Derbyn adroddiad a chyflwyniad gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Rheng Flaen.
Cofnodion:
Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Rheng Flaen yr adroddiad (a ategwyd gan gyflwyniad Power Point) gyda'r diben o roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu'r Cyngor i liniaru'r perygl o lifogydd ers Storm Dennis, ynghyd â throsolwg o'r gwaith a wnaed i adnewyddu ac uwchraddio'r isadeiledd cyhoeddus yr effeithiwyd arno gan lifogydd. Dywedodd y Cyfarwyddwr fod yr adroddiad yn croesgyfeirio adroddiadau ac ymrwymiadau blaenorol yn dilyn y storm ac yn nodi rhaglen waith, sydd wedi'i chynnwys yn yr atodiadau i'r adroddiad, yn dilyn y stormydd ym mis Chwefror 2020 a adawodd dros 1,500 eiddo dan dd?r.
Dywedodd y Cyfarwyddwr fod y Cyngor wedi ymchwilio i'r llifogydd ac wedi llunio cyfanswm o bedwar ar bymtheg o Adroddiadau Adran 19. Cyfeiriodd at y gwaith sydd wedi'i wneud mewn ymateb i'r dinistr a achoswyd gan Storm Dennis yn 2020 a'r meysydd gwariant cyfalaf gyda grantiau ac ymrwymiadau gan Lywodraeth Cymru, ynghyd â bron i £3 miliwn o gyllid y Cyngor ei hun.
Eglurodd y Cyfarwyddwr fod y rhaglen gyfalaf pedair blynedd, a fydd yn dod i ben yn y flwyddyn ariannol hon, yn cynnwys cyfanswm o tua £84 miliwn, sy'n cynnwys £42 miliwn ar gyfer gwaith uwchraddio ac atgyweirio uniongyrchol, £20 miliwn ar gyfer gwaith diogelwch tomennydd glo, £14 miliwn yn ymwneud â rheoli perygl llifogydd a £4.75 miliwn ar gyfer priffyrdd a heolydd.
Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr at Atodiad A sy’n rhoi trosolwg o’r camau gweithredu a adroddwyd i’r Cabinet ym mis Rhagfyr 2020, yn benodol y rheiny sy'n ymwneud â Gwasanaethau Rheng Flaen, megis cynyddu ei gapasiti mewnol ar lefel weithredol a rheoli a chynnal y rhwydwaith o asedau draenio, gan ddatblygu, codi ymwybyddiaeth o ran llifogydd, a chamau gorfodi yn ogystal â datblygu strategaeth perygl llifogydd trwy gyfres o ymgynghoriadau, a fydd yn cael eu hystyried gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Cyngor a'r Cabinet.
Parhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Rheng Flaen â’i ddiweddariad ar yr isadeiledd a pheryglon llifogydd drwy gyfres o ddelweddau ar nifer o sleidiau Power Point o dan y penawdau canlynol, a oedd yn dangos faint o gynlluniau sydd ar y gweill ar draws y fwrdeistref sirol:
Ø Digwyddiadau Storm Chwefror 2020
Ø Safleoedd derbyn
Ø Cam 3A Draenio a Chlirio
Ø FAS - Lôn y Parc – Cyn-adeiladu/Ar ôl adeiladu
Ø FAS Teras Bronallt
Ø Treorci Rhan 1a – Heol Tyle Du
Ø FAS Teras y Waun
Ø Heol Cefnpennar – Leinin Cwlfer Mewnol
Ø Leinin a Chwlfer Newydd - Pentre
Ø Cilfach Heol Pentre
Ø Uwchraddiad Cwlfer Teras Tynycoed
Ø A4059 – Trawsgludiad Newtown
Ø Cwlfer newydd ar Ffordd y Rhigos
Ø Nant y Frwd – Stryd Allen, Aberpennar, Atgyweirio ac Uwchraddio Argyfwng
Ø Arllwysfa Teras Granville
Ø Basn malurion Teras Granville
Ø Teras Campbell - Cilfach
Ø Cwm-bach – Cilfach Heol y Gamlas
Ø Bryn Ifor - cilfach cwlfer
Ø Stryd Kingcraft - Cilfach
Ø Rhes Painter – Gwelliannau Cilfach
Ø Cwlfer y Dramffordd
Ø Gorsaf Bwmpio Glenboi
Ø Gwaith Strwythurol – Pont Castle Inn
Ø Trin Ymyl yr Afon - Castle Inn
Ø Heol Berw – (Pont Wen) Pontypridd
Ø Cam 2 Mur Afon Blaen-cwm
Ø Pont Droed Parc Ynysangharad
Ø Trwsio Ymyl Allfa Cwlfer Tyn-y-bryn
Ø Llwybr Cymunedol Ynys-hir
Ø Wal Afon Heol Pontypridd – Porth
Ø Wal Afon Stryd y Groes – Ynys-hir
Ø Pont Droed Maes-y-Ffynnon
Ø Arglawdd Heol Llwyncelyn
Ø Trwsio Ymyl yr Afon ger Pont Cwm Clydach
Ø Pont Nant Clydach – Ymyl Ynysybwl
Ø Stryd Siôn, Pontypridd
Ø Pont Tramffordd Pen-y-darren, Aberdâr
Ø Pont Parc Gelligaled, Ystrad
Ø Tirlithriad Mynydd Maerdy
Yn dilyn y cymhorthion gweledol, pwysleisiodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Rheng Flaen bwysigrwydd parhau â momentwm y gyfres o waith ar draws RhCT, gan mai'r awdurdod lleol sy'n cynrychioli'r risg uchaf o lifogydd d?r wyneb gyda'i dopograffeg a'i ddaearyddiaeth unigryw.
Yn dilyn trafodaeth fanwl ar raddfa’r gwaith sydd wedi’i wneud ac sy’n parhau i gael ei wneud ledled y fwrdeistref sirol, canmolodd yr Arweinydd Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Rheng Flaen a’r carfanau perthnasol (yn enwedig carfan y Pennaeth Rheoli Perygl Llifogydd a Phrosiectau Strategol) sydd wedi bod yn ymwneud yn helaeth â chyflwyno rhaglenni i fynd i’r afael ag effeithiau ffisegol Storm Dennis ar isadeiledd cyhoeddus a lliniaru perygl llifogydd.
Yn dilyn y drafodaeth, roedd yr Arweinydd, Arweinwyr/Dirprwyon y Grwpiau a’r Llywydd yn dymuno cofnodi eu diolch i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Rheng Flaen, Mr Roger Waters, a fyddai’n ymddeol yn fuan. Talwyd teyrnged i’w ymrwymiad, ei ymroddiad a’i waith caled yn ystod ei yrfa hir yn RhCT a dymunodd pob un ohonynt ymddeoliad hir a hapus iddo.
Dywedodd y Llywydd y gallai unrhyw gwestiynau sydd heb eu hateb gael eu cyfeirio at Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Rheng Flaen drwy fewnflwch Uned Busnes y Cyngor.
PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad a'r cyflwyniad.
Dogfennau ategol: