Agenda item

Derbyn adroddiad y Prif Weithredwr.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr ei adroddiad sy'n nodi hunanasesiad blynyddol y Cyngor ar gyfer 2021/22, a hynny ar ôl i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ei drafod yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2022.  Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn ei gwneud hi'n ofynnol bod drafft o'r hunanasesiad ar gael i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ei adolygu cyn i'r Cyngor ei drafod. Ar ôl i'r Cyngor ei gymeradwyo, rhaid ei gyhoeddi cyn pen 4 wythnos o lunio'r fersiwn derfynol.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at baragraff 3.2 yr adroddiad sy'n nodi'r ddyletswydd berthnasol yn y Ddeddf sy'n cael ei bodloni trwy hunanasesiad ac sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i bob Cyngor yng Nghymru adolygu i ba raddau y mae'n bodloni gofynion cyflawniad y Ddeddf, hynny yw i ba raddau y mae'n cyflawni ei swyddogaethau'n effeithiol, yn defnyddio ei adnoddau mewn modd economaidd, effeithlon ac effeithiol ac yn sicrhau bod ei faterion llywodraethu'n effeithiol.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr, fel y mae Aelodau'n gwybod, fod gan y Cyngor yma hanes cryf o hunanymwybyddiaeth a hunanfyfyrdod ac felly mewn sefyllfa dda i ymateb i ofynion y Ddeddfwriaeth. Gan mai dyma'r hunanasesiad statudol cyntaf o dan y ddeddfwriaeth heb fodel rhagnodedig ar waith, nododd fod yr adroddiad gerbron yr Aelodau yn cynnwys llawer o wybodaeth am gyflawniad sy'n cael ei rhoi i Aelodau'n rheolaidd mewn nifer o ffyrdd gwahanol. Mae hyn yn cael ei wneud trwy adroddiadau cyflawniad chwarterol, yn ogystal â nifer o adroddiadau eraill i'r Cyngor a'r Cabinet mewn perthynas â pholisïau ac adborth rhanddeiliaid.

 

Gan fod y cyfnod asesu'n cynnwys y pandemig, nododd y Prif Weithredwr ei fod yn adlewyrchu'r newid i drefniadau cyflawniad y Cyngor yn ystod y cyfnod yma. Mae hefyd yn cynnwys manylion am ei ganolbwynt uniongyrchol ar wasanaethau a'i ymateb a mesurau adfer wrth fynd ati mewn ffordd gadarn i fonitro gwaith cyflawni ei flaenoriaethau. Mae hyn i'w weld yn yr adroddiad. Cyfeiriodd at ofynion y Cyngor i fod yn gyfrifol am wella, i fyfyrio ar gyflawniad a chymryd camau er mwyn gwella'r system. Ychwanegodd fod y Cyngor yma mewn sefyllfa dda i fodloni'r gofyniad hwnnw o ganlyniad i'w drefniadau cyflawniad hunanwerthuso cryf sydd wedi bod ar waith ers 2016.

 

Mae hunanasesiad 2021/22 yn cynrychioli'r cyfle i ystyried gwasanaethau a swyddogaethau corfforaethol y Cyngor, yn ogystal â chadernid y trefniadau rheoli a monitro sydd ar waith. Mae hefyd yn rhoi sicrwydd i Aelodau fod y Cyngor yn bodloni ei ofynion statudol i fyfyrio ar gyflawniad a chymryd camau gweithredu er mwyn gwella lle bo angen.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at sylwadau'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn dilyn trafod hunanasesiad y Cyngor a phenderfynu peidio â gwneud newidiadau sylweddol i'r asesiad. Roedd y pwyllgor wedi gofyn am sicrwydd bod modd i'r Cyngor fynd i'r afael â'r heriau sydd wedi'u nodi yn y naw thema allweddol yn yr hunanasesiad a'r bartneriaeth drawsbynciol sydd ei hangen er mwyn i'r Cyngor ymateb i'r themâu.

 

I grynhoi, yn unol â'r dystiolaeth sydd wedi'i darparu, nododd y Prif Weithredwr fod modd i'r Cyngor ddangos ei fod yn bodloni gofynion cyflawniad Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2021.

 

Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD:

 

  1. Ystyried bod yr Hunanasesiad drafft yn adlewyrchiad cywir a chadarn o sefyllfa'r Cyngor a'i wasanaethau, a'i fod yn bodloni gofynion Rhan 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;

 

  1. Ystyried arsylwadau'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 7 Rhagfyr 2022;

 

  1. Cymeradwyo Hunanasesiad Blynyddol 2021/22, gan gynnwys Adroddiad Cyflawniad Corfforaethol y Cyngor, a'i gyhoeddi cyn pen pedair wythnos o gael ei gymeradwyo.

 

Dogfennau ategol: