Agenda item

Rhannu adroddiadau diweddaraf Archwilio Cymru mewn perthynas â gwasanaethau'r Cyngor â'r Aelodau a rhoi cyfle i Aelodau adolygu'r cynnydd y mae'r Cyngor wedi'i wneud hyd yn hyn o ganlyniad i roi'r argymhellion ar waith.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu yr adroddiad i'r Aelodau. Roedd yr adroddiad yma’n cyflwyno adroddiadau diweddaraf Archwilio Cymru i'r Pwyllgor mewn perthynas â gwasanaethau'r Cyngor ac yn rhoi cyfle i'r Aelodau adolygu'r cynnydd y mae'r Cyngor wedi'i wneud hyd yn hyn o ran rhoi'r argymhellion ar waith.

 

Yn 2021/22, cynhaliodd Archwilio Cymru archwiliad o drefniadau a dulliau cyffredinol pob Cyngor mewn perthynas â thrawsnewid, addasu a chynnal y gwasanaethau sy'n cael eu darparu.  Roedd yr adolygiad yn canolbwyntio ar sut mae'r Cyngor yn mynd i'r afael â hyn mewn perthynas â rheoli'i asedau a'i weithlu mewn modd strategol.

 

Er gwybodaeth, nid oedd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi nodi unrhyw faterion i'w cyfeirio yn ôl at y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn ystod ei gyfarfod ar 7 Medi 2022

 

Aeth y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Cyllid a Gwasanaethau Gwella ymlaen i nodi manylion yr adroddiad a oedd yn trafod un argymhelliad gan Archwilio Cymru.  “Mae angen i'r Cyngor sicrhau bod yr egwyddor datblygu cynaliadwy yn llywio ei ddull mewn perthynas â'i holl asedau.  Er enghraifft, dylai'r Cyngor ddatblygu dull gweithredu mwy hirdymor mewn perthynas â'i asedau; a bydd angen i'r Cyngor integreiddio ei weithlu a'i strategaethau digidol yn llawn yn rhan o'r cynlluniau tymor hwy ar gyfer ei asedau”.  Cyfeiriodd yr Aelodau at Atodiad 1a sy'n nodi sut mae'r Cyngor yn ymgymryd â'r camau a fydd yn mynd i'r afael â'r argymhelliad yma.  

 

Holodd Aelod gwestiwn ynghylch pa Bwyllgor sy'n derbyn gwybodaeth am y Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Cyllid a Gwasanaethau Gwella fod gwybodaeth am y mater yma'n cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu o bryd i'w gilydd wrth iddo gael ei adnewyddu.  Gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth gyfrinachol, caiff ei gyflwyno fel eitem eithriedig. 

 

Dywedodd Aelod y byddai modd adolygu dulliau rheoli asedau'r Cyngor, yn enwedig mewn perthynas â dulliau gweithio hybrid a sut caiff hyn ei reoli o ran unigedd a llesiant staff.  Ychwanegodd Aelod arall at hyn a phwysleisiodd bwysigrwydd cadw mewn cysylltiad â staff, yn enwedig y rhai sydd mewn perygl o gael eu hynysu wrth weithio gartref a sicrhau bod eu lles yn cael ei flaenoriaethu.

 

Ymatebodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth trwy ddweud y bydden ni'n disgwyl gweld egwyddorion sy'n cynnwys manteisio i'r eithaf ar asedau ein canol trefi yn rhan o'n Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol i gefnogi adfywiad ein canol trefi.  Gan gyfeirio at Llesiant staff, rhoddodd wybod i'r Aelodau bod gwaith ymgysylltu parhaus yn cael ei gynnal gyda staff, megis arolygon ynghylch gweithio gartref ac yn y swyddfa ac ymgysylltu â charfanau unigol.  Mae meysydd gwasanaeth gwahanol yn rhannu adeiladau ac rydyn ni'n ceisio adborth gan staff yn gyson i sicrhau bod y dull yma'n parhau i fanteisio i'r eithaf ar adnoddau'r Cyngor ac adnoddau o ran staff.

 

Holodd Aelodau a fydd yr Awdurdod yn adolygu'r proffil Cymuned i sicrhau bod asedau'n cael eu dosbarthu'n deg, a hefyd a fyddai lefelau tlodi plant yn cael eu hystyried wrth adolygu'r proffil yma fel bod modd i ni gefnogi'r asedau sydd eu hangen mwyaf.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Cyllid a Gwasanaethau Gwella y bydd dull y Cyngor o ran rheoli asedau yn sicrhau bod cyfleusterau yn y sefyllfa orau posibl i gefnogi'n cymunedau, bydd lleoliad yn hollbwysig a phwysleisiodd y bydd y Cyngor yn sicrhau bod yr asedau yma o safon dderbyniol, yn enwedig o ran effeithlonrwydd ynni a Newid yn yr Hinsawdd, fel eu bod nhw'n cael eu rheoli mewn modd cynaliadwy.  Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu y bydd Asesiad o'r Effaith ar Iechyd y Cyhoedd, sy'n ystyried yr holl ofynion ar gyfer gwneud penderfyniadau allweddol, yn cael ei gynnal wrth wneud y penderfyniadau yma, a hynny'n rhan o'r Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb a'r Asesiad o'r Effaith Economaidd-Gymdeithasol.

 

Wrth ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Cyllid a Gwasanaethau Gwella yr amserlen sydd ar waith ar gyfer y Cynllun Rheoli Asedau. Bydd y Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol yn cael ei lunio erbyn 31 Mawrth 2023 a bydd modd i Aelodau ei adolygu.

 

Cyfeiriodd Aelod at y broses o waredu asedau, gan nodi bod modd i'r broses gymhleth yma gymryd peth amser ar gyfer ein partneriaid yn y gymuned. Holodd a fyddai modd symleiddio'r broses yma.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Cyllid a Gwasanaethau Gwella fod y broses Trosglwyddo Asedau yn rhan o Gynllun Gweithredu'r Cynllun Corfforaethol sy'n cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd y Cynllun yn parhau i gael ei adolygu wrth i ni dderbyn adborth gan ein partneriaid yn y sector gwirfoddol, i wneud yn si?r ei fod yn parhau i fod yn addas at y diben gan sicrhau bod diwydrwydd dyladwy ar waith drwy gydol y broses.

 

 

PENDERFYNWYD:

 

1.    Bod Aelodau wedi cynnal gwaith craffu mewn perthynas â'r diweddariad cynnydd (Atodiad 1a - Rheoli Asedau’n Strategol ac Atodiad 2a - Cynllunio'r Gweithlu). 

2.    Trafodwyd y cynnydd sydd wedi'i wneud gan Wasanaethau'r Cyngor hyd yn hyn mewn perthynas â gweithredu'r argymhellion a nodwyd gan Archwilio Cymru a phenderfynu p'un a oes angen gwybodaeth bellach a/neu ddiweddariadau cynnydd pellach ai peidio. 

3.    Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch unrhyw faterion llywodraethu, mesurau rheoli mewnol neu reoli risgiau y mae angen eu cyfeirio at Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio'r Cyngor. 

 

Dogfennau ategol: