Agenda item

Rhybudd O Gynnig Brys  – Eitem 16

Cofnodion:

Trafod y Rhybudd o Gynnig isod sydd wedi’i gyflwyno yn enwau:

A. Morgan, M. Webber, L. Addiscott, M. D. Ashford, J. Barton. D. R. Bevan, J. Bonetto, S. Bradwick, J. Brencher, G. Caple, J. Cook, A. Crimmings, S. J. Davies, R. Davis, V. Dunn, E. L. Dunning, J. Edwards, J. A. Elliott, L. Ellis, S. Emanuel, R. Evans, A. S. Fox, R. Harris, S. Hickman, G. Holmes, G. Hopkins, W. Hughes, G. Jones, G. O. Jones, R. R. Lewis, W. Lewis, C. Leyshon, M. Maohoub, C. Middle, N. H. Morgan, S. Morgans, M. A. Norris, D. Owen-Jones, D. Parkin, S. Powderhill, C. Preedy, S. Rees, M. Rees-Jones, A. Roberts, J. Smith, G. Stacey, L. A. Tomkinson, W. Treeby, J. Turner, G. L. Warren, K. Webb, D. Williams, G. E. Williams, R. Williams, T. Williams, R. Yeo.

 

Yn dilyn y Sesiwn Gwybodaeth Ymgynghori Ranbarthol i Weithwyr a gafodd ei chynnal ar 27 Mehefin, mae'r Cyngor yma'n nodi:

 

Bod Llywodraeth Leol wedi dioddef toriadau o dros 50% i gyllid gan lywodraeth ganolog ers 2010. Mae hyn wedi arwain at ostyngiad o £1 biliwn yng nghyllid ar gyfer Llywodraeth Leol yng Nghymru rhwng 2010 a 2020. Mae RhCT wedi dioddef gostyngiad o £95 miliwn mewn cyllid refeniw dros y cyfnod yma.

 

Er gwaethaf y toriadau difrifol wedi'u gosod gan Lywodraeth San Steffan, mae Awdurdodau Lleol Cymru wedi cael rhywfaint o amddiffyniad gan Lywodraeth Cymru. Serch hynny, dim ond mor bell ag osgoi argyfyngau yn y gwasanaethau rheng flaen hanfodol y mae holl drigolion yn dibynnu arnyn nhw y mae'r amddiffyniad yma wedi mynd.

 

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Cynghorau wedi arwain y ffordd o ran ymdrechion yn erbyn pandemig Covid-19, gan barhau i gynnig ystod enfawr o wasanaethau a chymorth hanfodol i'n cymunedau. Yn ystod y cyfnod yma ac yn fwy nag erioed o'r blaen, mae Llywodraeth Leol wedi dangos pa mor angenrheidiol y mae. Mae Covid wedi arwain at gynnydd enfawr mewn gwariant a cholled incwm. Wrth i ni ddechrau goresgyn y pandemig, mae angen rhagor o gymorth gan San Steffan ar Awdurdodau Lleol ac ysgolion. Aeth ein gweithwyr y Cyngor ac ysgolion ati i gadw'n cymunedau'n ddiogel trwy gydol y pandemig, gan roi eu hunain mewn perygl sylweddol yn aml, wrth iddyn nhw weithio i ddiogelu iechyd y cyhoedd, darparu tai o safon, sicrhau bod addysg ein plant yn parhau ac i ofalu am yr henoed a phobl sy'n agored i niwed.

 

Ers 2010, mae'r gweithlu llywodraeth leol wedi dioddef blynyddoedd o gyfyngiadau ar gyflog, gyda gostyngiad o 27.5% yng ngwerth y rhan fwyaf o bwyntiau cyflog ers 2009/10. Mae staff bellach yn wynebu'r argyfwng costau byw gwaethaf ers cenhedlaeth. Cyfartaledd rhagolygon mynegai prisiau manwerthu'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR) yw 9.8% yn 2022, a'r ffigwr presennol yw 11.1%.

 

O ganlyniad i'r argyfwng costau byw, mae rhaid i nifer o staff wneud dewisiadau amhosibl rhwng bwyd, gwres a thalu am eitemau hanfodol eraill. Dyma sefyllfa ofnadwy i unrhyw un fod ynddi.

 

Ar yr un pryd, mae gweithwyr wedi wynebu beichiau gwaith cynyddol ac anniogelwch parhaus o ran eu swyddi. Ledled y DU, mae 900,000 o swyddi llywodraeth leol wedi cael eu colli ers mis Mehefin 2010. Dyma ostyngiad o dros 30%. Mae modd dadlau bod llywodraeth leol wedi dioddef colled mwy difrifol o swyddi nag unrhyw ran arall o'r sector cyhoeddus. Mae effaith anghyfartal wedi bod ar fenywod, gyda thros dri chwarter o weithlu llywodraeth leol yn fenywod.

Yn ôl ymchwil diweddar, pe bai'r Llywodraeth yn ariannu cais yr Undebau am gyflog uwch yn 2022 yn llawn, byddai tua hanner yr arian yn cael ei adennill trwy refeniw treth uwch, llai o wariant ar fudd-daliadau a chredydau treth, a rhagor o wario gan ddefnyddwyr/cwsmeriaid yn yr economi lleol.

 

Mae'r Cyngor yma felly o'r farn:

 

Bod ein gweithwyr yn archarwyr y gwasanaeth cyhoeddus. Maen nhw'n cadw'n cymunedau'n lân ac yn ddiogel, yn gofalu am yr unigolion sydd mewn angen ac yn sicrhau bod ein trefi a'n dinasoedd yn parhau i redeg yn ddi-dor.

 

Heb broffesiynoldeb nac ymrwymiad ein staff, fyddai dim modd cyflawni gwasanaethau'r Cyngor y mae ein trigolion yn dibynnu arnyn nhw.

 

Mae gweithwyr llywodraeth leol yn haeddu cynnydd cyflog priodol, mewn termau real. Mae angen i Lywodraeth San Steffan ysgwyddo cyfrifoldeb ac ariannu'r cynnydd yma'n llawn. Ni ddylai'r baich fod ar Awdurdodau Lleol y mae eu cyllid wedi'i dorri mor sylweddol ac ni chynigiwyd cymorth digonol iddyn nhw gan Lywodraeth San Steffan trwy gydol pandemig Covid-19.

 

Cyn pennu Cyllideb yr Hydref a chyllid i'w ddyrannu o dan gyllid canlyniadol Barnett, mae'r Cyngor yma'n penderfynu:

 

• Cefnogi'r cais am gynnydd o £2,000 neu fynegai prisiau manwerthu (p'un bynnag sy'n uwch) mewn cyflog wedi'i gyflwyno gan UNISON, GMB ac Unite ar ran gweithwyr y Cyngor ac ysgolion

 

• Galw ar Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) i gyflwyno sylwadau brys i Lywodraeth San Steffan i ariannu cais cyflogau gan y Cyd-gyngor Cenedlaethol (NJC)

 

• Ysgrifennu at y Canghellor a'r Ysgrifennydd Gwladol i alw am ariannu cynnydd mewn cyflog i weithwyr llywodraeth leol gydag arian newydd gan lywodraeth ganolog

 

• Cwrdd â chynrychiolwyr lleol Undeb NJC i gyfleu cefnogaeth o ran y cais am gyflogau uwch a thrafod ffyrdd ymarferol y mae modd i'r Cyngor gefnogi'r ymgyrch

 

• Annog pob gweithiwr llywodraeth leol i ymuno ag undeb.

 

Ni dderbyniodd cynigydd y Rhybudd o Gynnig y newid awgrymedig canlynol gan Gr?p Plaid Cymru i'r Rhybudd o Gynnig “Mae’r Cyngor yma'n penderfynu ysgrifennu i Lywodraeth Cymru i ofyn iddynt ymrwymo i warantu unrhyw ddyfarniad cyflog a ganiateir”.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD mabwysiadu'r Rhybudd o Gynnig gwreiddiol.

 

(Nodwch: Roedd holl aelodau Gr?p Plaid Cymru, a oedd yn bresennol yn y cyfarfod, yn dymuno cofnodi eu bod nhw wedi pleidleisio o blaid y newid awgrymedig i’r Rhybudd o Gynnig: Y Cynghorwyr K Morgan, S Evans, D Grehan, A Ellis, A Rogers, D Wood a H Gronow).

 

 

 

Dogfennau ategol: