Cofnodion:
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu yr adroddiad i Aelodau a rhoddodd wybod bod y Pwyllgor yn ymgynghorai ffurfiol yn rhan o broses ymgynghori flynyddol y Cyngor mewn perthynas â'r gyllideb, a hynny yn unol â'r Cylch Gorchwyl.
Gan ddefnyddio cyflwyniad PowerPoint, rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Cyllid a Gwasanaethau Gwella drosolwg i Aelodau o'r Ymgynghoriad ar y Gyllideb 2023/24 (Cam 2) gan roi gwybodaeth i'r Pwyllgor am y canlynol: Cyflwyniad – Strategaeth Cyllideb Refeniw Ddrafft 2023/24; Sefyllfa Ariannol Bresennol y Cyngor (2022/23); Ymgynghoriad ar y Gyllideb Cam 1 – Penawdau; Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro 2023/24 – Penawdau/Goblygiadau ar gyfer Rhondda Cynon Taf; Strategaeth Cyllideb Arfaethedig y Cabinet 2023/24; a'r Camau Nesaf a Dyddiadau Allweddol.
Yn dilyn trosolwg y Cyfarwyddwr Gwasanaeth o Strategaeth Cyllideb Arfaethedig y Cabinet 2023/24, gofynnodd Aelod am adborth o ran y cyfleoedd sydd ar gael i adolygu methodoleg dyrannu cyllid Llywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru ac wedyn i awdurdodau lleol. Mae hyn wedi'i gysylltu â setliad dros dro Cyngor Rhondda Cynon Taf, sef +6.6% o'i gymharu â chyfartaledd Cymru gyfan, sef +7.9%. Nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, o ran y broses ar gyfer dyrannu cyllid Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol ledled Cymru, fod gr?p penodol wedi'i sefydlu sy'n cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru a'r llywodraeth leol er mwyn sicrhau bod y sail ar gyfer dyrannu cyllid yn cynrychioli angen a bod y setiau data sy'n sail i'r dyraniadau'n addas ac yn gywir. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth sicrwydd bod Cyngor Rhondda Cynon Taf yn rhan o'r trefniadau yma er mwyn llywio a herio setiau data a'r sail ar gyfer dyrannu cyllid.
Croesawodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth adborth Aelodau o ran meysydd canlynol Strategaeth Cyllideb Arfaethedig y Cabinet 2023/24.
Treth y Cyngor – cynnydd arfaethedig o 3.5%
· O ystyried dull y Cyngor mewn perthynas â gosod lefelau Treth y Cyngor yn ddiweddar a'r ffaith mai Rhondda Cynon Taf oedd gyda'r cynnydd isaf ar gyfartaledd i Fand D yng Nghymru am 3 allan o'r 4 blynedd ddiwethaf, cytunodd y rhan fwyaf o Aelodau fod y cynnydd arfaethedig yn ddull pragmatig a synhwyrol.
· Dywedodd Aelod fod y cynnydd arfaethedig o 3.5% yn debygol o fod ymhlith y cynnydd isaf o'i gymharu ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru. Serch hynny, roedd y Cyngor yn gwybod bod heriau cyllideb wedi bod yn bresennol ond penderfynodd ar gynnydd o 1% yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 2022/23 o'i gymharu â chynnydd arfaethedig o 3.5% ar gyfer 2023/24.
Cyllideb Ysgolion
· Nododd Aelod ei bod hi'n anochel y bydd gofyn i ysgolion adolygu eu cyllidebau a'r swm sydd yn y cronfeydd wrth gefn i gefnogi cynllunio ariannol o ganlyniad i'r sefyllfa ariannu heriol. Nododd y bydd lefel y cronfeydd wrth gefn yn wahanol i bob ysgol o ganlyniad i'r cynlluniau sydd gan ysgolion ar gyfer defnyddio cronfeydd wrth gefn.
· Dywedodd Aelod arall ei bod yn bwysig bod y neges yn cael ei rhoi i ysgolion na fyddan nhw'n cael eu hariannu'n llawn ar gyfer 2023/24. Ymatebodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth trwy ddweud bod y Strategaeth Cyllideb arfaethedig wedi dyrannu cyllid yn llawn er mwyn talu costau ysgolion, gan bennu gofyniad i ysgolion wneud arbedion effeithlonrwydd o 2.2%. Mae hyn yn llai na'r targed dangosol o 2.75% a gafodd ei roi i ysgolion yn yr hydref 2022, ac yn llai na'r gofyniad effeithlonrwydd o 7.7% ar gyfer gwasanaethau sy ddim yn ymwneud ag ysgolion.
· Nododd Aelod arall fod rhai ysgolion yn h?n sy'n golygu bod eu costau ynni'n fwy. Gofynnodd am eglurder o ran pa gyfleoedd sydd ar gael i wneud arbedion effeithlonrwydd yn yr ysgolion yma. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod y Cyngor yn cynnal rhaglen barhaus o arolygon ar adeiladau mewn ysgolion, sy'n cynnwys dod o hyd i gyfleoedd i osod mesurau effeithlonrwydd ynni i leihau defnydd ynni. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod y Cyngor wedi darparu cyllid ar gyfer cronfa buddsoddi i arbed ers nifer o flynyddoedd, gyda phrosiectau ysgolion a phrosiectau sy ddim yn ymwneud ag ysgolion yn cael eu hariannu trwy'r adnodd yma.
Arbedion Effeithlonrwydd
Ffïoedd a Chostau
Cronfeydd wrth gefn
Ar ôl dod â'r drafodaeth i ben, PENDERFYNWYD awdurdodi'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu i lunio ymateb ar ran y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu mewn perthynas â Cham 2 – Ymgynghoriad y Cyngor ar y Gyllideb.
Dogfennau ategol: