Agenda item

Yn unol â Rheol 2 o Weithdrefn Llywodraethu Agored Cyfarfodydd y Cyngor, derbyn datganiadau gan Arweinydd y Cyngor a/neu Gynghorwyr sy'n Aelodau Portffolio o'r Cabinet:

 

 

 

Cofnodion:

Datganiadau gan Arweinydd y Fwrdeistref Sirol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan mewn perthynas â Llifogydd a'r Gronfa Bensiwn:

 

 

Datganiad – Cronfa Bensiwn

 

Dywedodd yr Arweinydd fod Cronfa Bensiwn RhCT bob amser wedi buddsoddi ei hasedau mewn ffordd gyfrifol ac yn ymgysylltu â chwmnïau er mwyn sicrhau trawsnewidiad carbon trefnus.  Mae hyn eisoes wedi arwain at leihad parhaus yn ein daliadau tanwydd ffosil a sefydlu egwyddorion dadfuddsoddi

 

Cyhoeddodd yr Arweinydd ei fod wedi gofyn i swyddogion weithio gyda'r Pwyllgor Pensiynau, yn rhan o'n nodau newid yn yr hinsawdd, i adolygu opsiynau ar gyfer pennu targed ar gyfer dadfuddsoddi gweddill ein buddsoddiadau o asedau yn ymwneud ag echdynnu tanwydd ffosil. 

 

Dywedodd yr Arweinydd ei fod yn gobeithio gweld hyn erbyn 2030, er bod rhai awdurdodau lleol wedi pennu targedau sy'n gynharach na hynny. Roedd yr Arweinydd wedi cydnabod bod gan y Cyngor gyfrifoldebau mewn perthynas â'r Gronfa Bensiwn a’n bod yn cyd-fuddsoddi â chronfeydd eraill ledled Cymru. I gloi, pwysleisiodd yr Arweinydd fod y Cyngor yn cymryd ei gyfrifoldebau o ddifrif a bydd cynlluniau i ddadfuddsoddi yn cael eu pennu yn ystod y misoedd nesaf.

 

Datganiad – Llifogydd

 

Dywedodd y Cynghorydd Morgan fod 52 o brosiectau wedi cyrraedd y cam dylunio erbyn hyn, a rhoddodd wybodaeth am nifer o’r rhain:

 

      Dechreuwyd gwaith yn rhan o Gynllun Lliniaru Llifogydd ar ran uchaf Teras Bronallt, Abercwmboi, dros wythnos yn ôl. Amcangyfrifir bod y gwaith gwerth £720,000

 

·       Bydd Cam 1 y cynllun llifogydd yn Nhreorci yn cychwyn yr wythnos nesaf. Amcangyfrifir bod y gwaith gwerth £605,000

 

·       Gorllewin Parc Cae Felin, Hirwaun (cynllun ail-leinio cwlfert) y mae disgwyl iddo ddechrau ym mis Awst. Amcangyfrifir bod y gwaith gwerth £165,000

 

·       Gorsaf Bwmpio Glenbói yn Aberpennar - mae'r tendr wedi dychwelyd gydag amcangyfrif o werth o £1.3 miliwn

 

·Heol Bryn-tyle a Ffordd y Cae ?d yn Rhydfelen. Amcangyfrifir bod y gwaith gwerth £250,000

 

·Leinio cwlferi ym Mhentre. Amcangyfrifir bod y gwaith gwerth £175,000.

·Mae buddsoddi mewn cynlluniau lliniaru llifogydd a draenio hefyd yn flaenoriaeth i'r Cyngor - yn rhan o Raglen Gyfalaf gwerth £26.3 miliwn ar gyfer Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol yn 2022/23.

 

·Yn ogystal â hyn, mae dros £6.5 miliwn wedi’i sicrhau gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwaith a difrod sy’n gysylltiedig â Storm Dennis eleni. Mae gwaith dymchwel Pont Castle Inn yn Nhrefforest wedi dechrau. Cadarnhaodd yr Arweinydd y bydd proffil pellach yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

·Mae bron i £500,000 wedi’i sicrhau yn rhan o gynlluniau Ffyrdd Cydnerth, prosiectau graddfa fach a fydd yn diogelu ffyrdd a llwybrau bysiau allweddol. Bydd llawer o'r prosiectau llifogydd ffyrdd hefyd yn diogelu cartrefi ac eiddo. Mae cyllid pellach gwerth £3.3 miliwn wedi'i sicrhau ar gyfer cynlluniau llifogydd. Bydd yr arian yma'n talu am nifer o gynlluniau llai a gwaith uwchraddio cwlferi, cyrsiau d?r a ffosydd.

 

        Mae cyllid pellach gwerth £7 miliwn wedi'i wario ers Storm Dennis ar domenni glo, yn bennaf ar gamau 1-3 o gynllun tomen Tylorstown. Mae gwaith hefyd wedi'i gynnal gyda Llywodraeth Cymru a'r Awdurdod Glo i sefydlogi Tomen Wattstown sy'n eiddo preifat.

 

·         Mae’r Cyngor yn gweithio gyda chontractwyr ar gam nesaf tirlithriad Tylorstown, bydd y cytundeb yn cael ei gadarnhau dros yr haf. Bydd gwaith pellach i wella'r ffyrdd mynediad yn cael ei gynnal dros y Gaeaf a bydd y prif waith peirianneg yn dechrau yn 2023, gan ddibynnu ar y tywydd. Bydd LlC yn ariannu'r gwaith.

 

·       Mae llawer o waith yn cael ei wneud i benderfynu beth sydd angen ei wneud i liniaru llifogydd, ystafell argyfwng newydd ac adnewyddu cynllun argyfwng y Cyngor a bydd yn parhau i fod yn rhan sylweddol o gyllideb y Cyngor.

 

·       Pe byddai digwyddiad arall fel Storm Dennis, dywedodd yr Arweinydd y byddai llifogydd sylweddol yn dal i ddigwydd ar draws y fwrdeistref sirol. Mae angen i Gyfoeth Naturiol Cymru gwblhau gwaith modelu, gan gynnwys dadansoddiad o'r system yn ardaloedd Taf-elái, Cwm Cynon a Chwm Rhondda, er mwyn penderfynu pa waith sydd angen ei gynnal yn y dyfodol. Bydd angen lobïo pellach ar gyfer buddsoddiad pellach gan CNC a LlC i amddiffyn ein cymunedau yn well rhag llifogydd afonydd.

 

·       Bydd gwybodaeth ychwanegol yn cael ei rhannu yn yr Hydref.