Agenda item

Derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu er mwyn rhoi adroddiad cenedlaethol diweddaraf Archwilio Cymru i Aelodau a rhoi cyfle iddyn nhw adolygu'r argymhellion yng nghyd-destun ein gwaith ac ymateb y Cyngor.  Hefyd, nodi'r adroddiad yng nghyd-destun ehangach rhaglen waith 2021/22 Archwilio Cymru, fydd yn cael ei hadlewyrchu yn y Crynodeb Archwilio sydd i'w gyhoeddi'n ddiweddarach eleni.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu yr adroddiad i Aelodau er mwyn rhannu manylion adroddiad cenedlaethol diweddaraf Archwilio Cymru a rhoi cyfle iddyn nhw adolygu'r argymhellion yng nghyd-destun ein gwaith ac ymateb y Cyngor. Hefyd, nodi'r adroddiad yng nghyd-destun ehangach rhaglen waith 2021/22 Archwilio Cymru, fydd yn cael ei hadlewyrchu yn y Crynodeb Archwilio sydd i'w gyhoeddi'n ddiweddarach eleni.

 

Cafodd adborth ei ddarparu o ran y risg o beidio â chyrraedd y targed uchelgeisiol iawn ar gyfer 2030 a phwysleisiodd Aelodau fod angen i ni gydweithio ar draws pob sefydliad, yn enwedig mewn sefydliadau mawr lle mae'n bosibl bod adrannau'n gweithio yn unigol ac sydd efallai dim yn croesgyfeirio cynlluniau / polisïau / strategaethau. Nodwyd y byddai modd gwella hyn. Er enghraifft, y penderfyniad a gafodd ei wneud gan y Cabinet i symud i gasgliadau sbwriel bob 3 wythnos a'r cyfraniad y bydd hyn yn ei wneud tuag at gyflawni targedau carbon sero-net. Gofynnodd Aelod a fydd yr Awdurdod yn monitro y nifer uwch o deithiau i'r canolfannau ailgylchu o ganlyniad i roi'r penderfyniad uchod ar waith. 

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd wybod bod modd i'r pwyllgor craffu gynnal gwaith monitro mewn perthynas ag effaith y penderfyniadau, gan ychwanegu bod llawer o hyn eisoes wedi'i nodi yn yr adroddiadau cyflawniad a gafodd eu cyflwyno i'r pwyllgor craffu.  Nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y bydd Strategaeth Lleihau Carbon y Cyngor hefyd yn destun gwaith craffu gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu. Mae'r Awdurdod hefyd wedi bod yn edrych ar becyn cymorth sydd wedi'i ddatblygu gan Brifysgol Manceinion, sy'n sgorio pob penderfyniad yn nhermau'r newid yn yr hinsawdd. Mae hyn yn cael ei fabwysiadu gan Lywodraeth Cymru ac rydyn ni'n edrych ar sicrhau mai RhCT fydd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i ystyried sut mae modd i ni roi'r cynllun ar waith a sut mae modd i hyn gefnogi'r broses graffu.

 

Argymhellodd Aelod fod y pum Galwad i Weithredu a'r "Cwestiynau y gallai uwch-arweinwyr a’r rhai sy’n craffu arnynt eu gofyn" yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn rhan o adroddiad y Strategaeth Lleihau Carbon.

 

Yn rhan o'i ymateb i gwestiwn o ran sut mae'r Awdurdod yn gweithio gyda sefydliadau eraill sy'n ceisio cyflawni'r un nod, rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wybod bod manylion cydweithio i'w gweld yn yr adroddiad a bod cydweithio yn ystyriaeth bwysig i bawb yn y sector cyhoeddus.  Ychwanegodd fod Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf wedi cwrdd yn ddiweddar ac wedi herio penderfyniadau tymor canolig a thymor hirach o ran meysydd megis newid yn yr hinsawdd.  Bydd y Strategaeth Lleihau Carbon yn cynnwys sut y byddwn ni'n gweithio gyda sefydliadau eraill ac a ydyn nhw'n gwneud cynnydd. Bydd hyn yn cynnwys cynllun gweithredu a data manylach i gynnwys cerrig milltir.

 

Gofynnodd Aelod a yw cadwyni cyflenwi'r Cyngor yn cael eu hystyried hefyd yn rhan o'r strategaeth.  Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wybod i'r Pwyllgor fod y Strategaeth Lleihau Carbon yn cynnwys ein cadwyni cyflenwi ac er bod nifer o fuddion o ran dod â chyflenwadau'n agosach, megis lleihau ein hôl troed carbon, mae angen ystyried gwerth am arian.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, wrth ymateb i sylwadau'r Aelodau, fod yr Awdurdod yn ymgysylltu â'r cyhoedd er mwyn gweithio tuag at leihau allyriadau carbon a sicrhau bod y cyhoedd yn deall ac yn cael gwybod bod hyn yn gyfrifoldeb a rennir. Ychwanegodd fod hyn i'w weld yn y Strategaeth.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:

 

1.    Nodi adroddiad Archwilio Cymru mewn perthynas â 'Parodrwydd y Sector Cyhoeddus ar gyfer Carbon Sero Net erbyn 2030'yn Atodiad 1.

 

2.    Adolygu'r 'Galwadau i Weithredu' fel sydd wedi'u nodi yn y Cynllun Gweithredu yn Atodiad 2, a'u cyflwyno nhw i'r pwyllgor craffu pan fydd yn trafod y Strategaeth Lleihau Carbon.

 

 

Dogfennau ategol: