Agenda item

11A Trafod Rhybudd o Gynnig sydd wedi’i gyflwyno yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref SirolD Grehan, A Rogers, K Morgan, S Evans, A Ellis, H Gronow, D Wood, P Evans:

 

Mae’r Cyngor yma'n gwerthfawrogi'r materion sy'n cael eu codi mewn Rhybuddion o Gynnig pan fo'r prif ddiben yn ymwneud â dylanwadu ar ganlyniadau cadarnhaol er budd cyhoeddus ehangach ein trigolion, ond sy’n gyfrifoldeb ar sefydliadau eraill.

Er bod gan y Cyngor fecanwaith ar gyfer adrodd ar ganlyniadau Rhybuddion o Gynnig sy’n cyfeirio’r mater at bwyllgor neu swyddogion eraill, does dim mecanwaith i roi gwybod i'r Aelodau am gynnydd unrhyw gynigion sy'n gofyn am gyfleu negeseuon ar ran y Cyngor ar hyn o bryd.

Mae llawer o enghreifftiau o’r Cyngor yma'n penderfynu, yn drawsbleidiol, bod Arweinydd y Cyngor yn ysgrifennu at Weinidogion ar lefel Cymru a’r DU i leisio ein pryderon ar faterion sy’n effeithio ar ein hetholwyr,ond does dim mecanwaith ffurfiol ar waith i adrodd ar gynnydd neu ganlyniadau camau gweithredu o'r fath ar gyfer y cofnod cyhoeddus.

Enghraifft arall yw ein cais y byddai rhagor o deuluoedd sy’n byw mewn tlodi tanwydd ar eu hennill pe byddai’r Gweinidog perthnasol yng Nghymru yn ehangu meini prawf cymhwysedd rhaglen NYTH. Ym mis Mawrth 2022 penderfynwyd bod Arweinydd y Cyngor yn ysgrifennu at y Darparwyr Tai Cymdeithasol yn y sir i ofyn iddyn nhw roi o leiaf pythefnos o amser ychwanegol yn dilyn angladd anwyliaid er mwyn galluogi perthnasau i symud eu heiddo o'u cartrefi.  Mae llawer o enghreifftiau eraill, fel y bydd y cofnod yn ei ddangos. Dydyn ni yn Gyngor Llawn ddim wedi derbyn adborth ar unrhyw un o'r materion yma er mwyn asesu pa mor effeithiol oedden nhw o ran cyflawni'r canlyniadau dymunol.

Mae'r Cyngor yma, felly, yn penderfynu:

Gofyn i'r Swyddog Priodol gyflwyno adroddiad i'w drafod gan Bwyllgor Cyfansoddiad y Cyngor cyn Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor, sy'n ystyried opsiynau a mecanwaith ar gyfer adrodd yn ffurfiol ar ganlyniad ac effaith negeseuon ar ran y Cyngor a wnaed gan Aelodau yn dilyn mabwysiadu Rhybuddion o Gynnig.

 

 

 

11B Trafod Rhybudd o Gynnig sydd wedi’i gyflwyno yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref SirolD Grehan, S Evans, K Morgan, A Rogers, A Ellis, H Gronow, D Wood, P Evans:

 

Mae'r Cyngor yma'n cydnabod bod lefelau tlodi plant yn Rhondda Cynon Taf yn parhau i gynyddu, a'u bod nhw'n debygol o waethygu o ganlyniad i'r argyfwng costau byw.

Mae'r Cyngor hefyd yn cydnabod y cysylltiad rhwng tlodi plant a chyrhaeddiad addysgol.

Mae'r Cyngor yn credu bod setliadau cyllideb Llywodraeth Leol sydd o dan wasgfa yn bryder, a bod perygl y byddan nhw’n effeithio ar ymyraethau wedi'u targedu i fynd i'r afael â thlodi plant a chyrhaeddiad addysgol.

Er gwaethaf targedau blaenorol wedi’u gosod gan Lywodraeth Cymru i ddileu tlodi plant erbyn 2020, mae tlodi plant yn Rhondda Cynon Taf yn parhau i gynyddu, gyda rhai adrannau etholiadol yn parhau i fod ymhlith y gwaethaf yn y DU. Er gwaethaf ymdrechion gorau staff addysgu yn RhCT, mae cysylltiad amlwg rhwng y tlodi yma a chyrhaeddiad addysgol.

Rhaid i liniaru effaith yr argyfwng costau byw, a hynny'n syth ar ôl pandemig Covid a llifogydd dinistriol 2020 ledled y fwrdeistref sirol, fod yn flaenoriaeth i'r Cyngor. Dylid cymryd camau i fynd i'r afael â'r cysylltiad rhwng tlodi a chyrhaeddiad addysgol sy'n bwnc llawer o dystiolaeth. Rhaid i bob disgybl gael pob cyfle posibl i dderbyn yr addysg ardderchog y mae'r Cyngor yn awyddus i'w chyflawni wrth symud ymlaen.

Er mwyn gwneud cynnydd cynnar ac effeithiol mewn perthynas â'r cynnydd mewn tlodi plant, mae'r Cyngor yn penderfynu:

-          Parhau i amddiffyn cyllidebau ysgolion a sicrhau eu bod nhw wedi'u hariannu'n llawn ar gyfer y pwysau ariannol maen nhw'n eu hwynebu, a sicrhau bod modd i blant ddal i fyny yn dilyn effaith y pandemig.                

-          Parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu ymyraethau tlodi allweddol, fel sydd wedi'i nodi yn y Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llafur Cymru, sy'n cynnwys prydau ysgol am ddim i holl ddisgyblion ysgolion cynradd.

  

Mae'r Cyngor yn gofyn bod adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu priodol:

-          Sy'n cynnig opsiynau i ddatblygu Strategaeth Tlodi Plant, sydd i'w rhoi ar waith ar draws pob gwasanaeth perthnasol, gan gynnwys addysg

-          Sy'n sicrhau bod plant, disgyblion, rhieni, staff addysgu, undebau addysgu a phobl berthnasol eraill, yn ogystal â Phwyllgorau Craffu priodol, yn cael cyfle i gymryd rhan yng ngwaith datblygu a chraffu ar y Strategaeth Tlodi Plant cyn ei mabwysiadu.

 

Cofnodion:

 

11A Trafod Rhybudd o Gynnig sydd wedi’i gyflwyno yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol D Grehan, A Rogers, K Morgan, S Evans, A Ellis, H Gronow, D Wood, P Evans:

 

Mae’r Cyngor yma'n gwerthfawrogi'r materion sy'n cael eu codi mewn Rhybuddion o Gynnig pan fo'r prif ddiben yn ymwneud â dylanwadu ar ganlyniadau cadarnhaol er budd cyhoeddus ehangach ein trigolion, ond sy’n gyfrifoldeb ar sefydliadau eraill.

Er bod gan y Cyngor fecanwaith ar gyfer adrodd ar ganlyniadau Rhybuddion o Gynnig sy’n cyfeirio’r mater at bwyllgor neu swyddogion eraill, does dim mecanwaith i roi gwybod i'r Aelodau am gynnydd unrhyw gynigion sy'n gofyn am gyfleu negeseuon ar ran y Cyngor ar hyn o bryd.

Mae llawer o enghreifftiau o’r Cyngor yma'n penderfynu, yn drawsbleidiol, bod Arweinydd y Cyngor yn ysgrifennu at Weinidogion ar lefel Cymru a’r DU i leisio ein pryderon ar faterion sy’n effeithio ar ein hetholwyr, ond does dim mecanwaith ffurfiol ar waith i adrodd ar gynnydd neu ganlyniadau camau gweithredu o'r fath ar gyfer y cofnod cyhoeddus. 

Enghraifft arall yw ein cais y byddai rhagor o deuluoedd sy’n byw mewn tlodi tanwydd ar eu hennill pe byddai’r Gweinidog  perthnasol yng Nghymru yn ehangu meini prawf cymhwysedd rhaglen NYTH.  Ym mis Mawrth 2022 penderfynwyd bod Arweinydd y Cyngor yn ysgrifennu at y Darparwyr Tai Cymdeithasol yn y sir i ofyn iddyn nhw roi o leiaf pythefnos o amser ychwanegol yn dilyn angladd anwyliaid er mwyn galluogi perthnasau i symud eu heiddo o'u cartrefi. Mae llawer o enghreifftiau eraill, fel y bydd y cofnod yn ei ddangos.  Dydyn ni yn Gyngor Llawn ddim wedi derbyn adborth ar unrhyw un o'r materion yma er mwyn asesu pa mor effeithiol oedden nhw o ran cyflawni'r canlyniadau dymunol.

Mae'r Cyngor yma, felly, yn penderfynu:

Gofyn i'r Swyddog Priodol gyflwyno adroddiad i'w drafod gan Bwyllgor Cyfansoddiad y Cyngor cyn Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor, sy'n ystyried opsiynau a mecanwaith ar gyfer adrodd yn ffurfiol ar ganlyniad ac effaith negeseuon ar ran y Cyngor a wnaed gan Aelodau yn dilyn mabwysiadu Rhybuddion o Gynnig.

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD mabwysiadu'r Rhybudd o Gynnig.

 

 

 

11B Trafod Rhybudd o Gynnig sydd wedi’i gyflwyno yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref SirolD Grehan, S Evans, K Morgan, A Rogers, A Ellis, H Gronow, D Wood, P Evans

 

Mae'r Cyngor yma'n cydnabod bod lefelau tlodi plant yn Rhondda Cynon Taf yn parhau i gynyddu, a'u bod nhw'n debygol o waethygu o ganlyniad i'r argyfwng costau byw.

Mae'r Cyngor hefyd yn cydnabod y cysylltiad rhwng tlodi plant a chyrhaeddiad addysgol.

Mae'r Cyngor yn credu bod setliadau cyllideb Llywodraeth Leol sydd o dan wasgfa yn bryder, a bod perygl y byddan nhw'n effeithio ar ymyraethau wedi'u targedu i fynd i'r afael â thlodi plant a chyrhaeddiad addysgol.

Er gwaethaf targedau blaenorol wedi'u gosod gan Lywodraeth Cymru i ddileu tlodi plant erbyn 2020, mae tlodi plant yn Rhondda Cynon Taf yn parhau i gynyddu, gyda rhai adrannau etholiadol yn parhau i fod ymhlith y gwaethaf yn y DU.  Er gwaethaf ymdrechion gorau staff addysgu yn RhCT, mae cysylltiad amlwg rhwng y tlodi yma a chyrhaeddiad addysgol.

Rhaid i liniaru effaith yr argyfwng costau byw, a hynny'n syth ar ôl pandemig Covid a llifogydd dinistriol 2020 ledled y fwrdeistref sirol, fod yn flaenoriaeth i'r Cyngor. Dylid cymryd camau i fynd i'r afael â'r cysylltiad rhwng tlodi a chyrhaeddiad addysgol sy'n bwnc llawer o dystiolaeth.  Rhaid i bob disgybl gael pob cyfle posibl i dderbyn yr addysg ardderchog y mae'r Cyngor yn awyddus i'w chyflawni wrth symud ymlaen.

Er mwyn gwneud cynnydd cynnar ac effeithiol mewn perthynas â'r cynnydd mewn tlodi plant, mae'r Cyngor yn penderfynu:

-          Parhau i amddiffyn cyllidebau ysgolion a sicrhau eu bod nhw wedi'u hariannu'n llawn ar gyfer y pwysau ariannol maen nhw'n eu hwynebu, a sicrhau bod modd i blant ddal i fyny yn dilyn effaith y pandemig.                

-          Parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu ymyraethau tlodi allweddol, fel sydd wedi'i nodi yn y Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llafur Cymru, sy'n cynnwys prydau ysgol am ddim i holl ddisgyblion ysgolion cynradd.  

   

Mae'r Cyngor yn gofyn bod adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu priodol:

-          Sy'n cynnig opsiynau i ddatblygu Strategaeth Tlodi Plant, sydd i'w rhoi ar waith ar draws pob gwasanaeth perthnasol, gan gynnwys addysg

-          Sy'n sicrhau bod plant, disgyblion, rhieni, staff addysgu, undebau addysgu a phobl berthnasol eraill, yn ogystal â Phwyllgorau Craffu priodol, yn cael cyfle i gymryd rhan yng ngwaith datblygu a chraffu ar y Strategaeth Tlodi Plant cyn ei mabwysiadu.

 

Cyhoeddodd y Cadeirydd, yn unol a Rheol 10.4.1 o Reol Gweithdrefnu'r Cyngor, fod diwygiad i'r rhybudd o Gynnig sydd wedi’i gyflwyno yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref SirolR Lewis, A Morgan OBE, L. Addiscott, M. D. Ashford, J. Barton, D. R. Bevan, J. Bonetto, S. Bradwick, J. Brencher, G. Caple, J. Cook, A. Crimmings, S. J. Davies, R. Davis, A. J. Dennis, V. Dunn, E. L. Dunning, J. Edwards, J. A. Elliott, L. Ellis, S. Emanuel, R. Evans, A. S. Fox, B. Harris, S. Hickman, G. Holmes, G. Hopkins, W. Hughes, G. Jones, G. O. Jones, W. Lewis, C. Leyshon, M. Maohoub, C. Middle, N. H. Morgan, S. Morgans, M. A. Norris, D. Owen-Jones, D. Parkin, S. Powderhill, C. Preedy, S. Rees, A. Roberts MBE, J. Smith, G. Stacey, L. A. Tomkinson, W. Treeby, J. Turner, G. L. Warren, K. Webb, M. Webber, D. Williams, G. E. Williams, R. Williams, T. Williams, R. Yeo.

 

Roedd y Cynnig Diwygiedig yn nodi:

Mae'r Cyngor yma'n cydnabod bod lefelau tlodi plant yn Rhondda Cynon Taf yn parhau i gynyddu, a'u bod nhw'n debygol o waethygu o ganlyniad i'r argyfwng costau byw.

Mae'r Cyngor hefyd yn cydnabod y cysylltiad rhwng tlodi plant a chyrhaeddiad addysgol.

Mae'r Cyngor yn credu bod setliadau cyllideb Llywodraeth Leol sydd o dan wasgfa yn bryder, a bod perygl y byddan nhw'n effeithio ar ymyraethau wedi'u targedu i fynd i'r afael â thlodi plant a chyrhaeddiad addysgol.

Er gwaethaf targedau blaenorol wedi'u gosod gan Lywodraeth Cymru i ddileu tlodi plant erbyn 2020, mae tlodi plant yn Rhondda Cynon Taf yn parhau i gynyddu, gyda rhai adrannau etholiadol yn parhau i fod ymhlith y gwaethaf yn y DU.  Er gwaethaf ymdrechion gorau staff addysgu yn RhCT, mae cysylltiad amlwg rhwng y tlodi yma a chyrhaeddiad addysgol.

Rhaid i liniaru effaith yr argyfwng costau byw, a hynny'n syth ar ôl pandemig Covid a llifogydd dinistriol 2020 ledled y fwrdeistref sirol, fod yn flaenoriaeth i'r Cyngor. Dylid cymryd camau i fynd i'r afael â'r cysylltiad rhwng tlodi a chyrhaeddiad addysgol sy'n bwnc llawer o dystiolaeth.  Rhaid i bob disgybl gael pob cyfle posibl i dderbyn yr addysg ardderchog y mae'r Cyngor yn awyddus i'w chyflawni wrth symud ymlaen.

Er mwyn gwneud cynnydd cynnar ac effeithiol mewn perthynas â'r cynnydd mewn tlodi plant, mae'r Cyngor yn penderfynu:         

Nodi bod cyfanswm cyllideb ysgolion wedi cynyddu 28% yn ystod y 10 mlynedd diwethaf o gymharu â chynnydd o 11% yn y gyllideb gyffredinol. Mae hyn yn cyfateb i £25 miliwn ychwanegol a ddarparwyd i ysgolion o gymharu â gwasanaethau eraill y Cyngor

 

- Nodi bod cyllideb Ysgol ar gyfer 23/24 yn £187 miliwn (cynnydd o 7.9%) o 22/23 o gymharu â chynnydd o 6.6% yn setliadau Llywodraeth Cymru ar gyfer RhCT.

 

- Nodi bod data cymharol cyhoeddedig yn dangos bod gwariant cyllidebol RhCT fesul disgybl ar gyfer 2022/23, sef £6,867, yn uwch na chyfartaledd Cymru, sef £6,773.

                                                              

- Parhau i flaenoriaethu cyllidebau ysgolion a sicrhau bod plant yn gallu dal i fyny yn dilyn effaith y pandemig.                 

-          Parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu ymyraethau tlodi allweddol, fel sydd wedi'i nodi yn y Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llafur Cymru, sy'n cynnwys prydau ysgol am ddim i holl ddisgyblion ysgolion cynradd.

     

Mae'r Cyngor yn gofyn bod adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu priodol:

-          Sy'n cynnig opsiynau i ddatblygu Strategaeth Tlodi Plant, sydd i'w rhoi ar waith ar draws pob gwasanaeth perthnasol, gan gynnwys addysg

-          Sy'n sicrhau bod plant, disgyblion, rhieni, staff addysgu, undebau addysgu a phobl berthnasol eraill, yn ogystal â Phwyllgorau Craffu priodol, yn cael cyfle i gymryd rhan yng ngwaith datblygu a chraffu ar y Strategaeth Tlodi Plant cyn ei mabwysiadu.

 

Ynunol â Rheolau Gweithdrefn 12.6 y Cyngor, cynhaliwyd pleidlais mewn perthynas â'r diwygiad i'r Rhybudd o Gynnig a PHENDERFYNWYD mabwysiadu'r diwygiad. Yn dilyn trafodaeth bellach mewn perthynas â'r cynnig gwreiddiol PENDERFYNWYD mabwysiadu'r cynnig.

 

(Nodwch: Roedd Y Cynghorydd K Morgan yn dymuno cofnodi ei fod wedi pleidleisio yn erbyn y Rhybudd o Gynnig diwygiedig a'r Rhybudd o Gynnig gwreiddiol) 

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: