Agenda item

17A Trafod Rhybudd o Gynnig sydd wedi’i gyflwyno yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol: W. Lewis, S. Evans, L. M. Adams, J. Barton, D. R. Bevan, H. Boggis, J. Bonetto, S. Bradwick, J. Brencher, A. Calvert, G. Caple, A. Crimmings, L. De- Vet, J. Edwards, J. Elliott, A. Fox, M Griffiths, G. Jones, M. Fidler Jones, M. Forey, E. George, J. Harries, G. Holmes, G. Hopkins, W. Lewis, R. Lewis, C. Leyshon, A. Morgan, S. Morgans, M. A. Norris, D. Owen-Jones, S. Pickering, S. Powell, S. Rees, A Roberts, J. Rosser, G. Stacey, G. Thomas, W. Treeby, R. K. Turner, M. Webber, D. Williams, R. Williams,  T. Williams, R. Yeo:

Mae’r Cyngor yma’n nodi ymrwymiad a gafodd ei wneud pan drafododd Llywodraeth y DU ymadael â’r Undeb Ewropeaidd i ddarparu cyllid sy’n cyfateb i’r hyn a ddarparwyd gan yr Undeb Ewropeaidd i ardaloedd lleol a derbyniodd y sicrwydd gan Weinidogion y DU na fyddai Cymru yn colli un geiniog o gyllid yr UE o ganlyniad i'r broses hon. 

Yn ôl canfyddiadau Pwyllgor Trysorlys trawsbleidiol diweddar T?'r Cyffredin mewn adroddiad ar Gyllideb ac Adolygiad o Wariant yr Hydref ym mis Hydref, bydd gostyngiad o 40% yng ngwerth y Gronfa Ffyniant Gyffredin fesul blwyddyn, o'i chymharu â chynlluniau ariannu yr UE y mae'n eu disodli.  Yn yr adroddiad, mynegwyd syndod bod “size of the Fund is being reduced to such an extent”.

I roi hyn yn ei gyd-destun, gwerth rhaglen Cronfa Strwythurol yr UE oedd £2.5 biliwn y flwyddyn a derbyniodd Cymru gyfran anghyfartal o'r cyllid hwn, sef tua £400 miliwn y flwyddyn, neu bedair gwaith yn fwy na chyfartaledd y DU fesul person. Ym mis Tachwedd, tynnodd Llywodraeth Cymru sylw at y ffaith bod y £46 miliwn y byddai Cymru yn ei dderbyn trwy'r Gronfa Adfywio Cymunedol – 'rhagflaenydd' y Gronfa Ffyniant Gyffredin – yn llawer llai na'r swm a gafodd ei addo, ac y byddai unrhyw swm sy'n llai na £375 miliwn o gyllid newydd y flwyddyn gan Lywodraeth y DU yn methu â diwallu'r ymrwymiad hwnnw.

Ar ben hynny, mae'r oedi mawr o ran sefydlu rhaglen Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU wedi arwain at roi unigolion agored i niwed mewn perygl o ddiweithdra hirdymor oherwydd y toriadau ac oedi.

Felly mae'r Cyngor hwn yn:

  • Cydnabod y cyfraniadau hanfodol a ddarparwyd gan Gronfeydd Strwythurol yr UE ar gyfer rhanbarth Gorllewin Cymru a'r Cymoedd yn benodol.

 

  • Galw ar Lywodraeth y DU i gywiro ei haddewid i ddisodli cyllid yr Undeb Ewropeaidd yn llawn.

Ac yn penderfynu:

  • Gofyn i Arweinydd y Cyngor ysgrifennu at Ganghellor y Trysorlys a'r Prif Weinidog i gyfleu barn y Cyngor hwn a gofyn iddyn nhw fynd i'r afael â'r gwahaniaeth yn y cyllid o dan y Gronfa Ffyniant Gyffredin ar unwaith.
  • Gofyn i’n Haelodau o’r Senedd ac Aelodau Seneddol lleol gefnogi’r hyn y mae’r Cyngor hwn yn galw amdano i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth hwn yn y cyllid.
  • Gofyn i’r Cyngor rannu ymateb y Prif Weinidog gyda chynrychiolwyr y Cyngor hwn.

 

 

17B Trafod Rhybudd o Gynnig sydd wedi’i gyflwyno yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol: R. Williams,  A. Fox, L. M. Adams, J. Barton, D. R. Bevan, H. Boggis, J. Bonetto, S. Bradwick, J. Brencher, A. Calvert, G. Caple, A. Crimmings, A. Davies-Jones, L. De- Vet, J. Edwards, J. Elliott, S. Evans, M Griffiths, G. Jones, M. Fidler Jones, M. Forey, E. George, J. Harries, G. Holmes, G. Hopkins, W. Lewis, R. Lewis, C. Leyshon, A. Morgan, S. Morgans, M. A. Norris, D. Owen-Jones, S. Pickering, S. Powell, S. Rees, A Roberts, J. Rosser, G. Stacey, G. Thomas, W. Treeby, R. K. Turner, M. Webber, D. Williams, T. Williams, R. Yeo:

Gall colli anwylyd fod yn un o'r profiadau mwyaf trawmatig a thrallodus i unigolyn, yn ogystal â'r baich ychwanegol posibl o ddelio â'r materion personol cysylltiedig.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn benodol, mae teuluoedd a ffrindiau sydd wedi colli anwyliaid wedi profi heriau pellach, heb eu tebyg yn sgil cyfyngiadau iechyd cyhoeddus a oedd mewn grym mewn perthynas ag angladdau ac achlysuron teuluol ar wahanol adegau wrth i'r wlad fynd i'r afael â phandemig y Coronafeirws.

Yn anffodus, gall yr heriau fod yn fwy yn achos teuluoedd a ffrindiau'r rheiny sydd wedi marw tra oedden nhw'n rhentu eiddo. Dim ond un wythnos y mae rhai cymdeithasau tai yn ei chynnig er mwyn clirio eiddo'r unigolyn sydd wedi marw.

Serch hynny, mae modd ymestyn yr amserlen hon yn unol â phwerau disgresiwn cymdeithasau tai a byddai hyn, heb os, yn lleihau'r straen a gofid ar deulu a ffrindiau'r unigolyn sydd wedi marw.

Mae'r Cyngor yma, felly, yn penderfynu:

·       Gofyn i Arweinydd y Cyngor ysgrifennu i Gymdeithasau Tai lleol yn Rhondda Cynon Taf i ofyn iddyn nhw ystyried arfer eu pwerau disgresiwn i roi o leiaf 2 wythnos yn dilyn angladd eu perthnasau, i glirio eiddo preswylydd sydd wedi marw yn ddiweddar.

 

Cofnodion:

17A Trafod Rhybudd o Gynnig sydd wedi’i gyflwyno yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol: W. Lewis, S. Evans, L. M. Adams, J. Barton, D. R. Bevan, H. Boggis, J. Bonetto, S. Bradwick, J. Brencher, A. Calvert, G. Caple, A. Crimmings, L. De- Vet, J. Edwards, J. Elliott, A. Fox, M Griffiths, G. Jones, M. Fidler Jones, M. Forey, E. George, J. Harries, G. Holmes, G. Hopkins, W. Lewis, R. Lewis, C. Leyshon, A. Morgan, S. Morgans, M. A. Norris, D. Owen-Jones, S. Pickering, S. Powell, S. Rees, A Roberts, J. Rosser, G. Stacey, G. Thomas, W. Treeby, R. K. Turner, M. Webber, D. Williams, R. Williams, T. Williams R. Yeo:

 

Mae’r Cyngor yma’n nodi ymrwymiad a gafodd ei wneud pan drafododd Llywodraeth y DU ymadael â’r Undeb Ewropeaidd i ddarparu cyllid sy’n cyfateb i’r hyn a ddarparwyd gan yr Undeb Ewropeaidd i ardaloedd lleol a derbyniodd y sicrwydd gan Weinidogion y DU na fyddai Cymru yn colli un geiniog o gyllid yr UE o ganlyniad i'r broses hon. 

Yn ôl canfyddiadau Pwyllgor Trysorlys trawsbleidiol diweddar T?'r Cyffredin mewn adroddiad ar Gyllideb ac Adolygiad o Wariant yr Hydref ym mis Hydref, bydd gostyngiad o 40% yng ngwerth y Gronfa Ffyniant Gyffredin fesul blwyddyn, o'i chymharu â chynlluniau ariannu yr UE y mae'n eu disodli.  Yn yr adroddiad, mynegwyd syndod bod “size of the Fund is being reduced to such an extent”.

I roi hyn yn ei gyd-destun, gwerth rhaglen Cronfa Strwythurol yr UE oedd £2.5 biliwn y flwyddyn a derbyniodd Cymru gyfran anghyfartal o'r cyllid hwn, sef tua £400 miliwn y flwyddyn, neu bedair gwaith yn fwy na chyfartaledd y DU fesul person. Ym mis Tachwedd, tynnodd Llywodraeth Cymru sylw at y ffaith bod y £46 miliwn y byddai Cymru yn ei dderbyn trwy'r Gronfa Adfywio Cymunedol – 'rhagflaenydd' y Gronfa Ffyniant Gyffredin – yn llawer llai na'r swm a gafodd ei addo, ac y byddai unrhyw swm sy'n llai na £375 miliwn o gyllid newydd y flwyddyn gan Lywodraeth y DU yn methu â diwallu'r ymrwymiad hwnnw.

Ar ben hynny, mae'r oedi mawr o ran sefydlu rhaglen Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU wedi arwain at roi unigolion agored i niwed mewn perygl o ddiweithdra hirdymor oherwydd y toriadau ac oedi.

Felly mae'r Cyngor hwn yn:

  • Cydnabod y cyfraniadau hanfodol a ddarparwyd gan Gronfeydd Strwythurol yr UE ar gyfer rhanbarth Gorllewin Cymru a'r Cymoedd yn benodol.

 

  • Galw ar Lywodraeth y DU i gywiro ei haddewid i ddisodli cyllid yr Undeb Ewropeaidd yn llawn.

Ac yn penderfynu:

 

 

Yn y cyfarfod, cyhoeddodd y Cadeirydd, yn unol â Rheol Gweithdrefn 10.4.1 y Cyngor, fod y diwygiad canlynol i'r Rhybudd o Gynnig wedi'i dderbyn gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol P. Jarman, A. Cox, J. Williams, H. Fychan, E, Griffiths, E. Webster, S. Evans, A. Chapman, M. Weaver, S. Rees-Owen, L. Jones, E. Stephens, J. Davies, J. Cullwick, G. Davies, K. Morgan, D. Grehan:

Roedd y Cynnig Diwygiedig yn nodi:

 

Mae’r Cyngor yma’n nodi ymrwymiad a gafodd ei wneud pan drafododd Llywodraeth y DU ymadael â’r Undeb Ewropeaidd i ddarparu cyllid sy’n cyfateb i’r hyn a ddarparwyd gan yr Undeb Ewropeaidd i ardaloedd lleol a derbyniodd y sicrwydd gan Weinidogion y DU na fyddai Cymru yn colli un geiniog o gyllid yr UE o ganlyniad i'r broses hon. 

Yn ôl canfyddiadau Pwyllgor Trysorlys trawsbleidiol diweddar T?'r Cyffredin mewn adroddiad ar Gyllideb ac Adolygiad o Wariant yr Hydref ym mis Hydref, bydd gostyngiad o 40% yng ngwerth y Gronfa Ffyniant Gyffredin fesul blwyddyn, o'i chymharu â chynlluniau ariannu yr UE y mae'n eu disodli.  Yn yr adroddiad, mynegwyd syndod bod “size of the Fund is being reduced to such an extent”.

I roi hyn yn ei gyd-destun, gwerth rhaglen Cronfa Strwythurol yr UE oedd £2.5 biliwn y flwyddyn a derbyniodd Cymru gyfran anghyfartal o'r cyllid hwn, sef tua £400 miliwn y flwyddyn, neu bedair gwaith yn fwy na chyfartaledd y DU fesul person. Ym mis Tachwedd, tynnodd Llywodraeth Cymru sylw at y ffaith bod y £46 miliwn y byddai Cymru yn ei dderbyn trwy'r Gronfa Adfywio Cymunedol – 'rhagflaenydd' y Gronfa Ffyniant Gyffredin – yn llawer llai na'r swm a gafodd ei addo, ac y byddai unrhyw swm sy'n llai na £375 miliwn o gyllid newydd y flwyddyn gan Lywodraeth y DU yn methu â diwallu'r ymrwymiad hwnnw.

Ar ben hynny, mae'r oedi mawr o ran sefydlu rhaglen Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU wedi arwain at roi unigolion agored i niwed mewn perygl o ddiweithdra hirdymor oherwydd y toriadau ac oedi.

Felly mae'r Cyngor hwn yn:

  • Cydnabod y cyfraniadau hanfodol a ddarparwyd gan Gronfeydd Strwythurol yr UE ar gyfer rhanbarth Gorllewin Cymru a'r Cymoedd yn benodol.

 

  • Galw ar Lywodraeth y DU i gywiro ei haddewid i ddisodli cyllid yr Undeb Ewropeaidd yn llawn.

 

Ac yn penderfynu:

·         Gofyn i Arweinydd y Cyngor ysgrifennu at Ganghellor y Trysorlys a'r Prif Weinidog i gyfleu barn y Cyngor hwn:

(1) Y dylid mynd i’r afael â’r gwahaniaeth yn y cyllid o dan y Gronfa Ffyniant Gyffredin ar unwaith.

 (2) Y dylai Llywodraeth y DU ddychwelyd yr awdurdod i fuddsoddi arian o’r fath i Lywodraeth Cymru, a etholwyd yn ddemocrataidd, waeth beth fo’r amgylchiadau.

 

  • Gofyn i’n Haelodau o’r Senedd ac Aelodau Seneddol lleol gefnogi’r hyn y mae’r Cyngor hwn yn galw amdano i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth hwn yn y cyllid.

 

  • Gofyn i’r Cyngor rannu ymateb y Prif Weinidog gyda chynrychiolwyr y Cyngor hwn.

 

Yn dilyn trafodaeth ar y mater yma, cymerwyd y bleidlais mewn perthynas â'r diwygiad i'r Rhybudd o Gynnig a PHENDERFYNWYD mabwysiadu'r newid, gan ddiwygio'r cynnig uchod. PENDERFYNODD yr Aelodau fabwysiadu'r cynnig.

 

(Nodwch: Roedd Gr?p y Ceidwadwyr yn dymuno cofnodi ei fod wedi pleidleisio yn erbyn y Rhybudd o Gynnig diwygiedig a'r Rhybudd o Gynnig gwreiddiol) 

 

Dogfennau ategol: