Agenda item

Derbyn cwestiynau'r Aelodau yn unol â Rheol 9.2 o Weithdrefn y Cyngor.

 

(Nodwch: Caniateir hyd at 20 munud ar gyfer cwestiynau.)

 

Cofnodion:

Nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu y bydd cwestiwn 7 yn cael ei hepgor o ganlyniad i absenoldeb Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. Powderhill.

 

1. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol K. Johnson i’r Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol T. Leyshon:

 

“Oes modd i chi gyhoeddi pryd fydd y pwyntiau gwefru cerbydau trydan sy wedi'u gosod ledled y fwrdeistref sirol, gyda chymorth ariannol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, yn weithredol? Mae’r asedau yma wedi bod yn segur am gyfnod sylweddol ar ôl iddyn nhw gael eu gosod, ac mae'r ddarpariaeth ledled RhCT yn gyfyngedig iawn.”

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol T. Leyshon:

Cytunodd y Cynghorydd Leyshon fod y sefyllfa’n rhwystredig ond ychwanegodd fod y Cyngor wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru ac yn ddiweddar wedi sicrhau rownd ychwanegol o gyllid gan Lywodraeth y DU. Serch hynny, nid yw'r Grid Cenedlaethol (Western Power Distribution gynt) wedi paratoi'r cysylltiadau, er i wasanaeth Eiddo'r Cyngor archebu'r cyfleusterau mewn da bryd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Leyshon, o ran y rhaglen ei hun, fod y Cyngor yn parhau i ganolbwyntio ei ymdrechion ar ddarparu cyfleusterau sydd ar gael i'r cyhoedd ym meysydd parcio'r Cyngor trwy bartneriaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Hyd yn hyn, mae dros 70 o bwyntiau gwefru cerbydau trydan wedi’u gosod mewn 31 o feysydd parcio’r Cyngor ym mhob rhan o'r Fwrdeistref Sirol. Ailadroddodd y Cynghorydd Leyshon fod y Cyngor yn aros i'r Grid Cenedlaethol bweru'r mannau gwefru, a bod Swyddogion yn gweithio gyda'r cwmni i geisio sicrhau bod y broses osod yn cael ei chwblhau'n gyflym cyn diwedd y flwyddyn ariannol.

 

Yn ogystal â hynny, dywedodd y Cynghorydd Leyshon fod y cyllid gan Swyddfa Cerbydau Allyriadau Sero (OZEV) Llywodraeth y DU wedi'i ddyfarnu i hwyluso cam pellach o osodiad cyfleusterau gwefru mewn 28 o feysydd parcio ychwanegol sy'n eiddo i'r Cyngor ledled y sir. Gan ragweld cyfleoedd am gyllid pellach yn y dyfodol, mae'r Cyngor wedi cynnig rhestr ychwanegol o safleoedd posibl ar gyfer gosod pwyntiau gwefru, yn bennaf yng ngweithleoedd y Cyngor.

 

I gloi, dywedodd y Cynghorydd Leyshon fod amrywiaeth o gynlluniau cyllid grant ar gael gan Lywodraeth Cymru ac OZEV, ac mae'r Cyngor yn awyddus i'w defnyddio i wneud cais am arian i'w roi tuag at gost gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan a gwaith cysylltiedig.

 

Nid oedd unrhyw gwestiwn ategol.

 

2. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol M.D. Ashford i'r Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R. Lewis:

 

“Gyda Llywodraeth Cymru yn ddiweddar wedi cyhoeddi cyllid o dan y Model Buddsoddi Cydfuddiannol ar gyfer yr ysgol newydd ym Mhont-y-clun, a oes modd i'r Aelod o'r Cabinet amlinellu amserlen ar gyfer y gwaith a phryd mae modd i ddisgyblion a thrigolion ddisgwyl i’r cyfleuster newydd agor?”

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol R. Lewis:

Dywedodd y Cynghorydd Lewis fod cyllid gan Lywodraeth Cymru wedi arwain at gymeradwyaeth ariannol ar gyfer tri phrosiect ysgol newydd, gan gynnwys y cyfleuster newydd sbon ar gyfer Ysgol Gynradd Pont-y-clun. Ychwanegodd y bydd y cynllun yn cael ei gyflawni o dan y Model Buddsoddi Cydfuddiannol, sef elfen refeniw'r Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu (Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif gynt).

 

Eglurodd y Cynghorydd Lewis y bydd y gwaith ar gyfer Ysgol Gynradd Pont-y-clun yn golygu bod yr holl adeiladau presennol (gan gynnwys ystafelloedd dosbarth dros dro) yn cael eu dymchwel i godi adeilad ysgol deulawr newydd a chyfleusterau chwaraeon a hamdden – gan gynnwys gwaith tirlunio, draenio a seilwaith. Bydd yr adeilad yn cynnwys dwy ystafell ar gyfer y dosbarth meithrin, dwy ystafell i'r dosbarth derbyn, pum ystafell i'r babanod, naw ystafell i'r adran iau, ardal ganolog a phrif neuadd gyda mannau amrywiol eraill. Bydd mannau chwarae awyr agored caled yn cael eu darparu, ynghyd â dwy Ardal Gemau Aml-ddefnydd a mannau chwarae anffurfiol eraill â glaswellt. Bydd gan y ddau faes parcio gyfanswm o 40 o leoedd parcio (bydd gan 10% ohonyn nhw gyfleuster gwefru cerbydau trydan) a bydd nifer helaeth o fannau storio beiciau yn cael eu darparu. Bydd y safle hefyd yn manteisio ar System Ddraenio Drefol Gynaliadwy. 

 

I gloi, dywedodd y Cynghorydd Lewis fod y gwaith o adeiladu'r cyfleuster wedi dechrau ym mis Rhagfyr y llynedd a disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn dechrau 2025.

 

Nid oedd unrhyw gwestiwn ategol.

 

3. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. Edwards i Arweinydd y Cyngor – Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

“Oes modd i'r Arweinydd amlinellu pa gymorth sydd ar gael i helpu trigolion Rhondda Cynon Taf gyda’r argyfwng costau byw?”

Ymateb gan Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd A. Morgan:

 

Dywedodd y Cynghorydd Morgan, o ran cymorth ariannol, fod staff y Cyngor wedi helpu trigolion i fanteisio ar y Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf, y cynllun Taliadau i'r Teulu (lle bo nhw'n gymwys), yn ogystal â chynlluniau cymorth cenedlaethol eraill.

 

Dywedodd y Cynghorydd Morgan fod cyfanswm o £16.7 miliwn wedi’i dalu i drigolion ac aelwydydd mewn perthynas â Chynlluniau Costau Byw Llywodraeth Cymru ers mis Ebrill 2022. Yn ogystal â hynny, mae'r Cyngor wedi talu £5.8 miliwn i bron 29,000 o aelwydydd ers mis Hydref 2022 mewn perthynas â Chynllun Cymorth Tanwydd Llywodraeth Cymru. Ychwanegodd fod y Cyngor yn gwneud popeth o fewn ei allu i gefnogi teuluoedd a chartrefi, gan gynnwys cynnig cymorth ariannol ychwanegol drwy'r Cynlluniau Costau Byw yn ôl Disgresiwn. Mae hyn yn cynnwys y canlynol:

 

Ø  Mae'r cynllun yn cynnwys dau daliad (gwerth £50 a £75) i deuluoedd sydd â phlant o oedran addysg gorfodol;

Ø  Mae'r Cyngor hefyd wedi defnyddio cyllid pellach gwerth £50,000 i wneud Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn i aelwydydd sydd angen y mwyaf o gymorth gyda'u costau tai.

Ø  Mae hyn yn ychwanegol at y £404,000 o Daliadau tai yn ôl Disgresiwn a wnaed o'r arian grant a ddyrannwyd i'r Cyngor gan yr Adran Gwaith a Phensiynau;

Ø  Yn ogystal â hynny mae'r Cyngor wedi rhoi £50,000 ychwanegol i fanciau bwyd lleol i'w helpu nhw i barhau i gyflawni eu gwaith hanfodol.

Daeth yr Arweinydd i’r casgliad bod modd i drigolion ofyn am gymorth ar unrhyw adeg drwy’r Canolfannau Cydnerthedd y Gymuned, neu drwy lenwi ‘ffurflen gais am gymorth’ ar-lein a bydd cymorth yn cael ei ddarparu gan staff y Cyngor, Gwirfoddolwyr Cydnerth y Gymuned, sefydliadau 3ydd Sector, a phartneriaid cymunedol. Ers mis Hydref 2022, mae’r Canolfannau wedi gweld cyfanswm o 287 o geisiadau gan am gymorth gan drigolion.

 

Cwestiwn ategol gan y Cynghorydd J. Edwards:

“Oes modd i'r Arweinydd roi rhagor o wybodaeth am y Canolfannau Croeso yn y Gaeaf?”

Ymateb gan Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd A. Morgan:

Rhoddodd yr Arweinydd ddiweddariad a chadarnhaodd fod y Cyngor yn darparu cefnogaeth i sefydliadau cymunedol i agor fel Canolfannau Croeso yn y Gaeaf. Mae'r rhain yn lleoedd lle mae modd i drigolion fynd i gadw'n gynnes, teimlo'n ddiogel, cael sgwrs a chael gwybodaeth a chyngor am beth i'w wneud os ydyn nhw'n wynebu trafferth. Mae 92 o Ganolfannau Croeso yn y Gaeaf ledled Rhondda Cynon Taf, ac ers i’r canolfannau agor yn hwyr y llynedd, rydyn ni'n amcangyfrif bod 3,200 o bobl wedi ymweld â’r cyfleusterau neu wedi'u defnyddio. Dywedodd yr Arweinydd bod mwy na £459,600 wedi'i ddyrannu i gefnogi'r gwasanaethau sydd ar gael.

4. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. Morgans i Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

“Oes modd i'r Arweinydd amlinellu pa fesurau sy’n cael eu hystyried i helpu i bontio’r bwlch o ran ariannu y mae’r Cyngor yn ei wynebu yn y flwyddyn ariannol nesaf?”

 

Ymateb gan Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd A. Morgan:

Dywedodd yr Arweinydd fod y sefyllfa mae'r Cyngor, yn ogystal â Chynghorau eraill ledled Cymru, yn ei hwynebu o ran y gyllideb yn gwbl ddigynsail. Roedd yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu rho cymaint o arian â phosibl i lywodraeth leol yn y setliad dros dro a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr. Serch hynny, roedd yr Arweinydd o’r farn mai cymorth dros dro fyddai hyn o ystyried y modd y mae Llywodraeth San Steffan yn trin gwasanaethau cyhoeddus.

Rhannodd yr Arweinydd y rhagamcan diweddaraf i'r Cyngor, sef bod y Cyngor yn wynebu bwlch o £38.3 miliwn yn y gyllideb, ychydig yn uwch na'r £36.5 miliwn a adroddwyd ym mis Medi. Mae hyn oherwydd bod y Cyngor yn wynebu pwysau sylweddol parhaus o ran costau. Pwysleisiodd yr Arweinydd pa mor bwysig yw hi i'r Cyngor wneud popeth o fewn ei allu i ddiogelu a blaenoriaethu gwasanaethau statudol craidd, gan gynnwys ysgolion a gofal cymdeithasol. Ychwanegodd fod cyllideb yr ysgolion eisoes wedi gweld cynnydd o 28% dros y 10 mlynedd diwethaf, tra bod cyllideb y Cyngor wedi gweld cynnydd o 11%.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod cam 1 o'r broses ymgynghori ar y gyllideb wedi dod i ben yn ddiweddar a bod Swyddogion bellach yn gweithio i gyflwyno adroddiad i'r Cabinet cyn cynnal ymgynghoriad ar y cynigion terfynol yn y cyfnod cyn mis Mawrth. Ymgysylltwyd â chyfanswm o 1,300 o bobl, gan gynnwys 515 o ymatebion i'r arolwg a 525 o ymatebion i 'boliau cyflym'.

 

Rhoddodd yr Arweinydd fanylion am rai o’r ymatebion i’r ymgynghoriad:

 

o   Cytunodd 72.6% o'r ymatebwyr y dylai'r Cyngor ddarparu digon o arian i dalu costau cyflog uwch a chostau sydd ddim yn ymwneud â chyflog yn ein hysgolion yn llawn.

 

o   Roedd 91.7% o'r ymatebwyr o'r farn bod y dull cyfredol o sicrhau arbedion effeithlonrwydd yn strategaeth dda

 

o   Dywedodd 84.3% o'r ymatebwyr fod adolygiadau unigol o ffioedd a thaliadau yn ddull gweithredu rhesymol

 

o   Roedd 68.3% o'r farn mai diogelu gwasanaethau trwy gynnydd rhesymol yn Nhreth y Cyngor oedd y dewis gorau, ac mae'n debygol y bydd y Cyngor unwaith eto'n cynyddu treth y cyngor ar un o'r cyfraddau isaf ledled Cymru.

 

Dim Cwestiwn Ategol

 

5. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol N. H. Morgan i’r Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol T. Leyshon:

 

“A wnaiff yr Aelod perthnasol o'r Cabinet ddatganiad ar bolisi bioamrywiaeth y Cyngor os gwelwch yn dda?”

Ymateb y Cynghorydd Leyshon:

 

Dywedodd y Cynghorydd Leyshon fod gan y Cyngor hanes helaeth o gyflawni gwelliannau bioamrywiaeth ym mhob rhan o'r sir, yn bennaf o dan fframwaith ei ddyletswydd bioamrywiaeth cyffredinol. Ychwanegodd y bydd hyn yn dwyn ynghyd holl waith bioamrywiaeth y Cyngor, y polisïau defnydd tir sy'n rhan o'r CDLl a'n gwaith o ran Gweithredu dros Natur, y cynllun bioamrywiaeth lleol a ystyriwyd gan Is-bwyllgor Y Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd yn ei gyfarfod diwethaf.

 

Amlinellodd y Cynghorydd Leyshon y Prosiect Tirweddau Byw sef prosiect sy'n ceisio cysylltu rhwydwaith o safleoedd sy'n gyfoethog mewn bioamrywiaeth ac sy'n cael eu rheoli'n gynaliadwy â chymunedau lleol. Mae cam cyntaf y prosiect yn canolbwyntio ar 29 o safleoedd sy'n eiddo i'r Cyngor. Mae'r rhain wedi'u lleoli ar draws 23 o wardiau ac yn cynnwys ardaloedd cefn gwlad a pharciau, mynwentydd a safleoedd S106 a fabwysiadwyd gan y Cyngor. Mae pob un ohonyn nhw'n darparu cysylltedd cynefin hanfodol ar gyfer amrywiaeth o rywogaethau â blaenoriaeth.

 

Eglurodd y Cynghorydd Leyshon fod rheoli mawndiroedd a glaswelltiroedd yn bwysig ar gyfer bioamrywiaeth a storio carbon ac ar hyn o bryd, mae gan 39 o wardiau'r Cyngor ardaloedd ar gyfer rheoli blodau gwyllt. Yn ogystal â hynny, mae'r carfanau Cynllunio a Chefn Gwlad yn parhau i sicrhau cyllid a chyfraniadau S106 yn llwyddiannus ar gyfer cynlluniau sy'n adfer mawnogydd y Cyngor a'u cynefinoedd cyfoethog. Amlygwyd prosiect diweddar yn Hirwaun yn uwchgynhadledd COP26.

 

Dywedodd y Cynghorydd Leyshon fod rhoi mesurau lliniaru ecolegol a sicrhawyd trwy gytundeb cynllunio ar waith yn faes y mae gan Gyngor Rhondda Cynon Taf 'hanes' sylweddol o'i gyflawni. Defnyddiwyd cytundebau rheoli cynefinoedd hirdymor, fel arfer drwy S106, i sicrhau darpariaeth lliniaru a gwella cynefinoedd ar raddfa fawr. O ganlyniad i hyn, mae dros 1,000 hectar o arwynebedd rheoli cynefinoedd wedi'i neillltuo

 

I gloi, esboniodd y Cynghorydd Leyshon fod y rhaglen Gweithredu dros Natur yn adnodd ar y we sy'n amlinellu cynlluniau cyfredol ar gyfer adfer byd natur, ac yn rhoi gwybodaeth i gymunedau a gweithwyr proffesiynol. Mae hefyd yn amlinellu nifer o gamau gweithredu mae modd i bobl eu cymryd ac yn rhannu astudiaethau achos ar amrywiaeth o brosiectau lleol.

 

Nid oedd unrhyw gwestiwn ategol.

 

6. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. J. Davies i'r Aelod Cabinet ar Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R. Lewis:

“Oes modd i'r Aelod o'r Cabinet wneud datganiad ar y tri datblygiad ysgol newydd ar gyfer de’r Fwrdeistref Sirol?”

Ymateb gan y Cynghorydd Lewis:

 

Ymatalodd y Cynghorydd Lewis rhag darparu’r un manylion yn ei ymateb ag yr oedd wedi’i wneud gyda’i ymateb cynharach i’r Cynghorydd Ashford o ran y model ariannu a’r trefniadau cyflawni ar gyfer y cynllun. Ychwanegodd y bydd y prosiectau'n darparu cyfleusterau addysg newydd sbon ym mhob ysgol ac yn gyfle i'r Cyngor fuddsoddi'n sylweddol unwaith eto drwy'r Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, a elwid gynt yn Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

Cadarnhaodd y Cynghorydd Lewis fod Morgan Sindall (contractwyr) wedi dechrau gweithio ar y tri safle ond ychwanegodd fod yr amserlenni ychydig yn wahanol ar gyfer Llanilltud Faerdref a Phen-y-gawsi. Bydd cam cyntaf y gwaith yn cynnwys adeiladu'r ysgolion newydd ar bob safle, gyda gwaith allanol yn digwydd unwaith y bydd yr adeiladau ar agor.

Darparodd y Cynghorydd Lewis ddiweddariadau manwl ar gyfer Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref (a ddarperir erbyn gwanwyn 2024) ac Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi (a ddarperir erbyn haf 2024), a disgrifiodd y cynigion mewnol ac allanol yn Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref. Bydd y rhain yn cynnwys un ystafell ddosbarth feithrin, un dosbarth derbyn, pedair ystafell ddosbarth babanod a phum ystafell ddosbarth iau - ynghyd ag ardal ganolog a phrif neuadd gyda chyfleusterau ac ardaloedd cefnogi amrywiol.

Tu allan, bydd ardaloedd wedi’u tirlunio a mannau chwarae caled a meddal wedi’u gosod o amgylch yr ysgol gyda chyfanswm o 23 o leoedd parcio (pedwar ohonynt yn fannau gwefru cerbydau trydan) a bydd nifer helaeth o fannau storio beiciau yn cael eu darparu.

Yn achos Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi eglurodd y Cynghorydd Lewis y bydd yr holl adeiladau'n cael eu dymchwel er mwyn codi adeilad deulawr newydd yng nghornel ogledd-ddwyreiniol y safle. Bydd yr adeilad yn cynnwys dwy ystafell ddosbarth feithrin, un dosbarth derbyn, tair ystafell ddosbarth i'r babanod a chwe dosbarth i'r disgyblionau, ynghyd ag ardal ganolog a phrif neuadd gyda chyfleusterau ac ardaloedd ategol. Bydd meysydd chwarae caled yn cael eu darparu y tu allan, yn ogystal â chae chwaraeon (7 bob ochr), dwy Ardal Gemau Aml-ddefnydd a meysydd chwarae anffurfiol ar ochr ddeheuol y safle. Bydd cyfanswm o 28 o leoedd parcio (pedwar ohonyn nhw'n fannau gwefru cerbydau trydan) a storfa feiciau helaeth yn cael eu darparu, a bydd y safle hefyd yn cynnwys System Ddraenio Drefol Gynaliadwy.

Cwestiwn Ategol gan y Cynghorydd S. J. Davies:

“Oes modd i'r Aelod o'r Cabinet egluro pa fanteision amgylcheddol a ddaw yn sgil yr adeiladau newydd?”

Ymateb gan y Cynghorydd Lewis:

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Lewis y  bydd y tri adeilad newydd yn cael eu hadeiladu yn unol â nodau Newid Hinsawdd y Cyngor gyda'r nod o gyflawni Carbon Sero-Net. Mae hwn hefyd yn amod gofynnol gan Lywodraeth Cymru ar bob prosiect Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu.

7. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol D. Owen-Jones i Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

 

“Oedd modd i'r Arweinydd roi’r wybodaeth ddiweddaraf am hynt cynlluniau y dyfarnwyd cyllid iddyn nhw o dan y Gronfa Ffyniant Bro?”

 Ymateb gan Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd A. Morgan:

Cadarnhaodd y Cynghorydd Morgan fod y Cyngor wedi llwyddo i dderbyn cymeradwyaeth ar gyfer tri phrosiect yn Rownd 1 o Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ar ddiwedd 2021 gyda chyfanswm cyllid o £20.3 miliwn. Rhoddodd y Cynghorydd Morgan ddiweddariad ar y tri chais llwyddiannus. Mae disgwyl i'r camau cyntaf o'r gwaith i ailddatblygu'r Miwni ym Mhontypridd ddechrau'n fuan, yn dilyn gwaith a wnaed y tu ôl i'r llenni gan garfan Eiddo'r Cyngor mewn cydweithrediad â phartneriaid allanol ar y broses ddylunio a thendro. Deuoli’r A4119 – mae gwaith yn mynd rhagddo ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau yn ystod gwanwyn y flwyddyn nesaf. Mae'r gwaith ar Hwb Trafnidiaeth y Porth hefyd yn mynd rhagddo’n dda a bydd yn cael ei gwblhau’n fuan. Mae trafodaethau wedi'u cynnal gyda Trafnidiaeth Cymru ynghylch rheoli'r safle. Bydd hyn yn darparu cyfnewidfa drafnidiaeth fawr newydd wrth ymyl gorsaf reilffordd y Porth gyda chyfnewidfa fysiau a  chyfleusterau y mae mawr eu hangen ar gyfer y Rhondda Fach. Cadarnhaodd yr Arweinydd fod y tri datblygiad yn gwneud cynnydd da, mae dau ar y gweill gyda'r trydydd yn cychwyn yn fuan, a'r pedwerydd cais yn aros am gymeradwyaeth gan Lywodraeth y DU. Amlinellodd yr Arweinydd y pedwerydd prosiect, sydd wedi'i gynllunio ar gyfer Tresalem yng Nghwm Cynon. Y bwriad yw adeiladu unedau diwydiannol mawr eu hangen ynghyd â chyfleuster Parcio a Theithio ochr yn ochr â'r unedau. Nododd yr Arweinydd fod y Cyngor yn aros yn eiddgar am ganlyniad y pedwerydd cais.

Nid oedd unrhyw gwestiwn ategol oherwydd bod yr amser a neilltuwyd wedi dod i ben.

 

Dogfennau ategol: