Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â'r Cod Ymddygiad.
1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agenda y mae eu buddiant yn ymwneud ag e a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a
Cofnodion:
Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda a chafodd datganiadau o fuddiant eu gwneud yngl?n ag eitemau 12 ac 19 ar yr agenda yn ddiweddarach yn y cyfarfod (Cofnod 142):
Eitemau 11-15 ar yr agenda
Y Cynghorydd P. Jarman
Personol – "Gollyngiad i siarad a phleidleisio ar bob mater tra bod proses pennu Cyllideb 2021-22 yn mynd rhagddi ac yn cael ei mabwysiadu, a hynny fel Arweinydd yr Wrthblaid".
Y Cynghorydd M. Powell
Personol – "Rwyf wedi cael gollyngiad gan y Pwyllgor Safonau i siarad a phleidleisio ar bob mater sy'n ymwneud â'r gyllideb bresennol ac arfaethedig ar gyfer 2022-23, gan y byddai pob un o'r eitemau hynny'n adlewyrchu addasiad i'r gyllideb ac mae fy ngwraig yn gweithio i'r Awdurdod Lleol."
Eitem 17B ar yr agenda – Rhybudd o Gynnig
Y Cynghorydd A. Fox
Personol – “Mae aelod o'm teulu yn gweithio i gymdeithas dai yn RhCT”.
Y Cynghorydd W. Lewis
Personol – “Rydw i'n gweithio i Gymdeithas Dai.”
Eitem 16 ar yr agenda – Rhaglen Gyfalaf Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (Ysgolion yr 21ain Ganrif yn flaenorol) – Ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd yn Rhydfelen
Y Cynghorydd A. Forey
Personol – “Mae fy merch yn gweithio i'r Awdurdod Lleol ym maes addysg.”
Y Cynghorydd M. Webber
Personol – “Rydw i'n Llywodraethwr yn yr ysgol sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad.”
Y Cynghorydd M. Powell
Personol – “Rydw i'n Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Coedpenmaen, Ysgol Babanod Trallwn ac Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen”.
Eitem 10 ar yr agendaCynllun Datblygu Lleol Diwygiedig 2022-2037
Y Cynghorydd W. Lewis
Personol – “Mae'r adroddiad yn cyfeirio at y Gymdeithas Dai rydw i'n gweithio iddi.”
Eitem 7 ar yr agenda – Cwestiwn 6 yr Aelodau
Y Cynghorydd S. Powell
“Mae fy ngwraig yn gweithio yn Ysgol Gynradd Tonysguboriau, rydw i hefyd yn Llywodraethwr yno ac mae'r ysgol yn fy ward”.
Eitem 12 ar yr agenda – Penderfyniad Treth y Cyngor
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd – "Byddwn ni'n cofnodi datganiad personol cyffredinol ar gyfer yr Aelodau hynny sy'n Aelodau o Gyngor Tref neu Gyngor Cymuned."
Y Cynghorydd G. Thomas – Personol – “Rydw i'n Aelod o Banel Heddlu a Throseddu De Cymru.”
Y Cynghorydd R. Lewis – Personol – “Rydw i'n Aelod o Banel Heddlu a Throseddu De Cymru.”
Y Cynghorydd M. Powell – Personol – “Rydw i'n Aelod o Gyngor Tref Pontypridd.”
Y Cynghorydd S. Belzak – Personol – “Rydw i'n Aelod o Gyngor Tref Pontypridd.”
Eitem 19 ar yr agenda Trefniant Ariannu ar gyfer Gwaith Seilwaith Trafnidiaeth (Rheilffyrdd)
Y Cynghorydd J. Brencher – Personol – "Mae fy mab yn Gyfarwyddwr Trafnidiaeth Cymru".
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol, ar ran holl Swyddogion y Cyngor a oedd yn bresennol, mewn perthynas ag Eitem 9 ar yr agenda – Datganiad 2022/23 y Cyngor ar Bolisi Cyflogau
“Nid yw datganiad y Cyngor ar Bolisi Cyflogau yn cael unrhyw effaith ar delerau ac amodau presennol sy'n berthnasol i weithwyr unigol. Yn syml mae'n nodi dull y Cyngor tuag at bolisïau a fabwysiadwyd yn flaenorol, felly bydd Swyddogion yn aros yn y cyfarfod tra bydd yr eitem yn cael ei chyflwyno gan y Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol ac yn ystod y drafodaeth ddilynol."