Agenda item

Trafod y Rhybudd o Gynnig isod sydd wedi’i gyflwyno yn enwau:

 

A. Morgan, M. Webber, L. Addiscott, M. D. Ashford, J. Barton, D. R. Bevan, J. Bonetto, S. Bradwick, J. Brencher, G. Caple, J. Cook, A. Crimmings, S. J. Davies, R. Davis, V. Dunn, E. L. Dunning, J. Edwards, J. A. Elliott, L. Ellis, S. Emanuel, R. Evans, A. S. Fox, R. Harris, S. Hickman, G. Holmes, G. Hopkins, W. Hughes, G. Jones, G. O. Jones, R. R. Lewis, W. Lewis, C. Leyshon, M. Maohoub, C. Middle, N. H. Morgan, S. Morgans, M. A. Norris, D. Owen-Jones, D. Parkin, S. Powderhill, C. Preedy, S. Rees, A. Roberts, J. Smith, G. Stacey, L. A. Tomkinson, W. Treeby, J. Turner, G. L. Warren, K. Webb, D. Williams, G. E. Williams, R. Williams, T. Williams, R. Yeo:

 

 

Mae Unite yn cynnal yr ymgyrch 'Get Me Home Safely' i sicrhau bod trafnidiaeth ar gael i weithwyr yr economi nos a gweithwyr sifftiau er mwyn iddyn nhw gyrraedd adref yn ddiogel. Mae'r gweithwyr yma'n aml yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i drafnidiaeth ar ôl canol nos, a thalu amdani.  Mae modd darllen rhagor am yr ymgyrch Get ME Home Safely | Make Our Communities & Workplaces Safer (unitetheunion.org) 

Mae gan Gynghorau rôl allweddol i'w chwarae wrth weithio gyda busnesau a phartneriaid cymunedau diogel er mwyn sicrhau bod modd i bobl sy'n gweithio ac yn byw yn eu cymuned leol gyrraedd adref yn ddiogel.

Mae'r Cyngor yma'n nodi:

  • Bod gweithwyr mewn amrywiaeth o ddiwydiannau'n gweithio sifftiau, yn enwedig lletygarwch, iechyd a gofal, manwerthu, glanhau, diogelwch a phorthorion. Mae hyn yn aml yn cynnwys gweithio gyda'r nos.
  • Bod nifer o weithwyr, yn enwedig menywod, yn dod yn fwy pryderus am eu diogelwch wrth deithio i'r gwaith ac yn ôl gyda'r nos.
  • Er ei bod hi'n bosibl bod cyflogwyr yn teimlo bod eu dyletswydd gofal o ran staff yn dod i ben wrth i weithiwr orffen sifft, mae angen iddyn nhw hefyd ystyried teithio adref, yn enwedig yn ystod oriau anghymdeithasol.
  • Bod gwybodaeth gan Unite yn dangos bod y gwendid o ran gorfodi'r gyfraith mewn perthynas ag ymosodiadau rhywiol ar drafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys tynnu llun o dan ddilledyn rhywun arall, yn ofnadwy. Deallir mai dim ond 2% o ddioddefwyr yn rhoi gwybod am achosion o aflonyddu rhywiol ar drafnidiaeth gyhoeddus.
  • Bod ymgyrch Unite the Union, Get Me Home Safely, sy'n galw ar bob cyflogwr i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod modd i weithwyr gyrraedd adref yn ddiogel gyda'r nos ar ôl gweithio, yn un sydd ei hangen yn fawr a dylid ei chefnogi.
  • Bod angen i ragor o staff trafnidiaeth gyhoeddus dderbyn hyfforddiant ar sut i nodi a rhoi gwybod am achosion o aflonyddu rhywiol a bod angen cymryd camau pellach er mwyn gorfodi'r gyfraith o ran ymosodiadau ac aflonyddwch rhywiol ar drafnidiaeth gyhoeddus.

 

Bydd y Cyngor yma yn:

  • Cefnogi ymgyrch 'Get Me Home Safely' Unite the Union. 
  • Ailddatgan ei ymrwymiad i gymryd camau cadarnhaol i atal trais yn erbyn menywod a merched a sicrhau bod pobl yn teimlo'n ddiogel mewn mannau cyhoeddus ledled RhCT. Bydd y Cyngor yma’n parhau i fynd ati i gyflawni nodau Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin yn y Cartref, a Thrais Rhywiol 2022-2026 Llywodraeth Cymru.
  • Parhau i weithio gyda busnesau sydd angen trwydded er mwyn gweithredu economi nos diogel yn unol ag Amcanion ein Polisi Trwyddedu, gweithio gyda deiliaid trwydded, cyflogwyr, yr Heddlu a phartneriaid Cymunedau Diogel i sicrhau bod ein cymunedau yn lleoedd diogel gyda'r nos.
  • Gweithio gyda’n busnesau a sefydliadau sy'n gweithredu gyda'r hwyr ac sy'n cyflogi gweithwyr sifft i hyrwyddo diogelwch gweithwyr ac annog deiliaid trwydded a chyflogwyr i ystyried trafnidiaeth i staff yn rhan annatod o weithredu busnes diogel a chynaliadwy. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod gweithwyr y sectorau yma'n cael eu gwerthfawrogi. Bydd hyn hefyd o fudd mawr o ran diogelwch a lles gweithwyr lletygarwch, yn enwedig menywod, nad oes modd iddyn nhw fforddio trafnidiaeth ddiogel gyda'r nos, na dod o hyd iddi. Bydd trafnidiaeth i staff hefyd o fudd i'n cymuned a'r busnesau trwy wella mesurau recriwtio a chadw staff.
  • Parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddwyn ymlaen ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddiwygio'r safonau gofynnol cenedlaethol ar gyfer tacsis a cherbydau hurio preifat a sut mae'r fframwaith deddfwriaethol yn gweithredu yng Nghymru.

 

 

Cofnodion:

Derbyniwyd y Rhybudd o Gynnig canlynol yn enwau:

 

A. Morgan, M. Webber, L. Addiscott, M. D. Ashford, J. Barton. D. R. Bevan, J. Bonetto, S. Bradwick, J. Brencher, G. Caple, J. Cook, A. Crimmings, S. J. Davies, R. Davis, V. Dunn, E. L. Dunning, J. Edwards, J. A. Elliott, L. Ellis, S. Emanuel, R. Evans, A. S. Fox, R. Harris, S. Hickman, G. Holmes, G. Hopkins, W. Hughes, G. Jones, G. O. Jones, R. R. Lewis, W. Lewis, C. Leyshon, M. Maohoub, C. Middle, N. H. Morgan, S. Morgans, M. A. Norris, D. Owen-Jones, D. Parkin, S. Powderhill, C. Preedy, S. Rees, A. Roberts, J. Smith, G. Stacey, L. A. Tomkinson, W. Treeby, J. Turner, G. L. Warren, K. Webb, D. Williams, G. E. Williams, R. Williams, T. Williams, R. Yeo:

 

 

Mae Unite yn cynnal yr ymgyrch 'Get Me Home Safely' i sicrhau bod trafnidiaeth ar gael i weithwyr yr economi nos a gweithwyr sifftiau er mwyn iddyn nhw gyrraedd adref yn ddiogel. Mae'r gweithwyr yma'n aml yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i drafnidiaeth ar ôl canol nos, a thalu amdani.  Mae modd darllen rhagor am yr ymgyrch Get ME Home Safely | Make Our Communities & Workplaces Safer (unitetheunion.org) 

Mae gan Gynghorau rôl allweddol i'w chwarae wrth weithio gyda busnesau a phartneriaid cymunedau diogel er mwyn sicrhau bod modd i bobl sy'n gweithio ac yn byw yn eu cymuned leol gyrraedd adref yn ddiogel.

Mae'r Cyngor yma'n nodi:

  • Bod gweithwyr mewn amrywiaeth o ddiwydiannau'n gweithio sifftiau, yn enwedig lletygarwch, iechyd a gofal, manwerthu, glanhau, diogelwch a phorthorion. Mae hyn yn aml yn cynnwys gweithio gyda'r nos.
  • Bod nifer o weithwyr, yn enwedig menywod, yn dod yn fwy pryderus am eu diogelwch wrth deithio i'r gwaith ac yn ôl gyda'r nos.
  • Er ei bod hi'n bosibl bod cyflogwyr yn teimlo bod eu dyletswydd gofal o ran staff yn dod i ben wrth i weithiwr orffen sifft, mae angen iddyn nhw hefyd ystyried teithio adref, yn enwedig yn ystod oriau anghymdeithasol.
  • Bod gwybodaeth gan Unite yn dangos bod y gwendid o ran gorfodi'r gyfraith mewn perthynas ag ymosodiadau rhywiol ar drafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys tynnu llun o dan ddilledyn rhywun arall, yn ofnadwy. Deallir mai dim ond 2% o ddioddefwyr yn rhoi gwybod am achosion o aflonyddu rhywiol ar drafnidiaeth gyhoeddus.
  • Bod ymgyrch Unite the Union, Get Me Home Safely, sy'n galw ar bob cyflogwr i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod modd i weithwyr gyrraedd adref yn ddiogel gyda'r nos ar ôl gweithio, yn un sydd ei hangen yn fawr a dylid ei chefnogi.
  • Bod angen i ragor o staff trafnidiaeth gyhoeddus dderbyn hyfforddiant ar sut i nodi a rhoi gwybod am achosion o aflonyddu rhywiol a bod angen cymryd camau pellach er mwyn gorfodi'r gyfraith o ran ymosodiadau ac aflonyddwch rhywiol ar drafnidiaeth gyhoeddus.

 

Bydd y Cyngor yn:

  • Cefnogi ymgyrch 'Get Me Home Safely' Unite the Union. 
  • Ailddatgan ei ymrwymiad i gymryd camau cadarnhaol i atal trais yn erbyn menywod a merched a sicrhau bod pobl yn teimlo'n ddiogel mewn mannau cyhoeddus ledled RhCT. Bydd y Cyngor yn parhau i fynd ati i gyflawni nodau Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin yn y Cartref, a Thrais Rhywiol 2022-2026 Llywodraeth Cymru.
  • Parhau i weithio gyda busnesau sydd angen trwydded er mwyn gweithredu economi nos diogel yn unol ag Amcanion ein Polisi Trwyddedu, gweithio gyda deiliaid trwydded, cyflogwyr, yr Heddlu a phartneriaid Cymunedau Diogel i sicrhau bod ein cymunedau yn lleoedd diogel gyda'r nos.
  • Gweithio gyda'n busnesau a sefydliadau sy'n gweithredu gyda'r hwyr ac sy'n cyflogi gweithwyr sifft i hyrwyddo diogelwch gweithwyr ac annog deiliaid trwydded a chyflogwyr i ystyried trafnidiaeth i staff yn rhan annatod o weithredu busnes diogel a chynaliadwy. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod gweithwyr y sectorau yma'n cael eu gwerthfawrogi. Bydd hyn hefyd o fudd mawr o ran diogelwch a lles gweithwyr lletygarwch, yn enwedig menywod, nad oes modd iddyn nhw fforddio trafnidiaeth ddiogel gyda'r nos, na dod o hyd iddi. Bydd trafnidiaeth i staff hefyd o fudd i'n cymuned a'r busnesau trwy wella mesurau recriwtio a chadw staff.
  • Parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddwyn ymlaen ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddiwygio'r safonau gofynnol cenedlaethol ar gyfer tacsis a cherbydau hurio preifat a sut mae'r fframwaith deddfwriaethol yn gweithredu yng Nghymru.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD mabwysiadu'r Rhybudd o Gynnig.

 

Dogfennau ategol: