Agenda item

Derbyn cwestiynau'r Aelodau yn unol â Rheol 9.2 o Weithdrefn y Cyngor.

 

(Nodwch: Caniateir hyd at 20 munud ar gyfer cwestiynau.)

 

Cofnodion:

 

1. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Davis i'r Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Crimmings:

 

“Yn sgil y buddsoddiad nesaf ar gyfer mannau chwarae ledled RhCT a gafodd ei gyhoeddi'n ddiweddar, all yr Aelod o'r Cabinet gadarnhau a yw'r maes yma'n parhau i fod yn flaenoriaeth ar gyfer y weinyddiaeth newydd?

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol Crimmings:

 

Dywedodd y Cynghorydd Crimmings fod buddsoddi mewn mannau chwarae yn parhau i fod yn flaenoriaeth i’r weinyddiaeth hon ac fel y nodwyd ym maniffesto Gr?p Llafur RhCT ar gyfer tymor y Cyngor hwn, bydd y weinyddiaeth yn parhau i ymrwymo i fuddsoddi mewn mannau chwarae i blant gan wella o leiaf 75 ohonyn nhw yn ystod y pum mlynedd nesaf.

 

Yn ogystal â'r buddsoddiad yma, bydd 10 Ardal Gemau Amlddefnydd newydd yn cael eu datblygu ledled RhCT. Fis diwethaf, cyhoeddwyd manylion rhaglen fuddsoddi'r Cyngor ar gyfer 2022/23. Bydd hyn yn cynnwys gwella cyfleusterau 19 o fannau chwarae i blant yn rhan o fuddsoddiad gwerth £672,000. Ychwanegodd y Cynghorydd Crimmings fod disgwyl i fan chwarae Bryn Hyfryd yn ward y Cynghorydd Davis gael ei wella yn rhan o waith adnewyddu rhannol o dan y rhaglen hon.

 

Dywedodd y Cynghorydd Crimmings y bydd cyfanswm o £4.8 miliwn wedi'i ddyrannu i gyflawni gwelliannau mewn tua 130 o gyfleusterau ledled RhCT yn y saith mlynedd diwethaf, gan gynnwys y buddsoddiad eleni.

 

Dim Cwestiwn Ategol

 

2.  Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol D Grehan i’r Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol B Harris:

“Mae'r arfer bresennol o roi pobl ifainc i fyw yng nghanol ardaloedd preswyl a ddatblygwyd yn wreiddiol ar gyfer pobl h?n i fyw ynddyn nhw yn creu problemau enfawr.  Ydy’r Cyngor yn fodlon ystyried, unwaith eto, neilltuo rhai ardaloedd preswyl ar gyfer pobl h?n yn unig?”

 

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol B Harris:

 

Dywedodd y Cynghorydd Harris fod gan ddatblygiadau tai cymdeithasol sydd wedi'u creu'n benodol ar gyfer pobl h?n, megis tai lloches neu lety i bobl h?n, feini prawf o ran oedran (60 oed neu'n h?n, ac mewn rhai achosion 55 oed neu'n h?n). Os yw pobl iau wedi derbyn lle mewn datblygiadau tai cymdeithasol eraill, mae hyn gan nad yw'r cynllun wedi'i ddatblygu ar gyfer pobl h?n yn benodol, ond mae'n bosibl bod polisi gosod lleol wedi cael ei roi ar waith ar ryw adeg i sicrhau mai dim ond preswylwyr h?n oedd yn byw yno.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Harris fod polisïau gosod lleol yn bolisïau dros dro ac felly unwaith y maen nhw'n dod i ben, bydd unrhyw ddyraniadau pellach yn cael eu gwneud gan flaenoriaethu'r bobl sydd â'r angen mwyaf am dai. Os oes problemau parhaus mewn datblygiad penodol, bydd y Gymdeithas Dai yn cysylltu â'r Cyngor i drafod gweithredu polisi gosod lleol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Harris y byddai'r polisi yn nodi'r meini prawf ar gyfer dyrannu eiddo yn seiliedig ar y dystiolaeth a ddarparwyd, er enghraifft efallai y byddai angen cymysgedd gwell o denantiaid - megis cydbwysedd rhwng pobl h?n a phobl iau. Ychwanegodd fod y Cyngor wedi datblygu nifer o ddatblygiadau Gofal Ychwanegol hefyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan ddarparu unedau hunangynhwysol o ansawdd uchel ar gyfer pobl h?n sydd angen gofal a chymorth.

 

Cwestiwn ategol gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol D Grehan;

 

“Mae yna dri pherson sydd â phroblemau cyffuriau sydd wedi symud i mewn i fflatiau yn fy ward yn ddiweddar. Maen nhw wedi newid awyrgylch y lle ac mae hyn yn cael effaith negyddol ar y preswylwyr presennol. A fydd y Cyngor yn ystyried mabwysiadu’r polisi gosod sy'n berthnasol ar gyfer y datblygiad yma fel y gall y preswylwyr h?n fod yn sicr na fydd unrhyw un arall gyda phroblemau cyffuriau yn symud i mewn?”

 

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol B Harris:

 

“Roedd y Cynghorydd Harris wedi cydnabod natur y mater a chadarnhaodd y byddai’n ymateb i’r Cynghorydd Grehan yngl?n â’r achos penodol hwn maes o law”

 

3. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A S Fox i'r Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol B. Harris:

 

"Pa gamau gweithredu ydy'r Cyngor yma'n eu cymryd i wella diogelwch y cyhoedd yn ein cymunedau?"

 

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol B Harris:

 

Dywedodd y Cynghorydd Harris fod sicrhau bod RhCT yn lle diogel, gyda lefelau cydlyniant cymunedol uchel, lle mae trigolion yn teimlo'n ddiogel, yn cynrychioli un o flaenoriaethau corfforaethol y Cyngor o ran creu lleoedd y mae pobl yn falch o fyw, gweithio a chwarae ynddyn nhw. Ychwanegodd fod Carfan Cymunedau Diogel y Cyngor yn gyfrifol am weithio gyda phartneriaid i ymateb i adroddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol gan unigolion neu mewn cymunedau, gan ddefnyddio dull wedi'i dargedu yn seiliedig ar dystiolaeth i fynd i'r afael ag ardaloedd lle mae problemau. Mae hyn yn cynnwys cysylltu â phobl ifainc mewn cymunedau, ynghyd â'r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid, a gweithio gydag ysgolion a rhieni i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Harris fod gorfodi'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus mewn perthynas ag YGG yn ein cymunedau a chanol trefi sy'n gysylltiedig â chyffuriau ac alcohol yn flaenoriaeth allweddol i leihau effaith camddefnyddio sylweddau ac i hyrwyddo cymunedau mwy diogel a hyderus. Er hynny, roedd y Cynghorydd Harris yn cydnabod bod achosion o YGG wedi cynyddu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, yn enwedig yn ystod pandemig COVID-19.

 

Dywedodd y Cynghorydd Harris fod Aelodau'r Cabinet wedi cytuno i sefydlu Gwasanaeth Wardeiniaid Cymunedol newydd i gefnogi Heddlu De Cymru yn RhCT y mis diwethaf. Ychwanegodd y bydd y Wardeiniaid Cymunedol yn darparu presenoldeb gweladwy fydd yn tawelu meddwl trigolion mewn cymunedau 7 niwrnod yr wythnos, gan ganolbwyntio ar ganol trefi a pharciau. Bydd wardeiniaid yn derbyn hyfforddiant manwl ynghylch defnyddio pwerau gorfodi'r Cyngor mewn modd rhesymol i gynnal ein Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus. Dywedodd fod gan y Wardeiniaid Cymunedol rolau a chyfrifoldebau Ataliol ac Ymatebol.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Harris na fydd y Wardeiniaid yn cymryd lle'r Heddlu; byddan nhw'n cefnogi'r gwasanaethau presennol drwy weithio'n agos gyda sefydliadau partner perthnasol. I gloi, dywedodd y Cynghorydd Harris, fel y cytunwyd gan y Cabinet, y byddai'r Cyngor yn darparu cyllid i Heddlu De Cymru ar gyfer 10 Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu pellach. Bydd y Swyddogion yma'n gweithio yn RhCT yn unig ond yn parhau i fod dan gyfarwyddyd Heddlu De Cymru.

 

Dim Cwestiwn Ategol

 

4. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Powell i Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan:

“A yw'r Arweinydd o'r farn bod angen o leiaf 5 mlynedd er mwyn i GBSRhCT lunio a gweithredu estyniad i’r ardal barcio i breswylwyr â thrwydded, gan gynnwys polisi sy'n ymwneud â thrwyddedau busnes, yn ward Trallwng?”

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan:

 

Dywedodd y Cynghorydd Morgan fod y cynllun parcio diweddaraf i breswylwyr yn ardal Trallwng wedi cael ei gyflwyno ym mis Rhagfyr 2015. Oherwydd nifer y busnesau sydd wedi'u lleoli yn ardal Trallwng a'r cyffiniau, roedd angen adolygu a diwygio'r polisi, gan y byddai unrhyw estyniad i'r parth parcio yn debygol o gael effaith negyddol arnyn nhw.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Morgan fod galw i ehangu’r parth wedi’i nodi yn rhan o’r adolygiad hwnnw ond yn y blynyddoedd ers yr adolygiad, mae’r garfan sy’n gyfrifol am ddarparu Parthau Parcio i Breswylwyr wedi wynebu pwysau sylweddol ar yr adnoddau sydd ar gael o ganlyniad i ddigwyddiadau annisgwyl megis Storm Dennis a'r pandemig, yn ogystal â rhaglen gyfalaf ar gyfer gwella'r priffyrdd a Chynlluniau Diogelwch y Ffyrdd sy'n heriol.

 

Serch hynny, roedd y Cynghorydd Morgan wedi cydnabod bod y broses wedi cymryd llawer yn hirach na'r disgwyl. Fodd bynnag, cadarnhaodd fod swyddogion wedi rhoi gwybod bod yr adolygiad o'r polisi bellach wedi'i gwblhau a bydd yr adolygiad yn cael ei rannu ag ef yn ystod y diwrnodau nesaf. Ar ôl cymeradwyo'r polisi, bydd modd i Swyddogion barhau i fwrw ymlaen â'r newidiadau angenrheidiol i'r Parth Parcio i Breswylwyr yn ardal Trallwng. Dywedodd y Cynghorydd Morgan fod angen ymddiheuro i'r Cynghorydd Powell am yr oedi o ran gweithredu'r cynllun.

 

Cwestiwn Ategol gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Powell:

 

“A fydd y cynllun yn cael ei weithredu yn y flwyddyn ariannol hon?”

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan:

Dywedodd y Cynghorydd Morgan y byddai hyn yn digwydd yn dilyn yr adolygiad.

 

5. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Maohoub i Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan:

 

“All Arweinydd y Cyngor roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau llifogydd amrywiol sydd ar y gweill ac sy’n cael eu cynnal ar hyn o bryd ledled RhCT, gan gynnwys yn ward Cwm-bach?"

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan:

 

Dywedodd yr Arweinydd y byddai'n darparu ymateb cryno, a hynny'n dilyn ei ddatganiad yn gynharach yn y cyfarfod a oedd yn amlinellu gwaith allweddol y Cyngor mewn perthynas â'r gwaith lliniaru llifogydd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Morgan fod cyllid gwerth £3.3 miliwn wedi'i sicrhau ar gyfer 2022/23 ar hyn o bryd, ac mae'n bosibl y bydd cyllid ychwanegol gwerth £2.92 miliwn yn cael ei ddyrannu yn rhan o Lif Prosiectau Mawr Rheoli Perygl Llifogydd Llywodraeth Cymru, gan ddod â'r cyfanswm i £6.7 miliwn.

 

Amlinellodd y Cynghorydd Morgan y cynlluniau llifogydd amrywiol ledled RhCT ac yn ward Cwm-bach fel a ganlyn:

 

Mae gwaith adeiladu wedi dechrau yn:

·   Cynllun Lliniaru Llifogydd Teras Bronallt Uchaf (yn Abercwmboi), a'r;

·   A4059 yn y Drenewydd, Aberpennar

 

Mae gwaith hefyd ar fin cael ei gwblhau yn Nheras y Waun (Ynys-hir) a gwaith adnewyddu cwlferi o dan Ffordd y Rhigos (Hirwaun) gwerth dros £500,000.

 

·   Mae ward Cwm-bach wedi elwa o fuddsoddiad mewn 5 prosiect, sy'n cynrychioli buddsoddiad gwerth cyfanswm o dros £1 miliwn ers mis Chwefror 2020. 

 

·   Mae'r Cyngor wrthi'n datblygu achos busnes ar gyfer ail gam y cynllun er mwyn gwella'r cwrs d?r, gan fanteisio ar y gwaith atal sgwrio sydd wedi'i gwblhau y tu ôl i Deras Siôn.

 

Soniodd y Cynghorydd Morgan am y prosiectau hynny sydd eisoes wedi'u cwblhau yn ward Cwm-bach ers mis Chwefror 2020:

 

·   Cynllun Lliniaru Llifogydd Ystad Ddiwydiannol Cwm-bach (Cronfa Ffyrdd Cydnerth) - £700,000

 

·   Cilfach Heol Cefn Pennar (Cynllun Graddfa Fach) - £25,000

 

·   Gwaith sgwrio y tu ôl i Deras Siôn – cam 1 (Cynllun Graddfa Fach) - £129,000

 

·   Cilfach Bro Deg/Teras Siôn a Gerddi Glaw (Cynllun Graddfa Fach) - £125,000

 

·   Ymyriadau Brys ar gyfer difrod i gwlferi/cyrsiau d?r (Cyllid Ewropeaidd) – Amcangyfrif o £50,000-100,000

 

Dim Cwestiwn Ategol

6. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol L Addiscott i’r Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol T Leyshon:

 

“Sut mae’r Cyngor hwn yn bwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer cyflwyno Mannau Gwefru Cerbydau Trydan ledled Rhondda Cynon Taf?”

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol T Leyshon:

 

Dywedodd y Cynghorydd Leyshon fod y Cyngor wedi cyhoeddi ym mis Mai 2022 ei fod wedi sicrhau cyllid i osod Mannau Gwefru Cerbydau Trydan mewn 31 maes parcio ledled y Fwrdeistref Sirol, a hynny ar ôl gweithio'n agos gyda Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd ar raglen ranbarthol ar gyfer mannau gwefru.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Leyshon fod gwaith gosod mannau gwefru bellach wedi dechrau a'r bwriad yw y bydd yr holl Fannau Gwefru Cerbydau Trydan wedi'u gosod erbyn diwedd yr haf. RhCT yw'r Awdurdod Lleol cyntaf yn y rhanbarth i ddechrau'r gwaith yma.  Ychwanegodd y bydd 20 o fannau gwefru yn cael eu gosod mewn wyth safle yng ngogledd Cwm Cynon, gan gynnwys 2 ym Mhenderyn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Leyshon fod y Cyngor hefyd yn gwneud cais am gyllid pellach i osod rhagor o fannau gwefru mewn lleoliadau ychwanegol ledled RhCT erbyn diwedd 2022/23. Mae cynyddu argaeledd Mannau Gwefru Cerbydau Trydan ledled y Sir ar gyfer trigolion nad oes modd iddyn nhw wefru cerbydau gartref yn rhan allweddol o ymrwymiad Newid Hinsawdd ehangach y Cyngor.

 

Yn ei hymateb, dywedodd y Cynghorydd Leyshon fod y Cyngor o'r farn ei bod hi'n bwysig hybu’r defnydd o gerbydau trydan gan eu bod yn cynhyrchu llai o allyriadau na cherbydau petrol a diesel, a byddai defnydd ehangach yn cael effaith fuddiol ar ansawdd aer a’r amgylchedd lleol. I gloi, dywedodd y Cynghorydd Leyshon ei bod yn hanfodol i’r Cyngor “ddilyn ei bregeth ei hun” a hefyd parhau i chwarae ei ran wrth arwain yr agenda werdd yn lleol. Yn rhan o'r ymrwymiad yma, bydd y Cyngor yn trosglwyddo i gerbydau trydan lle bo modd a bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet yn y dyfodol agos mewn perthynas â'r mater yma.

 

Dim Cwestiwn Ategol

7. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Emanuel i Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan:

 

“Sut mae’r Cyngor yn cefnogi aelwydydd incwm isel i ymateb i'r pwysau o ran costau tanwydd cartrefi yn cynyddu?”

 

 

 

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan:

 

Dywedodd y Cynghorydd Morgan ein bod ni'n wynebu'r argyfwng costau byw gwaethaf ers degawdau, a hynny'n dilyn degawd o gyni o dan y Blaid Geidwadol a phandemig COVID-19, ac ychwanegodd fod ymchwil wedi dangos y bydd aelwydydd tlotach yn teimlo effeithiau hyn yn fwy nag eraill oherwydd bod cyfran uwch o incwm yn cael ei gwario ar fwyd ac ynni.

 

Dywedodd y Cynghorydd Morgan fod gwaith ymchwil yn dangos nad yw gweithio'n cynnig modd o fynd i'r afael â thlodi, sy'n rhyfeddol yn yr 21ain Ganrif. Dywedodd y Cynghorydd Morgan fod Llywodraeth Cymru, yn ôl yr arfer, yn mynd cam ymhellach i ddarparu cymorth na’r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan. Er enghraifft, mae 95% o aelwydydd cymwys yn RhCT wedi derbyn y taliadau costau byw (£150 neu £100) ac mae’r bobl dlotaf yng Nghymru yn cael cymorth.

 

Roedd y Cynghorydd Morgan wedi cydnabod gwaith ac ymrwymiad carfanau cyllid y Cyngor, o dan arweiniad y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol a’r Prif Weithredwr, ar ôl i'r Cyngor dderbyn canmoliaeth gan ei fod eisoes wedi talu dros £1.8 miliwn yn rhan o'r Cynllun Cymorth Costau Byw yn ôl Disgresiwn i dros 26,000 o aelwydydd cymwys.  Anfonwyd llythyr â chyfarwyddiadau ar sut i wneud cais i bob cartref cymwys.

 

Dywedodd y Cynghorydd Morgan fod y Cyngor wedi darparu cymorth i'r Banciau Bwyd a chynlluniau bwyd trwy daliad untro gwerth £50,000 i'w galluogi i barhau â'u gwaith hanfodol yn cefnogi'r cymunedau lleol. Yn ogystal â hyn, mae'r Cyngor wedi cefnogi'r cynlluniau bwyd i'r gymuned a hefyd wedi defnyddio cyllid LlC ar gyfer y cynlluniau yma i gefnogi trigolion lleol. I gloi, cadarnhaodd y Cynghorydd Morgan ein bod ni hefyd yn gweithio tuag at ddarparu pecyn cymorth pellach i gefnogi trigolion yn ystod y Gaeaf, a hynny'n rhan o ymrwymiadau maniffesto Plaid Lafur RhCT ar gyfer tymor y Cyngor yma.

 

 

Dogfennau ategol: