Agenda item

Derbyn cwestiynau'r Aelodau yn unol â Rheol 9.2 o Weithdrefn y Cyngor.

 

(Nodwch: Caniateir hyd at 20 munud ar gyfer cwestiynau.)

 

Cofnodion:

Nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu y bydd cwestiwn 5 yn cael ei hepgor o ganlyniad i absenoldeb Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. Pickering

1. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol G. Holmes i’r Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G. Caple:

“A wnaiff yr Aelod o'r Cabinet ddatganiad ar yr oedi o ran rhyddhau cleifion o'r ysbyty ac amlinellu pa waith y mae'r Cyngor yn ei wneud i helpu gyda hyn?”

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol Caple:

Ymatebodd y Cynghorydd Caple drwy nodi bod Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion yn parhau i hwyluso'r broses o ryddhau cleifion o'r adran damweiniau ac achosion brys trwy'r gwasanaeth Cadw'n Iach Gartref, sef 10 claf yr wythnos ar gyfartaledd. Mae hyn yn cyfateb i gyfartaledd o 23 claf yr wythnos os ydych chi'n cyfuno'r nifer yma â'r nifer o gleifion sy'n cael eu rhyddhau gan y garfan un pwynt mynediad a'r garfan achosion rhyddhau o'r ysbyty cymhleth. Ychwanegodd fod cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal gyda'r Bwrdd Iechyd i archwilio prosesau rhyddhau cleifion mwy effeithiol ac adolygiadau achosion unigol. Er mwyn cefnogi parhad busnes, mae adran y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion wedi paratoi ei gweithlu i roi cymorth allweddol.

Rhoddodd y Cynghorydd Caple wybod bod system mewngymorth o staff sy'n gweithio yn y gymuned wedi cael ei rhoi ar waith i gyflymu'r broses o ryddhau cleifion, hynny yw y rheiny sy'n gallu gadael ond sy'n aros am asesiadau neu gymorth pellach y mae modd eu darparu yn y gymuned, gan sicrhau bod pobl yn ddiogel ac yn cael gofal da gartref. Er bod hon yn broses gymhleth, mae'r holl sgiliau a meysydd megis therapyddion, cydlynwyr rhyddhau o'r ysbyty, therapyddion galwedigaethol, ymatebwyr symudol yn cael eu defnyddio i sicrhau bod y system yma mor gyflym ac effeithiol â phosibl.

Cwestiwn ategol gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol G. Holmes:

“Fyddai'r broblem gydag oedi o ran trosglwyddo llawer yn waeth ar gyfer ein cydweithwyr ym maes iechyd, gan waethygu'r heriau o ran capasiti y mae ein gwasanaethau iechyd yn eu hwynebu, gan gynnwys y gwasanaethau ambiwlans, oni bai am y dull rhagweithiol wedi'i fabwysiadu gan y Cyngor yma a Llywodraeth Leol yn gyffredinol?”

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol Caple:

Cytunodd y Cynghorydd Caple â sylwadau'r Cynghorydd Holmes a dywedodd y byddai'r Cyngor yn parhau i archwilio modelau gwahanol o ddarparu gwasanaeth ac i weithio gyda phartneriaid, yn enwedig y GIG, o ran arwain gwaith trawsnewid gwasanaethau drwy ddefnyddio mesurau atal ac ymyrryd. Mae'n bosibl y bydd hyn yn arwain at drosglwyddo rhai gwasanaethau i Lywodraeth Leol os bydd hynny o fudd i'r gwasanaeth. Yn y cyfamser, bydd y Cyngor yn parhau i weithio i gefnogi nifer uwch o bobl sydd ag anghenion mwy cymhleth gartref ac yn y gymuned yn ystod oriau gweithredu ychwanegol y gwasanaeth Cadw'n Iach Gartref. Bydd hefyd yn cefnogi'r derbyniadau osgoadwy i'r ysbyty a derbyniadau i'r ysbyty.

Roedd y Cynghorydd Caple yn dymuno cydnabod a gwerthfawrogi'n fawr waith caled ac ymrwymiad carfanau'r Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion, gwasanaethau eraill y Cyngor megis tai a darparwyr y sector annibynnol sydd wedi gweithio o dan bwysau mawr a pharhaus am gyfnod sylweddol. Rhoddodd y Cynghorydd Caple ddiolch iddyn nhw am fynd yr ail filltir i gefnogi'r GIG.

I gloi, nododd y Cynghorydd Caple fod pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys a gwasanaethau ysbytai yn parhau i gynyddu ledled Cymru. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi rhoi ei broses parhad busnes ar waith am 3 diwrnod yn ystod yr wythnosau diwethaf o ganlyniad i nifer uwch o bobl yn mynd i'r adran damweiniau ac achosion brys. Mae hyn wedi achosi oedi i rai ambiwlansys yn y safleoedd acíwt. Mae cyfnod o 2 wythnos ar hyn o bryd, yn ôl cyfarwyddyd LlC, lle mae staff y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion yn helpu gyda threfniadau dyddiol y wardiau, cyfarfodydd dyddiol a phrosesau rhyddhau cleifion. Bydd y staff yn parhau i weithio gyda'r Bwrdd Iechyd i sicrhau bod cleifion yn cael eu rhyddhau o'r ysbyty i'r gymuned mewn ffordd ddiogel ac amserol.

 

2. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol R. Yeo i'r Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. Bonetto:

 

“Sut mae'r Cyngor yn bwrw ymlaen â'r buddsoddiad yn Ysgol Gyfun Bryn Celynnog, a chanolfan ragoriaeth newydd y chweched dosbarth?”

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. Bonetto:

Ymatebodd y Cynghorydd Bonetto drwy nodi bod gwaith ailddatblygu'r ganolfan yn mynd rhagddo ac y bydd y buddsoddiad gwerth £16.15 miliwn yn talu am waith creu adeilad newydd y chweched dosbarth, bloc dysgu a champfa gyda chyfleusterau modern a hygyrch. Bydd y gwaith yma'n mynd law yn llaw â gwaith sydd wedi'i gwblhau'n ddiweddar ar y ardal chwaraeon 3G a thrac athletau. Bydd nifer y lleoedd i ddisgyblion yn cynyddu i 1,600, gan gynnwys 400 o leoedd i ddisgyblion y chweched dosbarth.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Bonetto y bydd y cais cynllunio'n cael ei adolygu gan y Pwyllgor Cynllunio ar ddiwedd y mis. Os bydd y cais yn cael ei gymeradwyo, bydd gwaith yn dechrau ym mis Gorffennaf 2022. Bydd gwaith ar yr adeilad a'r cyfleusterau chwaraeon yn cael ei gwblhau erbyn mis Gorffennaf 2023 a bydd gwaith allanol yn cael ei gwblhau erbyn mis Rhagfyr 2023.

 

 

Cwestiwn ategol gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol R. Yeo:

 

“Sut y bydd modd gwneud y mwyaf o gyfleoedd i'r gymuned ddefnyddio'r cyfleusterau?”

 

 

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. Bonetto:

Rhoddodd y Cynghorydd Bonetto wybod y bydd y cyfleusterau newydd ychwanegol ar gael i'r gymuned eu defnyddio a chadarnhaodd fod Swyddogion y Cyngor yn cysylltu â'r contractwr, staff yr ysgol a llywodraethwyr yr ysgol i fwrw ymlaen â'r cynllun. Mae staff y Cyngor yn trafod gyda'r contractwr er mwyn gwneud y mwyaf o gyfleoedd i wirfoddoli a chael profiad gwaith.

 

3. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. Barton i Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

“Pa gamau gweithredu y mae modd i'r Cyngor eu cymryd i wella diogelwch y ffyrdd a lleihau achosion o yrru'n rhy gyflym mewn cymunedau lleol?”

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

Rhoddodd yr Arweinydd wybod bod gan yr awdurdod lleol y p?er i gyflwyno mesurau rheoli cyflymder megis twmpathau a chroesfannau. Serch hynny, mae troseddau gyrru'n rhy gyflym yn faterion i'r Heddlu ac mae partneriaeth 'GanBwyll' yn gosod camerâu dros dro a/neu barhaol ac mae'n gyfrifol am eu gorfodi. Mae modd i'r Awdurdod Lleol wneud cais am arian i wella camerâu presennol ond 'GanBwyll' sy'n penderfynu ar leoliad y camerâu hynny.

Cwestiwn ategol gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. Barton:

“O ran y terfyn cyflymder 20mya arfaethedig y mae Llywodraeth Cymru yn ei gyflwyno mewn ardaloedd preswyl ac ardaloedd o gwmpas ysgolion, beth yw'r gost a phryd y bydd yn cael ei roi ar waith?”

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

Dywedodd y Cynghorydd Morgan fod disgwyl i waith ddechrau yn ystod y flwyddyn nesaf gydag arian wedi'i ddyrannu gan Lywodraeth Cymru i RCT ar gyfer hyn. Nododd y bydd llawer iawn o arwyddion i'w newid neu'u gosod.

4. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol W. Lewis i’r Aelod o’r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol a Digidol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M. Norris:

“Fydd y Cabinet yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf o ran cyflwyno gwasanaeth wi-fi ledled canol trefi allweddol yn Rhondda Cynon Taf?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd M. Norris:

Nododd y Cynghorydd Norris fod darparu mynediad am ddim i wasanaeth wi-fi yng nghanol y trefi wedi bod yn hwb iddyn nhw a dylai hynny annog trigolion a busnesau i siopa'n lleol. O ganlyniad i'r cynllun peilot cychwynnol, cafodd gwasanaeth wi-fi am ddim ei ddarparu yn Aberdâr, wedyn yng nghanol chwe thref arall, Pontypridd a Thonypandy.

Cwestiwn ategol gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol W. Lewis:

“Oes modd i chi ddarparu adborth gan y busnesau a masnachwyr byd-eang o ran llwyddiant y cynllun?”

Ymateb gan y Cynghorydd M. Norris:

Nododd y Cynghorydd Norris mai dyma un o nifer o fuddsoddiadau cadarnhaol yng nghanol y trefi, gan annog pobl i wario arian yn lleol a chynnig gwybodaeth a gwasanaethau pellach i'r Fwrdeistref Sirol. Mae modd i ymwelwyr weld yr ystod eang o fusnesau sydd ar gael cyn iddyn nhw ymweld â chanol y trefi. Ychwanegodd fod masnachwyr yn cydnabod potensial y buddsoddiad yma mewn technoleg ac mae nifer yr ymwelwyr â chanol y trefi wedi gwella o ganlyniad i'r cynllun. Ychwanegodd y Cynghorydd Norris fod masnachwyr a busnesau wedi cydnabod cymorth y Cyngor gan nodi ei fod wedi galluogi canol trefi i fod yn fwy hyblyg a chanolbwyntio'n fwy ar fod yn ddigidol. Mae'r buddsoddiad yn dangos, unwaith eto, fod y Cyngor yn gwneud popeth o fewn ei allu i gefnogi ei strydoedd mawr lleol er budd y gymuned gyfan.

5. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. M. Powell i'r Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. Bonetto:

“Sut mae'r Cyngor yma'n bwrw ymlaen â chynlluniau am ysgol gynradd newydd ar gyfer disgyblion Tonysguboriau?”

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. Bonetto:

Nododd y Cynghorydd Bonetto fod y Cyngor wedi dechrau'r broses ariannu ar gyfer ysgol gynradd newydd â 300 o leoedd, sef adeilad yr 21ain Ganrif newydd sbon, carbon sero-net fydd yn cymryd lle adeiladau presennol yr ysgol ar y safle. Nododd fod cynigion yn y camau cynnar a bod achos busnes i sicrhau model buddsoddi cydfuddiannol gydag arian Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru (Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn flaenorol), wedi'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru'n ddiweddar. Yn amodol ar gyllid a chaniatâd cynllunio, bydd adeilad newydd yr ysgol yn barod erbyn 2025.                                     

Doedd dim cwestiwn ategol.

6. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. Bradwick i Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

 

“Oes modd i'r Arweinydd roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y ceisiadau am Gynllun Lliniaru Llifogydd ar gyfer y flwyddyn nesaf?”

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

Siaradodd y Cynghorydd Morgan am y gwaith mawr sydd wedi'i gynnal hyd yn hyn ers Storm Dennis. Esboniodd yr Arweinydd y ddau fath gwahanol o gyllid, trwy'r Gronfa Ffyrdd Cydnerth a cheisiadau wedi'u cyflwyno gan y garfan rheoli perygl llifogydd. Mae dros £40 miliwn wedi'i sicrhau dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Bydd ceisiadau pellach yn cael eu cyflwyno yn ystod y flwyddyn nesaf. Mae ffynonellau eraill yn dod o Lywodraeth Cymru ar gyfer gwaith adfer a difrod wedi'i achosi gan Storm Dennis, ailosod waliau afonydd sy'n eiddo i'r Cyngor ac atgyweirio difrod i briffyrdd a phontydd. Ychwanegodd y bydd canlyniad y ceisiadau'n cael ei gyhoeddi cyn bo hir.

Rhoddodd yr Arweinydd yr wybodaeth ddiweddaraf am swm y ceisiadau diweddar megis rheoli perygl llifogydd (£7 miliwn), Y Gronfa Ffyrdd Cydnerth (£1-1.5 miliwn) a gwaith adfer llifogydd (£16-18 miliwn ar gyfer gwaith mwy).

Cwestiwn ategol gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. Bradwick:

“Oes modd i chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cyllid ar gyfer tomenni glo yn y dyfodol?”

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod y Cyngor wedi gwario dros £7 miliwn yn mynd i'r afael â thomenni glo, yn enwedig tomen Tylorstown sydd, yn amodol ar ganiatâd cynllunio, yn destun pedwerydd cam o waith yn fuan. Mae gwaith sefydlogi wedi cael ei gynnal ar domen Wattstown, gydag arian gan Lywodraeth Cymru.  Rhoddodd yr Arweinydd wybod bod nifer o safleoedd eraill lle mae'r Cyngor wedi gosod offer monitro, gan ddefnyddio offer wedi'u hen sefydlu a thechnoleg newydd. Mewn ardaloedd eraill, mae gwaith archwilio'r tir yn cael ei gynnal i gael gwybod a oes angen ailraddio'r tomenni. Roedd yr Arweinydd yn disgwyl y byddai angen cynnal gwaith pellach yn y dyfodol gyda'r lefel briodol o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, nid gan Lywodraeth y DU.

 

Dogfennau ategol: