer sylweddol wedi cael ei gyflawni, ac mae'r contractwr sydd wedi'i benodi, Wynne Construction, bellach ar y safle yn gwneud cynnydd da gyda gwaith clirio'r safle a gwaith tyrchu a llenwi. Mae disgwyl i'r gwaith adeiladu ddechrau ym mis Medi 2023.
Nododd y Cynghorydd Lewis fod y Cyngor anelu at gwblhau'r ysgol newydd (yr adeilad ei hun) erbyn Awst 2024, fel bod yr adeilad yn barod ar gyfer blwyddyn academaidd 2024. Mae'n bwysig nodi bod Wynne Construction wedi ymweld â'r ysgol yn ddiweddar i gynnal sesiwn Iechyd a Diogelwch ar y safle gyda'r disgyblion, gan dynnu sylw'r disgyblion at beryglon safle adeiladu. Maen nhw hefyd wedi lansio cystadleuaeth dylunio poster lle bydd disgyblion o sawl gr?p blwyddyn yn dylunio poster diogelwch, bydd rhai yn cael eu dewis a'u harddangos ar y safle.
Nid oedd unrhyw gwestiwn ategol.
6) Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol D R Bevan i Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan OBE:
"A wnaiff yr Arweinydd rannu'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sydd wedi'i wneud ar domen Tylorstown?"
Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan OBE:
Rhoddodd yr Arweinydd wybod bod gwaith yn parhau i fynd rhagddo ar safle Tomen Tylorstown o ganlyniad i'r tywydd sych yn ddiweddar. Dechreuodd y cloddwaith ym mis Ebrill 2023, gyda'r contractwyr yn symud 160,000 tunnell o ddeunyddiau. Nododd ei fod e wedi ymweld â'r safle yn ddiweddar yng nghwmni Prif Weinidog Cymru a swyddogion Llywodraeth Cymru i weld y gwaith sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd.
Esboniodd y bydd gwaith pellach yn cael ei gynnal dros y misoedd nesaf a bydd gwaith ar y safle'n cael ei gwblhau cyn y gaeaf, ond bydd angen parhau i fonitro'r safle dros y gaeaf i asesu sut y bydd y glaw yn effeithio ar y mynydd, a phennu a oes angen cynnal gwaith pellach a gwaith addasu. Bydd gwaith i gwblhau'r prosiect yn cynnwys gorffen y proffiliau terfynol, gosod ac atgyweirio'r seilwaith draenio ac adfer y safle.
Roedd yr Arweinydd yn falch o gyhoeddi bod y safle bellach yn ddiogel (er y tirlithriad mawr yn RhCT, un o'r tirlithriadau mwyaf yn hanes Cymru) - ar ôl cwblhau'r gwaith yma fydd dim angen cynnal rhagor o waith ar y safle. I gloi, roedd yr Arweinydd wedi cyhoeddi bod cais wedi cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i gynnal ymyriadau pellach ar domennydd eraill.
Nid oedd unrhyw gwestiwn ategol.
7) Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol W. Lewis i Arweinydd y Cyngor – Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan OBE:
"Sut ydy'r Cyngor yn gweithio gyda banciau bwyd, ac yn eu cefnogi nhw, drwy'r argyfwng Costau Byw?"
Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan OBE:
Pwysleisiodd yr Arweinydd fod y Cyngor wedi bod yn darparu cymorth uniongyrchol i'r banciau bwyd lleol a chymorth drwy ei b?er prynu dros y blynyddoedd. Gyda chymorth micrograntiau, ychwanegodd yr Arweinydd fod ceisiadau 75 o brosiectau a grwpiau cymunedol wedi cael eu cymeradwyo a byddan nhw'n dechrau'r broses o ddarparu'r cynlluniau cyn bo hir, gyda rhai yn cynnwys darpariaeth yn ystod y gwyliau ac eraill yn cynnig darpariaeth fwyd. Mae'r Gronfa Rhwydweithiau Cymdogaeth yn cynnig grantiau o hyd at £1,000 i sefydliadau a grwpiau cymunedol. Nododd yr Arweinydd y bydd Microgrant Cymunedol CBRhCT - Cronfa Ffyniant Gyffredin - yn cynnwys dyraniad o oddeutu £40,000 ar gyfer darpariaeth fwyd gynaliadwy. Cafodd y cyllid yma ei sicrhau gan y Cyngor er mwyn cwrdd â'r galw cynyddol. Roedd yr Arweinydd wedi cydnabod y garfan fach, sy'n cael ei harwain gan Syd Dennis, am y gwaith sy'n cael ei wneud gyda chysylltwyr cymunedol, drwy rwydwaith RhCT Gyda'n Gilydd, sy'n cefnogi trigolion yn ystod cyfnodau anodd. Roedd yr Arweinydd yn gobeithio y bydd yr economi yn gwella a bydd y sefyllfa o ran gwariant y cyhoedd yn newid, gan leihau'r galw am fanciau bwyd ymhlith trigolion, wrth iddyn nhw symud allan o dlodi.
Nid oedd unrhyw gwestiwn ategol.
8) Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Maohoub i Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan OBE:
"A wnaiff yr Arweinydd roi diweddariad ar yr hyn y mae'r Cyngor yn ei wneud i baratoi ar gyfer cynllun 20mya Llywodraeth Cymru?
Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan OBE:
Cadarnhaodd yr Arweinydd fod llawer o waith eisoes wedi ei wneud i gyflawni blaenoriaeth Llywodraeth Cymru. Yn 2021/22, cafodd £53,522.62 ei wario ar waith paratoadol ac yn 2022/23, cafodd £1.1miliwn pellach ei wario ar adolygu rheoliadau traffig a chynnal profion dylunio a chafodd y marciau cylchol 20mya eu tynnu i lawr mewn rhai ardaloedd. Mae gwaith gweithgynhyrchu 1,268 o arwyddion newydd wedi cael ei gomisiynu ac mae carfanau wedi'u trefnu i osod yr arwyddion newydd, ac mae'r broses o symud y pyrth arafu yn RhCT wedi dechrau. Rhoddodd yr Arweinydd wybod bod y Cyngor yn wynebu heriau mawr i gyflawni'r gwaith erbyn y terfyn amser, sef 1 Medi, ac mae'r cynllun yma'n cael ei blaenoriaethu dros gynlluniau eraill. Fodd bynnag, pwysleisiodd yr Arweinydd er nad oes unrhyw adnoddau pellach ar gael eleni ar gyfer ceisiadau gorchmynion rheoleiddio traffig sy'n cael eu cyflwyno gan Aelodau, bydd unrhyw geisiadau yn parhau i gael eu nodi a'u croesgyfeirio ag adroddiadau'r Heddlu am Ddamweiniau er mwyn nodi unrhyw faterion sydd angen sylw brys, gan nodi cynlluniau traffig sydd ddim yn rhai brys fel cynlluniau i'w hadolygu yn y dyfodol. Doedd dim cyfle i ofyn cwestiwn ategol gan fod yr amser ar gyfer gofyn cwestiynau wedi dod i ben.
(Nodwch: Datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Brencher fuddiant personol – “ Mae fy mab yn gweithio i gwmni Trafnidiaeth Cymru”)
|
Dogfennau ategol: