Agenda item

Yn unol â Rheol 13 o Reolau Gweithdrefn y Cyngor

(Rhan 4 o Gyfansoddiad y Cyngor), cynnal 

dadl yr Arweinydd.

 

Cofnodion:

 

Yn unol â Rheol Gweithdrefn 13.2 y Cyngor, nododd y Llywydd ei fod wedi neilltuo 45 munud ar gyfer yr eitem yma, ac yr hoffai wahodd yr Arweinydd i gyfarch y Cyngor ac ymateb i sylwadau Aelodau ar ei Adroddiad Blynyddol.

 

Rhoddodd yr Arweinydd wybod bod ei grynodeb blynyddol yn cael ei roi i'r Cyngor llawn bob blwyddyn a'i fod yn amlinellu'r hyn y mae'r Cyngor wedi'i gyflawni dros y flwyddyn diwethaf ac yn nodi'r hyn y mae eisiau ei gyflawni yn y dyfodol.

 

Siaradodd Arweinydd y Cyngor am drafodaeth y llynedd a oedd yn seiliedig ar gyd-destun adfer yn dilyn y pandemig. Mae'r Cyngor bellach yn wynebu cyni eto gyda'r argyfwng costau byw a'i heriau ar gyfer trigolion a chymunedau, a'r sector cyhoeddus. Cyfeiriodd at y pwysau ar y gyllideb, yn benodol ar ofal cymdeithasol, costau ynni, chwyddiant a phwysau cyflogau.

Cyfeiriodd yr Arweinydd at flaenoriaeth barhaus y Cyngor, sef y newid yn yr hinsawdd, wrth iddo barhau i gymryd camau gweithredu i gyflawni'r nod o fod yn Gyngor Niwtral o ran Carbon erbyn 2030.  Nododd fod y Cyngor yn gwneud cynnydd da a'i fod yn parhau i brynu 100% o'i gyflenwad ynni trydanol trwy ffynonellau adnewyddadwy yn y DU. Ychwanegodd, er gwaethaf heriau, fod y Cyngor yn dal i weld lefelau sylweddol o fuddsoddiad wrth iddo gyflawni ymrwymiadau'r maniffesto.

Rhoddodd yr Arweinydd ddiolch i holl staff y Cyngor sy'n parhau i gyflawni gwasanaethau bob dydd.

COSTAU BYW

Rhoddodd yr Arweinydd wybod bod y Cyngor yn parhau i roi cymorth i drigolion mewn angen yn y saith Canolfan Cydnerthedd y Gymuned, a gafodd eu sefydlu ar ddechrau'r pandemig gyda chymorth partneriaid. Mae dros 500 o drigolion wedi cael cymorth rhwng 31 Ionawr 2022 a 1 Chwefror 2023. Hefyd, mae cynnydd sylweddol o 62% wedi bod yn nifer yr atgyfeiriadau mewn perthynas â chymorth siopa a bwyd brys a rhoi gwybodaeth am arian a budd-daliadau. Ychwanegodd fod y Cyngor wedi rhoi talebau bwyd gwerth miloedd o bunnoedd i deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd. Mae'r Cyngor yn parhau i gefnogi banciau bwyd a chynlluniau bwyd lleol gyda grantiau gwerth rhwng £500 a £1,500 ar gael, ac mae 35 o brosiectau wedi cael eu hariannu ers mis Ebrill 2022. Aeth yr Arweinydd ati i gydnabod bod pedwar prif fanc bwyd Trussell ledled y Fwrdeistref Sirol wedi cael cyllid gwerth £70k a nwyddau gwerth £10k trwy broses gaffael y Cyngor ers mis Ebrill 2022.

Rhoddodd yr Arweinydd wybod bod gan y Cyngor 80 o Ganolfannau Croeso wedi'u gwirio, yn ogystal â llyfrgelloedd, sydd wedi'u sefydlu fel 'canolfannau clyd' i gefnogi unigolion. Hyd yn hyn, mae 56 o geisiadau am Gronfa Caledi y Gaeaf wedi cael eu cymeradwyo ac mae £82,688 wedi cael ei dalu.

GOFAL CYMDEITHASOL I OEDOLION

Nododd yr Arweinydd fod 2022 wedi bod yn flwyddyn heriol arall, gyda gofal cymdeithasol o dan bwysau mawr yn gyffredinol. Er gwaethaf hyn, mae'r Cyngor a'i staff rheng flaen wedi parhau i ofalu a chefnogi'r miloedd o bobl i'r safon orau bosibl. Mae Cyngor RhCT a Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn arwain y ffordd o ran rhai mentrau, megis gwasanaethau Cadw'n Iach Gartref sydd wedi ennill gwobrau. Mae hyn wedi helpu i osgoi achosion o gleifion mewnol yn cael eu derbyn i'r ysbyty neu wedi helpu trwy gynnig cymorth i gleifion sy'n cael eu rhyddhau o'r ysbyty. Y canolbwynt a'r nod o hyd yw hyrwyddo annibyniaeth a rhoi cymorth i drigolion i fyw yn eu cartrefi eu hunain am gyhyd ag y bo modd.

Rhoddodd yr Arweinydd wybod bod y Cyngor yn darparu 15,000 o oriau o ofal a chymorth bob wythnos i dros 1,300 o deuluoedd. Ym mis Chwefror, cytunodd y Cabinet ar fuddsoddiad cyfalaf  rhagamcanol gwerth £60 miliwn ym 4 cartref gofal ychwanegol a gofal preswyl i barhau i foderneiddio gwasanaethau gofal preswyl a diwallu anghenion pobl sy'n newid yn barhaus.  Yn ogystal â chadw 5 cartref gofal y Cyngor. Hefyd, mae buddsoddiad parhaus gwerth £30 miliwn wedi bod yn y rhaglen datblygu llety Gofal Ychwanegol ac mae tri chynllun yn cynnig 140 o welyau ar hyn o bryd. Amlinellodd yr Arweinydd fuddion llety Gofal Ychwanegol ar gyfer cyplau ag anghenion gwahanol.

GWASANAETHAU I BLANT

Cyfeiriodd yr Arweinydd at y maes yma sydd hefyd o dan bwysau mawr. Mae'r gwasanaeth wedi derbyn 25,412 o geisiadau i ymateb i anghenion lles teuluoedd yn ystod y flwyddyn diwethaf. Tynnodd sylw at waith a'r galw am y Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth sy'n parhau i ddelio â galw cynyddol. Mae nifer y bobl sy'n ymgysylltu â'r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid hefyd yn parhau i gynyddu, gyda chynnydd o 410% yn 2021-2022, o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Rhoddodd yr Arweinydd wybod bod y Cyngor wedi parhau â'i addewid i ddarparu'r cerbydau sy'n boblogaidd ymhlith pobl ifainc fel lle diogel i ymgysylltu â'r rheiny sy'n wynebu'r risg fwyaf.

MANNAU CHWARAE

Rhoddodd yr Arweinydd wybod bod y Cyngor yn parhau â'i addewid i wella pob man chwarae. Mae 13 o fannau chwarae wedi'u cwblhau yn 2022/23 er gwaethaf yr anawsterau o ran recriwtio contractwyr. Mae £200k arall wedi'i ddyrannu ar gyfer 2 Ardal Gemau Aml-ddefnydd arall yn y flwyddyn ariannol newydd.

HAMDDEN

Nododd yr Arweinydd fod y Cyngor wedi parhau i fuddsoddi mewn Gwasanaethau Hamdden, ac ychwanegodd fod gan RCT un o'r arlwyon hamdden mewnol gorau yng Nghymru. Dydy'r Cyngor ddim wedi trefnu contract gyda chyflenwr allanol, ac mae'n parhau i fuddsoddi mewn cyfleusterau trwy wrando ar staff ac ymateb i anghenion trigolion. Mae'r Cyngor wedi rhagori ar nifer yr aelodau hamdden cyn y pandemig, sef dros 10,300 o aelodau. Mae'r Cyngor wedi darparu ei 14eg cae 3G yng Nghaeau Baglan (mis Hydref) a bydd gwaith ar gae 3G Parc y Darren yn dechrau'n fuan. Ychwanegodd yr Arweinydd fod y Cyngor wedi cyflawni ei ymrwymiad i ddarparu cyfleuster 3G o fewn 3 milltir i bob aelwyd yn RhCT.

NEWID YN YR HINSAWDD

Cyfeiriodd yr Arweinydd at Fioamrywiaeth/Mawndiroedd y Cyngor a sut mae'n parhau i gynyddu nifer y safleoedd ar gyfer bioamrywiaeth (tiroedd cyffredin a ffyrdd osgoi lle mae blodau gwyllt). 

 

Amlinellodd yr Arweinydd rai cynlluniau penodol, megis:

Cymorth Ynni

Mae'r Cyngor wedi cefnogi dros 60 o grantiau gwresogi sydd wedi'u cwblhau hyd yn hyn yn 2023, gyda 200 o geisiadau eraill sydd wedi dod i law.

Cynlluniau Arloesol

Cafodd Ffynnon Dwym Ffynnon Taf ei chwblhau yn yr hydref. Dyma'r unig un yng Nghymru, ac mae'n un o bedair ffynnon dwym yn y DU. Mae bellach yn darparu gwres carbon isel i'r pafiliwn ac Ysgol Gynradd Ffynnon Taf.

Mae cymeradwyaeth wedi'i cheisio i gynnal rhagor o astudiaethau dichonoldeb ar gyfer cynlluniau trydan d?r posibl yn Nghored Trefforest a Pharc Gwledig Cwm Dâr.

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i leihau ei ôl troed ers 2009 ac mae wedi gwario dros £10.5 miliwn ar brosiectau arbed ynni. Mae hyn wedi arwain at arbedion gwerth dros £2.3 miliwn y flwyddyn ar gyfer ysgolion, cartrefi gofal, canolfannau hamdden ac adeiladau corfforaethol, a gostyngiad o bron i 6,000 o dunelli mewn allyriadau.

 

 

Trafnidiaeth

Cyflwynodd y Cyngor Strategaeth Wefru Cerbydau Trydan ac mae wedi cyflwyno isadeiledd mewn nifer o feysydd parcio’r Cyngor, gyda chyfnod cyflwyno pellach yn y dyfodol agos yn sgil cyllid rhanbarthol a phellach gan Lywodraeth Cymru i weithredu nifer o wefrwyr cyflym at ddefnydd ein trigolion.

PRIFFYRDD A TRAFNIDIAETH

Tomenni Glo, Rheoli Perygl Llifogydd, Draenio/Lliniaru Llifogydd

Cyfeiriodd yr Arweinydd at fuddsoddiad enfawr mewn rheoli perygl llifogydd ac atgyweiriadau oherwydd difrod stormydd, gyda £20 miliwn wedi’i fuddsoddi mewn atgyweirio difrod ar bontydd fel y Bont Wen a Phont y Castle Inn, gyda chynigion am fuddsoddiad llifogydd pellach i uwchraddio ceuffosydd a sicrhau bod y fwrdeistref sirol wedi'i diogelu cymaint â phosibl. Ychwanegodd fod Safleoedd Derbynnydd Cam 2 a 3 Tomen Tylorstown ar y cam Cynllunio ar gyfer defnydd parhaol, tra bod contract Cam 4 wedi'i ddyfarnu a pharatoadau ar y gweill i'r gwaith ddechrau yn y gwanwyn.

Rhaglen Gyfalaf ac Isadeiledd

Dywedodd yr Arweinydd fod y rhaglen gyfalaf yn RhCT wedi bod yn sylweddol, gan fwrw £172 miliwn, ffigur uchaf erioed i'r Cyngor - cynhaliwyd adolygiad o'i gronfeydd wrth gefn a thanwariant i dynnu unrhyw arian ychwanegol i mewn.

Prosiectau Mawr a'r Metro

Cyfeiriodd yr Arweinydd at gefnogaeth y Cyngor i welliannau’r Metro. Mae prosiect yr A4119 ar y gweill gyda’r contract wedi’i ddyfarnu, ac mae gwaith yn mynd rhagddo’n dda ar y safle tuag at gwblhau'r datblygiad yn haf 2024.

Prosiectau Strategol

Dywedodd yr Arweinydd fod hen adeiladau M&S a Dorothy Perkins/Burton's yn nhref Pontypridd wedi'u caffael a bod cyllid gan Lywodraeth Cymru wedi'i sicrhau i wneud y gwaith dymchwel. Mae ailddatblygiad y Miwni yng nghamau olaf y gwaith dylunio manwl ac mae trafodaethau ar y gweill gyda'r contractwr a ffafrir i alluogi'r gwaith i ddechrau ar y safle erbyn yr haf. Dywedodd fod y gwaith ar adeilad yr YMCA hefyd ar fin cael ei gwblhau yn fuan.

ADDYSG

Arolygiadau

Dywedodd yr Arweinydd y bu 13 o arolygiadau craidd rhwng mis Mawrth a mis Rhagfyr 2022 ac nid oedd angen unrhyw arolygiad dilynol ar 84.6% o ysgolion.  Yn seiliedig ar adroddiadau cyhoeddedig, mae un ysgol mewn Mesurau Arbennig ac un ysgol yn cael ei monitro gan Estyn. Diolchodd yr Arweinydd i holl staff yr ysgol am eu hymdrechion a’u cefnogaeth barhaus i’r holl bobl ifainc yn dilyn y pandemig.

Canlyniadau Arholiadau

Amlygodd yr Arweinydd y canlyniadau a ganlyn:

Dangosodd canlyniadau Cyfnod Allweddol 4 yn 2022 welliant o gymharu â lefelau cyn y pandemig.

O ran graddau A*-C, roedd gwelliant o 5.8% pwynt ledled Cymru a chynnydd o 7.1% pwynt yn RhCT.

O ran graddau A*-A, roedd cynnydd o 6.7% pwynt yng Nghymru, a thwf o 7.4% pwynt yn RhCT.  

O ran cyfnod allweddol 5 mae’r darlun ar gyfer y graddau uchaf, A*-A, yn arbennig o gadarnhaol ar draws RhCT gyda phob ysgol yn cyflawni’n well nag yn 2019 a bron i hanner yn cyflawni’n well nag yn 2021.  Mae cyfartaledd RhCT yn sylweddol uwch na'r cyfartaledd 2019 ac ychydig yn is na'r cyfartaledd yn 2021.

Dywedodd yr Arweinydd, mewn perthynas â graddau A*-C - bod bron pob ysgol wedi cyflawni'n well yn 2022 o gymharu â 2019 sy’n dangos bod pethau'n gwella a’r broses arolygu yn gadarnhaol.

Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu (Ysgolion yr 21ain Ganrif) a Phrosiectau Eraill

Dywedodd yr Arweinydd fod y rhaglen Band B yn fwy na £272 miliwn.  Yn ogystal â hynny, dim ond ddydd Gwener yr wythnos diwethaf y cymeradwywyd cyllid gwerth £15 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ysgol newydd yng Nglyn-coch, sydd wedi cael ei hyrwyddo gan yr Aelod lleol. Dywedodd yr Arweinydd fod yr uwchraddio a'r buddsoddiad mewn ysgolion ledled y fwrdeistref sirol yn amlwg ac yn glir, gyda thair ysgol newydd yn cael eu hadeiladu yn ne'r fwrdeistref sirol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd K Morgan at y 12 mis anodd diwethaf i gymunedau RhCT a soniodd am flaenoriaethau'r Cyngor i wasanaethu ei gymunedau a phwysigrwydd gwrando ar ymatebion i ymgynghoriadau cyhoeddus. Cyfeiriodd y Cynghorydd Morgan at agwedd aeddfed y cytundeb cydweithredol gyda Phlaid Cymru yn y Senedd, sydd wedi cefnogi llawer o’r heriau. O ran dadl yr Arweinydd, dywedodd y gallai fod wedi bod yn ddefnyddiol manteisio ar y Cwestiynau i'r Aelodau sy'n weddill o'r eitem agenda gynharach er mwyn ehangu'r ddadl.

 

Cynigiodd pob un o’r Arweinwyr Gr?p gwestiynau i’r Arweinydd, ac amlinellir rhai o’r ymatebion isod:

 

Pwysigrwydd adolygu cyfleusterau hamdden, yn enwedig storfeydd, i drigolion RhCT – Ymatebodd yr Arweinydd fod y Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi chwaraeon ar lawr gwlad gyda buddsoddiad cyfalaf mewn meysydd megis caeau 3G ledled y fwrdeistref sirol. Ychwanegodd ei fod ef a rhai o'i Gabinet gyda Swyddogion wedi cyfarfod â thrigolion a chlybiau chwaraeon i wrando ar eu pryderon ac i helpu i fynd i'r afael â materion ac o ganlyniad i hynny, gwnaed gwelliannau sylweddol i ystafelloedd newid a chyfleusterau chwaraeon eraill.

 

Cyflwyno Cwestiynau i'r Cyngor (a yw hyn yn dangos bwlch gwybodaeth i Aelodau?) – Nid oedd yr Arweinydd yn cytuno bod hyn yn dangos bwlch gwybodaeth a nododd mai dim ond tri chwestiwn a gyflwynwyd gan aelodau Gr?p Plaid Cymru.

 

System addysg dwy haen RhCT – Dywedodd yr Arweinydd fod anawsterau'n parhau gyda’r niferoedd sy’n manteisio ar y cyrsiau, a’r nifer annigonol o fyfyrwyr sy’n ceisio cyrsiau penodol gydag ychydig o ysgolion uwchradd yn bodloni’r meini prawf ar gyfer darpariaeth 6ed dosbarth (80 neu fwy o ddisgyblion). Ychwanegodd fod y Cyngor wedi uno'r darpariaethau a gwneud y camau rhesymoli angenrheidiol o ran cyrsiau ym mhob ysgol  er mwyn darparu'r cynnig angenrheidiol o bynciau Lefel A.

Materion traffig/tagfeydd ym Mhontypridd – Dywedodd yr Arweinydd y bydd cyflwyno'r Metro yn dod â 24 o drenau drwy Bontypridd bob awr, a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar faterion trafnidiaeth yn ardal Pontypridd, gan annog mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus. Hefyd, cadarnhaodd yr Arweinydd y byddai cynigion ynghylch gwelliannau i fysiau/swyddfeydd y Cyngor yn cael eu cyhoeddi'n fuan.

Metro (cysylltedd ar gyfer gwasanaethau rheilffordd ar hyd coridor Ffordd Osgoi Pentre’r Eglwys) – Darparodd yr Arweinydd sicrwydd bod cyllid Rhanbarthol a Llywodraeth Cymru ar gael ar gyfer yr estyniadau i reilffyrdd Hirwaun a Metro Gogledd-ddwyrain Caerdydd. Ychwanegodd fod nifer o opsiynau’n cael eu trafod ar gyfer Rheilffordd Gogledd-ddwyrain Caerdydd yn rhan o'r Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (bws rhedeg pwrpasol/bysiau trydan)

Diweddariad ar Gasgliadau Sbwriel (Amnewid bagiau ailgylchu plastig untro/bagiau gwastraff bwyd llai) – Cadarnhaodd yr Arweinydd y bydd bagiau ailgylchu bwyd newydd yn cael eu cyflwyno cyn bo hir a phan fydd y stoc bresennol yn cael ei defnyddio, ac ychwanegodd fod y bydd bagiau ailgylchu mae modd eu hailddefnyddio’n gweithio’n dda ac yn well i’r amgylchedd (yn lle’r bagiau untro)

Agorodd y Llywydd gwestiynau i’r holl Aelodau:

 

Rhaglen Ffyrdd Heb eu Mabwysiadu £126K – Cadarnhaodd yr Arweinydd fod adroddiad ynghylch parhad y rhaglen ffyrdd heb eu mabwysiadu wedi cael ei ystyried yn ddiweddar gan y Cabinet. Mae gan y Cyngor raglen flynyddol sy'n cael eu chroesawu.

Ymwneud Aelodau Lleol ag achlysuron achredu'r Mudiad Meithrin – Sicrhaodd yr Arweinydd y Cyngor y byddai'r holl Aelodau lleol yn cael eu gwahodd i unrhyw ddigwyddiadau achredu/agoriadau mewn wardiau Aelod deuol, ond ychwanegodd y dylid cyfeirio unrhyw bryder unigol ato am ymateb.

Buddsoddiad Chwaraeon – Dywedodd yr Arweinydd fod gan y Cyngor ymrwymiad cryf i fuddsoddi mewn chwaraeon fel pêl-droed a rygbi ledled y fwrdeistref sirol, megis y caeau 3G, gyda chyllid wedi’i sicrhau gyda’r Gymdeithas Bêl-droed ar gyfer y cyfleuster ym Mharc y Darren ac ar gyfer ystafelloedd newid i ategu’r caeau 3G. Ychwanegodd fod gan y Cyngor ymrwymiad i hyrwyddo a sefydlu ysgolion o ragoriaeth ar gyfer Hoci a Phêl-rwyd.

Teuluoedd Cydnerth - Cydnabu'r Arweinydd ganmoliaeth yr Aelod unigol i raglen Teuluoedd Cydnerth y Cyngor a Gwifren Aelodau'r Gwasanaethau Cymdeithasol yr oedd yn cyd-fynd â hi, a sicrhaodd yr Aelod y byddai ei sylwadau cadarnhaol yn cael eu cyfleu.

Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol (Grant Cyfleusterau i'r Anabl) – Dywedodd yr Arweinydd fod dros £4 miliwn o fuddsoddiad (320 o grantiau) wedi'i ddyfarnu dros y flwyddyn ddiwethaf.

Newidiadau i Wasanaethau Gwastraff – Dywedodd yr Arweinydd y dylai 80% o sbwriel trigolion gael ei ailgylchu yn ôl ffigyrau Cenedlaethol ond ychwanegodd fod gan y Cyngor fecanweithiau yn eu lle i gefnogi teuluoedd a allai gael trafferth gyda newidiadau i'r gwasanaethau gwastraff. Ychwanegodd fod y Cyngor hefyd yn cynnig cynllun casglu cewynnau wythnosol, rhad ac am ddim, a chynllun gwastraff bwyd i drigolion a bydd yn cyflwyno cynllun yn fuan i ailgylchu offer trydanol bach preswylwyr fel haearn smwddio neu dostiwr o fan casglu dynodedig. Eglurodd yr Arweinydd y bydd y rhan fwyaf o awdurdodau lleol eraill yn symud i gasgliad bob tair wythnos neu, mewn rhai achosion, casgliad bob pedair wythnos.

Diweddariad ar y pwysau cyllidebol – Dywedodd yr Arweinydd fod lefel bresennol y pwysau cyllidebol yn ddi-baid gyda charfanau ariannol y Cyngor yn sicrhau bod yr holl gyllid allanol sydd ar gael wedi'i gyrchu. Eglurodd yr Arweinydd fod lefel treth y cyngor wedi'i chodi i 3.9% yn wyneb y pwysau cynyddol ar ofal cymdeithasol a'r pwysau ychwanegol, a'i bod yn bwysig pennu cyllideb gytbwys. Ychwanegodd y bydd trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu prydau ysgol am ddim yn wyneb y costau bwyd cynyddol. Rhybuddiodd y bydd y pwysau yn parhau am beth amser ac y bydd yn heriol i'r awdurdod lleol fynd i'r afael â gorwario.

Wardeiniaid Cymunedol – Dywedodd yr Arweinydd fod y wardeiniaid cymunedol yn gweithio'n dda o fewn y cymunedau ledled y fwrdeistref sirol ond atgoffodd y Cyngor nad ydynt yn cymryd lle swyddogion Heddlu De Cymru, ond y byddant yn gweithio gyda nhw. Atgoffodd yr Aelodau y bydd gan y Cyngor 14 o wardeniaid cymunedol a 10 PCSO ar lawr gwlad yn fuan yn gweithio gyda'r Heddlu, yn mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn rhoi dirwyon lle bo'n briodol am droseddau megis c?n yn baeddu ond, yn gyffredinol, yn wyneb cyfeillgar sy'n rhoi cefnogaeth yn y gymuned i drigolion.

Cronfeydd wrth Gefn y Gyllideb – Cynigiodd yr Arweinydd y byddai cyflwyniad yn cael ei drefnu yn y dyfodol i'r holl Aelodau er mwyn cael dealltwriaeth o gronfeydd wrth gefn y Cyngor. Ychwanegodd y bydd rhai o gronfeydd wrth gefn y Cyngor yn cael eu defnyddio yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn i ddod £9.1 miliwn, (£5 miliwn ar gyfer ynni wrth gefn/£4.1 miliwn wrth gefn trosiannol) £3 miliwn yn darparu cymorth uniongyrchol i deuluoedd gyda’r taliad costau byw, efallai y bydd angen rhywfaint o gymorth i gefnogi’r trydydd sector gyda’i gostau ynni. Bydd y cyflwyniad yn egluro sut mae’r cronfeydd wrth gefn yn cael eu defnyddio, yn ogystal â rhoi gwybodaeth bellach am gronfeydd yswiriant, y gronfa wrth gefn gyffredinol, y cronfeydd trosiannol, ble mae’r hyblygrwydd a sut mae’r rhaglen gyfalaf yn cael ei hariannu ar gyfer priffyrdd, ffyrdd heb eu mabwysiadu ac ati.

Yr ysgol newydd 3-16 Pontypridd (yn ymwneud â materion megis lleihau ôl troed carbon a chynaliadwyedd) – Gwahoddodd yr Arweinydd yr Aelod i ohebu'n uniongyrchol ag ef ar y mater hwn i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon, a dywedodd y byddai'n ymweld â'r safle newydd yn fuan.

Materion Hygyrchedd/Symudedd (cyrbau isel)- Dywedodd yr Arweinydd fod y Rhaglen Gyfalaf wedi nodi 50 o gynlluniau llwybrau troed lle bydd cyrbau isel yn cael eu gosod lle bo angen. Ychwanegodd fod £15K ar gael i fynd i'r afael â chyrbau isel yng nghanol trefi a lleoliadau allweddol fel meddygfeydd a chanolfannau cymunedol. Yn ddiweddar yn Llanharan, darparwyd arian cyfatebol gyda'r cyngor cymuned i hwyluso hyn, gyda thrafodaethau ar y gweill ynghylch cyfle tebyg yn Nhonyrefail.

Adfywio Tref Pontypridd – Dywedodd yr Arweinydd y byddai cynigion pellach yn cael eu cyhoeddi maes o law mewn perthynas ag adfywio Pontypridd.

Ffyrdd heb eu Mabwysiadu – Cadarnhaodd yr Arweinydd fod gwaith ar y rhaglen ffyrdd heb eu mabwysiadu yn parhau (£300K) ac yn ward yr Aelodau (Llwydcoed) byddai gwaith yn cael ei wneud.

Diolchodd y Llywydd i'r Arweinydd am ei ddadl a'i ymatebion i'r Aelodau.