Agenda item

Trafod papur trafod y Cyfarwyddwr Ffyniant a Datblygu ar gynnydd y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu yr adroddiad i'r Aelodau, a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Diwygiedig. Dywedodd fod yr adroddiad yn nodi, er bod gwaith sylweddol wedi'i wneud, nad yw'r Cyngor wedi gallu bodloni'r Cytundeb Cyflenwi ffurfiol. Aeth ymlaen i ddweud bod yr adroddiad yn nodi'r ffordd fwyaf priodol o gydymffurfio â'n dyletswydd statudol i lunio Cynllun Datblygu ar gyfer Rhondda Cynon Taf.

 

Aeth y Cyfarwyddwr ymlaen i ddweud bod gwaith sylweddol wedi'i wneud ar baratoi'r CDLl Diwygiedig drwy gydol y pandemig Covid. Serch hynny, oherwydd y cyfyngiadau a osododd hyn ar y gallu i ymgysylltu’n llawn â’r cyhoedd a chomisiynu’r cyngor ymgynghorol angenrheidiol, ynghyd â materion allanol eraill sydd wedi codi; nid yw elfennau allweddol o waith paratoi’r CDLl Diwygiedig Newydd wedi’u cwblhau o fewn yr amserlen y cytunwyd arni’n ffurfiol

 

Ar ôl ystyried yr holl opsiynau, ac mewn ymgynghoriad â Llywodraeth Cymru, cynigir ein bod ni'n rhoi’r gorau i weithio ar y CDLl Diwygiedig 2020–2030 presennol. Yn ei le, byddwn yn dechrau llunio CDLl Diwygiedig Newydd, a fydd ar waith am gyfnod hwy, sef 2022–2037. Byddai hyn yn caniatáu i Gynllun Datblygu gael ei baratoi ar gyfer Rhondda Cynon Taf sy'n ymateb yn llawn i'r materion allweddol sy'n ein hwynebu nawr, gyda Newid yn yr Hinsawdd a lleihau carbon yn greiddiol iddo, yn ogystal â dull gweithredu llawn a strategol o ran cynnal y Fwrdeistref Sirol ar ôl y pandemig ac ar ôl Brexit.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr, yn nhermau cynllunio technegol, fod pryder amlwg mewn perthynas ag un o'r tri 'Phrawf Cadernid' y bydd yr Arolygydd Cynllunio yn eu defnyddio i gytuno ar y CDLl Diwygiedig. Mae hwn yn ystyried a yw'r Arolygydd yn hyderus y gellir gweithredu a chyflawni'r CDLl Diwygiedig yn y cyfnod byr hwn h.y. ei holl nodau, amcanion, strategaethau, a datblygiad yr holl safleoedd a neilltuwyd. Ystyrir felly mai’r opsiwn mwyaf priodol fyddai rhoi’r gorau i lunio CDLl Diwygiedig 2020–2030 a dechrau CDLl Diwygiedig ar gyfer 2022-2037.

 

Cymeradwyodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Datblygu Menter a Thai yr adroddiad.  Dywedodd fod Gr?p Llywio'r CDLl Diwygiedig wedi'i sefydlu a'i fod wedi cyfarfod yn gynharach yn y bore. Dywedodd ei bod hi'n amlwg bod COVID-19 wedi effeithio ar dargedau ac amseroedd cyflawni, yn enwedig y broses ymgynghori gyhoeddus ac ymgysylltu ag ymgynghorwyr.  Nododd fod angen i ni nawr adolygu’r sefyllfa i symud ymlaen i lunio CDLl newydd i fynd â ni hyd at 2037.

 

Ar y pwynt hwn o’r cyfarfod, a chyda chaniatâd yr Arweinydd, anerchodd y Cynghorydd P Jarman y Pwyllgor ynghylch yr eitem yma – cyfeiriodd at Gr?p Llywio’r CDLl Diwygiedig yr oedd hi hefyd yn aelod ohono ac roedd yn falch o’r gwaith hyd yn hyn. Dywedodd eu bod yn brofiadol o ran polisïau cynllunio.  Nododd y bydd y Cytundeb Cyflawni Drafft yn cael ei adrodd i'r Cyngor llawn ym mis Mawrth ac y byddai'n cadw sylwadau tan hynny ac yn cyfrannu at y ddadl

 

Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD:

 

  1. Cymeradwyo diwedd y gwaith ar

CDLl Diwygiedig 2020–2030.

 

  1. Cymeradwyo'r cynnig i ddechrau CDLl Diwygiedig gyda

chyfnod estynedig 2022–2037. Mae hyn gyda'r ddealltwriaeth

bod y rhan fwyaf o'r sylfaen dystiolaeth a'r prosesau a gyflawnwyu hyd yma

yn gallu cael eu cario drosodd, a'u diweddaru yn ôl yr angen.

 

  1.  Cymeradwyo bod y Cytundeb Cyflenwi Drafft (CC), sy'n nodi

Cynllun Cynnwys y Gymuned ac Amserlen ar gyfer llunio'r CDLl Diwygiedig newydd, yn destun ymgynghoriad wedi'i dargedu ac ymgynghoriad cyhoeddus (ynghlwm fel Atodiad 1 yr adroddiad).

 

  1. Bydd unrhyw ddiwygiadau priodol ac angenrheidiol o ganlyniad i'r

ymgynghoriad yn cael eu hymgorffori yn y Cytundeb terfynol. Cynigir bod yr argymhellion yn 1 a 2 uchod, ynghyd â'r Cytundeb Cyflenwi terfynol, yn cael eu hadrodd yn uniongyrchol i'r Cyngor Llawn ym mis Mawrth. (Mae angen penderfyniad y Cyngor Llawn er mwyn ceisio cytundeb gyda Llywodraeth Cymru i ddechrau paratoi’r CDLl Diwygiedig newydd).

Dogfennau ategol: