Agenda item

Trafod adroddiad ar y cyd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.

 

 

Cofnodion:

Ethol Dau Ddirprwy Lywydd y Cyngor

 

PENDERFYNWYD – ethol Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol Sheryl Evans i fod yn Ddirprwy Lywydd cyntaf ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2023/24.

 

PENDERFYNWYD – ethol Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol Barry Stephens yn ail Ddirprwy Lywydd ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2023/24.

 

 

Derbyn anerchiad gan Faer y Cyngor ar gyfer 2022-2023.

 

Nododd y Maer diweddaraf, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Treeby, fod y flwyddyn ddiwethaf fel Maer wedi bod yn fraint iddi. Rhoddodd ddiolch i drigolion, cymunedau a swyddogion oedd wedi ei chefnogi hi a'i helusennau. Ei phrif uchafbwyntiau'r flwyddyn oedd ymgysylltu â disgyblion ysgolion ledled RhCT a chwrdd â Chyn-filwyr RhCT.

 

Dywedodd y Cynghorydd Treeby ei bod wedi sicrhau dau grant gwerth £24k ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru a'r Gymdeithas Strôc, a rhoddodd ddiolch i bawb a oedd wedi ei helpu i wneud hyn. Dymunodd yn dda i'r Maer newydd ar gyfer y dyfodol.

 

Wrth ymateb i hyn, talodd Aelodau deyrnged i'r Maer sy'n ymddeol am ei holl waith ac ymdrechion caled yn ystod ei chyfnod yn y rôl.

 

Ethol Maer Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2023-2024.

 

PENDERFYNWYD - ethol Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Lewis yn Faer Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2023-2024.

 

Dywedodd Maer Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2023-2024 fod cael ei hethol yn Faer Rhondda Cynon Taf yn anrhydedd enfawr. Talodd deyrnged i'r Maer diweddaraf, y Cynghorydd Treeby, am ei gwaith caled ac ymrwymiad i'r rôl.

 

Cyhoeddodd y Cynghorydd Lewis mai Mr Christopher Lewis a Dilys Jouvenat fyddai ei chydweddogion yn ystod ei chyfnod fel Maer RhCT. Yr elusennau y mae wedi'u dewis yw Brain Tumour Research, Natasha Allergy Research Foundation, SANDS (Cymdeithas Marw-enedigaethau a Marwolaethau Newyddanedigion) a Hope Rescue, yn ogystal â chefnogi'r Eisteddfod Genedlaethol sydd ar ddod a'r Lluoedd Arfog.

 

Edrychodd y Cynghorydd Lewis ymlaen at weithio'n agos gyda'r Dirprwy Faer.

 

Dymunodd y Llywydd ac Arweinwyr y Grwpiau/Dirprwy Arweinwyr y Grwpiau yn dda i'r Maer newydd ar gyfer y flwyddyn nesaf.

 

Penodi Dirprwy Faer Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2023 - 2024.

 

PENDERFYNWYD - ethol Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D Owen-Jones yn Ddirprwy Faer Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2023-2024.

 

Llongyfarchodd y Dirprwy Faer y Maer newydd, yn ogystal â diolch am yr anrhydedd o gael ei ethol yn Ddirprwy Faer ar gyfer 2023-24.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Owen-Jones ei gydweddog sef ei ferch, Abbey Louise Owen-Jones.

 

Penodi Arweinydd y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD – penodi Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan OBE yn Arweinydd y Cyngor ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2023/2024.

 

Rhoddodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan OBE ddiolch am gael ei ailbenodi'n Arweinydd y Cyngor. Nododd ei fod wedi bod yn Arweinydd Cyngor RhCT ers 2014 ac mae ei ailbenodiad yn golygu mai dyma'r cyfnod hiraf gan Arweinydd y Fwrdeistref Sirol. Aeth ati i gydnabod yr anrhydedd o gael ei ethol yn Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ers 2019.

 

Talodd yr Arweinydd deyrnged i staff y Cyngor sydd wedi gweithio'n ddiflino trwy nifer o heriau diweddar i gefnogi cymunedau RhCT. Siaradodd am y cymorth mae'n ei dderbyn gan y Gr?p Llafur, yn ogystal â chymorth gan uwch swyddogion sy'n gweithio'n galed i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon sy'n cael eu codi ac i gyflawni'r buddsoddiad wedi'i dargedu a gafodd ei bennu ochr yn ochr â Chynllun Corfforaethol y Cyngor. Roedd yr Arweinydd wedi gobeithio y byddai'r buddsoddiad cyfalaf uwch a phrosiectau ledled cymunedau RhCT yn parhau i wneud gwahaniaeth er budd trigolion a chymunedau RhCT. Aeth ati i gydnabod y cyfnod heriol sydd o'n blaenau ni ond ychwanegodd y byddai'n mynd i'r afael â'r heriau gyda chymorth pob Aelod, gan gynnwys cymorth pob gr?p gwleidyddol. Siaradodd am yr ymdrechion i gadw'r cynnydd yn Nhreth y Cyngor mor isel â phosibl a dyma rywbeth y mae'r Cyngor wedi'i gyflawni am saith allan o'r naw mlynedd diwethaf.

 

I gloi, talodd yr Arweinydd deyrnged arbennig i'w Ddirprwy Arweinydd, y Cynghorydd M Webber, sydd wedi rhoi cymorth iddo drwy gydol y cyfnod yma, a rhoddodd ddiolch i bob Aelod y Cyngor.

 

Cadarnhau bod Arweinydd yr Wrthblaid fwyaf yn cael ei benodi'n Arweinydd yr Wrthblaid.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau penodiad Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol K Morgan yn Arweinydd yr Wrthblaid.

 

Llongyfarchodd Arweinwyr y Grwpiau eraill Arweinydd y Cyngor ac Arweinydd yr Wrthblaid.

 

Dogfennau ategol: