Agenda item

Derbyn cwestiynau'r Aelodau yn unol â Rheol 9.2 o Weithdrefn y Cyngor.

 

(Nodwch: Caniateir hyd at 20 munud ar gyfer cwestiynau.)

 

Cofnodion:

1.       Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol G. E. Williams i Arweinydd y Cyngor - Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan OBE:

 

“Cyn y gaeaf a’r paratoadau ar gyfer tywydd garw, a fydd cyfle i Aelodau ymgysylltu â swyddogion a dod i sesiynau briffio yngl?n â'r paratoadau?”

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan OBE:

 

Ymatebodd y Cynghorydd A. Morgan fod y Cyngor yn cynnal sesiwn briffio ar gyfer Aelodau Etholedig cyn cyfnod y gaeaf bob blwyddyn. Cynhaliwyd sesiwn y llynedd ym mis Tachwedd a bydd y sesiwn eleni yn cael ei chynnal yn gynharach, o bosibl ym mis Hydref. Dywedodd yr Arweinydd mai prif ffocws y sesiynau yma yw cyflwyno Cynllun Cynnal a Chadw'r Cyngor ar gyfer y Gaeaf. Mae hwn yn amlinellu manylion o ran pa gamau y mae’r Cyngor yn eu cymryd i baratoi ar gyfer tywydd garw dros fisoedd y gaeaf, rolau a chyfrifoldebau'r Aelodau a Swyddogion, sut i rannu gwybodaeth, y rhif cyswllt y tu allan i oriau, sut i gofnodi materion trwy'r ganolfan gyswllt a pha gymorth sydd ar gael i gymunedau, gwasanaethau'r Cyngor a staff.

Pwysleisiodd yr Arweinydd bwysigrwydd sicrhau cymaint o ymgysylltu a chyfranogiad gan Aelodau â phosibl – eglurodd fod y sesiwn yn un gwerth chweil ac anogodd yr holl Aelodau i gymryd rhan. Daeth yr Arweinydd i'r casgliad y byddai dyddiad yn cael ei gadarnhau a'i ddosbarthu drwy'r Gwasanaethau Democrataidd maes o law.

Cwestiwn Ategol gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol G. Williams:

 

“Ni allwn warantu na fydd Pentre’n gorlifo eto ond mae’r gwaith a wnaed i’r cwlfer a’r systemau draenio yn rhoi tawelwch meddwl y mae mawr ei angen i drigolion Pentre. Oes modd i'r Arweinydd roi rhagor o fanylion am yr opsiwn gwaith a ffafrir gan y Cyngor?”

 

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan OBE:

 

Dywedodd yr Arweinydd fod Pentre yn amlwg yn un o’r cymunedau a gafodd ei tharo galetaf yn ystod Storm Dennis, ac digwyddiadau tywydd garw dilynol, ac mae dros £1 miliwn wedi’i wario ar ddiogelu'r ardal hyd yma. Cadarnhaodd mai’r opsiwn a ffafrir yw agor chwlfer newydd drwy’r strydoedd. Er y byddai hynny’n tarfu ar drigolion (mater a gafodd ei gyfleu yn yr wybodaeth ymgynghori a ddosbarthwyd), byddai'r Cyngor hefyd yn lleddfu eu pryderon trwy sesiynau wyneb yn wyneb ac ar-lein gyda Swyddogion.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod y cynllun yn fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd mewn seilwaith lleol, a gyflwynir fesul cam. Mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid sylweddol ar gyfer y cynllun eleni.  Bydd y cynllun yn angenrheidiol yn wyneb newid hinsawdd ac yn diwallu'r angen i ddiogelu cartrefi a thrigolion. Dywedodd yr Arweinydd fod gwaith paratoi yn rhan allweddol o'r cynllun, a dyna pam fod hyfforddiant yn fater hanfodol i Aelodau.

 

 

  1. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. Cook BEM i Arweinydd y Cyngor - Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan OBE:

 

“Pa gymorth sydd ar gael i fanciau bwyd a chynlluniau lleol tebyg yn ystod y flwyddyn i ddod?”

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan OBE:

Dywedodd yr Arweinydd ei fod wedi cynnal cyfarfod allweddol yn ddiweddar i drafod pa gymorth pellach mae modd ei ddarparu i fanciau bwyd lleol a chlybiau bwyd/pantris, lle mae llawer o waith rhagorol yn cael ei wneud ledled y fwrdeistref sirol i gefnogi grwpiau o bobl h?n a theuluoedd. Mae amrywiaeth o grantiau ar gael, er enghraifft mae modd i grwpiau cymunedol wneud cais am grantiau bach o hyd at £500 (hyd at dair gwaith y flwyddyn) er mwyn defnyddio’r arian yn lleol.

Dywedodd yr Arweinydd fod disgwyl i gyfanswm gwerth ariannol y cymorth fod yn fwy na £160,000 a bydd y carfanau perthnasol yn gweithio i ryddhau’r cronfeydd hyn, megis y Gronfa Fwyd sydd werth £500, y mae modd i unrhyw sefydliad cymunedol wneud cais amdani - yn ogystal â chronfeydd cymunedol eraill sydd werth hyd at £1,000.

Roedd yr Arweinydd yn dymuno canmol yr holl grwpiau yn y gymuned sy'n gweithio'n galed i gefnogi teuluoedd a thrigolion trwy gyfnodau anodd. Pwysleisiodd fod y Cyngor unwaith eto'n edrych i ddarparu cefnogaeth uniongyrchol yn ystod y flwyddyn ariannol hon, gyda dyraniadau pellach yn cael eu gwneud yn y dyfodol.

Nid oedd unrhyw gwestiwn ategol.

  1. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. Emanuel i Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan OBE:

 

“A oes modd i'r Arweinydd wneud datganiad ar fuddsoddiad cyfalaf yn Rhondda Cynon Taf os gwelwch yn dda?”

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan OBE:

Dywedodd yr Arweinydd fod lefel y gwariant Cyfalaf yn fwy nag erioed, ac ar gyfer 2022/23, roedd yn dod i gyfanswm o £135 miliwn.  Fel cymhariaeth, yn 2015/16, roedd cyfanswm gwariant cyfalaf y Cyngor yn cyfateb i £66.9 miliwn. Mae'r rhaglen gyfalaf 3 blynedd newydd arfaethedig ar gyfer 2023/24 i 2025/26 yn cynrychioli cyfanswm buddsoddiad o £187 miliwn.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod y Cyngor yn derbyn symiau mawr o arian Cyfalaf drwy gydol y flwyddyn, yn ddiweddar wedi derbyn dros £5 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer materion teithio llesol (gyda manylion pellach yn cael eu cyhoeddi'n fuan). Mae cais pellach am fwy na £10 miliwn wedi'i gyflwyno ar gyfer gwaith sy'n gysylltiedig â'r tomennydd, yn ogystal â chais am grant gwerth £5 miliwn ar gyfer prosiectau lliniaru llifogydd. Ychwanegodd fod cyllid sylweddol ar gael ar gyfer ysgolion hefyd, naill ai ar gyfer cynlluniau wedi'u hariannu'n llawn neu ar sail model buddsoddi a rennir.

 

Eglurodd yr Arweinydd fod y rhaglen hefyd yn cynnwys buddsoddiadau penodol ychwanegol mewn meysydd sy'n cynnwys Priffyrdd, Strwythurau, Parciau, Mannau Chwarae ac Ardaloedd Chwaraeon Amlddefnydd, yn ogystal â meysydd buddsoddi eraill sy'n cyd-fynd â Chynllun Corfforaethol y Cyngor. Ychwanegodd fod y rhaglenni cyfalaf dros yr 8 mlynedd diwethaf wedi bod dros £100 miliwn y flwyddyn ar gyfartaledd – felly mae hyn yn dangos y lefel di-baid o fuddsoddi cyfalaf sydd wedi bod yn mynd rhagddo yn ein cymunedau, gan wella isadeiledd lleol, hybu gwariant lleol i’r economi a buddsoddi mewn costau cynnal a chadw yn y dyfodol lle mae’r gyllideb refeniw dan bwysau. Daeth yr Arweinydd i'r casgliad ei fod yn falch o'r ffordd y mae'r buddsoddiad cyfalaf yn mynd i'r afael â blaenoriaethau'r gwasanaethau.

 

Cwestiwn Ategol gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. Emanuel:

 

“Mae Parc Blaenrhondda wedi elwa ar fuddsoddiad yr oedd mawr ei angen. Oes modd i'r Arweinydd amlinellu pa fuddsoddiadau pellach fydd yn mynd rhagddynt yn y Parc lleol poblogaidd yma sy’n cael ei ddefnyddio’n aml ac sy’n boblogaidd iawn?”

 

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan OBE:

 

Dywedodd yr Arweinydd fod pob parc ledled y fwrdeistref sirol wedi cael ei asesu, ac eleni mae'r Cyngor yn bwriadu gwario £1 miliwn ar ei barciau. Eglurodd fod dealltwriaeth wirioneddol o ran beth yn union sydd ei angen, ac mae'r arian yn cael ei rannu rhwng y gwahanol gategorïau, megis isadeiledd (fel llwybrau troed, draeniau, ffensys), y pafiliynau (ystafelloedd newid). Ychwanegodd yr Arweinydd fod cynnal a chadw'r pafiliynau yn gostus felly dim ond nifer benodol sy'n cael eu hadnewyddu bob blwyddyn. Mae rhaglen arall yn ymwneud â draenio ar leiniau a bellach mae gwaith yn mynd rhagddo ar naw llain ledled y fwrdeistref sirol bob blwyddyn.

 

Daeth yr Arweinydd i'r casgliad y byddai'r Cyngor yn parhau i fuddsoddi yn y maes yma.

 

  1. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol W. Hughes i Ddirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M.Webber:

 

“A oes modd i'r Dirprwy Arweinydd roi’r wybodaeth ddiweddaraf am brentisiaethau a rhaglen raddedigion y Cyngor?”

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol M. Webber:

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd fod y broses recriwtio Prentisiaethau a Graddedigion ar gyfer dechrau ym mis Medi 2023 newydd ddod i ben. Cadarnhaodd fod y Cyngor wedi derbyn ychydig dros 700 o geisiadau am 9 swydd Raddedig a 49 o gyfleoedd Prentisiaeth, sy’n dangos bod y Cyngor yn parhau i fod yn gyflogwr deniadol. Mae trigolion yn amlwg yn ein hystyried yn sefydliad da ar gyfer datblygu eu gyrfaoedd.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd y bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal dros y ddau fis nesaf, gyda disgwyl i'r staff newydd ddechrau ar 4 Medi 2023. Ychwanegodd mai ymrwymiad y Weinyddiaeth yma yw darparu 150 o swyddi pellach i brentisiaid a graddedigion yn ystod tymor y Cyngor yma. Mae'r nifer a dderbynnir eleni yn adeiladu ar y gwaith rhagorol a wnaed eisoes dros y blynyddoedd i ddarparu swyddi o ansawdd da, sy'n talu'n dda i'n trigolion.

 

Eglurodd y Dirprwy Arweinydd fod ymrwymiad yn nhymor diwethaf y Cyngor i greu 150 o swyddi i brentisiaid a graddedigion. Rhwng 2018 a 2022, crëwyd cyfanswm o 256 o swyddi o fewn yr Awdurdod, sy’n golygu bod y Cyngor wedi rhagori ar ei ymrwymiad. At hynny, ers 2012 pan ddechreuodd y cynllun, mae cyfanswm o 324 o brentisiaethau a 125 o swyddi i raddedigion wedi’u creu.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd fod Rhaglen Brentisiaethau’r Cyngor yn cael ei pharchu’n eang ac wedi’i chydnabod am y cyfleoedd rhagorol y mae’n eu darparu. Cafodd y Cyngor ei goroni’n Facro Gyflogwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru yn 2018 a 2021. Mae'r Cyngor ar hyn o bryd yn cefnogi Trivallis gyda'i gynllun prentisiaeth ac wedi cefnogi Cynghorau Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr yn y gorffennol.

 

I gloi, dywedodd y Dirprwy Arweinydd fod Swyddogion y Cyngor wedi mynychu nifer o gyfarfodydd a chynadleddau i siarad am y rhaglen brentisiaeth ac roedd yn falch o gadarnhau bod cynllun Prentisiaeth RhCT yn cael ei adnabod fel rhaglen flaenllaw yng Nghymru.

 

Nid oedd unrhyw gwestiwn ategol.

5.             Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol S.Powderhill i'r Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Crimmings:

 

“A oes modd i'r Aelod o'r Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith i wella Parc Coffa Ynysangharad?”

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Crimmings:

 

Eglurodd y Cynghorydd Crimmings fod gwaith ar y rownd ddiweddaraf o welliannau mawr i Barc Coffa Ynysangharad wedi mynd rhagddo’n dda, ac y bydd yn cael ei gwblhau’n fuan. Mae’r gwaith yn cael ei gefnogi gan becyn buddsoddi sylweddol o £1.9 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, cronfa Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, a chyfraniadau'r Cyngor. Ychwanegodd fod y gwaith o adeiladu canolfan newydd Calon Taf ar fin cael ei gwblhau, gyda dim ond ambell ddarn o waith gorffenedig i'w wneud. Y nod yw agor y Ganolfan yn ei chyfanrwydd ym mis Gorffennaf.

Dywedodd y Cynghorydd Crimmings y bydd y Ganolfan yn darparu gofod dosbarth pwrpasol, gardd awyr agored gyda gwelyau blodau uchel, a th? gwydr. Y bwriad yw y bydd yn ganolbwynt cymunedol a fydd yn annog trigolion i ddysgu ac ymgysylltu gyda'i gilydd. Ychwanegodd fod yr hen floc toiledau segur yn cael ei adfer a'i drawsnewid yn gyfleuster lles i staff gwasanaeth y Parciau, a bod y gwaith bron wedi'i gwblhau, gyda'r Contractwr ar hyn o bryd yn rendro tu allan yr adeilad.  Mae staff y Parciau wedi symud eu holl offer i'r cyfleuster newydd.

Dywedodd y Cynghorydd Crimmings fod y Safle Seindorf a'r ardal gyfagos wedi'u hadnewyddu'n llawn, a bod gwaith plannu yn mynd rhagddo ar hyn o bryd.  Mae'r dyluniad llinell amser ar gyfer llawr y Safle Seindorf bron wedi'i orffen, a bydd y nodwedd hon yn cael ei chwblhau dros yr ychydig wythnosau nesaf. Ychwanegodd fod gwaith yn parhau ar adfer ardal yr Ardd Isel - mae'r waliau perimedr a'r gwaith atgyweirio llwybrau troed bron wedi'u cwblhau, ac mae'r meinciau newydd hefyd wedi cyrraedd.  Disgwylir i'r gwaith plannu ddechrau'n fuan.

Dywedodd y Cynghorydd Crimmings wrth yr Aelodau fod y Cydlynydd Prosiect yn hwyluso cyflwyno cyrsiau a gweithgareddau yn y parc a hefyd yn paratoi ar gyfer cynllunio a gweithredu prosiect canmlwyddiant y Parc. Mae disgwyl i hwn gael ei gynnal ddydd Sul, 6 Awst, ar y cyd ag achlysur Cegaid o Fwyd Cymru. Bydd y dathliad canmlwyddiant yn cynnwys cerddoriaeth fyw o'r safle seindorf, teithiau cerdded hanesyddol, a gweithgareddau cyfeillgar i'r teulu oll.  Mae’n argoeli i fod yn achlysur cyffrous i’r gymuned i nodi canmlwyddiant y Parc.

Nid oedd unrhyw gwestiwn ategol.

6.       Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol R. Williams i Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan OBE:

 

“Yng ngoleuni’r diffyg cyllid sy’n wynebu cynghorau ledled Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf, a all yr Arweinydd roi’r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau gydag Arweinwyr Cynghorau eraill a Llywodraeth Cymru?”

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan OBE:

 

Dywedodd yr Arweinydd fod trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru ac Arweinwyr Cynghorau yn cael eu cynnal yn wythnosol, lle mae'r Arweinwyr yn parhau i alw am fuddsoddiad pellach a mwy o ddyraniadau gan Lywodraeth Cymru. Ychwanegodd fod y rhagolygon ariannu ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus dros y tair blynedd nesaf yn ymddangos yn anodd, ac yn seiliedig ar yr adolygiad cynhwysfawr o wariant tair blynedd a gynhaliwyd gan Lywodraeth y DU, mae'r awdurdod lleol ar hyn o bryd yn edrych i gael codiad o 3.1%. Byddai hyn yn gadael y Cyngor yn brin o arian ar gyfer cynnal gwasanaethau y flwyddyn nesaf.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod y darlun yn debyg ledled Cymru gyda llawer o awdurdodau lleol yn adrodd am sefyllfa waeth nag yn RhCT. Mae'r Cyngor wedi llwyddo i fantoli ei gyllideb eleni drwy flaenoriaethu'n briodol ar gyfer Ysgolion a Gofal Cymdeithasol a gwneud penderfyniadau anodd. Ychwanegodd fod pwysau ar wasanaethau o ganlyniad i'r cynnydd pellach posib mewn cyfraddau llog a fydd yn effeithio ar fenthyca a marchnadoedd. Dywedodd yr Arweinydd fod cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal gyda'r gweinidog cyllid i drafod y rhagolygon.

 

Siaradodd yr Arweinydd am yr amwysedd ynghylch sut y bydd Llywodraeth y DU yn talu am ddyfarniad cyflog y GIG yn Lloegr a sut y bydd y diffyg eglurder yn effeithio ar y swm canlyniadol i Gymru. Ychwanegodd nad yw hyn yn ffordd o redeg gwasanaethau cyhoeddus a'i fod yn gobeithio y bydd y blynyddoedd nesaf yn gwella, ond sicrhaodd y Cyngor y bydd yn parhau i lobïo Llywodraeth San Steffan. Cyfeiriodd at werth pob awdurdod lleol a dywedodd ei fod yn gobeithio am newid gan na all gwasanaethau cyhoeddus weithredu’n effeithiol heb arian digonol.

 

Nid oedd unrhyw gwestiwn ategol oherwydd bod yr amser a neilltuwyd wedi dod i ben.

 

Dogfennau ategol: