Agenda item

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor, sy'n crynhoi'r hyn a gyflawnwyd yn y blynyddoedd diwethaf wrth fynd i'r afael â Newid yn yr Hinsawdd. 

Cofnodion:

Rhannodd y Pennaeth Materion Ynni a Lleihau Carbon yr wybodaeth ddiweddaraf â'r Aelodau mewn perthynas â'r deilliannau amgylcheddol ac ynni allweddol a gyflawnwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf a'r gwaith sy'n cael ei gynnal ar brosiectau ynni adnewyddadwy a materion eraill sy'n ymwneud â lleihau allyriadau carbon. Dywedodd wrth yr Aelodau mai nod yr adroddiad oedd rhoi trosolwg o'r gwaith da sydd wedi'i wneud hyd yma yn ogystal â phrosiectau'r dyfodol.

Siaradodd y Pennaeth Materion Ynni a Lleihau Carbon am Gynllun Corfforaethol 2020/24 RhCT 'Gwneud Gwahaniaeth'; gan nodi bod y Cyngor wedi cydnabod mai cyflawni ymrwymiadau Newid yn yr Hinsawdd fydd un o'r heriau mwyaf.

 

Cafodd yr Aelodau eu cyfeirio at adran 5 yr adroddiad sy'n rhestru llwyddiannau prosiectau'r Cyngor sy'n ymwneud â mynd i'r afael â Newid yn yr Hinsawdd hyd yma. Roedd rhai enghreifftiau o'r llwyddiannau hyn yn cynnwys lleihau allyriadau carbon 40% drwy fuddsoddi mewn ffynonellau ynni adnewyddadwy; mae'r holl oleuadau stryd yn RhCT wedi'u newid i oleuadau LED ac ers 2016 mae hyn wedi arwain at ostyngiad blynyddol o 84% yn y carbon a gofnodwyd yn 2018/19. Dywedodd y Pennaeth Materion Ynni a Lleihau Carbon wrth yr Aelodau mai Cyngor RhCT yw'r ALl cyntaf i osod Celloedd Tanwydd Hydrogen ac erbyn hyn mae 21 o unedau wedi'u gosod mewn Canolfannau Hamdden, Ysgolion a Swyddfeydd ledled RhCT.

Cyfeiriodd y Pennaeth Materion Ynni a Lleihau Carbon yr Aelodau at adran 6 yr adroddiad a oedd yn tynnu sylw'r Aelodau at brosiectau Cyngor RhCT sy'n cael eu cynnal ar hyn o bryd. Mae’r prosiectau’n cynnwys ‘Ffynnon Dwym Ffynnon Taf’, sy’n defnyddio gwres geothermol, buddsoddiad y Cyngor mewn peiriannau ailgylchu wedi'u hawtomeiddio o’r radd flaenaf ar safle Bryn Pica, sydd wedi gwella targedau ailgylchu’r Cyngor, gwaith bioamrywiaeth ar y gweill sy’n archwilio defnyddio coed a mawnogydd fel modd o ddal carbon, yn ogystal â nifer o lwybrau 'Teithio Llesol' sydd wedi'u sefydlu ledled RhCT megis Llwybr Taith Taf, Llwybr Cymunedol Pentre'r Eglwys a Llwybr Cwm Cynon. Dywedodd y Pennaeth Materion Ynni a Lleihau Carbon wrth yr Aelodau fod y gwaith wedi bod yn canolbwyntio ar wella rhwydweithiau teithio llesol drwy ddatblygu llwybrau newydd a fydd yn gwella cysylltedd ac yn gwasanaethu cyfleusterau lleol allweddol megis ysgolion, colegau, mannau gwaith a siopau.

 

Cafodd yr Aelodau eu cyfeirio at adran 7 yr adroddiad; mae'r adran hon yn amlygu cynlluniau'r Cyngor i ddatgarboneiddio'r Fwrdeistref Sirol drwy gydweithio i ddatblygu systemau gwefru cerbydau trydan a datgarboneiddio fflyd y Cyngor, hyfforddiant i staff a menter mannau gwyrdd. Dywedodd y Pennaeth Materion Ynni a Lleihau Carbon wrth yr Aelodau fod adran 7 yr adroddiad yn cyfeirio at system Llywodraethu Corfforaethol newydd y Cyngor sydd wedi'i sefydlu dan y Gr?p Llywio, fel y dangosir yn atodiad yr adroddiad.

 

Fel sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad, soniodd y Pennaeth Materion Ynni a Lleihau Carbon am y gwaith rhagorol sydd wedi'i wneud sy'n adlewyrchu egwyddorion datblygu cynaliadwy Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (2015), wrth i brosiectau ddiwallu anghenion presennol heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau. Er bod sawl llwyddiant wedi bod hyd yn hyn, roedd y Pennaeth Materion Ynni a Lleihau Carbon wedi cydnabod bod rhagor o waith i'w wneud.

 

Roedd y Cadeirydd yn hapus gyda'r adroddiad a'r gwaith rhagorol sydd wedi'i wneud hyd yma. Roedd y Cadeirydd yn awyddus i weld bod yr hyn sydd wedi'i gyflawni'n cael ei rannu â staff a thrigolion.

 

Roedd un Aelod wedi adleisio canmoliaeth y Cadeirydd; roedd e'n falch o weld yr hyn sydd wedi'i gyflawni yn ystod cyfnod byr.

 

Roedd Aelod wedi canmol y gwaith sydd wedi'i gynnal yn rhan o'r prosiect, fodd bynnag gofynnodd bod rhagor o oleuadau LED yn cael eu gosod yn rhannau o RCT, gan fod y goleuadau sydd wedi'u gosod hyd yn hyn yn canolbwyntio ar ardaloedd penodol yn hytrach na bod ar hyd a lled ar y sir. Rhannodd y Pennaeth Materion Ynni a Lleihau Carbon wybodaeth ynghylch cynllun datblygu technoleg LED, gan bwysleisio y bydd goleuadau LED gwell yn cael eu gosod.

 

PENDERFYNODD Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd:

 

-       Nodi cynnwys yr adroddiad yma a'i ddiweddariadau yn rhan o waith parhaus Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd.

 

Derbyn adroddiadau pellach sy'n rhannu diweddariadau pellach ynghylch yr hyn sydd wedi'i gyflawni a'r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yn hyn.

Dogfennau ategol: