Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol ei adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth am y setliad llywodraeth leol terfynol ar gyfer 2022/23 ac yn nodi argymhellion y Cabinet mewn perthynas â Chyllideb Refeniw'r Cyngor a lefel Treth y Cyngor ar gyfer y flwyddyn sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2023.
Nododd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol fod dau gam yr ymgynghoriad wedi'u cynnal, gyda'r ail gam yn canolbwyntio'n benodol ar y strategaeth gyllideb arfaethedig. Nododd y Cyfarwyddwr i'r ymgynghoriad gael ei gynnal rhwng 28 Ionawr 2022 a 13 Chwefror 2022 a bod yr adborth a ddaeth i law yn rhan o'r broses ymgynghori, ynghyd ag adborth y Pwyllgor Craffu – Cyllid a Chyflawniad, Fforwm Cyllideb Ysgolion a'r Cydbwyllgor Ymgynghori, wedi'i atodi i'r adroddiad.
Rhoddodd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol wybod i'r setliad
llywodraeth leol terfynol ddod i law ar 1 Mawrth 2022. Ar ôl ystyried
y gofyniad cyllideb diweddaraf a'r cynnydd dros dro o 8.4% yn y setliad,
yn ogystal â sylfaen drethu ddiweddaraf y Cyngor, y bwlch oedd yn weddill yn y
gyllideb oedd £0.229 miliwn.
Amlinellodd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol gynigion y strategaeth gyllideb a thynnodd sylw Aelodau at dabl 1 yn adran 10 o'r adroddiad. Roedd crynodeb o'r goblygiadau, gan gynnwys y gostyngiad arfaethedig yn lefel y cynnydd yn Nhreth y Cyngor a chyflawni arbedion effeithlonrwydd. Mae modd gwrthbwyso'r bwlch sy'n weddill yn y gyllideb, sef £963,000, trwy ddyrannu o'r gronfa cyllid pontio wrth gefn sydd eisoes wedi'i hailgyflenwi, sef £4.6 miliwn. Mae hyn yn arwain at gyllideb gytbwys ar gyfer y flwyddyn nesaf, sef £566.792 miliwn.
I grynhoi, rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod bod angen i'r Cyngor reoli unrhyw oblygiadau parhaus o ran costau o ganlyniad i'r pandemig gan na fydd Cronfa Caledi Llywodraeth Cymru ar gael y flwyddyn nesaf. Bydd angen i'r Cyngor wneud hynny drwy ddefnyddio'i gyllideb sylfaenol ac unrhyw gronfeydd wrth gefn sydd ar gael i bontio unrhyw oblygiadau ychwanegol parhaol o ran cost i'r gyllideb sylfaenol dros y tymor canolig.
Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:
1. Nodi'r datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol (Rebecca Evans AS) a'r tabl ar setliad llywodraeth leol terfynol 2022/2023, yn Atodiad 1 i'r adroddiad;
2. Nodi'r goblygiadau i'r Cyngor a'r bwlch sy'n weddill yn y gyllideb fel sydd wedi'i nodi yn adran 5;
3. Cytuno ar gynnydd o 1.00% yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 2022/23;
4. Cytuno ar y cynnydd yng Nghyllideb Grynswth yr Ysgolion fel sydd wedi'i nodi yn adran 8;
5. Cytuno ar gynigion y strategaeth gyllideb fel sydd wedi'u nodi ym mharagraffau 10.3(a) i 10.3(i);
6. Cytuno i ddefnyddio'r 'Gronfa Gweddnewid Gwasanaeth a Chynllunio Ariannol Tymor Canolig Wrth Gefn' fel arian pontio, sef cyfanswm o £0.963 miliwn ar gyfer 2022/23;
7. Cymeradwyo Tablau 3 a 4 yn Adran 13 yr adroddiad yn sail ar gyfer dyrannu adnoddau i Gyllidebau Ysgolion Unigol, i Wasanaethau eraill y Cyngor, ac i fodloni gofynion ariannu corfforaethol y Cyngor; a
8. Cytuno ar gyllideb gyffredinol y Cyngor ar gyfer 2022/23 o £566.792 miliwn, er mwyn cymeradwyo'r penderfyniadau statudol angenrheidiol o ran pennu Treth y Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod erbyn y terfyn amser statudol, sef 11 Mawrth 2022.
Dogfennau ategol: