Agenda item

Derbyn adroddiad y Pennaeth Materion Ynni a Lleihau Carbon, sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y Prosiect Fferm Solar arfaethedig.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Ynni a Lleihau Carbon yr adroddiad a oedd yn rhoi diweddariadau pellach i'r Aelodau mewn perthynas â datblygu’r prosiect 'Fferm Solar ar Dir' a fydd yn cael ei lleoli ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor. Roedd y Pennaeth Materion Ynni a Lleihau Carbon wedi cydnabod potensial mawr y prosiect yng nghyd-destun cyfleoedd gwrthbwyso carbon yn y dyfodol.

 

Roedd yr adroddiad yn darparu gwybodaeth gefndir a diweddariadau allweddol mewn perthynas â'r cynigion a fydd yn cyfrannu'n fawr at wrthbwyso ôl troed carbon ac yn cyfrannu at gyflawni targedau Carbon Sero Net y Cyngor. 

Esboniodd y Pennaeth Materion Ynni a Lleihau Carbon fod modd disgrifio'r prosiect fel Fferm Solar 6MW oherwydd cynnyrch cyfunol y ddwy 'elfen allforio' sydd wedi'u cynnwys yn y cynnig. Mae'r 'elfen allforio' yn cynnwys Western Power Distribution a threfniadau gwifrau preifat. Dywedodd y Pennaeth Materion Ynni a Lleihau Carbon wrth yr Aelodau fod trafodaethau ar gyfer y wifren breifat wedi cyrraedd y cam dirprwyo. Mae'r trefniadau yma'n destun trefniant diffyg datguddio y mae'r Cyngor wedi cytuno iddo gyda'r partner posibl. 

 

Aeth y Pennaeth Materion Ynni a Lleihau Carbon ati i hysbysu'r Aelodau bod yna dri opsiwn sy'n gysylltiedig â'r Fferm Solar ac mae'r ffyrdd y mae modd rhoi'r cynigion yma ar waith wedi'u crynhoi isod:

 

Opsiwn 1: adeiladu'r fferm solar annibynnol er mwyn manteisio ar ein cysylltiad diogel â'r grid 5MW. Bydd hyn yn bwydo'n uniongyrchol i'r grid ac yn rhannu'r p?er sydd wedi'i gynhyrchu gan ddefnyddio'r llwybr yma'n unig.

 

Opsiwn 2: cyfuno'r syniadau a ddisgrifir uchod â system wifrau preifat i bartner lleol, ac allforio i fyd masnach ar ddwy lefel, sef 33kV a 11kV.

 

Opsiwn 3: cyfuno'r ddwy senario uchod gan archwilio cyfleoedd eraill i ddarparu ynni gwyrdd i fentrau masnachol y dyfodol ar ystad ddiwydiannol leol, a hynny am gost isel. Y gobaith yw y bydd y dull yma'n annog defnyddwyr sy'n defnyddio llawer o ynni i adleoli i'r safle, nid yn unig ar gyfer yr ynni gwyrdd ond hefyd o ran potensial y safle. Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch creu Safle Gwefru Cerbydau Trydan sylweddol sydd â chyfleusterau storio batris ac wedi'i bweru'n rhannol gan y fferm solar. I ddechrau, bydd y safle yma ar gael i'r Cyngor a fflyd y sector cyhoeddus, ond bydd y safle hefyd ar gael i gerbydau preifat a cherbydau nwyddau trwm.

 

Dywedodd y Pennaeth Materion Ynni a Lleihau Carbon y bydd y gwaith yn canolbwyntio ar opsiwn 2; fodd bynnag, gellir ystyried opsiwn 3 gan ddibynnu ar yr ymchwiliadau sy'n cael eu cynnal nes ymlaen yn y cynllun ac os oes parodrwydd i fynd ar ei drywydd o safbwynt corfforaethol.

 

Dywedodd y Pennaeth Materion Ynni a Chaffael y byddai rhoi statws prosiect i'r cynigion a amlinellwyd yn golygu bod modd rhoi'r systemau llywodraethu cymeradwy angenrheidiol ar waith er budd datblygiad parhaus y prosiect. Bydd hefyd yn galluogi'r garfan y mae'r Cyngor wedi'i phenodi i reoli materion wrth symud ymlaen â'r prosiect.

 

Mynegodd un Aelod bryder ynghylch maint y prosiect Fferm Solar a’i effaith ar gynefinoedd naturiol, llystyfiant ac ôl troed carbon ar y safle. Roedd yr Aelod yn bryderus gan y byddai llawer o ynni ac adnoddau'n cael eu defnyddio i ddatblygu'r prosiect.

Ategodd un Aelod bryderon tebyg ynghylch effaith ecolegol y prosiect.

 

Cynghorodd y Pennaeth Materion Ynni a Lleihau Carbon y bydd ymchwiliadau'n cael eu cynnal i sicrhau bod cyflwr ecolegol presennol y safle'n cael ei gynnal. O ran yr effaith ar lystyfiant, rhoddodd y Pennaeth Materion Ynni a Lleihau Carbon sicrwydd i'r Aelodau y bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau bod cyn lleied aflonyddwch â phosibl.

Soniodd y Pennaeth Materion Ynni a Lleihau Carbon wrth yr Aelodau am ymchwiliadau ôl-troed carbon fydd yn cael eu cynnal yn ystod y broses gaffael a bydd ymholiadau perthnasol yn cael eu codi ynghylch beth fydd ôl troed carbon y prosiect. Roedd un Aelod yn deall y pryderon a godwyd ond roedd yn cefnogi'r prosiect oherwydd y manteision ariannol cyffredinol fyddai'n gysylltiedig â'r prosiect yn y dyfodol.

 

Dywedodd y Prif Weithredwyr wrth Aelodau'r Gr?p Llywio y bydd y Fferm Solar yn cael effaith hirdymor gadarnhaol ar yr amgylchedd, gan y byddai'r ynni a ddarperir o'r Fferm Solar yn cael ei ddefnyddio am dros 20 o flynyddoedd. Roedd un Aelod wedi adleisio sylwadau'r Prif Weithredwr, gan gyfeirio at hirhoedledd y prosiect a chynhyrchu ynni; fodd bynnag gofynnodd yr Aelod am ragor o adroddiadau fyddai'n rhannu gwybodaeth â'r Aelodau ynghylch yr ynni sy'n cael ei ddefnyddio yn ystod y broses gynhyrchu ynni'n rhan o'r prosiect Fferm Solar.

 

Cefnogodd y cynrychiolydd o sefydliad Croeso i'n Coedwig waith datblygu'r prosiect Fferm Solar gan fynd ati i drafod manteision cynhyrchu ynni sy'n eiddo i'r Cyngor ac sydd felly'n cynnig sicrwydd o ran ynni.

 

PENDERFYNODD Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd:

 

-       Nodi cynnwys yr adroddiad.

 

-       Cytuno y gellir cyflwyno'r adroddiad i'r Cabinet, a hynny er mwyn argymell bod y cynnig yn cael ei gymeradwyo.

 

-       Derbyn adroddiadau pellach sy’n cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sydd wedi'i wneud yn 2022.

 

Dogfennau ategol: