Agenda item

Trafod adroddiad y Cyfarwyddwr Cyfadran, Gwasanaethau Cymuned a

Gwasanaethau i Blant.

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Llywydd wybod mai'r Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad - Cwm Taf Morgannwg fyddai'n cael ei drafod nesaf, er nad yw hyn yn cyd-fynd â threfn yr agenda, er mwyn i Gyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant adael y cyfarfod gan fod adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol yn cyfeirio ato fe mewn perthynas â phenodi Prif Weithredwr.

 

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant yr adroddiad, sy'n cynnig trosolwg o'r Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad (MSR) yn unol ag Adran 144B o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae rhwymedigaeth statudol ar yr Awdurdodau Lleol i lunio'r asesiad yma bob pum mlynedd ac i wneud hynny ar lefel ranbarthol mewn partneriaeth â'r Bwrdd Iechyd.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyfadran fod yr adroddiad yn rhoi asesiad o ddau

beth, digonolrwydd gofal a chymorth i fodloni galw ein poblogaeth a sefydlogrwydd y farchnad mewn perthynas â'r gwasanaethau rheoleiddiedig sy'n darparu gofal. Ychwanegodd fod yr wybodaeth, fel sydd wedi'i nodi'n llawn yn yr atodiadau, yn darparu asesiad manwl o ddigonolrwydd a sefydlogrwydd ar draws yr holl ddarpariaeth ofal sy’n cynnwys oedolion, plant, anableddau dysgu, iechyd meddwl, cynhalwyr di-dâl ac eraill.

 

Awgrymodd y Cyfarwyddwr Cyfadran y bydd angen i'r Cyngor a'i bartneriaid drafod y canfyddiadau a'r argymhellion allweddol sydd wedi'u crynhoi yn adran 4 o'r adroddiad er mwyn llywio gwaith datblygu'r Strategaethau a'r Gwasanaeth Comisiynu dros y pum mlynedd nesaf, yn ogystal â llywio'r cynllun rhanbarthol gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. Tynnwyd sylw at bedwar maes allweddol fel meysydd ffocws ar gyfer Cyngor Rhondda Cynon Taf, ac mae'r rhain wedi'u cefnogi gan y dystiolaeth yn yr adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad, sef pwynt 3.3 yn yr adroddiad.

 

I gloi, tynnodd Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant sylw'r Aelodau at yr argymhellion, yn enwedig bod yr Aelodau’n cymeradwyo’r adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru yn unol â dyletswyddau statudol y Cyngor.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu fod Aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu wedi penderfynu yn ei gyfarfod diweddar i gynnal gwaith cyn y cam craffu mewn perthynas â'r materion sy’n ymwneud â gofal preswyl a nodir yn rhaglen waith y Cabinet.

 

PENDERFYNWYD:

 

          1. Nodi'r negeseuon allweddol a'r argymhellion, a

 

· Cymeradwyo'r adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad Ranbarthol;

 

· Cymeradwyo'r blaenoriaethau strategol tymor byr - tymor canolig canlynol ar gyfer Rhondda Cynon Taf sy’n deillio o’r Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad:

 

                i.         Adolygiad strategol o lety â gofal ar gyfer pobl sy'n agored i niwed i sicrhau bod darpariaeth yn y dyfodol yn diwallu anghenion pobl ag anghenion cymhleth fel sydd wedi'i nodi yn yr Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad a'n bod ni'n  manteisio i'r eithaf ar ein cyfleusterau;

 

              ii.         Cryfhau ymateb y Cyngor i gyflawni ei ddyletswydd o ran sicrhau bod digon o leoliadau ar gael ar gyfer plant sy'n derbyn gofal drwy gynyddu'r ddarpariaeth leol ddi-elw (gofal preswyl a gofal maeth) a hynny er mwyn diwallu anghenion plant yn nes at eu cartrefi;

 

             iii.         Gweithio gyda darparwyr i ddatblygu modelau gwasanaeth integredig cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau yn y gymuned, gan gynnwys gofal cartref, i fynd i'r afael â phwysau ar y gweithlu; a

 

             iv.         Cynyddu argaeledd gwasanaethau seibiant i oedolion a phlant.

 

(Nodwch: Gadawodd y Cynghorwyr D R Bevan a M Rees-Jones y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth yngl?n â'r eitem yma, cofnod rhif 6, gan eu bod nhw wedi datgan buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu).

 

(Nodwch: Roedd y Cyfarwyddwr Cyfadran eisoes wedi datgan buddiant personol mewn perthynas ag eitem 10, Penodi Prif Weithredwr, ac felly wedi gadael y cyfarfod am weddill y cyfarfod (Cofnod Rhif 6).

 

 

Dogfennau ategol: