Agenda item

Derbyn cwestiynau'r Aelodau yn unol â Rheol 9.2 o Weithdrefn y Cyngor.

 

(Nodwch: Caniateir hyd at 20 munud ar gyfer cwestiynau.)

 

Cofnodion:

 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu y byddai ymatebion ysgrifenedig yn cael eu darparu i'r sawl sydd wedi cyflwyno cwestiynau un a thri yn sgil absenoldeb yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Ieuenctid a'r Gymraeg, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R. Lewis. Yn ogystal â hynny, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth ei fod e wedi derbyn cais gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Rees-Jones i dynnu'i chwestiwn oddi ar y rhestr (cwestiwn 5).

 

 

1.  Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Williams i Arweinydd y Cyngor - Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

 

“Pa gynnydd ydy'r Cyngor wedi'i wneud o ran cyflawni ymrwymiadau'r maniffesto a gafodd ei gyflwyno yn ystod yr etholiadau lleol?”

Ymateb gan y Cynghorydd A. Morgan:

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod pob un o ymrwymiadau maniffesto'r weinyddiaeth ddiwethaf wedi'u cyflawni a bod ugain ymrwymiad craidd ar gyfer y tymor yma. Dywedodd fod cynnydd wedi’i wneud yn y meysydd canlynol:

Ø  Mae cyllid wedi'i sicrhau ar gyfer deg Warden Cymunedol, ac mae'r Cyngor wedi llwyddo i recriwtio deg Warden;

Ø  Trafodaethau gyda Heddlu De Cymru ynghylch recriwtio deg Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu ychwanegol;

Ø  Cyllideb o £100,000 wedi'i chytuno ar gyfer y cofebion rhyfel, mae Swyddog Cofebion Rhyfel bellach wedi dechrau yn ei swydd;

Ø  Cynyddu nifer y Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd Ysgolion;

Ø  Cyflwyno Prydau Ysgol am Ddim ym mhob Ysgol Gynradd o fis Medi 2022;

Ø  Arian ychwanegol ar gyfer y Gwasanaeth Ieuenctid (yn enwedig i gefnogi ac ehangu nifer yr hybiau symudol);

Ø  Cyflwyno'r rhaglen fuddsoddi fawr sy'n ymwneud â gwefru cerbydau trydan;

Ø  Cyflwyno adroddiadau i'r Cabinet megis y Strategaeth ar gyfer Plannu Coed sy'n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd;

Ø  Cyllid pellach ar gyfer gwelliannau priffyrdd yn y dyfodol

 

Cwestiwn Ategol gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol R. Williams:

“All yr Arweinydd ddweud rhagor am un o’r ymrwymiadau, sef darparu cymorth ychwanegol i deuluoedd sydd â’r angen mwyaf, yn wyneb yr argyfwng costau byw (ac yn dilyn y cyhoeddiadau diweddar yn rhan o'r gyllideb fechan gan y Llywodraeth Ganolog)?”

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan:

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd y bydd yr Awdurdod Lleol yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i gyflwyno ail gam y rhaglen i gefnogi trigolion yn ystod yr argyfwng costau byw. Derbyniodd trigolion sy'n derbyn credyd treth gwaith a chredyd cynhwysol gymorth yn gynharach yn y flwyddyn. Mae’r cynllun gwreiddiol bellach wedi’i ehangu i gynnwys y rhai sy’n gymwys ar gyfer Credydau Pensiwn, gyda dros £300miliwn wedi'i ddarparu gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r trigolion yma. Roedd yr Arweinydd wedi galw ar yr Aelodau Etholedig i annog trigolion i hawlio'r cymorth y mae ganddyn nhw'r hawl i'w dderbyn.

Cyfeiriodd yr Arweinydd at y cymorth y mae'r Cyngor ei hun yn ei ddarparu, megis taliad o £125 i holl staff y Cyngor sy'n derbyn cyflog Gradd 6 neu'n is a £75 i bob teulu gyda phlant oed ysgol. Yn ystod y misoedd nesaf, amcangyfrifodd yr Arweinydd y bydd yr awdurdod lleol yn gwneud tua 30,000 o daliadau i drigolion. Bydd y taliadau yma, yn ogystal â chyllid Llywodraeth Cymru, yn golygu y bydd y Cyngor yn gwneud cyfanswm o 70,000 o daliadau i'w drigolion lleol i gynorthwyo'r rhai mewn angen.

 

2.  Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. Barton i Ddirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M. Webber:

 

“All y Dirprwy Arweinydd wneud datganiad ar raglen achlysuron y Cyngor ar gyfer 2022/23 wrth i ni symud tuag at fywyd ar ôl y pandemig?”

 

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol M. Webber:

 

Cadarnhaodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Webber fod y Cyngor bellach yn cynnal ei raglen achlysuron yn ystod misoedd yr hydref/gaeaf. Cafodd y rhaglen yma ei gohirio yn ystod y ddwy flynedd anodd ddiwethaf wrth i'r Cyngor droi ei sylw at sicrhau diogelwch y trigolion yn ystod pandemig covid, yn hytrach na chynnal yr achlysuron poblogaidd. Dywedodd y Cynghorydd Webber fod achlysuron diweddar wedi denu mwy o bobl nag erioed, megis G?yl Aberdâr ym mis Mehefin (dros 15,000 o bobl) ac achlysur Cegaid o Fwyd Cymru, Pontypridd, ym mis Awst (dros 30,000 o bobl). Mae achlysuron y gaeaf yn cynnwys dau achlysur poblogaidd iawn, Rhialtwch Calan Gaeaf ac Ogof Siôn Corn. Bydd pum achlysur y Nadolig yn cael eu cynnal yng nghanol ein trefi, gan gynnwys cyngerdd G?yl Goffa a fydd yn cael ei gynnal yn Theatr y Colisëwm, Aberdâr.

 

Dywedodd y Cynghorydd Webber fod y Cyngor eisoes yn gweithredu unrhyw ganllawiau Covid-19 a argymhellir ac yn cadw at y canllawiau yma yn ystod yr achlysuron sy'n cael eu cynnal. Er nad oes unrhyw gyfyngiadau ar waith, mae'r Cyngor yn parhau i gynnal asesiadau risg ac yn gweithredu unrhyw fesurau angenrheidiol i ddiogelu staff a'r sawl sy'n mynychu pob un o'r achlysuron.

 

Cwestiwn ategol gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. Barton:

“Sut mae’r Cyngor yn cefnogi Grwpiau Cymunedol a sefydliadau yn y Fwrdeistref Sirol yn sgil y pwysau cynyddol ar drefnwyr i gynnal achlysuron yn y gymuned mewn modd effeithiol?”

 

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol M. Webber:

 

Dywedodd y Cynghorydd Webber ei bod hi'n anodd i garfan achlysuron y Cyngor ddarparu cymorth un wrth un i'r holl grwpiau cymunedol, ond cadarnhaodd fod cyngor a chanllawiau yn cael eu darparu drwy'r Gr?p Cynghori Diogelwch Achlysuron, yn ogystal â'r corff amlasiantaeth, sy'n cynnwys Carfan Trwyddedu a Charfan Cynllunio'r Cyngor, Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Mae Carfan Achlysuron y Cyngor yn gyfrifol am reoli rhaglen 'Beth Sy' 'mlaen' lle mae modd hysbysebu achlysuron unigol.

 

 

3. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Davies i Arweinydd y Cyngor – Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan:

 

“All yr Arweinydd roi’r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau sy'n cael eu cynnal gyda Llywodraeth Cymru yngl?n â'r gyllideb yn rhan o'i rôl fel Arweinydd CLlLC?”

 

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan:

 

Disgrifiodd yr Arweinydd y sefyllfa bresennol fel un 'difrifol' a chyfeiriodd at y Cynllun Ariannol Tymor Canolig a fyddai'n cael ei gyflwyno i'r Cyngor nes ymlaen yn y cyfarfod gan amlygu'r bwlch yn y gyllideb. Nododd yr Arweinydd fod Llywodraeth Leol yn wynebu sefyllfa ddigynsail, ac aeth ymlaen i ddisgrifio'r dyfodol fel 'cyni eithafol'. Bydd hyn yn effeithio ar bwysau o ran costau, gyda chynnydd mewn costau bwyd a chostau cyfleustodau o ganlyniad i newidiadau diweddar yn y farchnad a'r fasnach fyd-eang.

Ychwanegodd yr Arweinydd fod trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru wedi bod yn gadarnhaol, gydag ymrwymiad y bydd cyllid yn cael ei ddarparu i’r awdurdodau lleol, pe bai cyllid ar gael iddynt. Fodd bynnag, nid oes modd i Lywodraeth Cymru ddarparu rhagor o gyllid yn rhan o'r gyllideb dros dro. Atgoffodd yr Arweinydd y Cyngor nad oes gan Lywodraeth Cymru bwerau benthyca ar gyfer materion refeniw, ond mae ganddi bwerau benthyca cyfyngedig ar gyfer materion cyfalaf.

Dywedodd yr Arweinydd fod awdurdodau lleol yng Nghymru yn gwneud yn well na'r rhai yn Lloegr o ganlyniad i gyllid pellach ac amddiffyniad yng Nghymru rhag cyni. Cadarnhaodd y bydd trafodaethau rheolaidd yn cael eu cynnal gyda Llywodraeth Cymru yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf ac y bydd ymgyrchoedd trawsbleidiol ar lefel lleol a Llywodraeth Cymru i lobïo am gymorth ychwanegol.

 

Cwestiwn ategol gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Davies:

“Beth yw barn yr Arweinydd ar ddiwygio fformiwla Barnett?”

 

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan:

 

Rhannodd y Cynghorydd Morgan ei farn ar Fformiwla Barnett a siaradodd hefyd am yr anawsterau sy'n codi pan mae'r Trysorlys yn darparu cyllid neu ddyraniad sy'n deillio o 'adnoddau presennol', heb ddarparu tystiolaeth bellach. Rhoddodd yr Arweinydd enghraifft o ddyfarniad cyflog Athrawon yn Lloegr (5%) ac wedyn dyfarniad cyflog Athrawon yng Nghymru, a oedd wedi deillio o 'adnoddau presennol' o fewn yr Adran Addysg. Roedd hyn wedi effeithio ar y cyllid sydd ar gael yng Nghymru, a hefyd wedi dileu'r opsiwn i ddarparu setliad cyflog gwell sy'n uwch na'r 5%.

 

4. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Turner i Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

 

“A wnaiff yr Aelod o'r Cabinet sy’n gyfrifol am faterion y Priffyrdd amlinellu’r amserlenni ar gyfer gosod pont droed rheilffordd newydd yn Llanharan?”

 

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan:

 

Ymatebodd yr Arweinydd drwy ddweud bod oedi wedi bod gyda'r gwaith ar y bont o ganlyniad i ddirywiad yng nghyflwr y bont ers yr arolwg cychwynnol. Roedd hyn wedi arwain at gau'r bont ar frys.  Cadarnhaodd fod y gwaith bellach yn cael ei gynnal ac mae'r holl gytundebau angenrheidiol wedi'u cymeradwyo. Y dyddiad cwblhau amcangyfrifedig newydd yw diwedd y flwyddyn hon. Cadarnhaodd yr Arweinydd y byddai'r Aelodau lleol a'r trigolion yn cael gwybod am y cynnydd sy'n cael ei wneud mewn perthynas â'r cynllun.

 

Nid oedd unrhyw gwestiwn ategol.

 

5. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol Sera Evans i'r Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Crimmings:

 

“A wnaiff yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ynghylch sut mae’r Cyngor yn mynd i’r afael â’r problemau sbwriel parhaus a chynyddol sy’n ein hwynebu yn y Fwrdeistref Sirol?”

 

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Crimmings:

 

Dywedodd y Cynghorydd Crimmings fod adroddiad diweddar Llywodraeth Cymru, sy'n trafod achosion o dipio'n anghyfreithlon ledled Cymru rhwng Ebrill 2021 a Mawrth 2022, yn amlygu bod RhCT yn arwain y ffordd o ran gweithredu ar y mater yma. Mae 42 o'r 92 achos sydd wedi cael ei erlyn yn y Llys wedi cael eu cynnal yn y Fwrdeistref Sirol hon. Dyma’r nifer uchaf o’r holl awdurdodau a bydd y Cyngor yn parhau â’i waith yn y maes yma i ddangos na fyddwn ni'n goddef achosion o ddifetha'r dirwedd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Crimmings y byddai cyflogi 12 warden cymunedol yn cryfhau ymdrechion y Cyngor i frwydro yn erbyn sbwriel gan y bydd rhagor o Swyddogion yn cynnal patrolau gan rwystro pobl rhag gollwng sbwriel. Ychwanegodd yr Aelod o'r Cabinet fod symud sbwriel sy'n deillio o achosion o dipio'n anghyfreithlon yn costio cannoedd o filoedd o bunnoedd y byddai modd ei wario ar wasanaethau rheng flaen allweddol ac mae modd mynd â'r eitemau yma i ganolfannau ailgylchu yn y gymuned heb unrhyw gost i'r unigolyn. Cynhelir nifer o ymgyrchoedd ar lwyfannau'r cyfryngau cymdeithasol yn ogystal ag achlysuron yn y gymuned i hyrwyddo a chynyddu ymwybyddiaeth o'r mater yma.

 

Daeth y Cynghorydd Crimmings i ben drwy nodi bod y mwyafrif o drigolion RhCT yn ymdrechu i ailgylchu a dydyn nhw ddim yn taflu sbwriel. Mae RhCT ar y trywydd iawn i gyrraedd targedau ailgylchu Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025. Mae'r targed yma wedi’i ymestyn i 80% er mwyn ehangu’r agenda a’r uchelgeisiau ar lefel lleol.

 

Nid oedd unrhyw gwestiwn ategol oherwydd bod yr amser a neilltuwyd ar gyfer cwestiynau wedi dod i ben.

 

Dogfennau ategol: