Agenda item

Derbyn diweddariad llafar gan y Rheolwr Cyflawniad ar yr achlysur sero net i staff, a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2022.

Cofnodion:

 

Rhoddodd y Rheolwr Cyflawniad ddiweddariad ar lafar i Aelodau Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd mewn perthynas â'r achlysur sero net i staff Rhondda Cynon Taf, a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2022. Roedd y Rheolwr Cyflawniad wedi cydnabod y gwaith sydd wedi'i gyflawni yn ystod y blynyddoedd blaenorol o ran ymgysylltu â thrigolion a'r gymuned; cydnabuwyd bod angen nodi, trafod a chasglu barn y staff mewn perthynas â sut i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a lleihau Ôl Troed Carbon y Cyngor. Rhoddodd y Rheolwr Cyflawniad wybod i'r Aelodau y bydd cwestiynau'n cael eu cynnwys yn yr arolygon i staff a rheolwyr yn rhan o drafodaethau 'Dewch i siarad am Newid yn yr Hinsawdd'.

 

Cafodd Aelodau wybod bod modd canolbwyntio ar ymgysylltu â staff erbyn hyn, gan ddarparu rhagor o gyfleoedd i gymryd rhan a chyfrannu at waith sy'n ymwneud â newid yn yr hinsawdd a lleihau allyriadau Carbon, a hynny'n dilyn dwy flynedd o ganolbwyntio ar faterion Covid-19. Roedd y Rheolwr Cyflawniad wedi cydnabod pwysigrwydd staff o ran y gwaith sy'n cael ei gyflawni nawr ac yn y dyfodol, yn enwedig gan fod tua 80% o staff hefyd yn drigolion RhCT.

 

Cafodd Aelodau wybod bod achlysur Sero Net i Staff wedi'i drefnu gyda'r bwriad o ddarparu cyfleoedd newydd a gwahanol er mwyn rhannu gwybodaeth am gynlluniau'r Cyngor a chychwyn trafodaethau â staff.  Cafodd yr achlysur ei gynnal ar-lein ac roedd croeso i holl staff o bob gradd a gwasanaeth; cynhaliwyd arolygon byr er mwyn sicrhau bod gan staff nad oedd modd iddyn nhw fynychu'r achlysur gyfle i gyfrannu hefyd.

 

Rhoddodd y Rheolwr Cyflawniad wybod i Aelodau nad oedd y garfan yn gwybod am y galw/nifer y bobl a fyddai'n dod i'r sesiwn wrth ei sefydlu. Serch hynny, mae'r ymateb wedi bod yn gadarnhaol gan y daeth dros 70 o staff i'r achlysur rhithwir. Yn ystod yr achlysur, cafwyd cyflwyniadau gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol Rhys Lewis, Chris Bradshaw a David Powell. Yn dilyn y cyflwyniadau, cafodd y cyfranogwyr eu rhannu'n grwpiau trafod lle gofynnwyd iddyn nhw rannu'u syniadau ynghylch sut gallai'r Cyngor leihau allyriadau carbon ac allyriadau eraill yn ei wasanaethau a'i weithrediadau ac hefyd eu syniadau ynghylch sut i gynnwys ac ymgysylltu â'r holl staff i helpu'r Cyngor i gyflawni'i dargedau lleihau allyriadau carbon.

Cadarnhaodd y Rheolwr Cyflawniad fod y gr?p wedi cyfrannu mewn modd brwdfrydig yn ystod y trafodaethau; cafodd gwybodaeth ddefnyddiol ei chasglu a bydd yr wybodaeth yma'n cael ei hystyried a'i defnyddio ar y cyd ag adborth sydd wedi'i gasglu o ffrydiau ymgysylltu eraill.

 

Roedd y cyfraniadau yma gan staff wedi cadarnhau'r gwerth sy'n gysylltiedig â darparu rhagor o gyfleoedd er mwyn i staff gyfrannu a chymryd rhan mewn trafodaethau ynghylch Newid yn yr Hinsawdd. Cafodd y materion canlynol eu nodi yn dilyn trafodaethau:

 

-       Mae staff eisiau rhagor o wybodaeth ynghylch beth y mae'r Cyngor yn ei wneud ynghylch Newid yn yr Hinsawdd a beth mae modd i staff ei wneud.

-       Mae ffocws cynyddol ar leihau allyriadau carbon ar draws y gwasanaethau.

-        Roedd yna gydnabyddiaeth gynyddol mai dull gwyrdd fyddai'r dull sy'n cael ei weithredu gan amlaf, ac; 

-        Roedd yna gydnabyddiaeth gynyddol bod gan bawb ran i'w chwarae.

 

Rhoddodd y Rheolwr Cyflawniad wybod i'r Aelodau y bydd y strategaeth Newid yn yr Hinsawdd newydd yn llywio swm mawr o'r gwaith fydd yn cael ei drafod ac yn cael ei lansio gan y weinyddiaeth newydd. Fodd bynnag, mae gwaith paratoi wedi dechrau yn y cyfamser ac mae hyn yn cynnwys cyflwyno sesiynau Codi Ymwybyddiaeth ar gyfer staff ochr yn ochr â lansio'r strategaeth newydd. Cadarnhawyd bod yr achlysur Sero Net i Staff nesaf wedi'i drefnu ar gyfer 9 Mai 2022. Mae sianel 'Man Gwyrdd' (Green Space) wedi cael ei sefydlu ar Teams. Mae modd i staff ymuno â'r sianel yma i rannu syniadau, cyrchu gwybodaeth ynghylch beth mae'r Cyngor yn ei wneud i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a sicrhau bod gan y Cyngor fynediad uniongyrchol i banel staff er mwyn ymgysylltu ar faterion sy'n ymwneud â'r hinsawdd.

 

I gloi, cadarnhaodd y Rheolwr Cyflawniad y bydd cynllun ymgysylltu a chyfranogi newydd yn golygu bod modd parhau i gynnal trafodaethau  â thrigolion, staff neu randdeiliaid eraill ynghylch yr Hinsawdd.

 

Roedd y Rheolwr Cyflawniad wedi cydnabod bod rhagor o waith i'w neud o ran sicrhau bod staff, yn enwedig y rhai sydd heb fynediad i e-bost, yn cael cyfle i ddweud eu dweud. Rhoddodd y Rheolwr Cyflawniad wybod i'r Aelodau bod y gwaith sydd wedi'i gyflawni hyd yn hyn wedi dangos bod staff yn awyddus i gymryd rhan a chyfrannu at fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Rheolwr Cyflawniad am y diweddariad ac esboniodd ei fod e'n falch o sut mae'r staff wedi ymgysylltu â'r prosiect. Roedd y Cadeirydd yn falch o weld y 'Man Gwyrdd' ar Teams, ac roedd y Cadeirydd wedi cydnabod gwerth y fforwm gan ei fod yn annog staff i rannu'u barn a'u syniadau.

 

Ategodd un Aelod ganmoliaeth y Cadeirydd gan gydnabod pwysigrwydd cynnwys staff yn rhan o'r broses oherwydd yr hyn y mae modd iddyn nhw ei wneud o fewn y Cyngor o ran helpu a chefnogi'r gwaith yma.

 

Cododd un Aelod ymholiad ynghylch dyrannu cyllid i’r fforwm er mwyn rhoi'r syniadau arfaethedig yma ar waith. Dywedodd y Prif Weithredwr y gellir dyrannu cyllid gan ddibynnu ar ansawdd y syniad a gynigir.

 

PENDERFYNODD Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd:

 

-       Nodi'r diweddariad llafar ynghylch yr Achlysur Sero Net i Staff.