Agenda item

Derbyn cwestiynau'r Aelodau yn unol â Rheol 9.2 o Weithdrefn y Cyngor.

 

(Nodwch: Caniateir hyd at 20 munud ar gyfer cwestiynau.)

 

Cofnodion:

Nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu y byddai cwestiynau 8 a 9 yn cael eu hepgor o ganlyniad i absenoldeb yr Aelodau sy'n gofyn y cwestiynau:

 

1)  Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol T Williams i Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan OBE:

Fydd Arweinydd y Cyngor yn rhoi diweddariad ar gynlluniau atal llifogydd yng Nghwmaman?

Ymateb y Cynghorydd A Morgan OBE:

Ymatebodd yr Arweinydd drwy gadarnhau bod Cam 2 y gwaith Lliniaru Llifogydd (Gosod waliau llifogydd i'r cwrs d?r i fyny'r afon o'r bont ar y briffordd) yng Nghwmaman wedi mynd rhagddo'n dda yn 2022/23 trwy'r cam dylunio a datblygu manwl sydd bellach wedi'i gwblhau.  Ychwanegodd fod y Cyngor wedi cyflwyno cais am gymeradwyaeth mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru (Rhagfyr 2022) ar gyfer y cam adeiladu, gyda chyllideb gwerth £415k ar eu llif prosiectau mawr ar gyfer 2023/24. 

Rhoddodd yr Arweinydd wybod os bydd yn cael ei gymeradwyo mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru, sydd i'w ddisgwyl ym mis Ebrill, bydd gweithredu'r grant yma'n amodol ar gais grant manwl pellach yn seiliedig ar ddiweddariad o achos busnes cyfredol y prosiect unwaith y bydd y costau gwirioneddol yn cael eu nodi yn sgil proses dendro.  Rhagwelir y bydd gwaith yn dechrau ar y safle yn yr haf, 2023/24, yn amodol ar lwyddiant y cais grant manwl ar gyfer y cam adeiladu.

 

Cwestiwn ategol gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol T Williams:

 

“Beth mae'r Cyngor yn ei wneud i godi ymwybyddiaeth o'r mesurau perygl llifogydd?”

Ymateb y Cynghorydd A Morgan OBE:

Nododd yr Arweinydd fod adroddiad i'r Cabinet wedi amlinellu a chytuno ar gyllid ar gyfer aelod ychwanegol o staff yn y garfan rheoli perygl llifogydd, fydd yn gyfrifol am ymgysylltu â thrigolion a chodi ymwybyddiaeth ledled cymunedau RhCT. Ychwanegodd fod gan ardal RhCT y gyfran uchaf o ran perygl llifogydd d?r wyneb, sef 25% o gyfanswm perygl Cymru, felly'r bwriad yw ymgysylltu â'r holl ardaloedd sydd wedi'u nodi i dderbyn cynlluniau perygl llifogydd, a chodi ymwybyddiaeth ymhlith eu trigolion a busnesau lleol.

 

2)      Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Hopkins i'r Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol B Harris:

Allai'r Aelod o'r Cabinet roi diweddariad ar gynllun Grantiau'r Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gyfer y trydydd sector?”

Ymateb y Cynghorydd B Harris:

Rhoddodd y Cynghorydd B Harris wybod bod y cyfnod cyflwyno cais wedi agor (1 Chwefror 2023) a'i fod wedi dod i ben yn gynnar ar 24 Chwefror 2023, yn lle 28 Chwefror yn ôl y bwriad, gan fod y cynllun yn llawn. Rhoddodd y Cynghorydd Harris y diweddariadau canlynol mewn perthynas â'r cynllun grant:

 

Grant Cymunedol Cyngor RhCT Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU – Data Terfynol Rownd 1:

 

  • 133 o geisiadau wedi'u hasesu
  • 91 o geisiadau wedi'u cymeradwyo gyda'r swm cyfan, sef £675,000, wedi'i ddyrannu
  • 42 o geisiadau wedi'u gwrthod

 

Nododd y Cynghorydd Harris fod y 91 o anfonebau a ddaeth i law wedi cael eu prosesu ar gyfer eu talu, ac mae gwaith monitro ac adrodd ar gyfer y 91 o geisiadau llwyddiannus yn dechrau ar 31 Mawrth 2023.

O ran Grant Cymunedol Cyngor RhCT – Rownd 2, nododd y Cynghorydd Harris fod achlysuron gwybodaeth eisoes wedi cael eu cynnal ar 17 a 20 Mawrth 2023 mewn perthynas â dyfarniadau Lefelau Canolig ac Uwch. Cymerodd tua 250 o bobl ran yn yr achlysuron ar-lein. Mae cymhwysedd yn aros yr un peth â'r rownd gyntaf, gyda deilliannau ac allbynnau ychwanegol ar gyfer 2023-25. 

Dywedodd y Cynghorydd Harris y bydd y cyfnod cyflwyno cais yn dechrau ar 1 Ebrill 2023 ac yn dod i ben am 5pm ar 12 Mai 2023. Bydd manylion i'w gweld ar-lein ar dudalennau gwe grant Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU penodol y Cyngor. Y dyraniad Cyfalaf ar gyfer 2023-24 yw £162,500 a'r dyraniad Refeniw ar gyfer 2023-24 yw £1,125,000. Ychwanegodd mai dyma lefelau'r ceisiadau:

·       Lefel is - Ceisiadau rhwng £1,000 ac £14,999

  • Lefel ganolig - Ceisiadau am rhwng £15,000 a £49,999
  • Lefel uchel - Ceisiadau am rhwng £50,000 a £200,000

Bydd y rhain yn cael eu hystyried ar sail gystadleuol yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 22 Mai 2023, ac mae cyfnod cyflwyno cais arall wedi'i gynllunio ar gyfer misoedd cyntaf 2024-2025.

 

Nid oedd unrhyw gwestiwn ategol.

 

3)      Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol C Middle i'r Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Crimmings:

“A oes modd i'r Aelod o'r Cabinet ddarparu diweddariad ar raglen y Cyngor i wella cyfleusterau chwarae awyr agored i blant?”

 

Ymateb y Cynghorydd A Crimmings:

Rhoddodd y Cynghorydd Crimmings wybod bod yna 13 o brosiectau mannau chwarae yn rhan o raglen 2022-23. Mae 12 o'r rhain wedi cael eu cwblhau a bydd yr un olaf yn dechrau'n fuan iawn. Roedd gan y Cyngor gyllid ychwanegol ar gyfer datblygu dwy Ardal Gemau Aml-ddefnydd (MUGA) – un yn ward y Cynghorydd Middle, sef Pen-y-graig, ac un ar Heol Maritime yn ardal Graig. Ychwanegodd fod y ddau brosiect MUGA wedi dechrau, a bydd cyfleuster Pen-y-graig yn cael ei gwblhau'n fuan iawn. Bydd lloriau lliwgar gyda llinellau'n cael eu gosod yn y ddwy ardal yn y gwanwyn, ar ôl gosod y tarmac newydd.

I gloi, nododd y Cynghorydd Crimmings y cytunwyd ar y rhaglen ar gyfer 2023-24 a bydd dwy Ardal Gemau Aml-ddefnydd arall yn cael eu datblygu, yn ogystal ag adnewyddu 10 man chwarae.

 

Nid oedd unrhyw gwestiwn ategol.

 

4)  Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol D Grehan i'r Aelod o'r Cabinet ar faterion Ffyniant a Datblygu, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol, M Norris:

“Yn dilyn y ‘problemau’ gyda’r system gosod cartrefi yn Nhonyrefail yn ddiweddar, a'r dioddefaint sydd wedi dod yn sgil y system, ac o ystyried anniddigrwydd o bob plaid gyda’r drefn, a fyddai’r Cyngor yn teimlo ei bod yn briodol i drefnu sesiwn ar gyfer yr holl aelodau i drafod y system a’r polisïau sy’n arwain y penderfyniadau gosod eiddo?”

Ymateb gan y Cynghorydd M Norris:

Atebodd y Cynghorydd Norris y cwestiwn trwy ddweud y cafodd adroddiad ar y Polisi Dyraniadau ei gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu – Gwasanaethau Cymuned ym mis Ionawr lle cafodd Aelodau drafodaeth drylwyr iawn a chyflwynodd Aelodau o bob gr?p gwleidyddol her. Ychwanegodd fod yr adroddiad hefyd yn nodi meysydd i'w hystyried yn rhan o'r adolygiad nesaf o'r Polisi Dyraniadau. Cytunwyd gan Aelodau y byddai cyfle craffu arall ar gael ar ôl llunio copi drafft o'r polisi dyraniadau diwygiedig.

Ychwanegodd y Cynghorydd Norris fod Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd wedi rhoi gwybod i'r Pwyllgor Craffu – Gwasanaethau Cymuned yn ddiweddar y bydd hyfforddiant o'r fath yn cael ei ddarparu, gan gynnwys canolbwyntio'n benodol ar y Cynllun Dyrannu Tai.  Bydd yr hyfforddiant yma ar gael i bob Aelod, ac ychwanegodd y Cynghorydd Norris y byddai'n annog pob Aelod o Gr?p Llafur i fynd.

 

Nid oedd unrhyw gwestiwn ategol.

 

5)  Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Brencher i Arweinydd y Cyngor - Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan OBE:

“A allai'r Arweinydd wneud datganiad ar Faes Parcio T? Pennant/Stryd y Santes Catrin sydd bellach yn cael ei reoli gan y Cyngor?”

Ymateb y Cynghorydd A Morgan OBE:

Nododd y Cynghorydd Morgan y dechreuodd y Cyngor reoli maes parcio Stryd y Santes Catrin yn swyddogol ar ôl iddo ailagor ddydd Llun 20 Mawrth. Yn 2022, penderfynodd NCP ddod â'i gontract o ran rhedeg y maes parcio i ben ar fyr rybudd. Nododd fod y Cyngor wedi gweithio gyda Trivallis ers hynny i ailagor y maes parcio i ymwelwyr â'r dref. Roedd angen glanhau'r cyfleuster yn drylwyr, yn ogystal â chwblhau gwaith cynnal a chadw arall. Cafodd y maes parcio ei ailagor ar 20 Mawrth ac ychwanegodd yr Arweinydd y bydd ffïoedd parcio'n sylweddol is na ffïoedd blaenorol NCP, sef £1 am hyd at bedair awr, a £2 am arhosiad hirach, yn unol â ffïoedd safonol y Cyngor ar gyfer cyfleusterau arhosiad hir.

Esboniodd yr Arweinydd fod peiriannau tocynnau newydd wedi cael eu gosod yn y maes parcio, yn ogystal ag arwyddion newydd sy'n dangos y ffïoedd newydd. Mae modd defnyddio tocynnau tymor meysydd parcio'r Cyngor yn y cyfleuster yma, sy'n boblogaidd gyda gweithwyr canol y dref.

 

Nid oedd unrhyw gwestiwn ategol.

 

6)  Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Morgans i'r Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Crimmings:

Allai'r Aelod o'r Cabinet amlinellu'r buddsoddiad arfaethedig ar gyfer gwella Parc y Darren?”

Ymateb y Cynghorydd A Crimmings:

Rhoddodd y Cynghorydd Crimmings wybod bod Parc y Darren wedi derbyn cyfleusterau newid newydd sbon yn ddiweddar ar gyfer y timoedd chwaraeon sy'n defnyddio'r cae, a hynny drwy fuddsoddiad gwerth £225,000. Esboniodd, yn ogystal â darparu ystafelloedd newid, fod gwaith wedi dechrau i ddod o hyd i gontractwr i osod cae 3G newydd sbon gyda haen (shock pad) oddi tano, i gymryd lle'r cae artiffisial â thywod presennol. Bydd y cynllun yma'n cael ei gwblhau drwy fuddsoddiad pellach gwerth £375,000. Bydd y cae yn cael ei ariannu'n rhannol gan grant Cymdeithas Pêl-droed Cymru i gyfrannu at y buddsoddiad sylweddol gan Gyngor RhCT.

Ychwanegodd y Cynghorydd Crimmings y rhagwelir y bydd y gwaith yn dechrau ym mis Mai 2023 a chael ei gwblhau ym mis Awst 2023.  Bydd yr adran Hamdden, Chwaraeon a Pharciau'n cysylltu â thimoedd lleol a'r gymuned mewn perthynas â'r datblygiad unwaith y bydd contractwr yn cael ei benodi a bydd cynllun adeiladu yn cael ei lunio.

 

Nid oedd unrhyw gwestiwn ategol.

 

 7) Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol L A Tomkinson i'r Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Lewis:

Fydd yr Aelod o'r Cabinet yn darparu diweddariad ar gyflwyno prydau ysgol am ddim yn Rhondda Cynon Taf?”

Ymateb y Cynghorydd R Lewis:

Cadarnhaodd y Cynghorydd Lewis fod gwasanaethau prydau ysgol wedi parhau i fod ar gael er gwaethaf problemau o ran recriwtio staff ac anawsterau gyda'r gadwyn cyflenwi bwyd. Ychwanegodd y darparwyd dros 1.6 miliwn o brydau ysgol i ddisgyblion ysgolion cynradd ac 1.2 miliwn o brydau ysgol i ddisgyblion ysgolion uwchradd yn RhCT yn 2022/23. Cafodd gwaith gwella ei gynnal yng ngheginau 3 ysgol uwchradd a 2 ysgol arbennig yn rhan o'r raglen gyfalaf arfaethedig yn ystod 2022/23.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Lewis wybod y cafodd Prydau Ysgol am ddim eu cynnig i ddisgyblion cymwys yn y dosbarth meithrin ac i holl ddisgyblion y dosbarth derbyn a blwyddyn 1 yn 2022/23, gyda 2,571 o brydau'n cael eu gweini bob dydd ar gyfartaledd. Yn 2022/23, cafodd dros 200,000 o brydau ysgol am ddim eu gweini ledled y Fwrdeistref Sirol.

 

Nododd y Cynghorydd Lewis fod gwaith cyfalaf wedi'i gwblhau yng ngheginau 38 o ysgolion cynradd yn 2022/23, a hynny er mwyn hwyluso'r broses o gynnig prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd. Mae gwaith i'w gynnal yn 63 o ysgolion cynradd eraill yn 2023/24. Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid gwerth £9 miliwn i gynnig prydau ysgol am ddim i ddisgyblion cymwys hyd at ddiwedd gwyliau hanner tymor mis Mai. Roedd y Cynghorydd Lewis yn sicr y byddai hyn yn cael ei groesawu gan nifer o deuluoedd gan fod y costau byw'n parhau i gael effaith ar drigolion.

 

Nid oedd unrhyw gwestiwn ategol.

 

(Nodwch: Fel y nodwyd, byddai cwestiynau 8 a 9 yn cael eu hepgor o ganlyniad i absenoldeb yr Aelodau sy'n gofyn y cwestiynau.)

 

10) Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Davis i Arweinydd y Cyngor – Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan:

A oes modd i'r Arweinydd amlinellu faint o fusnesau yn RhCT fydd yn elwa ar Gynllun Rhyddhad Ardrethi Busnes, gan gynnwys trwy Gynllun Lleihau Ardrethi Busnes Lleol y Cyngor sy'n rhoi gostyngiad gwerth £500?”

Ymateb y Cynghorydd A Morgan OBE:

Nododd y Cynghorydd Morgan, yn seiliedig ar nifer y ceisiadau llwyddiannus a ddaeth i law yn 2022/23, y bydd 650 o fusnesau yn gymwys ar gyfer y rhyddhad i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch (sef 75%), yn ogystal â'r cymorth rhyddhad ardrethi lleol (hyd at £500 fesul safle busnes). Aeth ati i gydnabod bod rhai busnesau heb gyflwyno cais am y naill gynllun rhyddhad na'r llall yn 2022/23, felly mae'r Cyngor yn annog pob perchennog busnes i wirio a ydyn nhw'n gymwys trwy fynd i wefan y Cyngor a darllen yr wybodaeth gyda'u bil ardrethi.

Ychwanegodd y Cynghorydd Morgan drwy nodi y bydd 4,700 o fusnesau'n derbyn rhyddhad ardrethi trwy Gynllun Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach.

 

Nid oedd unrhyw gwestiwn ategol.

 

11) Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Rees i'r Aelod o'r Cabinet ar faterion Datblygu a Ffyniant, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol, M A Norris:

 

Sut mae'r Cyngor yma'n cefnogi busnesau ledled Cwm Cynon a Rhondda Cynon Taf?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd M Norris:

Dywedodd y Cynghorydd Norris fod yr Arweinydd eisoes wedi amlinellu rhai o'r cymorth ariannol sydd ar gael i fusnesau wrth ateb y cwestiwn blaenorol felly fyddai ddim yn ailadrodd yr wybodaeth honno.

 

Amlinellodd y Cynghorydd Norris nifer o gynlluniau a datblygiadau eraill sydd wedi'u cwblhau'n ddiweddar neu sydd wrthi'n mynd rhagddyn nhw yng Nghwm Cynon:

-        Mae 20 o unedau busnes bach modern wedi cael eu cwblhau yn Nhresalem. Mae 10 tenant eisoes yn eu defnyddio, ac mae tenantiaid eraill yn dod i rai o'r unedau sydd ar ôl yn fuan. Mae diddordeb o ran yr unedau yma wedi bod yn fawr.

-        Cafodd gwaith ailddatblygu Sgwâr Guto yn Aberpennar ei gwblhau y llynedd, gan ddod â'r Fframwaith Adfywio i ben ar gyfer ardal Aberpennar.  Cafodd ardal canol y dref ei gwella yn sgil y cynllun yma, megis lleoedd parcio ychwanegol a gwaith gwella ardaloedd i'r cyhoedd.

 

-        Mae gwaith datblygu strategaeth ddrafft ar gyfer Canol Tref Aberdâr gyda'r cyfnod ymgynghori anffurfiol wedi cael ei gwblhau a bydd adborth hwn yn llywio'r Strategaeth Ddrafft.

-        Parhau i ddefnyddio arian Grant Creu Lleoedd Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru i greu safleoedd newydd a gwella rhai presennol ar y stryd fawr yng nghanol trefi allweddol. 

Ychwanegodd y Cynghorydd Norris fod gwaith ailddatblygu tafarn The Black Lion yn Aberdâr yn enghraifft dda o lwyddiant hyn a bod y cyllid yma ar gael ar gyfer cynlluniau yng nghanol trefi ledled y Fwrdeistref.

 

Nododd y Cynghorydd Norris fod llawer o waith ailddatblygu yn mynd rhagddo ledled y Fwrdeistref Sirol, a bod y Cyngor hefyd yn parhau i weinyddu cyllid Cymorth i Fentrau trwy ei Gronfa Buddsoddi mewn Mentrau a Grant Cynnal Canol Trefi ei hun i helpu i ysgogi buddsoddiad preifat a datblygu'r economi leol.

Nid oedd unrhyw gwestiwn ategol.

 

Dogfennau ategol: