Agenda item

Cofnodion:

Cafodd y cyhoeddiadau canlynol eu gwneud:

 

Ø  Talodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd A Morgan OBE, y deyrnged ganlynol i'r diweddar Tyrone O'Sullivan OBE a fu farw ar 27 Mai, yn 77 mlwydd oed. Ganed Tyrone i deulu glofaol yn Abercwmboi, ac roedd yn ymwybodol iawn o beryglon y pyllau, gan iddo golli'i hen dad-cu yn y Maerdy, a'i dad yng nglofa'r T?r pan oedd Tyrone ddim ond yn 17 oed. Er gwaethaf hyn, cafodd Tyrone swydd trydanwr dan hyfforddiant yn y pwll glo, a chyn bo hir daeth yn ffigur blaenllaw yn y mudiad Undebau. Daeth yn enwog am beidio â cholli'r un bleidlais dros weithredu diwydiannol mewn 22 mlynedd pan oedd yn Ysgrifennydd Cangen tanddaearol mudiad NUM. Chwaraeodd ran flaenllaw yn streic 1984-85, gan drefnu protestiadau yng Nghymru, de Lloegr, Essex, a de Swydd Efrog. Ei gamp fwyaf adnabyddus oedd perswadio'i gydweithwyr yng nglofa'r T?r i ymrwymo £8,000 yr un o’u harian diswyddo er mwyn casglu blaendal gwerth £1 miliwn i gymryd y safle drosodd. Ychwanegodd yr Arweinydd fod llawer yn cofio gweld y 239 o lowyr yn gorymdeithio yn ôl i'r gwaith ym mis Ionawr 1995 – flwyddyn ar ôl i'r pwll glo gau - yn dilyn y pryniant llwyddiannus. Arhosodd y T?r ar agor am 13 mlynedd arall, a heddiw mae atyniad Zip World poblogaidd ar y safle. Soniodd yr Arweinydd am ei atgofion gyda Tyrone yn ystod taith i Ogledd Cymru ac, ar ran yr Awdurdod Lleol, dymunodd gydymdeimlo ag Elaine, gwraig Tyrone, a'r teulu.

ØYchwanegodd y Cynghorydd A O Rogers, y mae ei ward yn cynnwys safle Glofa’r T?r, deyrnged i’r diweddar Tyrone O’Sullivan OBE hefyd. Cyfeiriodd at y teyrngedau a'r sylwadau caredig niferus sydd wedi dod i law yn ystod yr wythnosau diwethaf. Ychwanegodd y byddai llawer yn cytuno y byddai'n cael ei gofio am ei arweiniad a'i waith o ran brwydro i gadw glofa'r T?r ar agor a helpu'r glowyr i brynu'r pwll yn llwyddiannus. Siaradodd y Cynghorydd Rogers am weledigaeth Tyrone o ran rhoi cyfleoedd i bobl ifainc ar gyfer y dyfodol a'u helpu i adeiladu a datblygu'r cymunedau glofaol drwy brosiectau megis Zip World, sy'n cyflogi nifer o drigolion lleol.

 

Ø  Roedd y Cynghorydd R Lewis yn dymuno llongyfarch Clwb Rygbi Abercynon ar dymor llwyddiannus o rygbi ar ôl i'r tîm yn gael ei goroni'n bencampwr Adran 2 Canolbarth y Dwyrain a sicrhau dyrchafiad. Mae'r holl dîm, ei staff a gwirfoddolwyr yn destun balchder i'r gymuned gyfan. Ar ran y Cynghorydd Dennis, dymunodd y Cynghorydd Lewis yn dda i'r tîm ar gyfer y tymor nesaf.

 

Ø  Ar ran y Cynghorydd W Jones, llongyfarchodd y Cynghorydd S Emanuel Maggie Davies o Flaenrhondda a redodd marathon Llundain er cof am ei diweddar ?r Paul. Mae hi wedi codi dros £4000 i elusen dementia Brain Bank.

 

Ø  Fe wnaeth y Cynghorydd Ros Davislongyfarch Mr David Ferns, sy'n byw yn y Porth. Cwblhaodd Farathon Llundain ar 23 Ebrill, mewn 3 awr a 40 munud, gan godi mwy na £600 i Tommy's, elusen sy'n ariannu ymchwil i gamesgoriad, genedigaeth farw a genedigaeth gynamserol. Roedd yn gyflawniad personol eithriadol i David ac yn newyddion gwych i’r elusen.

 

Ø    Roedd y Cynghorydd K Johnson yn dymuno llongyfarch trigolyn ifanc o Lanilltud Faerdref, Coral Brush-Davies, sydd wedi’i gwahodd i fod yn aelod o Dîm Prydain Fawr i gystadlu fel amatur unigol yng Nghwpan y Byd Dawns Elitaidd 2023, Tsieina. Coral fydd y dawnsiwr unigol cyntaf o fewn ei gr?p oedran i dderbyn gwahoddiad i fod yn rhan o garfan Prydain Fawr, a hi fydd yr unig gystadleuydd o Gymru. Bydd hi'n cynrychioli cymuned Efail Isaf a Dance Crazy Studios yn Llanilltud Faerdref, lle cafodd ei doniau eu meithrin. Gofynnodd y Cynghorydd Johnson i'r maer anfon llythyr i longyfarch Coral ar ei chyflawniad a gofynnodd am ganiatâd y Llywydd i rannu manylion ei thudalen Just Giving â'r holl Aelodau yn dilyn y cyfarfod.

 

Ø    Llongyfarchodd y Cynghorydd Sheryl Evans Clwb Rygbi Abercwmboi ar ei ddyrchafiad diweddar i Adran 1 o Gynghrair Canolbarth Dwyrain Undeb Rygbi Cymru. Dyma gamp haeddiannol i’r tîm cyfan, gan gynnwys chwaraewyr, hyfforddwyr a phawb sy’n ymwneud â’r Clwb. Dymunodd y Cynghorydd Evans bob lwc i'r Clwb ar gyfer y tymor nesaf.

 

Ø    Roedd y Cynghorydd A S Foxyn dymuno talu teyrnged i drigolyn ifanc arbennig o Benrhiwceibr sy'n mynychu Ysgol Gynradd Penrhiwceibr. Ganed Oliver Wilson gyda pharlys yr ymennydd 11 mlynedd yn ôl ac mae'n ymgymryd â phob her gyda gwên ar ei wyneb. Cymerodd ran mewn treialon ar gyfer tîm parlys yr ymennydd Lloegr ac mae bellach wedi cael cynnig lle ar y tîm mawreddog hwn. Roedd y Cynghorydd Fox yn sicr y byddai pob Aelod yn hoffi ymuno ag ef i ddymuno pob llwyddiant i Oliver ar gyfer y dyfodol.

 

Ø  Roedd y Cynghorwyr G O Jones ac E Dunning yn dymuno cyflwyno deiseb ar ran trigolion yn galw ar fesurau arafu traffig yn Heol Bronllwyn a'r strydoedd cyfagos yn y Gelli.