Derbyn diweddariad llafar gan Gyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor ar y materion a ganlyn:
1. Y Prosiect Plannu Coed
2. Y Strategaeth Wefru Cerbydau Trydan a Sylwadau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu
Cofnodion:
Y Prosiect Plannu Coed
Rhoddodd Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor ddiweddariad ar lafar mewn perthynas â'r Prosiect Plannu Coed. I ddechrau, rhoddodd wybod i'r Aelodau am raglen dreigl flynyddol y Cyngor ar gyfer ailblannu coed sydd wedi'u difrodi neu wedi marw yn lleoliadau Parciau a Chefn Gwlad ledled RhCT. Cadarnhaodd Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor fod y garfan wedi gallu plannu teirgwaith y nifer o goed nag yn ystod y blynyddoedd blaenorol. Cadarnhaodd fod y garfan wrthi'n plannu 1,200 o goed ledled y tair ardal yn RhCT ar hyn o bryd.
Roedd Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor yn falch o'r cynnydd sydd wedi'i wneud mewn perthynas â phlannu coed yn yr ardal; Cadarnhaodd Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor y bydd y Cyngor yn cydweithio â Chroeso i'n Coedwig er mwyn trafod a rhannu syniadau a dyblu'r ymdrechion gan sicrhau bod y goeden gywir yn cael ei phlannu yn y lleoliad cywir.
Aeth Cynrychiolydd Croeso i'n Coedwig ati i egluro bod y prosiect yn bwysig o ran mynd i'r afael â Newid yn yr Hinsawdd ac yn nhermau cyfle i weithio mewn partneriaeth â Chyngor Rhondda Cynon Taf. Rhoddodd drosolwg byr i'r Aelodau o'r tair eitem a drafodwyd mewn perthynas â'r Prosiect Plannu Coed; roedd y rhain yn cynnwys:
Adleisiodd cynrychiolydd Croeso i'n Coedwig bwysigrwydd plannu’r goeden gywir yn y lle cywir ac am y rheswm cywir. Aeth ati i esbonio gwerth y prosiect, sy'n ceisio cael effaith hirdymor gadarnhaol er budd pobl a busnesau lleol yn RhCT.
Roedd y Cadeirydd yn falch o weld y gwaith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd gan y garfan; nododd ei bod hi'n bwysig bod yr Awdurdod Lleol yn gweithio gyda'r gymuned.
Dywedodd un Aelod ei bod hi'n bwysig bod yr Awdurdod Lleol yn rhannu'r neges briodol â'r Gymuned a thrigolion, gan ganolbwyntio ar arwyddocâd y plannu'r goeden gywir yn y lle cywir. Hefyd, codwyd ymholiad ynghylch gwywo'r onnen a'r effaith y mae hyn yn ei chael ar goed ynghyd â Chynllun Corfforaethol y Cyngor ar gyfer plannu coed newydd yn lle'r coed sydd wedi'u symud.
Soniodd un Aelod wrth y Gr?p Llywio am bwysigrwydd cynnwys y Prosiect Plannu Coed o fewn y Fforwm Mannau Gwyrdd er mwyn annog staff i gyfrannu.
Dywedodd y Prif Weithredwr y dylid darparu diweddariadau pellach i'r Pwyllgor mewn perthynas â'r Prosiect Plannu Coed er mwyn tynnu sylw at y cynnydd sy'n cael ei wneud. Cadarnhaodd fanylion y cyllid sydd ar gael er mwyn mynd i'r afael â Newid yn yr Hinsawdd, mae modd defnyddio hyn fel buddsoddiad hirdymor er mwyn cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd.
Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan a Sylwadau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.
Rhoddodd y Pennaeth Materion Ynni a Lleihau Carbon drosolwg byr i'r Aelodau o'r Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan. Cafodd yr Aelodau'u hatgoffa o'r gwaith cynharach a gafodd ei gyflawni gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu mewn perthynas â thrafod datblygu seilwaith i gefnogi cerbydau carbon isel yn RhCT. Roedd hyn wedi arwain at lunio 10 argymhelliad i'w hystyried gan y Cabinet yn 2018. Cafodd yr Aelodau wybod bod yr argymhellion yma wedi arwain at 10 uchelgais, sydd wedi'u cynnwys yn y strategaeth. Cafwyd ymateb da i'r strategaeth yn ôl y Pennaeth Materion Ynni a Lleihau Carbon, a chafodd ymdrechion y staff eu canmol gan y Cynghorwyr.
Dywedodd y Pennaeth Materion Ynni a Lleihau Carbon wrth yr Aelodau fod y strategaeth wedi'i chyhoeddi ym mis Ionawr 2022 a'i bod bellach ar gael ar wefan y Cyngor – Mynd i’r afael â Newid yn yr Hinsawdd. Cafodd yr Aelodau wybod bod y cynllun gweithredu bellach yn cael ei ddatblygu gan garfan fach yn unol â'r cylch gorchwyl a dan oruchwyliaeth y gweithgor. Mae'r cynllun yn cael ei lunio ar hyn o bryd ac yn cynnwys cynllun gweithredu a fydd yn pennu amcanion a cherrig milltir fydd yn dangos y ffordd ymlaen. Dywedodd y Pennaeth Materion Ynni a Lleihau Carbon wrth yr Aelodau y byddai'r disgwyliad ar gyfer ail ran y prosiect yn cael ei gytuno'n ffurfiol gan y gweithgor ehangach ym mis Mawrth er mwyn sicrhau bod modd cyflwyno'r mater i'r Pwyllgor Craffu a derbyn sylwadau gan yr Uwch Garfan Rheoli.
Rhoddodd y Pennaeth Materion Ynni a Lleihau Carbon wybod i'r Aelodau am gwmni newydd o'r enw Connected Kerb sydd wedi'i benodi i weithio ar y Mannau Gwefru Cerbydau Trydan gan fod y cyflenwr gwreiddiol wedi'i dynnu o'r Contract gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd. Dywedodd y Pennaeth Materion Ynni a Lleihau Carbon wrth yr Aelodau fod y cwmni newydd wedi cwrdd â'r Gwasanaethau Rheng Flaen a bod cynlluniau ar waith i barhau i gyflawni cam cyntaf y prosiect a fydd yn darparu dros 30 o fannau gwefru cerbydau trydan mewn gwahanol leoliadau. Bydd ail gam y prosiect yn darparu dros 30 o fannau gwefru cerbydau trydan.
Dywedodd y Cadeirydd y byddai'r cynnydd mewn Mannau Gwefru Cerbydau Trydan yn cael ei groesawu gan drigolion a Chynghorwyr. Roedd y Cadeirydd yn falch bod yr wybodaeth wedi'i chynnwys ar y Wefan gan ei bod yn sicrhau bod gan drigolion fynediad i'r wybodaeth ddiweddaraf.
PENDERFYNODD Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr
Hinsawdd:
- Nodi'r diweddariad llafar