Derbyn adroddiad ar y cyd y Prif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol.
Cofnodion:
|
Rhoddodd y Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol drosolwg o'i adroddiad i'r Aelodau a oedd yn cynnwys gwybodaeth eithriedig.
Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD:
1. Nodi:
1.1.1 Bod y Cabinet wedi cymeradwyo'r strwythurau cyfarwyddiaeth diwygiedig a ddangosir yn Atodiadau 2(i), 2(ii) a 2(iii) fydd yn cael eu gweithredu o 19 Ionawr 2023 a'r strwythur yn Atodiad 3(i) yn cael ei weithredu o 1 Medi 2023. Er cyflawnrwydd, nodwch fod Atodiad 2 (iv) hefyd wedi'i restru ond does dim newidiadau i'r strwythur presennol yma.
1.1.2 Bydd gweithredu'r strwythurau diwygiedig yma'n rhoi gostyngiad amcangyfrifedig o £78,000 mewn costau rheoli blynyddol ar lefel Uwch Reolwyr (sy'n cynnwys argostau);
1.1.3 Bod y Cabinet wedi awdurdodi'r diwygiad i'r swyddi canlynol, yn sgil y strwythurau cyfarwyddiaeth diwygiedig sydd wedi'u hamlinellu yn 1.1.1:
i. diwygio swydd y Cyfarwyddwr – Ffyniant a Datblygu (Cyfarwyddwr Lefel 2) i Gyfarwyddwr – Ffyniant a Datblygu (Cyfarwyddwr Lefel 1);
ii. diwygio swydd Cyfarwyddwr – Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau Cymuned (Cyfarwyddwr Lefel 2) i Gyfarwyddwr – Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau Cymuned (Cyfarwyddwr Lefel 1);
iii. diwygio swydd Cyfarwyddwr – Gwasanaethau Cyfreithiol (Cyfarwyddwr Lefel 2) i Gyfarwyddwr – Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd (Cyfarwyddwr Lefel 1);
iv. creu swydd Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cyfadran – Cyllid a Gwasanaethau Digidol a Rheng Flaen (gradd Cyfarwyddwr Cyfadran);
v. creu swydd Cyfarwyddwr – Gwasanaethau Cymdeithasol (Cyfarwyddwr Lefel 1);
vi. creu swydd Cyfarwyddwr – Priffyrdd, Gofal y Strydoedd a Gwasanaethau Trafnidiaeth (Cyfarwyddwr Lefel 2);
vii. newid teitl swydd yn unig o Bennaeth Diogelu a Safonau (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 1) i Bennaeth Gwasanaeth – Partneriaethau (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 1).
1.2 Gofynnir i'r Cyngor ystyried yn ffurfiol yr argymhellion canlynol a gafodd eu gwneud gan y Pwyllgor Penodiadau yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Ionawr 2023:
1.2.1 Ystyried yn ffurfiol yr argymhelliad wedi'i wneud gan y Pwyllgor Penodiadau ar 10 Ionawr 2023 i'r Cyngor, fod swydd Cyfarwyddwr – Ffyniant a Datblygu (Cyfarwyddwr Lefel 1) yn cael ei neilltuo i Mr Simon Gale yn unol â phroses rheoli newid y Cyngor, a hynny o 19 Ionawr 2023;
1.2.2 Ystyried yn ffurfiol yr argymhelliad wedi'i wneud gan y Pwyllgor Penodiadau ar 10 Ionawr 2023 i'r Cyngor, fod swydd Cyfarwyddwr – Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau Cymuned (Cyfarwyddwr Lefel 1) yn cael ei neilltuo i Mrs Louise Davies yn unol â phroses rheoli newid y Cyngor, a hynny o 19 Ionawr 2023;
1.2.3 Ystyried yn ffurfiol yr argymhelliad wedi'i wneud gan y Pwyllgor Penodiadau ar 10 Ionawr 2023 i'r Cyngor, fod swydd Cyfarwyddwr – Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd (Cyfarwyddwr Lefel 1) yn cael ei neilltuo i Mr Andrew Wilkins yn unol â phroses rheoli newid y Cyngor, a hynny o 19 Ionawr 2023;
1.2.6 Ystyried yn ffurfiol yr argymhelliad wedi'i wneud gan y Pwyllgor Penodiadau ar 10 Ionawr 2023 i'r Cyngor, fod Mr Steve Williams yn cael ei benodi i swydd Cyfarwyddwr – Priffyrdd, Gofal y Strydoedd a Gwasanaethau Trafnidiaeth (Cyfarwyddwr Lefel 2) yn dilyn y broses gyfweld angenrheidiol, a hynny o 1 Medi 2023;
1.3 Argymhellir bod y Cyngor yn rhoi awdurdod dirprwyedig i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol i wneud y newidiadau sydd angen eu gwneud i Gyfansoddiad y Cyngor o ganlyniad i roi'r uchod ar waith.
|