Agenda item

Trafod Rhybudd o Gynnig sydd wedi’i gyflwyno yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol: R. Williams, S. Emanuel, L. Addiscott, M. D. Ashford, J. Barton, D. R. Bevan, J. Bonetto, S. Bradwick, J. Brencher, G. Caple, J. Cook, A. Crimmings, S. J. Davies, R. Davis, A. J. Dennis, V. Dunn, E. L. Dunning, J. Edwards, J. A. Elliott, L. Ellis, R. Evans, A. S. Fox, B. Harris, S. Hickman, G. Holmes, G. Hopkins, W. Hughes, G. Jones, G. O. Jones, R. R. Lewis, W. Lewis, C. Leyshon, M. Maohoub, C. Middle, A. Morgan, N. H. Morgan, S. Morgans, M. A. Norris, D. Owen-Jones, D. Parkin, S. Powderhill, C. Preedy, S. Rees, A. Roberts, J. Smith, G. Stacey, L. A. Tomkinson, W. Treeby, J. Turner, G. L. Warren, K. Webb, M. Webber, D. Williams, G. E. Williams, T. Williams, R. Yeo.

Er nad yw'n glir o ddarllen Datganiad yr Hydref y Canghellor yn ddiweddar, mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau na fydd ei hadolygiad o'r Cynllun Rhyddhad ar Filiau Ynni ar gyfer busnesau a chwsmeriaid annomestig yn parhau y tu hwnt i fis Mawrth 2023.

Hyd yma, nid yw Llywodraeth San Steffan wedi cyhoeddi p'un a fydd unrhyw gynllun arall yn cael ei roi ar waith ac nid yw'r Llywodraeth wedi rhannu pa fath o gymorth byddai cynllun o'r fath yn ei gynnwys. Wrth gwrs, mae hyn yn broblemus i fusnesau a sefydliadau cyhoeddus.

Bydd dod â'r cymorth ynni yma i ben yn golygu y bydd angen defnyddio rhan helaeth o’r cyllid sy'n cael ei ddarparu ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus er mwyn talu'r cynnydd sylweddol mewn biliau ynni ar gyfer canolfannau hamdden, canolfannau cymuned ac efallai adeiladau cyhoeddus eraill.  Mae'r Cyngor yma yn Rhondda Cynon Taf yn wynebu cynnydd gwerth 355% mewn costau ynni. Ni fydd gan sefydliadau cyhoeddus unrhyw eglurder hyd nes y bydd cyhoeddiad yn cael ei wneud, a fydd dim modd iddyn nhw gynllunio ar gyfer pwysau ar gyllidebau.

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gynyddu budd-daliadau (yr eithriad nodedig yw'r Lwfans Tai Lleol).  Fodd bynnag, trwy beidio â rhoi'r cyllid sydd ei angen ar y cymunedau yma er mwyn iddyn nhw gadw'r goleuadau ymlaen mewn adeiladau i'r gymuned hollbwysig, mae hyn fel talu'r hen a dwyn y newydd.

Rydyn ni'n annog Llywodraeth y DU i ailystyried ei pholisi aneglur ynghylch cymorth ynni ar gyfer y sector cyhoeddus tu hwnt i fis Mawrth 2023.

Yn ogystal â hyn, mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd toriadau o ran y cymorth sydd ar gael i aelwydydd mewn tlodi tanwydd y gaeaf nesaf.

Er bydd y Cynllun Gwarant Pris Ynni yn parhau i roi cap ar gost uned o ynni, bydd pob bil ynni yn cynyddu o 1 Ebrill 2023 - bydd y Cynllun Cymorth Biliau Ynni'n dod i ben ar yr un pryd.

Mae'r Cyngor yma'n nodi:

  • Bydd eithrio Cynghorau a sefydliadau'r sector cyhoeddus o'r Cynllun Rhyddhad ar Filiau Ynni yn achosi caledi ariannol sylweddol ar adeg pan fydd sawl ffactor arall yn cyfrannu at heriau digynsail mewn perthynas â'r gyllideb.

Mae'r Cyngor yma, felly, yn penderfynu:

·       Gofyn bod Arweinydd y Cyngor yn ysgrifennu at Ganghellor y Trysorlys a'r Prif Weinidog.

·       Galw ar Lywodraeth y DU i roi eglurder ar unwaith ynghylch ei chynlluniau i gyflwyno cynllun rhyddhad ynni i'r sector cyhoeddus y tu hwnt i fis Mawrth 2023.

·       Galw ar Lywodraeth San Steffan i fynd cam ymhellach er mwyn helpu'r miliynau o gartrefi sy'n wynebu tlodi tanwydd trwy gydol 2023

COFNODION:

·       Gofyn bod Arweinydd y Cyngor yn ysgrifennu at Ganghellor y Trysorlys a'r Prif Weinidog

·       Galw ar Lywodraeth y DU i roi eglurder ar unwaith ynghylch ei chynlluniau i gyflwyno cynllun rhyddhad ynni i'r sector cyhoeddus y tu hwnt i fis Mawrth 2023.

·       Galw ar Lywodraeth San Steffan i fynd cam ymhellach er mwyn helpu'r miliynau o gartrefi sy'n wynebu tlodi tanwydd trwy gydol 2023.

Yn y cyfarfod cyhoeddodd y Cadeirydd, yn unol â Rheol Gweithdrefn 10.4.1 y Cyngor, fod y diwygiad canlynol i'r Rhybudd o Gynnig wedi'i dderbyn oddi wrth Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol K Morgan, D Grehan, S Evans, A Rogers, A Ellis, H Gronow, D Wood a P Evans.

Roedd y Cynnig Diwygiedig yn nodi:

Er nad yw'n glir o ddarllen Datganiad yr Hydref y Canghellor yn ddiweddar, mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau na fydd ei hadolygiad o'r Cynllun Rhyddhad ar Filiau Ynni ar gyfer busnesau a chwsmeriaid annomestig yn parhau y tu hwnt i fis Mawrth 2023.

Hyd yma, nid yw Llywodraeth San Steffan wedi cyhoeddi p'un a fydd unrhyw gynllun arall yn cael ei roi ar waith ac nid yw'r Llywodraeth wedi rhannu pa fath o gymorth byddai cynllun o'r fath yn ei gynnwys. Wrth gwrs, mae hyn yn broblemus i fusnesau a sefydliadau cyhoeddus.

Bydd dod â'r cymorth ynni yma i ben yn golygu y bydd angen defnyddio rhan helaeth o’r cyllid sy'n cael ei ddarparu ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus er mwyn talu'r cynnydd sylweddol mewn biliau ynni ar gyfer canolfannau hamdden, canolfannau cymuned ac efallai adeiladau cyhoeddus eraill. Mae'r Cyngor yma yn Rhondda Cynon Taf yn wynebu cynnydd gwerth 355% mewn costau ynni. Ni fydd gan sefydliadau cyhoeddus unrhyw eglurder hyd nes y bydd cyhoeddiad yn cael ei wneud, a fydd dim modd iddyn nhw gynllunio ar gyfer pwysau ar gyllidebau.

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gynyddu budd-daliadau (yr eithriad nodedig yw'r Lwfans Tai Lleol). Fodd bynnag, trwy beidio â rhoi'r cyllid sydd ei angen ar y cymunedau yma er mwyn iddyn nhw gadw'r goleuadau ymlaen mewn adeiladau i'r gymuned hollbwysig, mae hyn fel talu'r hen a dwyn y newydd.

Rydyn ni'n annog Llywodraeth y DU i ailystyried ei pholisi aneglur ynghylch cymorth ynni ar gyfer y sector cyhoeddus tu hwnt i fis Mawrth 2023.

Yn ogystal â hyn, mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd toriadau o ran y cymorth sydd ar gael i aelwydydd mewn tlodi tanwydd y gaeaf nesaf.

Er bydd y Cynllun Gwarant Pris Ynni yn parhau i roi cap ar gost uned o ynni, bydd pob bil ynni yn cynyddu o 1 Ebrill 2023 - bydd y Cynllun Cymorth Biliau Ynni'n dod i ben ar yr un pryd.

Mae'r Cyngor yma'n nodi:

  • Bydd eithrio Cynghorau a sefydliadau'r sector cyhoeddus o'r Cynllun Rhyddhad ar Filiau Ynni yn achosi caledi ariannol sylweddol ar adeg pan fydd sawl ffactor arall yn cyfrannu at heriau digynsail mewn perthynas â'r gyllideb.

Mae'r Cyngor yma, felly, yn penderfynu:

·        Gofyn bod Arweinydd y Cyngor yn ysgrifennu at Ganghellor y Trysorlys a'r Prif Weinidog.

·        Galw ar Lywodraeth y DU i roi eglurder ar unwaith ynghylch ei chynlluniau i gyflwyno cynllun rhyddhad ynni i'r sector cyhoeddus y tu hwnt i fis Mawrth 2023.

·       Galw ar Lywodraeth San Steffan i fynd cam ymhellach er mwyn helpu'r miliynau o gartrefi sy'n wynebu tlodi tanwydd trwy gydol 2023.

·        Gofyn bod Arweinydd y Cyngor hefyd yn ysgrifennu mewn perthynas â'r mater yma at Aelodau Seneddol ar gyfer RhCT sydd wedi'u hethol i'n cynrychioli ni yn San Steffan.

Yn unol â Rheolau Gweithdrefn 12.7 y Cyngor, cynhaliwyd pleidlais ar ôl galw enwau'r Cynghorwyr mewn perthynas â'r diwygiad i'r Rhybudd o Gynnig a PHENDERFYNWYD peidio â mabwysiadu'r diwygiad.

(Nodwch: gofynnodd y Cynghorwyr canlynol am nodi eu bod wedi pleidleisio o blaid y diwygiad:

Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol Sera Evans, D Grehan, H Gronow, K Morgan, A Rogers a D Wood).

Yn dilyn trafodaeth mewn perthynas â'r cynnig gwreiddiol ac yn unol â Rheolau Gweithdrefn 12.7 y Cyngor, PENDERFYNWYD mabwysiadu'r cynnig gwreiddiol.

(Nodwch: gofynnodd y Cynghorwyr canlynol am nodi eu bod wedi pleidleisio o blaid y cynnig gwreiddiol:

Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol M Maohoub, Sera Evans, D Grehan, H Gronow, K Morgan, A Rogers a D Wood).

Dogfennau ategol: