Agenda item

Derbyn cwestiynau'r Aelodau yn unol â Rheol 9.2 o Weithdrefn y Cyngor.

 

(Nodwch: Caniateir hyd at 20 munud ar gyfer cwestiynau.)

 

Cofnodion:

1. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol L Addiscott i Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan:

 

"Pa effaith ydy cynlluniau economaidd Llywodraeth y DU yn ei chael ar brisiau ynni, yn enwedig ar gyfer Awdurdodau Lleol?"

 

Ymateb Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd A Morgan:

O ran ynni annomestig, roedd y Cynghorydd Morgan wedi ymateb trwy ddweud nad oedd unrhyw eglurder mewn perthynas â sut bydd y cynllun yn gweithio ar ôl mis Mawrth. Mae hyn yn golygu nad oes gan fusnesau, sefydliadau'r sector gwirfoddol ac awdurdodau lleol unrhyw sicrwydd o ran beth fyddan nhw'n talu'r flwyddyn nesaf.

Ar gyfer aelwydydd, bydd y cap yn cynyddu ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf, o £2,500 i £3,000, sy'n gynnydd sylweddol. Rhoddodd yr Arweinydd wybod nad oes cap cyfwerth ar gael i Awdurdodau Lleol, felly os yw'r Cyngor yn edrych ar opsiynau ynni amgen, megis tyrbinau gwynt, ynni d?r, ffermydd solar ac os yw'n cynhyrchu ei ynni ei hun, bydd hi'n hanfodol defnyddio'r holl ynni (gan ei fod e'n fwy gwerthfawr na gwerthu'r ynni yn ôl i'r Grid Cenedlaethol).

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at y pwysau mawr fydd ar yr Awdurdod Lleol dros y 12 mis nesaf.

 

 

Cwestiwn Ategol:

"Pa ddatrysiadau hir-dymor y mae modd i ni eu hystyried er mwyn osgoi sefyllfaoedd tebyg yn y dyfodol?"

 

Ymateb Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd A Morgan:

Cyfeiriodd yr Arweinydd at yr angen i newid Llywodraeth er mwyn osgoi'r sefyllfaoedd yma gydag economi sy'n tyfu ynghyd â buddsoddi parhaus. Byddai hyn yn effeithio ar bris cyffredinol uned o ynni. Roedd yr Arweinydd hefyd wedi sôn mai dod yn fwy cynaliadwy ar lefel leol a chenedlaethol yw'r ffordd ymlaen a bod Swyddogion y Cyngor yn adolygu ystyriaethau blaenorol mewn perthynas ag opsiynau ynni gwahanol, sydd bellach yn fwy economaidd. Rhoddodd wybod y bydd gofyn i'r Cabinet a'r Cyngor fuddsoddi cyllid sylweddol mewn datrysiadau ynni amgen megis solar ac ynni d?r, fel bod modd i'r Cyngor fod yn fwy hunangynhaliol.

Cyfeiriodd yr Arweinydd at y p?er sydd gan Rwsia dros y cyflenwad nwy yn Ewrop a'r effaith mae hynny'n ei chael ar yr argyfwng ynni. Byddai modd osgoi hyn os oedd modd sicrhau ein bod ni'n hunangynhaliol a chynaliadwy.

2. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol D Parkin i Arweinydd y Cyngor – Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan:

 

"Pa sylwadau sy'n cael eu cyflwyno i Lywodraeth San Steffan mewn perthynas â'r argyfwng cyllid y mae'r Awdurdodau Lleol yn ei wynebu yn y flwyddyn ariannol nesaf?

 

Ymateb Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd A Morgan:

Roedd yr Arweinydd wedi ymateb trwy ddweud ei fod e wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog a Changhellor Llywodraeth y DU, yn rhan o'i rôl fel Arweinydd Cyngor RhCT ac Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mewn perthynas â'r pwysau y mae Awdurdodau Lleol yn eu hwynebu'r flwyddyn nesaf gan nodi ei fod wedi lobïo Llywodraeth y DU am gyllid ychwanegol.

Ychwanegodd fod rhan helaeth o gronfeydd wrth gefn y Cyngor wedi cael ei neilltuo ar gyfer gwasanaethau penodol, gan gynnwys £21miliwn ar gyfer Ysgolion. Er bod y Cyngor yn wynebu gorwariant sylweddol, mae'r Cyngor wedi cadw ei gronfeydd wrth gefn i'w defnyddio'r flwyddyn yma a'r flwyddyn nesaf. Cyfeiriodd at y diffyg buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus, megis y GIG, DVLA, y Swyddfa Pasbortau (mae'r ddau yma'n wynebu llwyth gwaith sylweddol), Network Rail a meysydd eraill sydd angen rhagor o fuddsoddiad ac sydd ddim yn derbyn digon o gymorth gan Lywodraeth y DU, sydd efallai ddim yn cael eu heffeithio'n bersonol nac yn cael eu heffeithio gan y gwasanaethau ac felly dydyn nhw ddim yn gwerthfawrogi'r gwasanaethau yma.

 

Dim Cwestiwn Ategol

 

3. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol K. Morgan i Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

 

"Pa fesurau rhagweithiol sy'n cael eu rhoi ar waith gan y Cyngor er mwyn sicrhau bod draeniau a gylïau yn cael eu clirio, gan atal llifogydd?"

 

Ymateb Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd A Morgan:

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod y Cyngor wedi sefydlu Carfan Cynnal a Chadw Draenio sy'n cynnwys 33 swyddog, mae hyn yn uwch nag unrhyw Awdurdod Lleol arall yng Nghymru. Yn dilyn yr adroddiad ar Storm Dennis a gafodd ei gyflwyno i'r Cabinet yn 2020, mae'r Cyngor wedi caffael contract 5 mlynedd gydag Arch, sydd â depo rhanbarthol yn ardal Porth ar gyfer arolwg teledu cylch cyfyng a glanhau ceuffosydd d?r wyneb.

Dywedodd yr Arweinydd fod arolygwyr (mae yna 3 yn y Fwrdeistref Sirol erbyn hyn) yn asesu gylïau pan fydd cais i glirio draen neu gyli. Os nad oes perygl o dd?r yn casglu, byddwn ni'n mynd i'r afael â'r cais yn rhan o gynllun cynnal a chadw cyffredinol y Cyngor. Os yw'r cais yn ymwneud ag ardal breswyl lle mae perygl i eiddo neu mae yna gofnod o rwystrau yn y gyli, yna bydd y gyli yn cael ei glirio.

 

Cwestiwn Ategol

 

Roedd gyli wedi'i rwystro ar y brif ffordd yn Hirwaun y bore ma, a gallai hyn wedi achosi llifogydd. Mae sawl digwyddiad arall wedi bod lle mae dail neu saim o fusnesau preifat wedi achosi rhwystr mewn gyli. Pan fydd y mesurau rhagweithiol a ddisgrifiwyd yn methu i atal llifogydd, fel rydyn ni wedi'i brofi, ydy'r Cyngor yn monitro hyn ac a oes unrhyw ddata ar gyfer nifer yr alwadau rydyn ni'n ymateb iddyn nhw, hefyd ydy'r Cyngor yn rhoi unrhyw fesurau pellach ar waith wrth ymateb i'r data yma a hynny er mwyn cyflawni'r nod o atal llifogydd mewn modd rhagweithiol?"

 

Ymateb Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd A Morgan:

 

Nododd y Cyngor ei fod e wedi ymateb i'r alwad mewn perthynas â'r gyli soniodd y Cynghorydd K Morgan amdano gan nodi ei fod e wedi cynghori'r trigolyn i gysylltu â Chanolfan Alwadau'r Cyngor. Cadarnhaodd yr Arweinydd fod gwaith glanhau gylïau'n cael ei flaenoriaethu ar sail data sy'n nodi ardaloedd mewn perygl neu unrhyw gofnod o lifogydd yn y gorffennol. Cynhelir gwaith clirio â d?r mewn rhai ardaloedd a chaiff rhai ardaloedd eu glanhau bob mis. Pwysleisiodd yr Arweinydd fod cofnod yn cael ei greu ar system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) y Cyngor ar gyfer pob galwad i'r ganolfan alwadau.  Daeth yr Arweinydd i ben drwy nodi y dylai Aelodau gysylltu â swyddogion os oes gyda nhw unrhyw bryderon mewn perthynas â gylïau wedi'u rhwystro a hynny trwy ffonio Canolfan Alwadau'r Cyngor.

 

4. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. Smith i Arweinydd y Cyngor - Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

 

"A wnaiff yr Arweinydd ddatganiad mewn perthynas â'r gwaith y mae'r Cyngor yn ei wneud o ran cynllunio cyllideb y Cyngor cyn i'r setliad Llywodraeth Leol is ar gyfer y ddwy flynedd nesaf ddod i rym?

 

Ymateb Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd A Morgan:

Nododd yr Arweinydd ei fod e wedi cwrdd ag Arweinwyr, Aelodau'r Cabinet ar faterion Cyllid, yn ogystal â Phrif Weithredwr a Thrysorydd 21 Awdurdod Lleol arall yn RhCT yn ddiweddar, ychwanegodd fod y ffigur ledled Cymru yn debyg i'r diffyg yn RhCT, gydag Abertawe, Caerdydd a Merthyr Tudful, ynghyd ag awdurdodau lleol eraill o faint tebyg, yn nodi diffygion tebyg.

Defnyddiodd yr Arweinydd y gyfatebiaeth ganlynol i ddisgrifio'r sefyllfa, bydd y flwyddyn nesaf yn debyg i gerdded i fyny bryn, bydd y flwyddyn ar ôl hynny yn debyg i ddringo clogwyn ac ymhen dwy flynedd bydd hi'n debyg i gwympo oddi ar y clogwyn gan y bydd Llywodraeth y DU wedi gohirio'i thoriadau sylweddol, a bydd hyn efallai yn arwain at doriadau sylweddol i wariant cyhoeddus. Roedd yr Arweinydd yn gobeithio bod y rhagolygon sy'n nodi y bydd y dirwasgiad yn fyrrach, a bydd yr economi yn tyfu ac ni fydd angen rhagor o doriadau i drethi'r cyfoethog. Yn ei farn ef, dylai'r dreth ffawdelw fod wedi'i chynyddu i 50% neu hyd yn oed 75%, a phwysleisiodd fod y dreth yma'n cyfrif fel elw annisgwyl y tu hwnt i unrhyw beth a ddisgwyliwyd. Roedd e'n gobeithio y bydd unrhyw Lywodraeth yn y dyfodol yn mynd cam ymhellach gyda'i threth ffawdelw.

Datganiad Ategol

"Nid bai'r Cyngor yw'r penderfyniadau anodd yma, mae angen i ni gyfathrebu bod y newidiadau yma i wasanaethau yn digwydd o ganlyniad i benderfyniadau gwleidyddol Llywodraeth y DU. Mae'r unigolion a'r Cyngor mewn sefyllfa debyg, ac mae gofyn iddyn nhw wneud penderfyniadau anodd heb unrhyw fai arnyn nhw eu hunain"

 

5. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol M. D. Ashford i’r Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G. Caple:

 

"Sut mae Cyngor Cymuned Pont-y-clun wedi ymgysylltu â'r Cyngor mewn perthynas â dyfodol Café 50+?"

 

Ymateb y Cynghorydd G Caple:

 

Rhoddodd y Cynghorydd Caple wybod fod Cyngor Cymuned Pont-y-clun wedi rhoi gwybod ar 8 Medi na fyddan nhw'n cymryd Café 50 ar brydles. O ran ymgysylltu, fodd bynnag, nododd y Cynghorydd Caple fod Swyddogion wedi cadarnhau nad oedd y Cyngor Cymuned wedi ymgysylltu â'r Cyngor ac roedd y Cyngor wedi synnu eu bod nhw dim ond wedi rhoi gwybod am y newid.

 

Cwestiwn Ategol:

 

A fyddech chi'n cytuno y dylai gwaith ymgysylltu ystyrlon gael ei gynnal gyda thrigolion a'r Cyngor mewn perthynas â'r mater yma?

 

Ymateb y Cynghorydd G Caple:

 

Dywedodd y Cynghorydd Caple y dylai proses ymgynghori gael ei chynnal cyn gwneud penderfyniad o'r fath, a'i bod hi'n siomedig nad oedd gwaith ymgysylltu ystyrlon wedi'i gynnal gyda'r Cyngor yn yr achos yma. Ychwanegodd fod Café 50+ yn boblogaidd iawn ac yn cael ei ddefnyddio'n aml gan y bobl leol, ac mae'n hanfodol bod unrhyw newidiadau i'r gwasanaeth yn cael ei chyfathrebu â thrigolion a defnyddwyr gwasanaeth.

 

6. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. Rees i Arweinydd y Cyngor – Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

 

"Yn dilyn y gyllideb fach drychinebus ym mis Medi, sut fydd y mesurau a nodwyd yn natganiad yr hydref yn ddiweddar yn effeithio ar Awdurdodau Lleol Cymru o ran fformiwla Barnett a'r Grant Bloc?"

 

Ymateb Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd A Morgan:

 

Rhoddodd yr Arweinydd wybod fod marchnadoedd Gilt wedi gwella sy'n golygu ei bod hi'n effeithio ar gostau benthyca ar gyfer buddsoddi cyfalaf, tra bod costau benthyca llywodraeth leol eisoes wedi'u pennu. Mae tua 80% o gostau benthyca Llywodraeth y DU wedi'u pennu, ac mae 20% o'r benthyca yn dibynnu ar lefelau llog ar y diwrnod. Roedd hyn yn golygu bod y gyllideb fach ond yn ychwanegu £15miliwn at fenthyca'r DU.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd fod y mesurau a gyhoeddwyd yn Natganiad yr Hydref yr wythnos ddiwethaf, yn golygu y bydd Cymru'n derbyn cyllid ychwanegol gwerth £1.2biliwn dros y ddwy flynedd nesaf. Esboniodd yr Arweinydd fod y cyllid yma'n cael ei groesawu ar gyfer ein gwasanaethau mawr; fodd bynnag, nid yw'r cyllid yn mynd i'r afael â'r bwlch yn y gyllideb y mae'r Cyngor yn ei wynebu ac sy'n ehangu o hyd. Mae costau ynni'n cynyddu i £200miliwn ac mae'r GIG yn wynebu cynnydd gwerth £207miliwn mewn costau ynni. Gan ystyried yr uchod, bydd 80% o'r cyllid ar gyfer y flwyddyn nesaf  dim ond yn talu am gostau ynni ar gyfer y GIG a Chynghorau Cymru. 

 

Daeth yr Arweinydd i ben drwy nodi y bydd cyfres o gyfarfodydd yn cael ei chynnal rhwng nawr a 14 Rhagfyr pan fydd y Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro yn cael ei gyhoeddi ond hyd yn oed gyda'r £1.2biliwn ychwanegol dros y ddwy flwyddyn nesaf, ni fydd y gyllideb ar gyfer 2024/25 yn uwch na'r flwyddyn gyfredol mewn gwirionedd.

 

Nid oedd unrhyw amser ar gyfer cwestiwn ategol.

 

Dogfennau ategol: