Agenda item

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gofal a Chymorth i Oedolion yr adroddiad i'r Aelodau i ofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i'r canllawiau staff sydd wedi'u cynllunio'n benodol i hysbysu cynhalwyr di-dâl yng ngweithlu'r Cyngor am y cymorth sydd ar gael iddynt helpu i reoli a chydbwyso cyfrifoldebau gwaith a gofalu, ac i egluro'r cymorth hwn yn ffurfiol i reolwyr. Mae'r adroddiad hefyd yn cyflwyno'r achos busnes i'r Cabinet dros gyflwyno cyfnod newydd o absenoldeb i weithwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu di-dâl

 

Aeth y Pennaeth Gofal a Chymorth i Oedolion ymlaen i ddweud bod yr adroddiad wedi'i ddatblygu ar y cyd â gweithgor RhCT yn cynnwys cynrychiolwyr o'r garfan Datblygu Pobl, y garfan Amrywiaeth, AD a Gwasanaethau i Oedolion er mwyn cwmpasu'r posibilrwydd o gyflwyno cymorth mwy penodol i gynhalwyr di-dâl o fewn gweithlu RhCT

 

Mewn ymateb i ganfyddiadau'r arolwg, mae'r gweithgor wedi paratoi Canllawiau i Gynhalwyr sy'n Gweithio (Atodiad 1). Mae’r canllawiau’n awgrymu mân addasiadau y gellid eu hystyried yn y gweithle i gefnogi cynhalwyr di-dâl

 

Yn ddiweddar, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei bwriad i gyflwyno absenoldeb di-dâl i gynhalwyr fel hawl statudol, a chynigir bod Cabinet RhCT yn cydnabod yr effaith sylweddol y gall cyfrifoldebau gofalu ei chael ar weithwyr ac yn cymeradwyo’r argymhelliad i ategu’r trefniadau absenoldeb presennol sydd eisoes ar waith i gynnwys mynediad at 5 diwrnod o wyliau â thâl y flwyddyn i gefnogi’n benodol y digwyddiadau canlynol fel y’u nodir yn natganiad cyhoeddedig Llywodraeth y DU ar absenoldeb cynhalwyr.

 

Ymhellach i'r ddarpariaeth arfaethedig ar gyfer cynhalwyr sy'n gweithio yn y Cyngor mae'r gweithgor hefyd yn argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo'r ymgais i fynd ar drywydd aelodaeth ymbarél o 'Cyflogwyr i Gynhalwyr', a reolir gan Carers UK, sydd â'r nod o “sicrhau bod gan gyflogwyr y gefnogaeth i gadw a rheoli gweithwyr gyda chyfrifoldebau gofalu”.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ei bod yn falch o weld y cynigion oedd ger eu bron a chlywed bod mwy a mwy o Awdurdodau Lleol yn meithrin agwedd debyg yn hyn o beth.  Mae cynhalwyr di-dâl yng Ngweithlu'r Cyngor yn chwarae rhan arwyddocaol yn eu Cymunedau ac yn y gymdeithas ac mae'n bwysig ein bod yn cyfeirio staff at y cymorth sydd ar gael iddynt.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion yn falch o weld y gydnabyddiaeth i’r cynhalwyr di-dâl yn y gweithlu sydd wedi darparu gofal hanfodol i’r rhai mwyaf agored i niwed yn ystod y pandemig a thu hwnt. 

 

Dywedodd yr Arweinydd fod LlC wedi buddsoddi llawer o adnoddau yn hyn gan ei fod yn ymwybodol o'r pwysau yn y maes hwn, ac os nad oes modd ddarparu'r gefnogaeth hon bydd yn ychwanegu pwysau pellach ar wasanaethau bregus eraill.  Ychwanegodd po fwyaf y gallwn ei wneud i gefnogi cynhalwyr, y gorau oll.

 

Yn dilyn trafod, PENDERFYNWYD:

 

  1. Cymeradwyo’r Canllawiau i Gynhalwyr sy’n Gweithio (Atodiad 1) a chefnogi ei weithrediad.

 

  1. Cymeradwyo trefniadau absenoldeb â thâl penodol ychwanegol ar gyfer cynhalwyr di-dâl o fewn y gweithlu hyd at 5 diwrnod y flwyddyn.

 

Yn cymeradwyo dilyn cynllun achredu cydnabyddedig ar gyfer cynhalwyr sy’n gweithio’

Dogfennau ategol: