Agenda item

Cyflwyno Adroddiad Cyflawniad Chwarter 1 y Cyngor (hyd at 30 Mehefin 2022)

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu adroddiad i'r Aelodau. Roedd yr adroddiad yma'n rhoi cyfle i Aelodau graffu ar gyflawniad ariannol a gweithredol y Cyngor yn ystod Chwarter 1 (hyd at 30 Mehefin 2022)

 

Yna, tynnodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Cyllid a Gwasanaethau Gwella sylw at bwyntiau allweddol yr adroddiad. Rhoddodd wybod i Aelodau bod y sefyllfa o ran y Gyllideb Refeniw yn y chwarter cyntaf yn rhagamcanu gorwariant o £10.45miliwn, sydd llawer yn uwch na blynyddoedd blaenorol.  Ychwanegodd fod y rhagamcaniad yn ystyried y cynnydd amcangyfrifiedig ar gyfer gwasanaethau megis y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol, costau chwyddiant ychwanegol megis gwasanaethau cludiant ysgol a llai o bobl yn manteisio ar wasanaethau, megis y Gwasanaethau Hamdden, wrth i bobl barhau i ymadfer yn dilyn effaith pandemig Covid-19 ac argyfwng costau byw’r DU.

 

Aeth y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Cyllid a Gwasanaethau Gwella ymlaen i ddweud bod y buddsoddiad Cyfalaf ar 30 Mehefin 2022 yn cyfateb i £13.842miliwn, gyda nifer o gynlluniau yn cael eu hail-broffilio yn ystod y chwarter i adlewyrchu'r newid o ran costau ac amserlenni cyflawni wedi'u diweddaru, mae cyllid grant allanol newydd sydd wedi'i gymeradwyo yn ystod y chwarter hefyd wedi'i gynnwys yn rhan o'r rhaglen. Aeth y Cyfarwyddwr Gwasanaeth ati i drafod yr adroddiad yn ei gyfanrwydd ac yna croesawodd sylwadau a chwestiynau gan Aelodau.

 

Cyfeiriodd Aelod at golli staff y Gwasanaethau Cymuned gan holi pam eu bod nhw wedi gadael.  Gofynnodd Aelod arall am eglurhad ynghylch sut y byddai modd cyflogi staff newydd (yn lle'r staff sydd wedi gadael) gan ystyried yr arbedion cyllidebol sydd eu hangen.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Cyllid a Gwasanaethau Gwella fod staff wedi gadael oherwydd salwch ac ymddeoliad, neu'n syml, maen nhw wedi dewis gadael y sefydliad.  Cadarnhaodd fod gweithdrefnau AD ar waith pan fydd aelod o staff yn gadael, mae'r rhain yn cynnwys cyfweliadau ymadael fel bod modd i'r sefydliad ddysgu o brofiadau'r unigolion yma. Aeth ymlaen i ddweud bod y Cyngor yn ystyried dulliau mwy effeithlon o weithio o hyd, gan gynnwys dulliau trawsnewid digidol a gweithdrefnau gweithio gartref.  Roedd yn cydnabod bod hyn yn anoddach mewn lleoliadau fel ysgolion oherwydd nifer yr athrawon a natur eu gwaith, felly yn gyffredinol caiff athrawon newydd eu penodi yn lle'r athrawon sy'n gadael.  Dywedodd wrth yr Aelodau fod trefniadau gwych ar waith o ran cynllunio'r gweithlu, ac mae'r Cyngor yn ymgysylltu â'n prentisiaid, swyddogion graddedig, ysgolion a phrifysgolion yn barhaus gan weithredu dull sy'n canolbwyntio ar feithrin talent yn fewnol.  Ychwanegodd y byddai modd defnyddio asiantaethau lle bo angen.  Fodd bynnag, aeth ymlaen i gydnabod bod y bwlch yn y gyllideb yn golygu y bydd y Cyngor yma'n wynebu heriau yn y dyfodol. Mae'r Cyngor yn cyfathrebu â Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Awdurdodau Lleol eraill ar y mater yma.  Aeth ymlaen i ddweud bod y carfanau cyllid hefyd yn gweithio gyda phob deiliad cyllideb i nodi arbedion cyllidebol posibl ar gyfer pob Cyfadran, ynghyd ag adolygiad o ffioedd a chostau.

 

Nododd Aelod fod yna gr?p llywio sy’n adrodd ar faterion recriwtio a chadw staff a gofynnodd a fyddai modd i'r Pwyllgor dderbyn trosolwg o'r gwaith y mae'r gr?p yn ei wneud. Gofynnodd sut y byddai modd i'r Awdurdod roi cymorth gwell i staff gofal a oedd dan lawer o bwysau ac yn derbyn cyflog isel.

 

Cytunodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Cyllid a Gwasanaethau Gwella y byddai modd i'r Gr?p Llywio roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau.  Aeth ymlaen i ddweud bod yr Awdurdod wedi ymrwymo i dalu cyflog teg i staff ac mae'r ymrwymiad yma wedi'i adlewyrchu yn y Polisi Cyflog Byw Gwirioneddol.  Mae staff hefyd yn cael eu hyfforddi a'u cefnogi'n briodol ac mae’r Cyngor yn sicrhau eu bod nhw'n teimlo'n rhan o garfan yn ystod eu cyflogaeth.

 

Mynegodd Aelod bryderon ynghylch colli incwm a gofynnodd sut mae'r Awdurdod yn annog rhagor o bobl i ddefnyddio'n cyfleusterau hamdden er mwyn cynyddu incwm.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Cyllid a Gwasanaethau Gwella fod ymgyrch farchnata newydd wedi'i lansio ar gyfer cyfleusterau Hamdden a hynny i gynyddu'r nifer o bobl sy'n manteisio ar y cyfleusterau yma, megis cynigion rhagarweiniol a rhaglenni adsefydlu i wella iechyd a lles trigolion.  Rydyn ni wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n ymaelodi, felly dylen ni weld sefyllfa well yn Chwarter 2.  O ran y rhagolygon economaidd mewn perthynas â thrigolion sy'n talu Treth y Cyngor, mae'r Awdurdod yn sicrhau ein bod ni'n rhoi cymaint o rybudd ag sy'n bosibl ac rydyn ni'n parhau i ymgysylltu â thrigolion, yn enwedig y rheiny sy'n wynebu caledi gan sicrhau eu bod nhw'n effro i'r gwasanaethau cymorth sydd ar gael iddyn nhw. Y gobaith hefyd yw y byddai'r taliadau Costau Byw a'r taliadau Costau Byw Lleol a awdurdodwyd gan y Cabinet i gefnogi teuluoedd â phlant oedran ysgol yn RhCT yn eu cefnogi drwy gyfnod y gaeaf.

 

Cyfeiriodd Aelod at yr anghenion o ran llety yn y Fwrdeistref ac roedd yn bryderus bod y ffigurau digartrefedd yn dyblu.  Gofynnodd a fyddai modd i'r Pwyllgor dderbyn rhagor o wybodaeth am y maes hwn. 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Cyllid a Gwasanaethau Gwella fod Llety ar gyfer y rhai mwyaf agored i niwed wedi'i gynnwys yn y Gofrestr Risg Strategol.  Mae'r Cyngor wedi mabwysiadu dull strategol ac mae gwaith yn cael ei wneud gyda phartneriaid allanol ar hyn o bryd i ymchwilio i'r pwysau ar y gwasanaeth.  Dywedodd y bydd diweddariadau pellach yn cael eu cyflwyno yn rhan o gynllun gweithredu unigol.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu y byddai'r mater yma'n cael ei gyfeirio at y Pwyllgor Cymunedau.

 

Gofynnodd Aelod a oedd Cofrestr Risg Strategol fanylach sy'n cael ei harchwilio'n rheolaidd yn bodoli.  Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Cyllid a Gwasanaethau Gwella, fod Cofrestr wedi'i sefydlu a bod y Gofrestr yma'n cael ei chyflwyno i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at danwariant yn y gwasanaeth ADY a gofynnodd pa effaith mae hyn yn ei chael ar y gwasanaeth.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Cyllid a Gwasanaethau Gwella fod y tanwariant presennol yn deillio o Ddeddf ADY 2018 a ddaeth i rym ym mis Medi 2021, ac yn dilyn hyn, cynhaliodd y Gyfarwyddiaeth Addysg adolygiad o'r gofynion o ran adnoddau. Roedd hyn wedi arwain at ailstrwythuro a chreu swyddi ychwanegol.  Cafwyd rhai anawsterau wrth recriwtio i bob swydd felly mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd a bydd y swyddi'n cael eu llenwi drwy gydol y flwyddyn.

 

Cyfeiriodd aelod at ffigurau absenoldeb oherwydd salwch a throsiant staff a gofynnodd pa effaith mae hyn yn ei chael ar ein Cymunedau ac a oes unrhyw beth arall y dylai aelodau fod yn ymwybodol ohono. 

 

Ymatebodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Cyllid a Gwasanaethau Gwella trwy ddweud bod sefyllfa Cyllideb Refeniw'r Cyngor yn golygu bod angen rhoi trefniadau cyflenwi staff ar waith, gan gynnwys trefniadau goramser, staff achlysurol a staff asiantaethau.  Er bod gweithredu'r mesurau yma'n rhoi pwysau ariannol sylweddol ar y Cyngor, ychwanegodd fod y trefniadau'n sicrhau nad yw'r Gwasanaethau Rheng Flaen yn gwanhau neu'n waethygu. 

 

Cyfeiriodd Aelod at sylwadau cynharach o ran sut mae’r Cyngor yn datblygu ei weithwyr ei hun, nododd ei fod yn gwerthfawrogi'r angen i greu diwylliant o ddysgu ond gofynnodd a ydyn ni mewn perygl o golli cyfleoedd trwy edrych tuag i mewn yn unig. 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Cyllid a Gwasanaethau Gwella fod hyn yn rhywbeth y byddai modd i'r Gr?p Llywio ar faterion Recriwtio a Chadw Staff roi rhagor o wybodaeth i'r Aelodau amdano. Mae modd i hyn gynnwys gwybodaeth ynghylch materion mewnol, gwaith meincnodi sy'n cael ei gynnal a pha gyfleoedd dysgu a datblygu sydd ar gael i gydweithwyr. 

 

Ar ôl i'r Aelodau holi cwestiynau, dymunodd y Cadeirydd ddiolch i'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth am ei adroddiad ac am ymateb i gwestiynau'r Aelodau.  Ychwanegodd ei bod hi'n dymuno bod rhagor o ddiweddariadau ac adroddiadau yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor, a bod gwybodaeth bellach yn cael ei chyflwyno i'r Pwyllgor Craffu - Gwasanaethau Cymuned, megis gwaith y Gr?p Llywio ar faterion Recriwtio a Chadw Staff, a Digartrefedd ac anghenion o ran Llety yn y Fwrdeistref.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.    Bod yr Aelodau wedi craffu ar gyflawniad ariannol a gweithredol y Cyngor yn Chwarter 1 (hyd at 30 Mehefin 2022). 

 

Trafodwyd y materion sydd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad yn unol â Chylch Gorchwyl y Pwyllgor, bydd y rhain yn destun craffu pellach.

Dogfennau ategol: