Agenda item

Trafod papur trafod y Prif Weithredwr ar gyflwyno Cyd-bwyllgorau Corfforaethol fel sydd wedi'i nodi yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad yn rhoi diweddariad i'r Aelodau ar gyflwyno Cydbwyllgorau Corfforaethol yn unol â darpariaeth Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) (Cymru) 2021.

 

Nododd fod Swyddogion Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a’r Corff Atebol wedi bod yn rhoi’r holl gamau cyfreithiol, cyfrifyddu ac ymarferol ar waith i sicrhau y gellir creu’r Cydbwyllgor newydd ar 28 Chwefror 2022. Fodd bynnag, mae wedi dod yn amlwg na fydd y risgiau a’r materion penodol a amlygwyd yn wreiddiol gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd gyda Llywodraeth Cymru yn cael eu datrys yn ddigonol i gefnogi trosglwyddo Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i’r Cydbwyllgor erbyn dyddiad gosod cyllideb y Cydbwyllgor ar 31 Ionawr 2022. Mae hyn yn bennaf oherwydd nad yw'r materion y mae angen eu datrys, sef statws A.33 (TAW), wedi'u hystyried gan LlC wrth osod y Rheoliadau. O ganlyniad mae arnom angen cymeradwyaeth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) a Thrysorlys Ei Mawrhydi (HMT) i gymeradwyo'r statws trethiant cywir.

 

Yn ogystal, mae materion pellach wedi codi mewn perthynas â Threth Gorfforaeth. Mae hwn yn fater cymhleth nad yw'r Rheoliadau wedi rhoi sylw iddo hyd yma; a gallai fod â goblygiadau sylweddol i fodel gweithredu Prifddinas-Ranbarth Caerdydd oni bai yr eir i'r afael â'r mater yn yr un modd trwy gais i HMT am ollyngiadau perthnasol. Mae gwaith ar y gweill i fynd i'r afael â hyn, gyda Prifddinas-Ranbarth Caerdydd  yn cefnogi cais achos busnes LlC i CThEM am y gollyngiadau perthnasol.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod hwn yn gam i'r cyfeiriad cywir ar gyfer cydweithio a llunio trefniadau, cyn belled â bod y newid yn ddi-dor i drigolion gyda gwasanaethau'n parhau i gael eu darparu, yna byddai hyn yn gadarnhaol.  Nododd ei bod yn bwysig bod yr Awdurdodau Lleol yn penderfynu pa wasanaethau fydd yn cael eu darparu drwy'r Cydbwyllgorau a bod penderfyniad lleol ar wasanaethau sydd angen gwahanol anghenion mewn ardaloedd Awdurdodau Lleol gwahanol.  Mynegodd ei bryderon y gallai rhai datblygiadau y tu allan i drefi gael effaith andwyol ar ganol trefi felly byddai angen cydweithio agosach ag Awdurdodau Lleol ar gyfer hyn.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd y bydd trefniadau Craffu yn allweddol i'r Cydbwyllgorau i gynnwys ymgysylltiad ehangach Aelodau a Chymunedau i fesur eu heffaith.  Dywedodd fod CBSRhCT eisoes wedi cefnogi newid sylweddol yn nhrefniadau craffu presennol Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

 

Ar y pwynt hwn o'r cyfarfod, a chyda chaniatâd yr Arweinydd, anerchodd y Cynghorydd P Jarman yr aelodau ar yr eitem.  Dywedodd er nad yw'n cefnogi Cyd-bwyllgorau Corfforaethol, ar ôl craffu ar y ddeddfwriaeth, derbyniodd eu bod yn fodel o Lywodraethu Rhanbarthol.  Holodd pam nad yw materion a diweddariadau wedi dod gerbron y Cyngor Llawn i bob aelod gael diweddariad ar faterion a bod angen bod yn agored ac yn atebol.

Dywedodd hefyd ei bod yn siomedig nad yw Llywodraeth Cymru wedi negodi gyda Llywodraeth y DU cyn gweithredu'r Cyd-bwyllgorau Corfforaethol ar faterion trethiant. 

 

Cytunodd yr Arweinydd â'r sylwadau ynghylch y materion trethiant.  Ychwanegodd y ceisiwyd cyngor cyfreithiol annibynnol a bod Cabinet Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i symud ymlaen.  Ychwanegodd ei bod yn siomedig nad oes unrhyw benderfyniad nac eglurhad wedi'i roi gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar y mater gan fod angen ei ddatrys cyn y gellir gwneud penderfyniadau strategol allweddol ar faterion lle mae goblygiadau ariannol.    Sicrhaodd fod Awdurdodau Lleol o fewn Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd bellach yn canolbwyntio ar fwrw ymlaen â hyn a gwneud i hyn weithio

 

Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD:

 

1.     Nodi bod y wybodaeth a ddarparwyd i'r Cabinet ar 18 Hydref 2021 mewn perthynas â chreu a datblygu Cydbwyllgor Corfforaethol De-ddwyrain Cymru wedi'i ddiweddaru. Yn benodol, penderfyniad Cabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i gyflwyno model llywodraethu a chyflawni interim ar gyfer gweithredu Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-ddwyrain Cymru (CJC) hyd nes y bydd nifer o faterion statws trethiant a risgiau sy’n gysylltiedig â’r Rheoliadau wedi’u datrys;

 

2.     Nodi'r gofyniad i’r CJC osod a chymeradwyo cyllideb ar neu cyn 31 Ionawr 2022;

 

3.     Nodi’r cais a wnaed gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd o ran gofyn i Lywodraeth Cymru ddiwygio rheoliadau’r Cyd-bwyllgor Corfforaethol i newid y dyddiad y mae dyletswyddau uniongyrchol yn cychwyn o dan y Rheoliadau o 28 Chwefror 2022 i 30 Mehefin 2022, i alinio â’r tri Cydbwyllgor arall yng Nghymru;

 

4.     Nodi llythyr y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar 20 Rhagfyr 2021 yn ymgynghori â’r Cyngor ar ddiwygio dyddiad cychwyn Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-ddwyrain Cymru i 30 Mehefin 2022 ac ymateb Prif Weithredwr y Cyngor, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, yn cadarnhau cefnogaeth y Cyngor i’r gwelliant. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 21  Ionawr 2022; a

 

Nodi’r gwaith sy’n mynd rhagddo gan Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a’i Gynghorau cyfansoddol i weithio gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Archwilio Cymru a chynghorwyr fel y bo’n briodol, i helpu i lywio’r gwaith o ddatrys y materion sy’n weddill lle bynnag y bo modd

Dogfennau ategol: